Er bod Cymru a Ffrainc wedi’u gwahanu gan ddŵr, dim ond 300 milltir sy’n gwahanu eu prifddinasoedd. Mae eu hunaniaeth Geltaidd yn arddangos nodweddion cyffredin mewn iaith a diwylliant, yn ogystal â chyfleoedd busnes i gydweithio a chefnogi ei gilydd.
Rhannu cynnyrch
Mae'r ddwy wlad yn allforio ac yn mewnforio llawer iawn o nwyddau i'w gilydd. Cafodd allforion Cymru i Ffrainc eu prisio yn £1.9 biliwn yn 2020. Ffrainc yw ail farchand allforio fwyaf Cymru, gydag offer cludo a haearn a dur yn sectorau â’r gwerth uchaf.
Gefeillio busnes ffurfiol
Mae cytundebau, arddangosfeydd a chynlluniau yn cynorthwyo cyfleoedd masnach a busnes Ffrengig-Gymreig. Mae gan Swyddfa Llywodraeth Cymru berthynas agos â Siambr Fasnach Ffrengig-Brydeinig, Siambr Fasnach Ffrainc ym Mhrydain Fawr a Business France UK. Lansiwyd Fforwm Busnes Cymru-Ffrainc, Le Club, yn 2019. Mae tua 80 o gwmnïau Ffrengig yn weithredol yng Nghymru, yn cyflogi 13,000 o bobl.
Ieithoedd
Mae Llydaweg (iaith Llydaw, Ffrainc) a Chymraeg yn ieithoedd ar wahân gyda gwyddor, geiriau a rheolau gramadeg eu hunain. Ond, mae rhai elfennau yn gyffredin rhyngddynt. Mae'r ddwy ohonynt â gwreiddiau Celtaidd, felly mae rhai geiriau tebyg yn yr ieithoedd. Er enghraifft, 'ffenestr' yn y Gymraeg a 'fenestr' yn Llydaweg; 'ci' yn Gymraeg a 'ki' yn Llydaweg.
Ymosodwyd ar yr iethoedd Llydaweg a Chymraeg ar un adeg gan y sefydliad. O 1880 hyd at tua 1950, gwaharddwyd Llydaweg mewn ysgolion gan awdurdodau Ffrainc. Cafodd y rhai oedd yn cael eu dal yn ei siarad eu cosbi. Tua'r un pryd, rhoddwyd y ‘Welsh Not’ – darn o bren – i blant ysgol oedd yn cael eu dal yn siarad Cymraeg i'w stigmateiddio a'u cosbi. Nid yw hyn yn digwydd bellach, ac mae pobl yng Nghymru a Llydaw yn gwneud ymdrechion mawr i gadw eu hieithoedd yn fyw.
Mae Llydaw yn rhanbarth pwysig i Gymru. Mae'r cysylltiadau rhwng y ddau yn gryf. Mae ganddynt Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gydweithio a chreu cynllun gweithredu ar y cyd i gynnal cysylltiadau diwylliannol ac i hybu cydweithredu.
Enwau lleoedd
Mae gwreiddiau Cymreig i rai enwau lleoedd yn Ffrainc. Enwir Saint-Malo yn Llydaw ar ôl Sant Malo, un o saith sant sefydlol Llydaw. Credir iddo gael ei eni yng Nghymru tua 520 AD.
Mae gan rai enwau lleoedd yng Nghymru darddiad Ffrengig. Mae Biwmares yng Ngogledd Cymru yn cymryd ei enw o ddisgrifiad Ffrangeg o'r castell. Roedd yr adeiladwyr Normanaidd-Ffrengig a gododd y castell yn ei alw'n 'beaux marais' (sy’n cyfieithu i 'corsydd prydferth' yn Gymraeg). Mae'n dangos bod pobl wedi symud rhwng y ddwy wlad ers amser maith; i fyw, gweithio ac astudio.
