Baner genedlaethol Cymru

Fe gymerodd hi hyd at 1959 i faner genedlaethol Cymru gael ei chyhwfan yn swyddogol am y tro cyntaf. Credir bod arwyddocâd y ddraig o fewn diwylliant Cymru yn dyddio yn ôl i chwedl Arthuraidd pan gafodd Myrddin weledigaeth o ddraig goch (yn cynrychioli Prydeinwyr brodorol) yn brwydro yn erbyn draig wen (goroeswyr Sacsonaidd). Cyfeiria defnydd o wyrdd a gwyn at liwiau’r Tŷ Tuduraidd, y teulu brenhinol o’r 15fed ganrif o darddiad Cymreig. Enillodd y ddraig goch y frwydr, rhag ofn eich bod chi’n pendroni…

Welsh National Flag outside Cardiff Castle
Welsh National Flag
Baner Genedlaethol Cymru

Y genhinen Bedr

Mae hon yn un i’r rheini sy’n credu bod diwylliant cyfoes yn ymwneud â steil ac nid sylwedd. Ymddengys bod tarddiad blodyn cenedlaethol Cymru yn ymwthiwr deniadol, a gyflwynwyd yn ystod yr 19eg ganrif, yn lle’r genhinen ddiymhongar. Roedd David Lloyd George, yr unig Gymro i wasanaethu fel Prif Weinidog, yn eiriolwr cyhoeddus o’r Narcissus (ei enw Lladin) ac mae ei hymddangosiad yn gynnar yn y gwanwyn fel symbol o optimistiaeth natur yn cyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth. Y cysylltiad mwy anarferol yw bod cennin Pedr yn cael eu tyfu’n fasnachol yng Nghanolbarth Cymru i gynhyrchu galantamine i drin clefyd Alzheimer.

Y genhinen

Mae’r gwreiddlysieuyn diymhongar hwn wedi’i nodi fel symbol Cymru yn Henry V gan William Shakespeare. Mae tystiolaeth hanesyddol yn bodoli hefyd bod llinach Duduraidd wedi dosbarthu cennin i gael eu gwisgo gan eu gwarchodluwyr ar 1 Mawrth, a elwir hefyd yn Ddydd Gŵyl Dewi i anrhydeddu nawddsant Cymru. Mae digon o lên gwerin difyr a gwaith dyfalu pam y mae cysylltiad annatod rhwng y Cymry â’r genhinen. Dywedir bod brenin o’r 7fed ganrif o Wynedd, Cadwaladr, wedi gorchymyn ei ddynion i frwydr yn eu gwisgo at ddibenion adnabod, ond beth bynnag yw’r tarddiad, rydym yn tyfu digon ohonynt ac maen nhw’n blasu’n hyfryd.

Y Gymraeg

Mae tri chwarter miliwn o bobl yn siarad iaith frodorol Cymru – y rhan fwyaf yng Nghymru, ond hefyd yn Lloegr, yr UDA, Canada a’r Ariannin. Ychydig iawn o siaradwyr Cymraeg yn unig sydd erbyn hyn, ac yn draddodiadol Cymraeg oedd iaith Cymru wledig; ond mae’n gynyddol boblogaidd o fewn poblogaethau trefol. Mae arwyddion ffyrdd dwyieithog a sianel deledu Cymraeg, S4C, yn ychydig o enghreifftiau yn unig o ddefnydd dyddiol o’r iaith y byddwch chi’n siŵr o’u gweld pan fyddwch chi’n ymweld â Chymru.

Close up of Welsh language signpost pointing to the attractions at The National Eisteddfod 2018
people sat and stood in crowd in foreground with outdoor stage in background
Dathlu’r Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Plu Tywysog Cymru

Tair pluen wen wedi’u hamgylchynu gan goronet, wedi’u harsgrifio gyda’r geiriau Almaeneg Ich Dien (‘Rwy’n gwasanaethu’). Dyma arwyddlun Tywysog Cymru, Etifedd i goron Prydain a’r Gymanwlad. Mae’r cysylltiadau hanesyddol uniongyrchol gyda Chymru yn weddol aneglur. Er hynny, mae’r Tair Pluen yn cael eu gwisgo’n falch ar grysau rygbi Cymru.

