Close up of Ryan Reynolds on the Wrexham AFC victory bus
A tour bus with a sports team driving past a stadium, through throngs of fans waving flags and letting off flares
L-R: Ryan Reynolds, and the Wrexham AFC tour through the city after the club's promotion victory in 2023.

Mae gan Wrecsam un o'r timau pêl-droed hynaf mewn bodolaeth, sy'n chwarae ar faes rhyngwladol hynaf y byd. Ac maen nhw newydd ddod yn un o'r rhai mwyaf enwog. Yn y bartneriaeth fwyaf annhebygol yn hanes chwaraeon, prynodd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney CPD Wrecsam ac maent yn gobeithio newid ffawd y clwb a'r gymuned.

Dyma (yn fras) sut mae pêl-droed yn gweithio. Ar y brig, mae'r clybiau mawr - Manchester United, Lerpwl a Chelsea. Yn y canol, mae timau gorau Cymru - Caerdydd ac Abertawe. Ac oddi tanynt, yn eithaf oddi tanynt a dweud y gwir, mae CPD Wrecsam. Ond dyma harddwch pêl-droed. Os enillwch chi ddigon o gemau, cewch ddyrchafiad. Gall unrhyw dîm freuddwydio am godi i'r Uwch Gynghrair, teyrnas ddisglair o gyflogau gwerth miliynau, hawliau teledu byd-eang ac enwogrwydd rhyngwladol.

A tour bus with a sports team driving past a stadium, through throngs of fans waving flags and letting off flares
Wrexham AFC's promotion victory parade 

Dechreuad diymhongar

Ond i lawer o bobl, mae CPD Wrecsam wedi bod yn enwog erioed. Dyma’r trydydd clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yn y byd, a sefydlwyd ym 1864. Tîm sydd wedi ennill record Cwpan Cymru 23 o weithiau ac, yn ôl yn y 90au cynnar, wedi curo Arsenal FC allan o Gwpan FA Lloegr. Fodd bynnag, mae’n deg dweud, mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r bobl hyn yn dod o dref Wrecsam, neu o leiaf gogledd Cymru.

Mewn gwirionedd, er gwaethaf treftadaeth euraidd y clwb, a chefnogaeth ddiwyro gan ei gefnogwyr angerddol, mae Wrecsam wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fodolaeth yn ddigon dinod. Roedd y tîm yn chwarae yn ail haen system cynghrair Lloegr yn y 70au, ond mae wedi llithro’n araf i lawr y cynghreiriau ers hynny, gan ddod o hyd i droedle yn y bumed adran o’r diwedd. Yma maen nhw wedi treulio tymhorau hir, anodd yn brwydro am safleoedd cynghrair gyda chlybiau fel Barnet, Eastleigh ac Aldershot Town. Pell iawn o gemau disglair yr Uwch Gynghrair.

Yna, tua diwedd 2020 dechreuodd sibrydion am gais i gymryd drosodd ddod i'r amlwg. Dyw arian mawr am gymryd clybiau pêl-droed drosodd ddim yn anghyffredin – prynwyd Manchester City FC, er enghraifft, gan Sheikh Mansour, sydd bellach yn Ddirprwy Brif Weinidog yr Emiradau Arabaidd Unedig, yn 2008. Ond mae’n anghyffredin i glwb o bumed haen cynghrair pêl-droed Lloegr sy’n cael ei gymryd drosodd greu unrhyw fath o gyhoeddusrwydd. Ond wedyn doedd hon ddim yn stori gyffredin.

Dyma'r trydydd clwb hynaf ar y blaned a dydyn ni ddim yn gweld pam na all gael apêl fyd-eang. Rydyn ni eisiau i Wrecsam fod yn rym byd-eang.”

Prynwyr annhebygol

“Pan ddarllenais i’r cyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf a chlywed y sibrydion, a dweud y gwir, roeddwn i’n meddwl mai jôc oedd hi,” meddai Shaun Pejic, a chwaraeodd dros 200 o gemau i Wrecsam dros yrfa ddegawd o hyd, wrth bapur newydd lleol Wrecsam The Leader yn 2021.

Roedd ei eiriau’n crynhoi’r ymateb cyffredinol i’r penawdau annhebygol bod Ryan a Rob wedi cyflwyno cais i feddiannu’r clwb.

Ond nid jôc oedd hon. Roedd Ryan a Rob wedi gwneud eu gwaith cartref, ac yn gallu gweld potensial CPD Wrecsam, clwb pêl-droed hanesyddol (sydd â’r maes chwaraeon rhyngwladol hynaf yn y byd) roedden nhw’n credu, gydag ychydig o fuddsoddiad, y gallent ei adfer i’w hen ogoniant.

Yn dilyn cynnig trwy gyswllt fideo, a oedd yn cynnwys addewid i fuddsoddi £2 filiwn i mewn i’r clwb ar unwaith, adeiladu cyfleuster hyfforddi newydd a threchu’r arch-wrthwynebwyr, Caer, bob tro, cafodd eu cais i gymryd drosodd ei gymeradwyo’n unfrydol gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, a oedd yn berchen ar y clwb ers 2011.

Ar ôl cwblhau’r broses o gymryd drosodd ym mis Chwefror 2021, dywedodd Reynolds a McElhenney, “Mae’n ddiwrnod arbennig i’r ddau ohonom fod y stiwardiaid diweddaraf yn hanes hir a chwedlonol CPD Wrecsam.”

“Ynghyd â’r chwaraewyr, y staff, y cefnogwyr a’r gymuned leol, gallwn nawr ddilyn ein nod i dyfu’r tîm a’i ddychwelyd i’r EFL o flaen presenoldeb cynyddol, ac mewn stadiwm well, wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned ehangach yn Wrecsam,” ychwanegodd y ddau.

Dechrau cyfeillgarwch hyfryd

Ers i Hollywood gymryd drosodd, mae stoc Wrecsam wedi codi’n eithaf dramatig. Bu gwerthiant tocynnau ar ei uchaf erioed, cytundeb noddi crysau trawiadol gyda llwyfan cyfryngau cymdeithasol byd-eang TikTok, y syndod o gael eu cynnwys yn y fasnachfraint gemau fideo FIFA (y clwb cyntaf erioed o'r bumed haen i ymddangos yn y gyfres). Bu hefyd ddigon o hyrwyddo'r tîm ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol poblogaidd y ddau (mae gan Ryan Reynolds 41 miliwn o ddilynwyr ar Instagram yn unig), gyda'r ddau actor yn cyrraedd gemau yn achlysurol a hyd yn oed yn ymddangos mewn hysbyseb ar gyfer busnes lleol, Ifor Williams Trailers.

Mae’r cyffro ynghylch y clwb wedi’i dod â gwelliant mewn perfformiadau ar y cae, gyda’r clwb yn methu o drwch blewyn â chael dyrchafiad o’r gynghrair yn y tymor cyntaf ers i Hollywood gymryd drosodd. Yn yr un tymor, cyrhaeddodd y tîm rownd derfynol cystadleuaeth Tlws yr FA hefyd, gan golli 1-0 i Bromley.

Mae Ryan a Rob wedi cofleidio’r dref a'r gymuned mewn cariad a pharch. Maen nhw wedi hyrwyddo’r clwb yn ddiflino ar y cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd sydd bob amser yn glên, ac yn aml yn ddoniol iawn. Yn ei thro, cofleidiodd cymuned Wrecsam ei pherchnogion newydd. Ymddangosodd arwydd WREXHAM tebyg i Hollywood ar hen domen lo ychydig y tu allan i'r dref.

Mae gwisg oddi cartref y clwb yr un arlliw o wyrdd â’r Philadelphia Eagles, er anrhydedd i dref enedigol Rob McElhenney.

Yn y pen draw, bydd llwyddiant yn cael ei feirniadu gan ganlyniadau ar y cae. Does neb yn disgwyl gwyrthiau dros nos. Ond mae ychydig o lwch hud Hollywood wedi dod â gwefr o gyffro i Wrecsam.

Efallai y gall breuddwydion ddod yn wir.

Straeon cysylltiedig