Gyda’u ffrâm fechan, eu cotiau blewog a chlustiau tebyg i lwynog, heb os nac oni bai corgwn yw’r rhai mwyaf adnabyddus o’n bridiau cŵn Cymreig brodorol.

Mae’n bosibl bod y cŵn yn adnabyddus iawn heddiw, diolch, i raddau helaeth, i’w cysylltiad â’r Frenhines Elizabeth II, ond mae eu tarddiad yn llawer mwy gostyngedig, diolch i gylch bach o ffermwyr Cymreig a frwydrodd iddynt gael eu cydnabod. Dyma hanes sut y daeth y brîd gwych hwn yn gi enwocaf Cymru.

Corgi du a gwyn yn syllu i fyny ar y camera.
Corgi yn gwenu ar y camera
Y Corgi cyfeillgar, allblyg, beiddgar a chwareus

Dechrau trwy weithio’n galed

Er mai’r ddelwedd gyfoes o gorgi yw’r un o gi wedi’i faldodi’n llwyr, roedd y cŵn bach hyn yn wreiddiol yn cael eu gwerthfawrogi am eu caledwch, yn gallu gwrthsefyll dyddiau hir ac oer yn gweithio yn yr awyr agored ar ffermydd gorllewin Cymru.

Does neb yn sicr o ble y tarddodd y brîd corgi, ond mae llawer yn credu mai eu prif gyndad yw'r vallhund Swedaidd, brîd Llychlynaidd caled, hynafol sy'n rhannu llawer o debygrwydd corfforol â chorgwn heddiw. Credir i'r ci gael ei gyflwyno i Gymru gan y Llychlynwyr yn ystod eu cyrchoedd niferus ym Mhrydain, gan ddechrau yn yr wythfed ganrif. Mae eraill yn honni dylanwad y deutsche bracke (Cŵn Almaenig) a ddaeth i Gymru o Ganol Ewrop.

Vallhund Swedaidd yn sefyll mewn coedwig
Y Vallhund Swedaidd effro, cyfeillgar, deallus a di-ofn

Roedd ffermwyr Cymru yn gwerthfawrogi’r cŵn am eu deallusrwydd a’u sgiliau fel bugeiliaid gwartheg. Credir bod yr enw, corgi, yn deillio o amrywiad ar y Gymraeg, Ci Corrach, sy’n cyfeirio at eu maint bychan. Y taldra byr hwn oedd yn caniatáu i'r cŵn fugeilio da byw trwy frathu eu sodlau, tra'n osgoi ciciau ystyfnig gan aelodau o’r fuches oedd wedi’u cythruddo. Unwaith y byddent yn cael eu bugeilio'n llwyddiannus, byddai'r cŵn hefyd yn gwarchod y gwartheg gyda'r nos.

Yn wir, roedd y cŵn mor weithgar nes bod yr awdur Charles Lister-Kaye yn ei gofiant o’r brîd wedi dweud bod corgwn yn gwneud ‘popeth ar y fferm heblaw am weini wrth y bwrdd’.

Dau fath

Tyfodd y fath hoffter ymhlith cymuned ffermio gorllewin Cymru at eu cŵn bach gweithgar fel y ffurfiwyd grŵp gwerthfawrogiad, y Clwb Corgwn Cymreig, mewn tafarn leol ym 1925. Nod y grŵp oedd diogelu’r brîd a’i hyrwyddo i’r byd ehangach mewn sioeau cŵn cenedlaethol.

Fodd bynnag, roedd problem. Bu dau amrywiad cynnil o gorgi Cymreig erioed, sef Penfro ac Aberteifi, a enwyd ar ôl y siroedd arfordirol Cymreig priodol – Sir Benfro a Sir Aberteifi (Ceredigion erbyn hyn) – y magwyd pob ci ynddynt. Ond pan ddaeth yn amser sioeau, ni allai neb gytuno pa set o nodweddion oedd fwyaf dymunol.

Roedd yn well gan fridwyr Penfro ffrâm lai a siâp hirsgwar eu cŵn, tra bod bridwyr Aberteifi yn ffafrio eu clustiau mwy crwn a'u cynffonau hirach. O'r herwydd, roedd y cystadlaethau cynnar yn llawn dadlau.

Corgi yn gorwedd ar y llawr mewn ystafell yn edrych i’r ochr.
Corgi

Diolch byth, daeth y ffraeo i ben ym 1934 pan roddodd y British Kennel Club statws brîd ar wahân i Benfro ac Aberteifi, ac yn fuan dechreuodd corgwn o’r ddau fath ennill rhosedi mewn sioeau ledled y DU.

