Mae'n arwyddlun o Gymru ar yr un lefel â Dewi Sant, y cennin Pedr a'r ddraig goch. Ond sut daeth y delyn i fod yn offeryn cenedlaethol i ni?

Efallai y bydd yr ateb yn eich synnu. Cyrhaeddodd y delyn Gymreig – neu’r delyn deires – y DU yn ystod y 1600au. Daeth o'r Eidal, fel un o blith nifer o ddyfeisiadau Eidalaidd enwog sydd wedi’u croesawu’n gynnes i ddiwylliant Cymru.

Fe wnaethom dreulio amser gyda Cerys Hafana, telynores deires o Ganolbarth Cymru, i ddarganfod mwy am offeryn cenedlaethol Cymru. Bu’n siarad â Llio Rhydderch, sy’n cael ei chydnabod fel prif berfformwraig y delyn deires Gymreig heddiw.

Cafodd Cerys sgwrs hefyd â Rhys Lewis o Derwent Harps. Mae’r busnes yma yng Ngheredigion wedi profi cynnydd yn y galw am ei offerynnau ers i Lywodraeth Cymru lansio’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, rhaglen gwerth £13.5 miliwn sy’n sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu elwa ar addysg mewn cerddoriaeth, beth bynnag fo’u cefndir.

Cerys Hafana yn archwilio hanes y delyn Gymreig

Hanes y delyn: sut y daeth hi i Gymru?

Mae’r delyn deires yn cael ei galw’n hynny oherwydd bod ganddi dair rhes o dannau yn hytrach nag un, sy’n caniatáu i’r telynor ganu nodau cromatig heb liferi na phedalau. Hanodd o’r Eidal fel offeryn baróc cyn ymledu ar draws Ewrop, ac fe'i defnyddiwyd gan Monteverdi ac yn ddiweddarach gan Handel yn eu cyfansoddiadau.

Cyrhaeddodd y delyn deires Lundain yn yr 17eg ganrif. Fe’i mabwysiadwyd gan Gymry Llundain – “a gymerodd yn syth at ei chymhlethdod a’i dirgelwch cyfandirol” yn ôl Cerys. Aeth y cerddorion hyn â’r offeryn yn ôl i Gymru, lle daeth yn boblogaidd iawn ym Meirionnydd (rhanbarth hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru).

Erbyn canol y 18fed ganrif, nid oedd y delyn deires yn cael ei hystyried yn ffasiynol ar draws gweddill Ewrop. Ond yng Nghymru, fe barhaodd i gael ei chynhyrchu a’i chanu – diolch yn rhannol i’w phoblogrwydd yn ein heisteddfodau, neu ein gwyliau. Fe'i coronwyd fel y delyn Gymreig gan hynafiaethwyr y cyfnod, gan anwybyddu ei hanes yn ddigon hwylus.

Sut mae'r delyn Gymreig yn swnio, rydych chi’n gofyn? Mewn gair: bellissimo.

 

Wyneb unigolyn drwy dannau telyn
Portread o unigolyn mewn ffrog las yn sefyll mewn tirwedd fynyddig werdd
Cerys Hafana

Yr anthem genedlaethol

Os ydych chi eisiau mwy o brawf o’r graddau mae’r delyn wedi’i hymgorffori yn ein geirfa gerddorol, does dim rhaid edrych ymhellach nag anthem genedlaethol Cymru, a ysgrifennwyd gan delynor. Cyfansoddwyd Hen Wlad Fy Nhadau ym 1856 gan dad a mab a oedd yn byw yn nhref Pontypridd, sef Evan a James James. Dywedir mai’r mab, James, telynor a fyddai’n canu’n aml yn nhafarndai ei dref enedigol, a gyfansoddodd y gerddoriaeth wrth gerdded ar hyd glannau Afon Rhondda. Wedi dychwelyd adref, gofynnodd i'w dad ysgrifennu geiriau i gyd-fynd â'r dôn.

