Beth yw Teulu Brenhinol Prydain?

Mae'r Sofran - y Brenin Charles III - a'i berthnasau agos yn ffurfio Teulu Brenhinol Prydain. Mae'r DU, y mae Cymru yn rhan ohoni, yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Er bod y Brenin yn bennaeth y wladwriaeth, nid oes ganddo ef a'i deulu rôl weithredol na gwleidyddol.

Mae’r DU yn cael ei llywodraethu fel democratiaeth. Mae'r gallu i basio deddfwriaeth yn nwylo cynrychiolwyr etholedig yn Senedd y DU, ac yng Nghymru, hefyd yn y Senedd (Senedd Cymru). Un o ddyletswyddau cyfansoddiadol y Brenin yw rhoi ei Gydsyniad Brenhinol i Ddeddfau a basiwyd yn y ddwy senedd.

Ar ben y dyletswyddau gwladwriaethol hyn, rôl y Sofran yw gweithredu fel arweinydd ar gyfer y DU – gan ddarparu ymdeimlad o barhad, hybu morâl y cyhoedd a chynnal cysylltiadau rhyngwladol da. Cynorthwyir y Sofran gyda hyn gan aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol.

Mae Teulu Brenhinol presennol Prydain yn cael ei adnabod yn swyddogol fel Tŷ Windsor, fel ag y bu ers 1917. Mae aelodau iau o’r Teulu Brenhinol yn draddodiadol yn ymuno â’r lluoedd arfog neu’n darparu gwasanaeth i gymdeithas (er enghraifft, trwy gefnogi elusennau neu achosion da).

Pwy yw Tywysog Cymru?

Mae'r teitl 'Tywysog Cymru' wedi cael ei ddefnyddio ers cyn y 12fed ganrif. Hyd at y 14eg ganrif, roedd yr enw’n cael ei arddel gan dywysogion brodorol Cymru. Ers y 14eg ganrif, fe'i rhoddwyd yn lle hynny i etifedd gorsedd Prydain. Gall Tywysog Cymru gael teitlau eraill yn ychwanegol at yr un yma, fel Dug Cernyw (a roddir i fab hynaf y brenin neu’r frenhines).

Tywysog presennol Cymru yw'r Tywysog William, sy'n briod â Thywysoges Cymru, Catherine, ac mae ganddynt dri o blant, y Tywysog George, y Dywysoges Charlotte a'r Tywysog Louis. Preswylfa swyddogol y teulu yw Palas Kensington. Mae Ei Uchelder Brenhinol yn gwneud nifer o weithgareddau a phrosiectau elusennol ac yn cyflawni dyletswyddau cyhoeddus a swyddogol i gefnogi'r Brenin, yn y DU a thramor.

Y Tywysog Cymru a wasanaethodd hiraf oedd tad William, Charles. Cafodd ei arwisgo yn Dywysog Cymru ym 1969 mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon. Dilynodd yn ôl traed ei hen ewythr, a fyddai’n cael ei adnabod yn Edward VIII, y cafodd ei arwisgo yno ym 1911. Gwasanaethodd Charles fel Tywysog Cymru hyd at farwolaeth ei fam, y Frenhines Elizabeth II yn 2022.

Beth mae Tywysog Cymru yn ei wneud?

Prif rôl Tywysog Cymru yw cefnogi'r Brenin. Mae hyn yn cynnwys croesawu pwysigion i’r Deyrnas Unedig, cynrychioli’r Brenin a’r DU dramor ar achlysuron gwladwriaethol a seremonïol, hyrwyddo balchder ac undod cenedlaethol ar draws cymdeithas, a phwysleisio pwysigrwydd gwasanaeth a’r sector gwirfoddol trwy annog eraill ac arwain trwy esiampl.

Mae Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William yn Noddwr i nifer o elusennau sy'n canolbwyntio ar gadwraeth a thrwy The Royal Foundation of The Prince and Princess of Wales, mae wedi arwain mentrau byd-eang i amddiffyn ein byd naturiol. Lansiodd The Earthshot Prize yn 2020, gwobr amgylcheddol fyd-eang sy’n cydnabod atebion arloesol i atgyweirio ac adfywio’r blaned. Sefydlodd hefyd United for Wildlife gyda The Royal Foundation yn 2014, gan hyrwyddo gwaith cydweithredol i atal masnachu cynhyrchion bywyd gwyllt anghyfreithlon.

Mae hefyd yn eiriolwr dros bobl sy’n profi digartrefedd, ac mae’n ymgyrchu’n frwd dros achosion iechyd meddwl.

Cymru, y Tywysog William a'r Tywysog Harry

Plant Brenin Charles III a'r diweddar Diana, Tywysoges Cymru, yw'r Tywysog William a Harry, Dug Sussex. Mae'r ddau wedi ymweld â Chymru droeon ac wedi cryfhau'r cysylltiadau Cymreig a ffurfiwyd gan eu rhieni.

Mae’r fodrwy briodas a roddwyd i Dywysoges bresennol Cymru, Kate Middleton, gan y Tywysog William yn 2011, wedi’i gwneud o aur Cymreig pur. Mewn gwirionedd, mae pob prif briodas frenhinol wedi’i selio ag aur Cymru ers i’r Fam Frenhines ddechrau’r traddodiad yn ei phriodas â Brenin George VI ym 1923.

