Fyddwch chi byth yn anghofio’r tro cyntaf y gwelsoch chi’r Fari Lwyd. Goleuadau neu addurn mân yw ei llygaid. Mae ei gwallt wedi ei chreu gan rubanau lliwgar, neu gelyn ac iorwg. Ac mae clogyn gwyn yn disgyn o’i phenglog, sy’n sownd i bolyn a gaiff ei ddal gan berson y tu mewn: y nhw sy’n rheoli natur ddrygionus y cymeriad, gan gau’r geg esgyrnog yn glep tuag atoch yn aml.

Traddodiad y Fari Lwyd – BBC Cymru

Beth yw ystyr ‘Mari Lwyd’?

Mae tarddiad enw Mari, fel y ceffyl ei hun, yn ddirgelwch llwyr. Mae un cyfieithiad ohono, sef Grey Mare, yn ei gysylltu â thraddodiad y ceffylau llwydion ym mytholeg y Celtiaid a’r Brythoniaid (er enghraifft, roedd Rhiannon yn y Mabinogi yn marchogaeth ceffyl gwyn). Mae llawer ohonyn nhw’n gallu croesi i’r byd tanddaearol hefyd.

Cyfieithiad arall o’r Fari Lwyd yw Grey Mary. Mae rhai ysgolheigion yn ei chysylltu â chwedl sy’n gysylltiedig â Stori’r Geni. Yn ôl y chwedl, cafodd caseg feichiog ei hel o’r stablau pan gyrhaeddodd Mair yno i roi genedigaeth i’r Iesu. Gorfododd hyn y gaseg i dreulio dyddiau tywyll yn crwydro’r tir yn chwilio am le newydd i esgor ar ei hebol. Fodd bynnag, mae llawer un sy’n ymddiddori yn y Fari yn credu bod y cymeriad â’i wreiddiau yn y byd paganaidd, cyn-Gristnogol. Mae hyn yn amhosibl i’w brofi, ond mae rhywbeth oesol o ofnus amdani, yn sicr.

Mari lwyd a’i safnau ar agor.
Grŵp o bobl y tu allan i dŷ tafarn gyda’r Fari Lwyd yn y blaen.
Mari Lwyd Llantrisant

Beth mae’r Fari Lwyd yn ei wneud?

Yn draddodiadol, mae’r Fari yn cael ei chario o amgylch y pentref, a hynny rhwng dydd Nadolig a Nos Ystwyll. Fe’i gwisgir mewn goleuadau ac addurniadau Nadoligaidd, gyda ‘gwas stabl’ yn gwmni iddi fel arfer. Mewn ambell ardal fel Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, daw yng nghwmni cymeriadau gwerinol eraill fel ‘cellweiriwr’ neu ‘arglwyddes’. Cysylltir y rhain â thraddodiad y dramâu mud-chwarae a oedd yn boblogaidd gyda’r werin bobl yn y 18fed ganrif.

Pan mae’r grŵp yn cyrraedd tŷ, maen nhw’n canu caneuon Cymraeg neu ‘waseiliau’, neu ymgymryd â gêm odli draddodiadol o’r enw ‘pwnco’, sef cyfnewid penillion coch gyda phreswylydd y tŷ. Os yw’r Fari a’i chriw yn llwyddo i gael mynediad, credir y byddai’n dod â lwc dda i’r tŷ am weddill y flwyddyn. Mae’r Fari yn enwog am fod yn ddrygionus, gan ddwyn pethau ac erlid pobl wrth fynd ar ei thaith.

Gallwch wylio fideo diweddar o Fari wrthi’n perfformio ar dudalen Facebook Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Y Fari Lwyd | The Mari Lwyd

Dewch i brofi perfformiadau o draddodiadau Nadolig unigryw Cymru: y Fari Lwyd a Hela'r Dryw. Nosweithiau Nadolig, 6-8 Rhagfyr. Experience unmissable performances of Wales' unique Christmas traditions: the Mari Lwyd and The Hunting of the Wren. Christmas Nights, 6-8 December. https://museum.wales/stfagans/whatson/10114/Christmas-Nights/

Posted by Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - St Fagans National Museum of History on Wednesday, November 21, 2018

Beth yw tarddiad y traddodiad?

