Meddyliwch am chwaraeon yng Nghymru ac mae’n eithaf tebyg y bydd pêl siâp hirgrwn yn dod i’ch meddwl Ond tra bod rygbi yn parhau i fod yn gamp boblogaidd yng Nghymru, mae camp arall wedi bod yn tyfu'n gyson mewn poblogrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf - un sy'n aml yn gofyn am siorts tynnach fyth.
"Mae beicio wedi dod yn hynod o boblogaidd dros y degawd diwethaf," meddai Dr Georgina Harper, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Beicio Cymru. "Ers 2014 mae nifer yr aelodau yn ein clybiau beicio cysylltiedig wedi dyblu, tra bod yr arolwg chwaraeon ysgolion diwethaf yn dangos bod bron i hanner y bobl ifanc eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau beicio."
Mae'r Cymry'n prysur ddod yn genedl o feicwyr, tuedd mae Dr Harper yn credu sydd wedi cael ei sbarduno'n rhannol gan lwyddiant diweddar beicwyr Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Llwyddodd Elinor Barker ac Owain Doull i ennill medalau aur ar y trac yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, tra Geraint Thomas, oedd hefyd wedi ennill medal aur Olympaidd, oedd y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn 2018, gan roi baner genedlaethol Cymru dros y crys enillydd melyn enwog.


Rhywbeth at ddant pawb
Yn wyrthiol, cafodd pob un o’r beicwyr hyn eu blas cyntaf o'r gamp yn yr un clwb beicio yng Nghaerdydd, Clwb Beicio Ieuenctid Maindy Flyers. Ond yn ôl Alan Davis MBE, a helpodd i sefydlu’r clwb a chafodd MBE am ei wasanaethau i'r gamp yn 2017, does dim syndod bod Cymru'n cynhyrchu'r dalent feicio orau.
"Mae gan Gymru bopeth sydd ei angen arnoch chi o ran beicio. Dydw i wir ddim yn credu bod lle gwell i fynd allan ar eich beic, i fwynhau a datblygu eich sgiliau," meddai.
Er bod Alan wedi helpu i feithrin nifer o sêr addawol ar gyfer gyrfa ar y lefel uchaf, yr hyn mae'n ei garu fwyaf am feicio yng Nghymru yw pa mor hygyrch yw’r gamp.
"Mae Cymru'n gyforiog o gyfleusterau," meddai Davis. "Mae lledaeniad cyfartal o gyfleusterau a llwybrau gwych i’w harchwilio ledled y wlad."


Mae rhai o'n cyfleusterau gorau yn cynnwys Y Gylchffordd Gaeedig Genedlaethol ar Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, a Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd, tra bod llwybrau pwrpasol yn amrywio o Taith Taf, sy'n mynd â beicwyr o ganol Caerdydd i gymoedd coedwigol Aberhonddu, a'r Ffordd Brailsford Way, cylchdaith sy'n cynnwys rhai o olygfeydd gorau Eryri.
Mae llawer o'r llwybrau hyn hefyd ar draciau beicio dynodedig i ffwrdd o ffyrdd prysur sy’n eu gwneud yn ddelfrydol i deuluoedd gyda beicwyr iau.
"Dyna'r eisin ar y gacen i mi: mae rhywbeth ar gael i bawb, dim ots lle ydych chi'n byw a beth yw eich gallu," meddai Davis. "Mae'r golygfeydd yn brydferth hefyd, sydd wir yn helpu gyda chymhelliant wrth ddringo i fyny bryn"

Mynd oddi ar y ffordd
Rhywun sydd â mwy o ddiddordeb mewn mynd i lawr alltiau’n gyflym yn hytrach na chropian yn araf i fyny yw pencampwraig beicio mynydd Rachel Atherton, a gafodd ei magu yn hyrddio o gwmpas mynyddoedd Canolbarth a Gogledd-ddwyrain Cymru.
"Dwi'n teimlo'n fraint i allu teithio ar draws y byd i gystadlu yn fy nghamp," meddai Atherton. "Ond mae'n wych dod adref i'n cornel fach ni o Gymru, gyda'r wybodaeth bod y lle chi'n byw ynddo’r un mor anhygoel ag unrhyw le chi wedi ymweld â nhw.”
Yn union fel beicio ffordd, mae Atherton wedi sylwi ar gynnydd ym mhoblogrwydd beicio mynydd yn ddiweddar.
"Pan symudon ni yma [Llanrhaeadr, yng ngogledd Powys] doedd dim rhwydwaith beicio mynydd mewn gwirionedd," meddai. "Nawr o fewn awr i'r lle mae pedwar neu bump o draciau sydd wedi hen ennill eu plwyf."


Erbyn hyn mae parciau a chanolfannau beicio mynydd i'w gweld ledled Cymru, gydag enghreifftiau nodedig yn cynnwys BikePark Cymru ym Merthyr Tudful, Coed y Brenin (sy'n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru) ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a Coed Llandegla (sy'n cael ei reoli gan One Planet Adventure) yn Wrecsam. Mae gan bob un o'r parciau amrywiaeth o draciau i rai nofis a phrofiadol fel ei gilydd, gyda sesiynau hyfforddi a chyfleusterau llogi beiciau ar gael yn aml hefyd.
Mae Cymru cynnal nifer o ddigwyddiadau beicio mynydd blynyddol, gan gynnwys y Dyfi Enduro, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2001, a Red Bull Hardline, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel y ras lawr allt anoddaf yn y byd.

Tirwedd sy’n eich herio
Er gwaethaf cyflawniadau beicio Cymru ar y llwyfannau mwyaf, i'r rhan fwyaf o feicwyr, tirwedd Cymru yw gwir seren byd beicio’r wlad o hyd.
Mae beicio yn Ardal Dyfi yn gwneud i mi deimlo fy mod i wedi fy nghysylltu'n llwyr â'r tir," meddai Atherton. "Alla i ddim helpu ond bod yn ddiolchgar am y cyfle i brofi [natur] ein mamwlad fel y bu hi erioed - a chael amser da yn ei wneud!"
Mae’r geiriau hyn yn cael eu hadleisio gan Alan Davis, sy'n credu bod cefn gwlad Cymru nid yn unig yn hudo beicwyr i fynd allan ar eu beiciau i'w fwynhau, ond yn arf cudd pan ddaw hi at adeiladu sêr beicio’r dyfodol.
"Mae pobl yn gofyn i mi os dwi'n meddwl bod llwyddiant Geraint [Thomas] yn deillio o’r amgylchedd sydd gyda ni yma yng Nghymru, ac, i fod yn onest, mae'n anodd gwadu hynny," meddai Davis. "Mae’r arfordir, bryniau a mynyddoedd yn rymoedd o bwys a byddwn i’n meddwl mai dyna sydd wedi adeiladu dygnwch Geraint - a'i goesau! - ar gyfer rasys cystadleuol fel y Tour de France."