Pam symud i Gymru? Os gofynnwch chi i rai sydd wedi symud yma, fe gewch chi sawl ateb gwahanol, gan fwyaf yn ymwneud â chydbwysedd bywyd a gwaith yng Nghymru. Ond mae ambell reswm yn debygol o godi dro ar ôl tro...

Ffordd o fyw i genfigennu wrtho

Mae Cymru yn lle cyfeillgar o chosmopolitan. Dros y canrifoedd, mae nifer o ymwelwyr wedi bwrw gwreiddiau yma – gan gynnwys y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr, y Sacsoniaid a’r Normaniaid. Yn ddiweddarach, yn ganolbwynt diwydiannol ac yn genedl fordwyol, croesawodd Cymru bobl o wahanol ddiwylliannau a ddaeth i alw’r wlad yn gartref. Mae hyn wedi cyfrannu at greu cenedl fodern â bydolwg rhyngwladol gref a chysylltiadau diwylliannol â phob cornel o’r byd.

Mae’n helpu hefyd ein bod ni’n cael ein hamgylchynu gan olygfeydd hardd. Mae chwarter tir Cymru unai’n Barc Cenedlaethol neu’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac felly yn cael ei warchod gan gyfraith. Mae’n lle heb ei ail i ymdrochi yn yr awyr agored mewn sawl ffordd wahanol: beicio ar hyd llwybrau coedwig, cerdded yn y mynyddoedd, caiacio ar lynnoedd clir fel grisial neu wylio morloi ac adar môr ar hyd 870 milltir Llwybr Arfordir Cymru.

Dau oedolyn a phlentyn ar badlfyrddau ar ddŵr bas a gloyw yr arfordir
Person yn gwisgo siaced felen a dillad beicio yn sefyll gyda beic mynydd ar lwybr wedi’i amgylchynu gan goed tal mewn coedwig hardd
Person mewn siaced felen a dillad beicio yn sefyll gyda beic mynydd ar lwybr wedi ei amgylchynu â choed tal mewn coedwig hardd

Ar ben hynny, mae byw yng Nghymru yn dod â manteision o ran treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac unigryw. Mae’n amhosibl peidio sôn am gestyll Cymru – gyda mwy ohonynt, y filltir sgwâr, nag sydd yn unrhyw le arall yn y byd – ac olion gorffennol diwydiannol Cymru sydd bellach yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd creadigol. Ond er ein bod ni’n ofalus wrth warchod ein hanes, yn bennaf drwy Cadw, sefydliad dan adain Llywodraeth Cymru i warchod yr amgylchedd hanesyddol, nid amgueddfa yw Cymru chwaith. Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop, ond yma mae hi’n rhan o’n bywydau bob dydd ac yn cael ei siarad gan tua un o bob pump o’r boblogaeth.

Caiff Cymru ei hadnabod fel gwlad y gân, ond mae hefyd yn wlad theatr, llenyddiaeth, ffilmiau a phob math arall o greadigaethau celfyddydol. Rydym ni’n caru perfformiadau byw a gwyliau yng Nghymru, ac mae digwyddiadau diwylliannol a gwyliau yn llenwi’r calendr gydol y flwyddyn. Mae chwaraeon yng Nghymru yn rhywbeth arall rydym ni’n angerddol amdano. O rasys rhedeg hwyliog a gemau clybiau ar y cae i gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, mae’n ffordd rymus o ddod â phobl yng Nghymru ynghyd.

 

Costau byw isel

Yng Nghymru, mae’n bosibl cynnal safon byw cyfforddus ar gost fforddiadwy. Mae cyfartaledd prisiau tai yng Nghymru oddeutu chwarter yn llai nag yw prisiau yng ngweddill y Deyrnas Unedig ar y cyfan, ac mae cyfartaledd rhent preswyl yng Nghymru 20% yn is na’r ffigwr yn y Deyrnas Unedig gyfan. Yn yr un modd, yng Nghymru, mae gwariant teuluoedd ar fwyd, teithio ac adloniant yn tueddu i fod 15% yn is na’r cyfartaledd yn y Deyrnas Unedig.*

Cyfleoedd gwaith gwych

 gweithlu talentog, busnesau mentrus a diwylliant o entrepreneuriaeth, mae Cymru’n lle gwych i fyw a gweithio. Efallai fod gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol ddychrynllyd, ond rydym ni wastad yn edrych tua’r dyfodol. Mae Cymru yn mabwysiadu syniadau a thechnolegau i yrru pethau yn eu blaen, mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwyddoniaeth bywyd, technoleg cyllidol a diogelwch seibr. Ac os ydych chi’n hunan-gyflogedig neu eisiau dechrau busnes yma, fe gewch fynediad hawdd a syml at gefnogaeth busnes gan Lywodraeth Cymru.

 

Ein gwasanaeth iechyd

Fe chwaraeodd Cymru ran fawr yn sefydlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol y Deyrnas Unedig. Cafodd yr un a ddyluniodd y system, Aneurin Bevan, ei eni yng nghymuned lofaol Tredegar yn ne Cymru, a benthyciodd syniadau o’r cymorth meddygol oedd ar gael yn y cymunedau glofaol o’i gwmpas. Heddiw, mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu gan GIG Cymru drwy saith bwrdd iechyd lleol a thair ymddiriedolaeth GIG i Gymru. Maent yn goruchwylio rhwydwaith o ganolfannau, clinigau ac ysbytai (y mwyaf o’r rheiny yw Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sydd â dros 1,000 o wlâu).

Fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, mae bron pob gwasanaeth ar gael am ddim wrth ei ddarparu. Nid oes costau am bresgripsiynau yng Nghymru.

Dawn dysg

Mae goreu arf, arf dysg yn hen ddihareb Gymraeg. Mae gwerth yn cael ei roi ar addysg yng Nghymru, gan ddechrau â’r ysgolion lleol sydd i’w cael yn galon i bob cymuned. Maent yn dysgu cwricwlwm sy’n wahanol i weddill y Deyrnas Unedig, er bod cymwysterau o Gymru yn gyfystyr â chymwysterau Lloegr ac yn cael eu cydnabod ar draws y byd. Mae gan bob disgybl y cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae rhai ysgolion yn addysgu’n ddwyieithog, neu hyd yn oed yn cynnal y gwersi i gyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg.

Mae plant rhwng tair a 18 oed yn gymwys i dderbyn gofal plant, addysg cynradd ac addysg uwchradd wedi ei dalu gan y wladwriaeth. Yn 16 oed, mae dewis i gofrestru i fynychu un o’r 15 coleg addysg bellach yng Nghymru fel dewis amgen i fod yn parhau yn yr ysgol. Mae colegau hyn yn cynnig dewis eang o gyrsiau academaidd, proffesiynol a galwedigaethol, â llwybrau clir sy’n arwain at gyrsiau addysg uwch.

Maent hefyd yn cynnal cysylltiadau clos gyda chyflogwyr ar draws sawl sector. Mae yng Nghymru wyth prifysgol. Maent wedi eu lleoli ar draws y wlad, o Gaerdydd yn y de i Aberystwyth ar yr arfordir gorllewinol a Bangor yn y gogledd. Mae mwy na 136,000 o fyfyrwyr yn dewis dod yma, ac maent wedi cofrestru i astudio amrywiaeth eang o gyrsiau israddedig ac uwchraddedig, o Archaeoleg i Swoleg. Mae gan brifysgolion Cymru ethos o edrych tuag allan, gyda thros 170 o genhedloedd yn cael eu cynrychioli yn y boblogaeth o fyfyrwyr, ac maent yn aml yn ymddangos tua’r brig ar dablau cynghrair y Deyrnas Unedig ar gyfer rhagoriaeth academaidd a bodlonrwydd myfyrwyr.

Mae gan Astudio yng Nghymru adnoddau gwych ar gyfer darpar fyfyrwyr, gan gynnwys cyngor am deithio a beth sy’n hanfodol i’w bacio i fyfyrwyr tramor, a chyngor i fyfyrwyr newydd ar sut i ymgartrefu yng Nghymru.

 

 

Myfyrwyr tramor yn sôn am y croeso cynnes maen nhw wedi ei dderbyn yma yng Nghymru

Lle i bawb

 hithau’n wlad fechan, mae Cymru’n llawn o amrywiaeth. Ydi hi’n well gennych chi oleuadau’r ddinas neu awyr dywyll yn llawn sêr – ac a fyddai’n well gennych chi ddeffro i sŵn y tonnau neu i olygfa fawreddog o fynyddoedd dan niwl? Lle bynnag yr ymgartrefwch chi, mae maint Cymru a chysylltiadau trafnidiaeth da yn golygu eich bod o fewn cyrraedd i’r gwahanol olygfeydd hyn yn rhwydd.

Mae Croeso Cymru yn rhannu’r wlad yn bedair rhan. Gogledd Cymru, sy’n cynnwys Ynys Môn ac sy’n cael ei ddisgrifio’n deilwng fel tirwedd epig. Mae’n enwog am ei fynyddoedd yn Eryri, cestyll mawreddog a dinasoedd prifysgol Bangor a Wrecsam. Mae gan Orllewin Cymru harddwch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, cyfran dda o draethau gorau’r wlad, ac yma mae Abertawe, ein hail ddinas sydd ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Mae De Cymru yn gartref i brifddinas Cymru, Caerdydd – canolbwynt creadigrwydd, diwylliant a chwaraeon – a dinas Casnewydd. Mae trefi cymoedd de Cymru, oedd unwaith yn llawn gwaith diwydiannol trwm, bellach yn gallu cael eu gwerthfawrogi am eu lleoliadau arbennig, ac mae’n anodd peidio syrthio mewn cariad ag hynodrwydd Dyffryn Gwy. Yn olaf, mae Canolbarth Cymru. Dyma galon werdd y wlad sy’n wyllt ac heb ei difrodi, gydag afonydd yn rhaeadru o’r mynyddoedd, hen drefi marchnad a chyrchfannau sba Fictorianaidd, ac harddwch garw arfordir Ceredigion.

 

*Ffigyrau’n gywir fis Ionawr 2023

Straeon cysylltiedig

Syrffwyr a van, Rest Bay

Cwestiwn o gydbwysedd

Mae taith i’r gwaith gyda golygfeydd, syrffio ar ôl gwaith a gwyliau penwythnos yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru.

Pynciau: