Diwrnod Santes Dwynwen
Ionawr
Pwy â ŵyr beth sy’n ein gwneud ni’r Cymry yn bobl mor rhamantus – y golygfeydd godidog o’r mynyddoedd o bosib?! Mae gennym ni hyd yn oed ein nawddsant cariadon ein hunain. Anghofiwch am ddydd San Ffolant, 25 Ionawr yw diwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yma yng Nghymru. Rydym ni’n rhoi anrhegion i’n hanwyliaid er cof am Santes Dwynwen, merch a’i hudodd gan serch cyn troi’n lleian ar ôl i’w thad ei gwahardd rhag priodi’r gŵr roedd hi’n ei garu. Ahh.


Rygbi’r Chwe Gwlad
Chwefror/Mawrth
Mae gennym ni ’chydig o obsesiwn am rygbi yma yng Nghymru. Mae’r frwydr rhwng Cymru a Lloegr yn ystod twrnamaint y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, cartref rygbi Cymru, yn un o uchafbwyntiau’r calendr rygbi. Mae dros 70,000 o bobl yn annog y tîm cenedlaethol yn eu blaenau.



Dydd Gŵyl Dewi
Mawrth
Mae ein diwrnod cenedlaethol ar 1 Mawrth yn ddathliad mawr o’n nawddsant, Dewi Sant.
Roedd Dewi Sant (c. 500 - c. 589) yn esgob Cymraeg ym Mynyw (Tyddewi nawr) yn ystod y 6ed ganrif.
Ceir sawl parêd ar draws y wlad sy’n hwyl mawr i bawb a lle mae nifer o faneri Cymru’n chwifio’n falch. Mae llawer o bobl yn gwisgo pin cenhinen Bedr neu genhinen – symbolau cenedlaethol Cymru – a rhai, yn enwedig plant, yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol, crysau rygbi Cymru, neu’n gwisgo i fyny fel cennin, cennin Pedr neu ddreigiau hyd yn oed.


Diwrnod cenedlaethol Dylan Thomas
Mai
Os oes un llenor mae pobl y tu allan i Gymru yn ei gysylltu â’r wlad yn anad neb arall, Dylan Thomas yw hwnnw, y bardd a’r storïwr telynegol, rhamantaidd a thrafferthus. Cafodd Dylan ei eni yn Abertawe ac ysgrifennodd y rhan fwyaf o’i weithiau enwocaf yma yng Nghymru. Caiff Diwrnod Dylan ei ddathlu ar 14 Mai – yng Nghymru ac mewn llefydd eraill hefyd. Dyma’r dyddiad y cafodd ei waith enwocaf, Under Milk Wood, ei ddarllen am y tro cyntaf ar lwyfan yn Efrog Newydd yn 1953. Oeddech chi’n gwybod fod yr awdur llyfrau plant, Roald Dahl, hefyd yn Gymro?

Sioe Frenhinol Cymru
Gorffennaf
Nid yn unig yw hon y sioe amaethyddol fwyaf yng Nghymru, mae hi hefyd y sioe fwyaf ym Mhrydain. Ynghyd ag arddangos y gorau o anifeiliaid fferm a byd amaeth, mae pob math o ddigwyddiadau eraill i’w gweld yma fel arddangosiad beiciau modur motocross, arddangosiadau hedfan gan awyrennau hen ffasiwn a pherfformiadau gan Fand Catrodol y Sioe Frenhinol. Caiff ei chynnal yn Llanelwedd ac mae’n para am bedwar diwrnod cyfan.



Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Awst
Mae Cymru’n gartref i sawl gŵyl gerddorol lachar ac anarferol, a nifer ohonynt yn denu ymwelwyr triw â phobl yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn enghraifft berffaith. Ers iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2003, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad pedwar diwrnod o hyd â 20,000 o fynychwyr yn mwynhau cerddoriaeth werin fyw ynghyd â ffilmiau, comedi, theatr a barddoniaeth amgen.


Eisteddfod Genedlaethol
Awst
Mae eisteddfod yn ŵyl sy’n dathlu llenyddiaeth, cerddoriaeth a pherfformiadau Cymraeg. Mae eisteddfodau wedi bod yn digwydd ar hyd a lled y wlad ers y 12fed ganrif. Yr eisteddfod fwyaf yw’r Eisteddfod Genedlaethol flynyddol sy’n cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Mae’n ŵyl sy’n canolbwyntio ar ddathlu a hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant unigryw. Mae’n para wythnos ac yn denu tua 150,000 o ymwelwyr i fwynhau cymysgedd eclectig o gerddoriaeth, dawns, drama a gweithdai ynghyd â digwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan.



