Prifysgol Aberystwyth
Lleoliad: Aberystwyth
Nifer y myfyrwyr: 8,500
Gwefan: aber.ac.uk

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872, sy’n golygu mai hi yw’r sefydliad prifysgol hynaf yng Nghymru gyfan. Mae’n rhagori o ran addysgu, ymchwil a phrofiad myfyrwyr. Mae 20 o adrannau academaidd sy’n cynnig astudiaeth israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hynaf yn y byd.
Mae tref Aberystwyth yn lle gweddol rad i fyw, yn fwy diogel na llawer o leoedd eraill yn y DU a chanddi ddigon i gadw myfyrwyr yn brysur y tu hwnt i’w hastudiaethau. Mae’r campws yn edrych dros fae hyfryd Ceredigion.
Anrhydeddau:
- Prifysgol y flwyddyn am ansawdd yr addysgu (The Times and Sunday Times Good University Guide 2018 a 2019)
- 90% boddhad myfyrwyr yn gyffredinol (arolwg National Student Satisfaction 2018)
Prifysgol Bangor
Lleoliad: Bangor
Nifer y myfyrwyr: 11,300
Gwefan: bangor.ac.uk



Mae Prifysgol Bangor, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, rhwng mynyddoedd Eryri a dyfroedd Afon Menai, yn un o’r prifysgolion â’r golygfeydd gorau yn y DU. Fe’i sefydlwyd yn 1884 ac mae ganddi gydbwysedd gwych rhwng rhagoriaeth academaidd a phrofiad gwych i fyfyrwyr.
Mae’r Brifysgol yn cynnwys tri choleg sy’n gartref i 14 ysgol academaidd yn amrywio o’r celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau. Mae ansawdd y cyrsiau a darlithwyr yn dda iawn – yn wir, sgoriodd Bangor yr ail orau yn y DU am hynny yn Whatuni Student Choice Awards 2018. Mae dros 200 o gymdeithasau a chlybiau i fyfyrwyr ymuno â hwy, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri i’w fwynhau fel gardd gefn. Mae trenau uniongyrchol i Fangor yn rhedeg o Lundain, Manceinion, Crewe a Chaerdydd.
Anrhydeddau:
- Prifysgol gorau yn y DU am ei chlybiau a chymdeithasau (WUSCA 2019)
- Gradd ysgrifennu creadigol gorau yng Nghymru (The Complete University Guide 2020)
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Lleoliad: Caerdydd
Nifer y myfyrwyr: 11,000
Gwefan: cardiffmet.ac.uk
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd (neu ‘Met Caerdydd’/'Cardiff Met', fel y’i gelwir yn lleol) yn brifysgol ganol dinas sy’n canolbwyntio ar ymarfer. Er i Met Caerdydd gael ei sefydlu yn 1996, fe ffurfiwyd ei fersiwn cyntaf yn 1865 pan agorwyd yr Ysgol Gelf. Mae’n adnabyddus am ei chyrsiau gradd o ansawdd uchel creadigol ac sy’n canolbwyntio ar chwaraeon.
Mae dau gampws, Campws Llandaf a Champws Cyncoed, y mae’r ddau ohonynt wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Ar eu traws y mae pum ysgol: Celf a Dylunio; Rheolaeth; Chwaraeon a Gwyddor Iechyd; Technolegau; Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Ymhlith y cyn fyfyrwyr y mae’r newyddiadurwr Michael Buerk a’r arwr rygbi Syr Gareth Edwards.
Anrhydeddau:
- 95% o fyfyrwyr mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis i raddio (DHLE 2016)
- Gwobr arian am ragoriaeth addysgu (Teaching Excellence Framework 2017)
Prifysgol Caerdydd
Lleoliad: Caerdydd
Nifer y myfyrwyr: 31,600
Gwefan: cardiff.ac.uk

Uchelgeisiol. Arloesol. Creadigol. Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad mwyaf o’i fath yng Nghymru a’r 10fed brifysgol fwyaf yn y DU. Mae wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru, a chanddi enw da yn fyd-eang fel man astudio o’r radd flaenaf.
Mae prifysgol Russell Group yn ymfalchïo yn ei hansawdd academaidd ac ymchwil trylwyr; mae’n bumed yn y DU am ansawdd ymchwil yn y Complete University Guide 2020. Pan ddaw hi at ddewis, mae 300 o gyrsiau gradd wedi’u rhannu i dros 20 o ysgolion. Mae 12 o’r ysgolion hyn yn y 10 uchaf am eu pwnc yn y DU.
Mae Prifysgol Caerdydd yn dal i ddefnyddio rhai o’r adeiladau trawiadol yn bensaernïol yr oedd yn eu meddiannu pan sefydlwyd hi yn 1883, ynghyd â chyfleusterau modern wedi’u hadeiladu i’r diben. Mae wedi’i lleoli yn rhan brysuraf Cymru pan ddaw hi at ddiwylliant, chwaraeon a busnes, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol.
Anrhydeddau:
- Prifysgol gorau yng Nghymru (The Complete University Guide 2020)
- 83% o foddhad myfyrwyr (National Student Survey 2018)
Prifysgol Abertawe
Lleoliad: Abertawe
Nifer y myfyrwyr: 19,200
Gwefan: swansea.ac.uk