Roedd Tywysog a Thywysoges Cymru (William a Kate) yn byw ar Ynys Môn rhwng 2010 a 2013, tra roedd William wedi’i leoli yno fel peilot hofrennydd chwilio ac achub y Llu Awyr Brenhinol yn RAF y Fali. Ar ôl i'r Tywysog gwblhau ei hyfforddiant, symudodd y cwpl i ffermdy ym mhentrefan Bodorgan, gyda golygfeydd o Goedwig Niwbwrch, Ynys Llanddwyn ac Eryri gerllaw.

Ymwelodd Harry, Dug Sussex, â Chaerdydd gyda'i ddyweddi ar y pryd ym mis Ionawr 2018. Ymunodd Meghan, sydd bellach yn Dduges Sussex, ag ef ar ymweliad â Chastell Caerdydd wrth wisgo jîns a wnaed gan y brand Cymreig Hiut Denim.

Dug a Duges Sussex, y Tywysog Harry a Meghan Markle yn cerdded heibio tyrfaoedd yng Nghastell Caerdydd
Dug a Duges Sussex, y Tywysog Harry a Meghan Markle yn cyfarch tyrfaoedd y tu ôl i rwystrau yng Nghastell Caerdydd
Duges Sussex, Meghan Markle y tu blaen i dyrfaoedd yng Nghastell Caerdydd
Dug a Duges Sussex, Harry a Meghan, yn cyfarch tyrfaoedd yng Nghastell Caerdydd

Ffeithiau eraill am y Teulu Brenhinol a Chymru

Agorodd y Frenhines Elizabeth II Gynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru (y Senedd bellach) yn swyddogol ym 1999

Yna agorodd bob sesiwn yn dilyn etholiad yng Nghymru, hyd at ei marwolaeth yn 2022. Fe agorodd adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 hefyd.

Mae gan Gymru ddau gwrs golff Brenhinol

Rhoddodd Edward VII, golffiwr brwd, statws Brenhinol i’w ddau hoff gwrs golff yng Nghymru: Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant (1908) a Chwrs Golff Brenhinol Porthcawl (1909).

Ym 1859, arhosodd y Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert yng Nghastell Penrhyn, ger Bangor

Heddiw mae Castell Penrhyn yn cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond yn y 1800au roedd yn blasty ym mherchnogaeth y teulu Pennant. Sefydlwyd y castell a’r ystâd gan ddefnyddio elw o ddiwydiant llechi Gogledd Cymru a’r fasnach gaethweision drawsatlantig, gan fod y teulu’n berchen ar nifer o blanhigfeydd siwgr yn Jamaica. Ar gyfer yr ymweliad brenhinol ym 1859, comisiynwyd gwely o lechen a bwysodd dunnell ar gyfer y Frenhines a'r Tywysog, ond gwrthododd y Frenhines Victoria gysgu ynddo oherwydd ei fod yn ei hatgoffa o feddrod. Mae'r gwely i'w weld yno hyd heddiw.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, ymwelodd y Frenhines Victoria â Neuadd Palé, yn Nyffryn Dyfrdwy ger y Bala. Roedd hi wedi ei swyno gan y lle. Gallwch nawr aros yn yr ystafell y bu'n cysgu ynddi - a elwir yn briodol yn The Victoria Room - ynghyd â'r bath, basn a gwely gwreiddiol a ddefnyddiwyd gan y Frenhines.

Cafodd sawl brenin eu geni yng Nghymru

Ganed Harri V yng Nghastell Trefynwy ym 1386. Treuliodd lawer o'i ieuenctid yng Nghymru, yn ymladd yn erbyn gwrthryfel Owain Glyndŵr. Ganed Harri Tudur (Harri VII yn ddiweddarach) yng Nghastell Penfro ym 1457.

Mae gan Gymru lawer o westai gyda chysylltiadau brenhinol

Tŷ Gwledig Plas Dinas yng Nghaernarfon, sydd bellach yn westy, yw cyn gartref yr Arglwydd Snowdon a'r Dywysoges Margaret.

Mae gan Westy Neuadd Llangoed yn Nyffryn Gwy hanes hir o gysylltiadau â'r Teulu Brenhinol Prydeinig. Mae'r Tywysog Charles yn ymweld ddwywaith y flwyddyn ac mae Dug a Duges Caergrawnt hefyd wedi galw heibio. Mae'r gwesty'n berchen ar Rolls-Royce a roddwyd i'r Fam Frenhines ar enedigaeth y Frenhines Elizabeth II.

Credir bod The Great House yn Nhrelales ger Pen-y-bont ar Ogwr, sydd bellach yn westy, yn anrheg gan y Frenhines Elisabeth I i un a oedd yn dymuno ei phriodi a'i ffefryn yn y llys, Robert Dudley, Iarll Caerlŷr. Credir hefyd ei fod unwaith yn gartref i Anne Boleyn, ail wraig Brenin Harri VIII.

Aur Cymru’n selio’r cariad

Mae pob prif briodas frenhinol wedi’i selio ag aur Cymru ers i’r Fam Frenhines ddechrau’r traddodiad yn ei phriodas â Brenin George VI ym 1923.

Straeon cysylltiedig