Efallai mai draig sydd ar ein baner ni, ond mae’n debyg mai’r cŵn cyfeillgar sydd wedi llwyddo i ddwyn calonnau’r Cymry.

Yn ôl arolwg gan Lywodraeth Cymru, ein cyfeillion pedair coes yw’r anifeiliaid anwes mwyaf poblogaidd yn y wlad, yn cydfyw â ni mewn mwy na chwarter o gartrefi Cymru.

Gan hynny, rydych chi’n siŵr o weld cŵn o bob lliw a llun wrth fynd am dro yng nghefn gwlad Cymru, yn gŵn St Bernard yn ymlwybro’n drwsgl i gŵn dachshund yn trotian yn fyrlymus.

Pan ddaw hi at fridiau cynhenid, mae gan Gymru bum ci y mae’n ei hawlio. Er nad ydynt yn adnabyddus ar draws y byd (ac mewn rhai achosion, yn anffodus yn ymddangos ar restr y Kennel Club o ‘Fridiau cynhenid sydd dan fygythiad’), mae’r cŵn cariadur hyn wedi dod yn aelodau annwyl o deuluoedd enwog ac hyd yn oed wedi serennu ar y sgrin fawr. Dyma drosolwg o bob un o’r cŵn Celtaidd arbennig hyn.

Corgi Cymreig

Wrth feddwl am y brîd Cymreig mwyaf adnabyddus, y corgi sy’n sicr yn gwisgo’r goron. Mae dau frîd gwahanol o’r corgi, corgi Sir Benfro a chorgi Sir Aberteifi, a’r ddau wedi eu defnyddio’n wreiddiol i hel gwartheg. Credir iddynt darddu o frîd Sgandinafaidd a ddaeth i Gymru gyda mewnfudwyr oddeutu’r 11eg ganrif.

A Corgi smiling at the camera
Corgi yn rhedeg dros y gwair
Corgwn hapus

Ond mae gan y corgwn sêl bendith brenhinol hefyd sydd wedi codi eu proffil nhw. Roedd y diweddar Frenhines Elizabeth II yn angerddol am y brîd, a bu’n berchen ar ddwsinau o’r cŵn yn ystod ei hoes. Mae sôn fod y frenhines mor hoff o’i chŵn fel bod ganddyn nhw eu hystafell eu hunain ym Mhalas Buckingham. Mae’n debyg fod ei chi cyntaf, Susan, yn swatio yng ngherbyd priodas y darpar frenhines fel bod y ci’n bresennol yn ystod ei diwrnod mawr hi.

Mae corgwn yn gŵn teuluol da, yn nodweddiadol addfwyn, annwyl a galluog, ac felly’n ddelfrydol mewn tŷ byrlymus â phlant.

Ci defaid Cymreig

Mae gennym ni lawer o ddefaid yng Nghymru (oddeutu tair dafad am bob un person), a does dim yn well am gadw trefn ar braidd o ddefaid na’r cyfaill pedair coes hwn. Mae’r ci defaid Cymreig yn ddisgynnydd o sawl brîd ‘ci defaid’ oedd gynt yn gyffredin yn y wlad, ac maent yn perthyn i frîd mwy cyffredin y border collie, sy’n hanu o ffindiroedd Cymru, Lloegr a’r Alban. Gan fod y cŵn yn dal i gael eu bridio ar gyfer eu sgiliau gweithio (yn hytrach na’u golwg), mae eu nodweddion yn amrywio’n fawr yn dibynnu ar y ci.

Ci defaid Cymreig yn gorwedd ar y llawr
Y ci defaid Cymreig annibynnol a galluog

Mae gan Gymru hanes hir o gystadlaethau hel defaid, a chynhaliwyd y twrnamaint rhyngwladol cyntaf yn y gamp yn y Bala, yng ngogledd Cymru, yn 1873. Mae’r hen gamp hon yn dal yn boblogaidd heddiw, ac fe welwch chi gŵn defaid Cymreig yn cylchu preiddiau o ddefaid o hyd mewn sioeau amaethyddol fel y Sioe Frenhinol.

Mae ffermwyr Cymru yn enwog hefyd am hyfforddi cŵn defaid, â’r ci defaid gwaith drutaf wedi ei werthu yma yn 2021 am swm anhygoel o £28,455. Bydd angen i chithau fod o natur llym os ydych chi am fod yn berchen ar gi defaid Cymreig gan eu bod yn adnabyddus am fod yn bengaled a’u bod angen llawer o fynd ac o ymarfer corff, gan eu gwneud nhw’n fwy addas ar gyfer amgylchedd gwaith.

Daeargi Sealyham

Os byddai’n rhaid i Gymru ddewis y ci delaf, yna mae’n debyg mai’r daeargi Sealyham fyddai hwnnw. Mae’r cŵn hyn yn bodoli diolch i dirfeddiannwr cefnog o’r enw Capten John Tucker-Edwardes, oedd yn byw yn ystâd Sealyham yn Sir Benfro. Gweithiodd y capten yn ddiflino i fridio daeargi bychan a fyddai’n gwneud ci hela perffaith, gan sicrhau fod gan y ci gôt wen fel bod modd gwahaniaethu’n hawdd rhyngddo ac unrhyw anifeiliaid hela.

