Treuliodd Claudine Boulstridge ei phlentyndod yn symud yn rheolaidd rhwng Oman, Twrci, yr Iseldiroedd a Rwsia, ond lle bynnag y byddai yn y byd, Ffrangeg oedd yr iaith roedd hi’n ei siarad gartref gyda’i mam, sy’n dod o Salon de Provence. Ni allai hi erioed ddychmygu setlo mewn un lle ac os y byddai’n penderfynu gwneud hynny, yna byddai’n debygol o fod mewn rhywle egsotig.

Pan briododd hi ei gŵr, Rhodri, yn neuadd y dref Althen des Paluds, cyhoeddodd y papur newydd lleol, Vaucluse Matin, luniau o’r briodferch a’r priodfab wrth iddynt ddathlu yng ngardd ei rhieni ar gyrion Avignon.

Ond wedi 12 mlynedd yn byw yng Nghymru – y cyfnod hiraf iddi fyw yn unrhyw le – mae Claudine yn teimlo mai dyma ei chartref bellach. Mae Claudine a Rhodri yn byw ym Mro Morgannwg, er bod Claudine wedi dychryn pan awgrymodd Rhodri eu bod yn ymgartrefu yno. Dywedodd Rhodri wrthi’n gynnar ar ôl iddyn nhw gyfarfod yn y brifysgol y byddai’n rhaid iddynt symud yn ôl i’w gartref ef yng Nghymru pe bai nhw’n parhau i ganlyn.

‘Roeddwn i’n meddwl ei fod e’n wallgof – roedd e wedi byw yno am 20 mlynedd yn barod. Ond yn rhyfedd iawn, roedd e’n iawn am y ddau beth: bydden ni yn parhau i ganlyn a bydden ni’n symud i yn ôl i Gymru – a galla’ i weld nawr pam ei fod e wedi bod eisiau gwneud’, meddai.

Er na fu ei chartref mewn un lle erioed pan oedd Claudine yn blentyn, etifeddodd gysylltiad cryf â’i threftadaeth Ffrengig gan ei rhieni. Mae Claudine yn diolch i’w mam am roi iddi’r angerdd Ffrengig am fwyd. Wrth wylio ei mam yn coginio bob pryd o sgratsh, yn annog cydfwyta wrth y bwrdd a dysgu ryseitiau teuluol iddi, cafodd y sylfaeni ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel cogydd maes o law.

Astudiodd Claudine yn ngholeg enwog Leith’s School for Food and Drink a gweithiodd yno fel athrawes ar ôl graddio. Dyna ble y daeth i gyfarfod Yotam Ottolenghi, cogydd Israeli-Brydeinig, ysgrifennwr bwyd ac arbenigwr ar fwytai, a ofynnodd iddi ei helpu i ddatblygu’r ryseitiau roedd yn eu cyhoeddi yn y Guardian. Pan ddaeth yn bryd i Claudine a’i gŵr symud i Gymru, parhaodd i weithio yn rhan o dîm Yotam yn ei rôl fel profwr ryseitiau. Mae wedi bod yn profi ei ryseitiau byth ers hynny, yn rhoi’r gair olaf ynghylch a ydyn nhw’n gweithio, ac yn cynnig cymorth i’w haddasu os nad ydyn nhw’n gweithio.

Mae ei thîm yn chwerthin gan ddweud os all Claudine ddod o hyd i holl gynhwysion rysáit yng nghefn gwlad Cymru, yna mae wedi pasio’r prawf. Ond mae Claudine yn deud ei bod yn fwy tebygol o ddod o hyd i rai o’r cynhwysion llai adnabyddus sy’n cael eu defnyddio yn ryseitiau Yotam yng Nghymru nag yn Ffrainc.

‘Mae fy ngŵr wedi gofyn a ddylen ni fyth symud i Ffrainc i fod yn nes at fy rhieni, ond fyddwn i ddim yn gallu gwneud fy swydd yno. Mae Ffrainc yn dda iawn am gefnogi a hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd bychain ond yng Nghymru mae gymaint mwy o amrywiaeth o siopau sy’n agored i ddiwylliannau eraill’, meddai.

Mae chwilota am gynhwysion wedi arwain Claudine i sefydlu ambell ffefryn Cymreig: gwymon a bara lawr o Sir Benfro, cocos, cregyn gleision a chawsiau y mae hi’n honni eu bod llawn cystal â chawsiau Ffrainc!

Mae bywyd Claudine yng Nghymru wedi caniatáu iddi ddatblygu yn ei gyrfa law yn llaw â magu ei theulu ifanc. Mae ei phlant yn dair-ieithog ac wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â gwersi Ffrangeg ar Sadyrnau. Maent wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn yr unig wlad maen nhw erioed wedi ei galw’n gartref, ond maent hefyd yn ymwybodol iawn o’u treftadaeth Ffrengig diolch i awch Claudine i gyflwyno elfennau Ffrengig i fwyd y plant.

Mae hi’n ceisio cynyddu nifer ei dilynwyr ar ei chyfrif Instagram sy’n lle i gynnig syniadau am fwydydd iach i’r teulu sy’n caniatáu i rieni wneud prydau sydyn ond blasus iddyn nhw eu hunain a’u plant.

‘Rydw i’n angerddol am fwyd fel y mae’r rhan fwyaf o Ffrancwyr, felly mae’n bwysig fod plant yn eistedd yn iawn wrth y bwrdd ac yn bwyta’r un bwyd a’u rhieni, ac rydw i eisiau helpu rhieni eraill yma yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig i wneud yr un fath.’

Dilynwch Claudine ar Instagram: @healthyfamilyfoodideas

 

Straeon cysylltiedig