Anthems
Wales’ influence as a Land of Song is clear in Brittany's anthem. Bro Gozh ma Zadoù is based on the Welsh anthem, Hen Wlad Fy Nhadau. Both titles mean ‘Old Land of my Fathers’, and they share the same tune.
Daearyddiaeth
Mae gan Gymru a Ffrainc rai nodweddion daearyddol tebyg. Mae gan y ddwy wlad ranbarthau mynyddig, afonydd, traethau, cefn gwlad eang a dinasoedd bywiog. Hefyd, mae gan y ddwy wlad gannoedd o gestyll. Mae gan Ffrainc fwy o gestyll yn gyffredinol, ond mae gan Gymru fwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.
Mae tymheredd cyfartalog blynyddol Caerdydd ond 0.9°C yn llai na Paris (yn ôl Sefydliad Meteorolegol y Byd). Mae Caerdydd yn wlypach, yn cael bron i ddwywaith cymaint o law a 37 diwrnod glawog yn fwy na Pharis.
Trefi, dinasoedd a chomiwnau wedi'u gefeillio
Mae 10 lleoliad sydd wedi’u gefeillio rhwng Cymru a Ffrainc. Y rhain yw: Caerdydd a Nantes; Bae Colwyn a Roissy-en-Brie; Llandudno a Wormhout; Tywyn a Bae Cinmel a Guidel; Dolgellau a Guérande; Caernarfon a Landerneau; Harlech a Riec-sur-Belon; Aberffraw a Mortagne-sur-Gironde; Rhosyr a Mortagne-sur-Gironde; Neyland a Sanguinet.
Celfyddyd
Mae llawer iawn o gyfnewid diwylliannol yn digwydd rhwng Cymru a Ffrainc. Mae artistiaid o Ffrainc yn heidio i Gymru am ysbrydoliaeth – ac i'r gwrthwyneb. Mae pob gwlad yn dangos gweithiau celf gan bobl o'r wlad arall. Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd sydd â'r casgliad mwyaf o gelfyddyd Argraffiadol Ffrengig y tu allan i Ffrainc, gan gynnwys darnau gan Monet, Renoir, Sisley a Cézanne.
Dathliad Celtaidd
Mae Ffrainc yn cynnal gŵyl 10 diwrnod, blynyddol Gŵyl Geltaidd Lorient ym mis Awst. Yma mae 750,000 o ymwelwyr yn dathlu cerddoriaeth, diwylliant a hunaniaeth Geltaidd. Mae digwyddiadau bychain gan gynnwys perfformiadau, gorymdeithiau, dosbarthiadau meistr a sesiynau crefft.
Chwaraeon
Mae gan dimau rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair y ddwy wlad gefnogwyr brwd. Bob blwyddyn, mae Cymru a Ffrainc yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ochr yn ochr â thimau Lloegr, Iwerddon, yr Eidal a'r Alban. Mewn chwaraeon eraill, enillodd Geraint Thomas o Gymru Tour de France 2018 a daeth yn ail yn 2019. Bydd Cymru hefyd yn anfon athletwyr i Gemau Olympaidd Paris yn 2024.
Bwyd
Mae tebygrwydd yn nghoginio Cymru a Ffrainc. Mae'r ddwy wlad yn coginio gan ddefnyddio cynhwysion o'r tir. O ystyried eu topograffeg debyg, mae gan y ddwy wlad fynediad i'r un mathau o gynhwysion. Mae'r ddwy wlad yn cynhyrchu wystrys, cregyn gleision, eog, brithyll, crancod a chimychiaid, yn ogystal â chawsiau byd-enwog.
Mae ganddynt hefyd gawliau sydd wedi dod i fodolaeth o ganlyniad i dlodi, sydd ers hynny wedi dod yn brydau cenedlaethol, sef y ‘Cawl’ Cymreig yng Nghymru a’r Cawl Nionyn yn Ffrainc. Mae gwinllannoedd, bragdai a distyllfeydd ledled y ddwy wlad; gallwch fwynhau pryd o fwyd lleol gyda diod leol yn y naill wlad neu'r llall.