Ond er bod â’i wreiddiau yn gadarn yng ngorllewin Cymru, llwyddodd y Sealyham i fynd mor bell a Hollywood erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, â’r ci yn dod yn ffefryn gan sêr fel Elizabeth Taylor, Humphry Bogart a Cary Grant. Fe enwodd Cary Grant ei ddaeargi yn ddoniol ddigon yn Archie Leach, sef enw go iawn Cary Grant ei hun. Roedd y cyfarwyddwr enwog, Alfred Hitchcock, hefyd yn berchen ar y cŵn hyn, ac fe ymddangoson nhw ar y cyd â’r cyfarwyddwr yn ei ffilm arswyd eiconig yn 1963, The Birds.

Daeargi Sealyham gwyn
Daeargi Sealyham yn gorwedd yn y goedwig
Y daeargi Sealyham cyfeillgar, sylwgar, eofn a thawel

Yn anffodus, dirywiodd poblogrwydd y ci dros y degawdau dilynol nes bod daeargwn Sealyham bellach yn un o’r bridiau cynhenid yn y Deyrnas Unedig sydd dan fygythiad.

Yn gi bach del, mae pobl yn caru daeargwn Sealyham gan fod ganddyn nhw bersonoliaethau annwyl a pharodrwydd i addasu, yn eu gwneud nhw’n gwmni addas ar gyfer cartrefi dinesig neu wledig.

Sbaniel hela Cymreig

Er iddo gael ei anfarwoli fel stamp gan y Swyddfa Bost yn 1979 (i ddathlu bridiau cŵn cynhenid i’r Deyrnas Unedig), mae’r sbaniel hela Cymreig yn llawer llai adnabyddus na’r ci poblogaidd, y sbaniel hela Saesnig. Mae’r sbaniel Cymreig yn llai ei faint na’i gefnder enwog dros y ffin, ac mae’n hawdd ei adnabod diolch i’w gôt goch a gwyn – addas iawn o gofio cysylltiad hir Cymru â’r lliw coch.

Pan ddaw hi at hanes y ci, mae cliw yn ei enw. Mae’r term sbaniel yn dod o’r Hen Ffrangeg am ‘gi Sbaenaidd’, lle credir i’r ci hanu cyn cyrraedd y Deyrnas Unedig. Mae’r elfen ‘hela’ yn yr enw Cymraeg yn esbonio’i hun ac yn cyfateb i ‘springer’ yn Saesneg. Mae’n cyfeirio at swyddogaeth wreiddiol y ci, yn hela anifeiliaid ac adar gyda’r helwyr.

Heddiw mae sbaniels Cymreig yn adnabyddus am fod yn gyfeillion ffyddlon ac annwyl, ac maen nhw’n ddewis da o frîd i deuluoedd bywiog, yn enwedig y rheiny â phlant ifanc.

Sbaniel brown a gwyn yn eistedd ar y gwair.
Sbaniel brown a gwyn yn eistedd yng nghanol y gwair a’r llwyni.
Y sbaniel hela Cymreig sy’n gyfeillgar, annwyl, bywiog a ffyddlon

Daeargi Cymreig

Mae’r daeargi Cymreig yn cystadlu am deitl brîd cynhenid hynaf y Deyrnas Unedig sy’n dal i fodoli, â chofnodion o’r brîd yn dyddio’n ôl mor bell â’r 13eg ganrif.

Bryd hynny, roedd y cŵn bach â’u cotiau byr yn cael eu defnyddio am eu sgiliau i reoli fermin ar ffermydd. Ond yn y canrifoedd dilynol, mae’r ci blêr yr olwg braidd wedi dod o hyd i gartref yn rhai o’r llefydd crandiaf ar y ddaear, yn y Tŷ Gwyn (yn anifail anwes o’r enw Charlie i’r Arlywydd John F Kennedy – er bod gan yr arlywydd alergedd i flew cŵn!), ac ym Mhalas Buckingham (lle roedd daeargi Cymreig o’r enw Gwen yn anifail anwes i’r Brenin Edward VIII).

Ond er y dreftadaeth ddiwylliannol arwyddocaol hon, mae’r daeargi Cymreig yn gi arall sydd ar y rhestr o fridiau sydd dan fygythiad. Yn ffodus, mae clybiau’n bodoli sy’n gweithio i achub y brîd, sy’n gwerthfawrogi natur hawddgar y cŵn, eu personoliaethau cryf a smala, a’r ffaith eu bod nhw fel arfer yn wych mewn amgylchedd teuluol.

Daeargi Cymreig yn gwenu
Daeargi Cymreig du a brown yn sefyll mewn cae yn llyfu ei weflau.
Y daeargi Cymreig sy’n gyfeillgar, galluog, sylwgar a llawn cymeriad

Straeon cysylltiedig