Ceir y cofnod ysgrifenedig cyntaf am y Fari Lwyd yn y llyfr A Tour Through Part of North Wales (1800) gan J. Evans, er y cysylltir y traddodiad gan fwyaf ag ardaloedd Morgannwg a Gwent. Mae’r Fari Lwyd yn ymdebygu i arferion eraill ym Mhrydain sy’n cynnwys anifeiliaid â phenwisg, fel y Hoodening yng Nghaint, y Broad yn ardal y Cotswolds a’r Old Tup yn Swydd Derby. Roedd y traddodiadau hyn yn cynnwys pobl dlawd a geisiai chwilio am fwyd ac arian yn ystod misoedd garw'r gaeaf. Adloniant oedd eu dull, yn ogystal â rhywfaint o ddrygioni – fel penglog y ceffyl marw yn ymddangos wrth eich drws.

Mari Lwyd a dyn y tu allan i fwthyn.
Grŵp o Faris gyda phobl.
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd c. 1904–10 a grŵp diweddarach o’r Fari yng ngwasael Mari Lwyd Cas-gwent

“Mae’r Byw yn cael eu hamddiffyn gan gynhesrwydd cyfoethog y fflamau sy’n cadw’r unigrwydd hwnnw allan”.  Dywed y gerdd  “Ag ofn, maen nhw’n clywed y Meirw yn curo’r paenau; yna, maen nhw’n codi wedi’u harfogi â chynhesrwydd y tân”.

Sut ddechreuodd y traddodiad newid?

Roedd y Methodistiaid a’r anghydffurfwyr Cristnogol eraill yng Nghymru yn feirniadol o’r Fari Lwyd yn y 19eg ganrif. Fe’i disgrifiwyd yn “bechadurus” gan y Parchedig William Roberts, gweinidog gyda’r Bedyddwyr ym Mlaenau Gwent, yn ei lyfr Crefydd yr Oesoedd Tywyll (1852). Er hyn, cofnododd ugain pennill o berfformiad y Fari, gan helpu lledaenu’r traddodiad. Yn ystod yr 1930au a’r 1940au, sylwodd yr arbenigwr llên gwerin, Iorwerth Peate, fod y traddodiad yn dal yn fyw yn ardaloedd Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Llangynwyd, Castell-nedd a rhannau eraill o Forgannwg, er gwaethaf ofnau ei fod yn dechrau marw.

Yn 1941, ysgrifennodd y bardd Eingl-Gymreig, Vernon Watkins, gerdd hir amdani o’r enw ‘The Ballad of The Mari Lwyd’, a hynny ar ôl clywed eitem ar y radio yn sôn am yr arfer ym mhentref Gwaelod-y-garth, ychydig i’r gogledd o Gaerdydd. Mae ei eiriau yn crisialu’n brydferth yr elfen ofnus sydd gan y Fari Lwyd. Dywed y gerdd: “The Living are defended by the rich warmth of the flames which keeps that loneliness out” (“Mae’r Byw yn cael eu hamddiffyn gan gynhesrwydd cyfoethog y fflamau sy’n cadw’r unigrwydd hwnnw allan”). “Terrified, they hear the Dead tapping at the panes; then they rise up, armed with the warmth of firelight” (“Ag ofn, maen nhw’n clywed y Meirw yn curo’r paenau; yna, maen nhw’n codi wedi’u harfogi â chynhesrwydd y tân”).

Erbyn yr 1960au, ychydig iawn o orymdeithiau’r Fari Lwyd a gynhelid, ar wahân i’r rhai yn ardaloedd Pen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr a Phen-tyrch ger Caerdydd. Fodd bynnag, adfywiwyd y traddodiad gan Glwb Gwerin Llantrisant yn ddiweddarach yn y ganrif, a chan deulu yn ardal Llangynwyd ger Maesteg, sy’n dal i ymweld â’r Old House Inn yn y pentref gyda’u Mari. Erbyn hyn, mae tair cenhedlaeth o berchnogion tafarn wedi eu croesawu i’r lleoliad.

Ceir dathliadau poblogaidd eraill adeg y Flwyddyn Newydd yng Nghas-gwent (yn dilyn seibiant yn 2020); Capel Gellionnen ar dir mynydd ger Pontardawe; Llan-soe yn Sir Fynwy; Dinas Mawddwy; ac yn y Ganolfan Cymry Llundain. Mae Maris hefyd yn ymddangos mewn digwyddiadau canol gaeaf lleol, gwyliau lantern a gwaseiliau – gyda’r addurniadau’n gloywi yn eu llygaid, a’r traddodiad yn disgleirio â bywyd newydd.

Peidiwch â chael hunllefau felly. Gadewch i’r tywyllwch afael ynddoch, ac ewch yng nghwmni’r Fari Lwyd tuag at y goleuni.

Mari Lwyd a dawnswyr.
Y Fari Lwyd, Sain Fagan

Straeon cysylltiedig