Cymru yw’r unig wlad Geltaidd sydd â thraddodiad di-dor o ganu’r delyn sy’n mynd yn ôl ganrifoedd.”

Canu i’r teulu brenhinol

Roedd y delyn mor boblogaidd yn ystod y 1800au fel bod swydd bwrpasol wedi’i chreu ar ei chyfer o fewn yr Aelwyd Frenhinol – sef y Telynor Brenhinol. Rhoddwyd y rôl i John Thomas ym 1871 gan y Frenhines Fictoria, ond bu'n wag wedyn nes iddi gael ei hadfywio gan y Tywysog Charles, Tywysog presennol Cymru.

Teitl llawn y rôl heddiw yw Telynor Swyddogol Tywysog Cymru. Ers 2000, mae chwe thelynor wedi cael y swydd yma. Cwblhaodd y deiliad presennol, Alis Huws, radd israddedig a meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'r holl Delynorion Brenhinol hyd yma wedi bod yn Gymry.

Unigolyn ifanc yn gwisgo ffrog las yn canu telyn ar draeth
Cerys Hafana yn canu telyn ar y traeth

Clywed y delyn heddiw

Y lle gorau i glywed telynau Cymreig yn eu llawn ogoniant yw mewn eisteddfod. Mae telynorion gorau'r genedl yn cystadlu'n flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol - fel unawdwyr a chyda chyfeiliant lleisiol (math o gerddoriaeth a elwir yn gerdd dant). Am y doniau mwyaf addawol, edrychwch ar Eisteddfod flynyddol yr Urdd, sy'n cael ei rhedeg gan fudiad ieuenctid cenedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru. Mae safon y canu yn rhyfeddol o uchel. Mae'r ddwy ŵyl yn cael eu darlledu ar S4C, ac mae perfformiadau ar gael i'w ffrydio ar YouTube.

Mae hefyd yn werth edrych ar Gyngres Telyn y Byd, sefydliad sy'n hyrwyddo cerddoriaeth delyn ar draws y byd gyda gŵyl bob tair blynedd. Croesawodd Caerdydd y Gyngres yn 2022, yn dilyn dinasoedd fel Dulyn, Prâg, Genefa a Sydney. Mwynhaodd y cynadleddwyr a selogion y delyn raglen orlawn o ddatganiadau, cyngherddau, dosbarthiadau meistr a gweithdai, ac mae llawer o uchafbwyntiau i’w gweld ar-lein.

Cysgodlun unigolyn ifanc yn gwisgo ffrog las yn canu telyn ar draeth
Llun o ddynes yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig yn canu telyn
Cerys Hafana yn canu'r delyn ar draeth, a darlun o Gymraes mewn gwisg draddodiadol yn canu'r delyn

Y delyn a'r byd

Heddiw, mae’r delyn Gymreig yn mwynhau adfywiad o ran diddordeb, yn rhannol diolch i’r swydd Frenhinol a gafodd ei (hail-)greu’n ddiweddar a gwaith cerddorion modern fel Cerys Hafana a Georgia Ruth.

Un o’r Telynorion Brenhinol enwocaf yw Catrin Finch, artist o fri rhyngwladol y mae ei gyrfa gerddorol wedi’i gweld yn cydweithio â’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita a’r arch-grŵp o Colombia, Cimarrón, ymhlith eraill.

Fel y dywed Cerys am Llio Rhydderch a’i chyfansoddiadau unigryw – “weithiau’n fwy pync na gwerin” – y cymysgedd hwn o’r hen a’r modern sy’n gwneud stori barhaus y delyn Gymreig yn un mor afaelgar. Mae ein traddodiadau cerddorol i'w coleddu, eu dathlu a'u trosglwyddo, ond nid ydynt byth yn aros yn eu hunfan. Trwy gysylltiad â diwylliannau eraill, byddant bob amser yn esblygu i rywbeth newydd ac annisgwyl.

Straeon cysylltiedig