Tua'r amser hwn hefyd yr aeth corgwn i UDA. Yn ystod ymweliad â Llundain ym 1933, gwelodd y bridiwr cŵn Americanaidd, Mrs Lewis Roesler, gorgi Penfro yng Ngorsaf Paddington. Wedi'i swyno, cynigiodd brynu'r ci yn y fan a'r lle. Cytunodd y perchennog, a Little Madam, fel y’i henwyd, oedd y corgi cofrestredig cyntaf gyda’r American Kennel Club, gan gychwyn perthynas glos yr Americanwyr gyda’r brîd sy’n parhau hyd heddiw.

Nawdd brenhinol

Er i ymdrechion y selogion gynyddu ymwybyddiaeth o gorgwn Penfro ac Aberteifi trwy gydol dechrau’r 20fed ganrif, ni wnaeth dim mwy i yrru'r ci i sylw rhyngwladol na'r Frenhines Elizabeth II.

Syrthiodd y gyn-Frenhines, a fu farw yn 2022, mewn cariad â chorgwn yn ifanc, a chafodd gorgi Penfro ar ei phen-blwydd yn 18 oed gan ei thad, y Brenin Siôr VI, a enwodd yn Susan. Dair blynedd yn ddiweddarach, yn ystod priodas Elizabeth â Dug Caeredin, dywedir bod Susan wedi'i chuddio yn ei cherbyd priodas fel y gallai'r ci fod yn rhan o'r diwrnod mawr - hyd yn oed yn cadw cwmni i’r cwpl brenhinol ar eu mis mêl.

Gan Susan, magodd Elizabeth ddwsinau o gorgwn trwy gydol ei hoes, yn ogystal â’u croesi gyda dachshund, a elwir yn "dorgis". Roedd y cŵn yn anifeiliaid anwes annwyl a dywedir eu bod yn byw bywyd o foethusrwydd, yn cysgu mewn basgedi gwiail â gobennydd yn eu hystafell bwrpasol eu hunain yn y palas - gyda phrydau bwyd, gan gynnwys cwningen ffres, wedi'u paratoi gan staff y gegin Frenhinol.

Oherwydd presenoldeb cyson corgwn wrth ochr Elizabeth trwy gydol ei theyrnasiad, mae'r brîd wedi dod yn symbol o deulu brenhinol modern Prydain, gan ymddangos ar ddarnau arian, ymddangos mewn cerfluniau, ac addurno llwyth o fygiau cofroddion.

Mae'r corgwn brenhinol hefyd wedi dod yn destun nifer o lyfrau a ffilmiau, yn ogystal â serennu, ochr yn ochr â Daniel Craig fel James Bond, mewn sgets nodedig a ymddangosodd fel rhan o seremoni agoriadol Gemau Olympaidd yr Haf Llundain 2012.

Y brîd heddiw

Does dim amheuaeth am effaith y Frenhines Elizabeth ar boblogrwydd y brîd, gyda chofrestriadau cŵn bach newydd yn cynyddu 56 y cant yn y flwyddyn y rhoddwyd ei chorgi cyntaf i Elizabeth. Efallai ei bod yn briodol felly, yn 2022, y flwyddyn a oedd yn nodi Jiwbilî Platinwm y frenhines, fod cofrestriadau corgwn Penfro y Kennel Club wedi codi i’w lefel uchaf mewn deg mlynedd ar hugain.

Yn anffodus ni ellir dweud yr un peth am y corgi Aberteifi, sy’n parhau ar restr y Kennel Club o fridiau brodorol bregus, sy’n golygu bod y ci mewn perygl o ddiflannu o Ynysoedd Prydain.

Fodd bynnag, mae optimistiaeth ar gyfer dyfodol y ddau frîd wedi cyrraedd o ffynhonnell fodern iawn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o gorgwn wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda sêr fel Maxine, Ralph, Tofu a'r brodyr Geordi and Scotty yn denu bron i ddwy filiwn o ddilynwyr rhyngddynt.

Y gobaith yw y bydd yr amlygiad hwn o’r brîd ar-lein, ynghyd â chysylltiad parhaus â theulu brenhinol Prydain, yn helpu i anwylo corgwn i genhedlaeth newydd o bobl sy’n carw anifeiliaid, gan sicrhau mai Ci Corrach yw prif gi Cymru o hyd.

Llun o’r ochr o gorgi yn llyfu ei weflau
Corgi

Straeon cysylltiedig