Tyfais i fyny ar ddwy olwyn a chydag ysbryd anturus.
Roedd fy rhieni ill dau yn beirianwyr hunangyflogedig, ac roedd ganddyn nhw rhyw agwedd gallu-gwneud-unrhyw-beth. Dechreuais i rasio beic modur pan oeddwn i’n chwech oed, ac mae’r atgofion hapusaf o’m plentyndod yn rhai lle roeddwn i ar ochr mynydd rhewllyd yn Aberdâr yn methu teimlo fy mysedd, lle roedd dad yn gweithio ar fy meic i a mam yn coginio i pawb oedd o gwmpas. Roeddwn i wrth fy modd.
Rydw i’n caru beicio, ac un o’r digwyddiadau chwaraeon gorau imi ei fynychu erioed oedd Gŵyl Feicio y Fenni. Roedd pawb o bob oed yn y gymuned allan ar y strydoedd yn gwylio plant wyth neu naw oed yn sgrialu o gwmpas ar feiciau bach ac yn gwylio’r beicwyr proffesiynol wedyn yn rasio ar hyd yr un llwybr. Roedd yn anhygoel – yn bopeth y dylai chwaraeon fod.
Rydw i wastad wedi bod yn un sy’n rhoi fy nghyfan oll
Pan gollais i fy noddwyr i’r beicio modur, dyna pryd y trois fy sylw at rygbi. Mae pob merch a bachgen yn tyfu i fyny yn gobeithio chwarae i Gymru. Mae rhywbeth hudolus am wisgo’r crys coch. Ond i mi, roedd hefyd yn ymwneud â cheisio’r gorau y gallwn i fod.
Treuliais i flwyddyn bwysig iawn yn Ne Affrica. Pan oeddwn i’n 17, derbyniais i ysgoloriaeth i fynd i Goleg Michaelhouse yn KwaZulu-Natal. Roedd yn syth ar ôl yr apartheid a fi oedd y myfyriwr du cyntaf a’r unig un yn yr XV Cyntaf. Fe wnes i aeddfedu gwerth blynyddoedd yn yr un flwyddyn honno. Fe agorodd y profiad fy llygaid i broffesiynoldeb: doedd o ddim am yr arian, roedd i wneud a sut mae rhywun yn ei gymhwyso ei hun i’w grefft. Roedden ni’n dîm ysgol yn hyfforddi dair gwaith y dydd ac yn chwarae o flaen 14,000 o bobl.
Mae unrhyw gam y tu hwnt i’r man cyfforddus yn gam hanfodol tuag at hunan-ymwybyddiaeth ac, yn y pen draw, hapusrwydd.”
Rydw i wedi cael adegau anodd a chyfnodau tywyll, fel pawb arall. Mae bywyd yn daith ag iddi amseroedd da a drwg. Rydw i’n angerddol am ddefnyddio pob profiad bywyd i’n cyfoethogi ni. Rydw i’n teimlo mor ddiolchgar am gael bod yma nawr.

Roedd y mynyddoedd yn cynnig heddwch i mi
Daeth fy ngyrfa rygbi i ben gydag anaf, a dim ond yn y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi gallu delio â’r emosiynau, y rhai cadarnhaol a’r rhai negyddol, a sylweddoli o’r diwedd mor lwcus fues i i gael chwarae dros fy ngwlad. Mae’r tawelwch meddwl hwnnw yn un o’r anrhegion gorau y mae’r mynyddoedd wedi eu rhoi i mi: rydw i’n gallu caru rygbi unwaith eto.
Does dim rhaid iddo fod yn hwyl er mwyn bod yn hwyl. Gall ‘hwyl’ olygu her, boddhad a chyflawniad, yn ogystal â chwerthin a thynnu coes a threulio amser gyda phobl. Mae rhai o’r adegau hapusaf yn fy mywyd wedi dod yn sgil rhai o’r heriau a’r trallodion anoddaf. Rydw i’n hapusach os ydw i wedi gweithio i haeddu rhywbeth.
Mae yna bob tro groesffordd
Mae pob mynydd rydw i wedi ei ddringo a phob digwyddiad profi dygnwch rydw i wedi cymryd rhan ynddo wedi dod gydag ennyd o amheuaeth. Dyna rydw i’n ei gymryd o beth rydw i’n ei wneud. Mewn byd sy’n llawn o foddhad syth bin, rydw i’n caru purdeb y syniad o gael nod a chyrraedd y brig a gorfod gweithio o amgylch yr heriau i gyrraedd yno.
Fe syrthiais i i hollt yn y graig ar fynydd Denali. Dyna, yn wir, foment fwyaf dychrynllyd fy mywyd. Doeddwn i ddim yn siŵr sut oeddwn i am ddod allan o’r fan honno’n fyw.



Antarctica oedd yr anoddaf
Gwthiais fy hun yn gorfforol ac yn feddyliol yn bellach nag oeddwn i erioed wedi ei wneud o’r blaen. Fe es i mewn i ystafelloedd yn fy enaid nad oeddwn i’n gwybod am eu bodolaeth. Cefais i ddiwrnodau creulon, yn sgïo mewn storm eira am 12 awr. Wedyn roedd diwrnodau lle roedd yr haul yn union y lle iawn, ac roedd grisial yr eira’n adlewyrchu’r haul nes ei fod yn edrych fel taswn i’n sgïo dros wely o ddiemwntau, ac am yr hanner awr hwnnw, roedd y cyfan yn ewfforig. Os gallwn ni adnabod yr adegau hynny, dyna sy’n rhoi cyfoeth i fywyd rhywun.
Mae diwylliant y Cymoedd yn ein gwneud ni’n arbennig
Rydw i’n dod o Bontypridd, ac rydyn ni’n cymryd y teimlad hwnnw o gymuned a chyfeillgarwch gyda ni i bob rhan o’r byd. Er ein bod ni’n genedl fechan, rydyn ni’n ymgnawdoliad o ysbryd antur. Edrychwch ar y rhai a ymfudodd i Batagonia 150 o flynyddoedd yn ôl – rydyn ni wastad wedi bod yn barod am her.
Rydw i’n caru ble rydw i’n byw ym Mae Caerdydd
Fe hwyliodd llong Capten Scott, y Terra Nova, o fan hyn ac mae’n fy ngwefreiddio i fy mod i’n byw yn nharddle y treftadaeth polar Cymreig. Nid yw’n peidio â’m cyfareddu i, yr haenau o hanes oddi tannodd, y dynion a’r merched sydd wedi bod o’n blaenau. Ac allwch chi ddim dringo yn Eryri heb fod yn ymwybodol o Mallory ac Irvine, Hillary a Tenzing.

Bob tro rydw i’n dod adref rydw i’n gweld Cymru o’r newydd
O fod wedi cael y fraint o ymweld a phrofi cynifer o lefydd gwahanol, dydi o ond yn gwneud i mi werthfawrogi’r cyfoeth sydd gennym ni ar ein stepen drws hyd yn oed yn fwy. Mewn rhai ffyrdd, dydw i byth yn gadael cartref. Rydw i’n cario’r un faner â draig Cymru arni i bob man gyda mi, ac rydw i’n falch iawn fod y faner honno’n cael ei harddangos yn Ystafell y Chwaraewyr yn Stadiwm y Principality pan nad ydw i’n ei chario ar deithiau antur.