Chwaraeon Amgen y Byd
Awst
Mae tref Llanwrtyd yng nghanolbarth Cymru yn enwog am ei gemau gwallgof. Mae cystadlaethau fel y ras dyn yn erbyn ceffyl, a thaith feicio’r Real Ale Wobble yn cael eu cynnal ar adegau gwahanol ar hyd y flwyddyn, ond mae’r gemau gwallgof yn eu hanterth yn ystod Chwaraeon Amgen y Byd ddiwedd Awst. Mae’n cynnwys cario’r wraig, reslo grefi, rhedeg am yn ôl a swyno pryfaid genwair. Ond y digwyddiad enwocaf yw’r snorclo cors. Dim syniad beth yw hynny? Does ond un ffordd o gael gwybod...


Diwrnod caws pob Cymreig (neu Welsh Rarebit)
Medi
Ond peidiwch da chi â’i alw’n gaws ar dost, iawn? Mae caws pob Cymreig yn bryd llawer mwy crefftus: haenau o gaws wedi toddi yn gymysg â mwstard a chwrw wedi ei dywallt yn gywrain dros fara wedi ei dostio. Does neb yn gwybod o ble y daeth, ond mae’n debyg fod yr enw Saesneg ‘rarebit’ yn llygriad o’r gair ‘rabbit’ (os ydi hynny’n helpu?). Mae i’w weld ar fwydlenni ar hyd y wlad, ond rydym ni’n ei fwynhau gymaint nes bod gennym ni ein Diwrnod caws pob Cymreig blynyddol ar 3 Medi.

Calan Gaeaf
Hydref
Mae pobl eraill hefyd yn dathlu Calan Gaeaf ar 31 Hydref wrth gwrs, ond mae’r Calan Gaeaf Cymreig yn dynodi diwrnod cyntaf y gaeaf. Roedd ein cyndeidiau Celtaidd yn credu bod y porth rhwng y byd hwn a’r arallfyd yn agor ar y diwrnod hwn. Roeddent, felly, yn talu teyrnged i’r meirw drwy ddawnsio o amgylch tân y pentref. Roedd yn achlysur prudd lle byddai pobl yn gwisgo masgiau i geisio cadw ysbrydion drwg draw. Peidiwch â phoeni, erbyn hyn mae’n ddigwyddiad dipyn ysgafnach! Fel mewn llefydd eraill, mae pobl yn gwisgo gwisgoedd ffansi brawychus ac mae plant yn mynd i guro drysau yn gofyn am ddanteithion.
Y Fari Lwyd
Rhagfyr/Ionawr
Mae traddodiad y Fari Lwyd yn un baganaidd sy’n dal i’w chadw’n fyw mewn rhannau o dde Cymru. Caiff penglog ceffyl ei osod ar bolyn a’i addurno â chlychau a rhubanau lliwgar a chaiff ei gario drwy’r strydoedd. Ym mhob tŷ, mae’r Fari a’i chyfeillion yn canu penillion wrth y drws. Mae’r rhai sydd yn y tŷ yn ateb yn ôl â phenillion hefyd. Yn y diwedd, mae’r Fari yn cael mynd i mewn i’r tŷ ac mae’n dod â lwc dda am y flwyddyn sydd i ddod. Fe welwch y Fari Lwyd gan amlaf ym mis Rhagfyr ond mae hi i’w gweld ym mis Ionawr hefyd; un lle sy’n cynnal y traddodiad yw Cas-gwent.
Nofio Nadoligaidd
Rhagfyr
 thros 800 milltir o arfordir hardd, rydym ni’n reit hoff o’r môr bob adeg o’r flwyddyn. Fe welwch chi ni yn ein cannoedd hyd yn oed yn neidio i mewn i’r dŵr yn ystod gwyliau’r Nadolig, rhwng Gŵyl San Steffan a dydd Calan. Pa well ffordd o losgi’r holl galorïau wedi’r gloddesta mawr dros gyfnod yr ŵyl na throchi yng nghanol y tonnau brochus? Mewn gwisg ffansi, wrth reswm. Mae’r traddodiad ar ei hynaf yn Ninbych-y-pysgod, ond fe gewch hefyd ddigwyddiadau nofio gaeafol yn Abersoch, Porthcawl, Llandudno, Ynys y Barri, Casnewydd, Saundersfoot ac mewn amryw o leoliadau eraill.

Darganfyddwch ragor am berfformiadau byw, gwyliau a diwylliant yng Nghymru.
Cewch wybodaeth am ddigwyddiadau a phethau i’w gwneud yng Nghymru ar wefan Croeso Cymru.