Llwy Garu Cymru

Rhodd wedi’i cherfio â llaw o bren cadarn, y traddodiad o edmygydd gwrywaidd yn crefftio llwy garu i ferch a oedd yn arwydd i deulu’r ferch ei fod yn grefftus ac yn fedrus gyda’i ddwylo. Mae’r llwy garu hynaf sy’n bodoli yng Nghymru yn dyddio yn ôl i 1667 ac mae i’w gweld yn yr hyfryd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae pob cerfiad penodol ar y llwy yn symbolaidd, o gariad tragwyddol y cwlwm Celtaidd, i’r coesynnau dirdro sy’n arwydd o gydberthynas.

Five small wooden Welsh lovespoons in a row each with a heart carved into the handle
Llwy Garu Cymru

Corau meibion Cymraeg

Mae Undeb Gorawl Aberdâr De Cymru, a oedd yn cynnwys 450 o aelodau, wedi derbyn clod am boblogeiddio traddodiad côr meibion Cymru ar ôl ennill The National Music Union Brass And Choral Event am sawl blwyddyn yn olynol yn yr 1870au. Gellir adnabod canu corawl Cymraeg ar unwaith, gyda gwahanol bocedi yn canu gwahanol rannau. Ymhlith sylfeini traddodiadol y mudiad y mae Treorci a Threforys ac mae llwyddiant mwy diweddar Only Men Aloud wedi sicrhau bod traddodiad y côr meibion mor boblogaidd ag erioed gyda’r cynulleidfaoedd.

Dysgwch fwy am gorau meibion Cymraeg

 

Y barcud coch

Yn 2007 cafodd yr aderyn ysglyfaethus neilltuol hwn ei ddewis yr aderyn mwyaf poblogaidd ymhlith pobl Cymru. Llai na chanrif yn ôl dim ond dau bâr magu oedd yn y wlad, ond mae adferiad rhyfeddol y brîd yn golygu bod dros gant i’w gweld yn gwibio dros ardaloedd gwledig Cymru. Mae nifer o orsafoedd bwydo’r barcud coch hefyd yn cynnig cyfle i ymwelwyr fynd yn (weddol) agos at yr adar godidog hyn.

Red Kite feeding from hide, Bwlch Nant yr Arian
Y barcud coch yn hedfan wrth ymyl Canolfan i Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Y Delyn Gymreig

Weithiau rydym yn cymhlethu pethau i’n hunain. Er mwyn cyfleu hyn mae gan y delyn deires dair rhes o linynnau yn hytrach nag un. Yr Eidalwyr ddyfeisiodd yr offeryn melodi penodol hwn yn ystod yr 17eg ganrif, ond 100 mlynedd yn ddiweddarach roedd yn cael ei adnabod fel y delyn Gymreig. Credir bod amrywiaethau eraill o delynau wedi cael eu chwarae yng Nghymru ers y 11eg ganrif ac mae dehonglwyr dawnus o’r gelfyddyd, megis Elinor Bennett a Catrin Finch, ymhlith eraill, yn parhau i ysbrydoli cynulleidfaoedd a cherddorion brwd.

Rygbi’r Undeb

Cynhaliwyd gêm rygbi’r undeb ryngwladol gyntaf Cymru yn 1881 yn erbyn Lloegr yn Blackheath. Doedd y gêm honno ddim yn un lwyddiannus i’r tîm oddi cartref, ond er gwaethaf y siom bach hwnnw, daeth cyfnod euraidd cyntaf Cymru gyda rhediad o dair blynedd yn ddiguro rhwng 1907 a1910. Mae llwyddiannau’r tîm wedi bod fel llanw a thrai ar hyd y ganrif a mwy dilynol, ond nid yw wedi atal y gefnogaeth anhygoel sy’n adlewyrchu pwysigrwydd diwylliannol y chwaraeon mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled y wlad, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol De Cymru.

Wales v New Zealand - Under Armour Series - Josh Navidi of Wales
Cymru v Seland Newydd – Cyfres Under Armour - Josh Navidi o Gymru

Related stories