Sefydlwyd Prifysgol Abertawe yn 1920 ac mae’n brifysgol wedi’i harwain gan ymchwil sy’n gyson yn perfformio’n dda o ran ansawdd addysgu a boddhad myfyrwyr. Mae ganddi ddau gampws, y mae’r ddau ar lan y dŵr yn Abertawe. Mae campws deiliog Parc Singleton yn edrych dros draeth Bae Abertawe, gyda Champws y Bae ar y traeth i’r dwyrain.
Mae saith coleg academaidd a dros 50 o gyrsiau gradd israddedig ac ôl-raddedig. Mae’r brifysgol hefyd yn buddsoddi llawer o amser ac arian i ymchwil. Mae tua 90% o’i hymchwil o’r radd flaenaf neu’n rhagorol yn rhyngwladol o ran y gwahaniaeth y mae’n ei wneud i gymdeithas.
Y tu hwnt i academia, mae gan Brifysgol Abertawe fywyd cymdeithasol sy’n ffynnu. Mae 120 o gymdeithasau a 40 o glybiau chwaraeon, heb sôn am ddinas o adloniant a gweithgarwch y tu hwnt i’r brifysgol.
Anrhydeddau:
- Prifysgol y flwyddyn (WUSCAs 2019)
- Prifysgol y flwyddyn yng Nghymru (The Times and Sunday Times Good University Guide 2019)
Prifysgol De Cymru
Prif leoliadau: Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd
Nifer y myfyrwyr: 23,500
Gwefan: southwales.ac.uk


Mae Prifysgol De Cymru yn brifysgol fodern ac uchelgeisiol sy’n ymdrechu’n galed i baratoi myfyrwyr at fywyd ar ôl graddio. Fe’i sefydlwyd yn 2013 ar ôl i Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru yng Nghasnewydd uno, dau sefydliad sy’n dyddio yn ôl dros 170 o flynyddoedd.
Gyda thri champws yn Ne Cymru (Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd) a champws yn Dubai, mae gan y brifysgol gyrhaeddiad eang a dewis o leoliadau. Mae gan y Brifysgol bedair cyfadran, sef: Busnes a Chymdeithas; Cyfrifiadura, Peirianneg a Chymdeithas; Diwydiannu Creadigol; Gwyddor Bywyd ac Addysg. O fewn y rhain ceir 12 ysgol sy’n cynnig arbenigedd pellach.
Anrhydeddau:
- Prifysgol seibr y flwyddyn (National Cyber Awards 2019)
- 95% o fyfyrwyr yn gyflogedig neu yn astudio ymhellach o fewn chwe mis i raddio (DHLE 2016)
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Lleoliadau: Sir Gâr, Ceredigion, Abertawe
Nifer y myfyrwyr: 10,000
Gwefan: uwtsd.ac.uk
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – neu UWTSD yn fyr – yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth sy’n addysgu myfyrwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu ar ôl prifysgol. Ategir at addysgu a chyfarpar o ansawdd gyda chefnogaeth wych i fyfyrwyr.
Mae tri phrif gampws yn Ne-orllewin Cymru (Sir Gâr, Ceredigion, Abertawe), campysau yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham, gyda dros 70 o gyrsiau i ddewis ohonynt ar draws y bwrdd. Mae ei chwrs Ffasiwn a Thecstilau wedi’i restru’r gorau yn y DU yn nhabl cynghrair Prifysgolion y Guardian 2020.
Anrhydeddau:
- Gorau yng Nghymru am y gymuned ddysgu (National Student Survey 2018)
- 8fed yn y DU am brifysgol y flwyddyn (WUSCA 2019)
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Prif leoliad: Wrecsam
Nifer y myfyrwyr: 6,500
Gwefan: glyndwr.ac.uk

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw un o brifysgolion ieuengaf y DU. Fe’i sefydlwyd yn 2008 o sefydliadau addysgol a oedd yn bodoli’n barod. Daeth yr enw a’r ethos gan Owain Glyndŵr (c. 1349-1416), ysgolhaig mentrus o Gymru a oedd yn hoffi dysgu, Cymru, a chofleidio’r byd o’i amgylch.
Er bod y brifysgol yn weddol fach, mae ganddi bedwar campws yng Ngogledd Cymru (Plas Coch Wrecsam, Regent Street Wrecsam, Llanelwy a Llaneurgain) a champws lloeren yn Kingston-upon-Thames yn Llundain. Ar eu traws, mae 14 o ysgolion a nifer o gyrsiau gradd.
Mae gan y brifysgol gynlluniau uchelgeisiol i’r dyfodol, gan gynnwys prosiect Campws £60m 2025 i wella pob rhan o’i champysau.
Anrhydeddau:
- Gwobr arian am ragoriaeth addysgu (Teaching Excellence Framework 2017)
- Safle 11 o ran prifysgolion gorau’r DU am gyrsiau a darlithwyr (WUSCAs 2018)
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am astudio yng Nghymru a sut i wneud cais drwy ymweld â gwefan Astudio yng Nghymru.