Fel pob gwlad, mae Cymru yn wynebu nifer o heriau, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldeb iechyd, a swyddi a thwf. Er mwyn rhoi ansawdd bywyd da i genedlaethau cyfredol ac i’r dyfodol, mae angen i bawb fod yn gyfrifol am effaith hirdymor y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.

Gyda’r heriau hyn mewn golwg, mae Cymru yn gwneud pethau yn wahanol, i greu dyfodol ffyniannus, iach, cyfartal a chadarn, i’n gwlad ac i’r byd.

Mae ein nodau uchelgeisiol yn ysbrydoli llywodraethau o amgylch y byd, a sefydliadau megis Y Cenhedloedd Unedig, a ddywedodd: “gobeithiwn y bydd yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, y bydd y byd yn ei wneud yfory.”

Gobeithiwn y bydd yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, y bydd y byd yn ei wneud yfory.”

Gwneud newidiadau

Mae gwneud Cymru yn wlad fwy cydlynus yn golygu helpu cymunedau i gyd-fyw a deall ei gilydd. Yng Ngwent mae’r prosiect Ffrind i Mi a redir gan y bwrdd iechyd lleol yn cefnogi pobl sy’n teimlo’n unig neu ar eu pennau eu hunain i ailgysylltu â’u cymuned. Ac yn Aberhonddu, mae cartrefi gofal yn gweithio gydag ysgolion lleol i gysylltu cenedlaethau hŷn ac iau trwy arddio.

Mae cyrff cyhoeddus yn newid y ffordd y maen nhw’n meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i helpu i atal problemau cyn iddynt godi. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau gweithio’n agosach gyda phobl a chymunedau i’n helpu ni i greu’r Gymru yr ydym ei heisiau, yn awr ac yn y dyfodol.

Er enghraifft, Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n darparu ein rhwydwaith trafnidiaeth. Mae’n gyrru agenda cenedlaethau’r dyfodol ymlaen ar raddfa genedlaethol trwy ddatblygu cadwyn gyflenwi er budd cymunedau Cymru ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd hirdymor. Mae hyn yn golygu gosod cyfrifoldebau ar ei gontractwyr yn ymwneud â chyflogaeth foesegol, lleihau gwastraff a datgarboneiddio. Mae TrC hefyd yn buddsoddi mewn trenau mwy ecogyfeillgar a fydd yn cael eu datblygu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan ddisodli’r fflyd gyfredol.

Transport for Wales train standing at platform of Llandudno station
graphical design artists impression of a carriage on the proposed Transport for Wales metro
Trên Trafnidiaeth Cymru yng ngorsaf Llandudno a chysyniadau cynllunio ar gyfer gwasanaethau i’r dyfodol

Mae newid y ffordd y mae gwlad yn cynllunio, yn gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu yn dasg enfawr, ond mae’r effaith eisoes yn cael ei theimlo. Mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn flaenoriaeth i holl wasanaethau cyhoeddus, ac mae defnydd ynni yn enghraifft o fater cenedlaethol y gellir mynd i’r afael â hi ar lefel leol. Yn nhref fechan Bethesda, yng ngogledd Cymru, mae ‘clwb ynni’ yn caniatáu i breswylwyr brynu pŵer cost isel a gynhyrchir gan gynllun ynni dŵr lleol. Mae’n defnyddio technoleg cyfathrebu i helpu 100 o gartrefi i symud yr ynni a ddefnyddiant i adegau pan fydd y gwaith hydro’n cynhyrchu trydan, gan arbed rhyw 30% ar gyfartaledd oddi ar gost eu biliau.

Smarter Wales: Cymru Glyfrach – astudiaeth achos Cyd Ynni

Mae hyd yn oed newidiadau bychain yn cyfrannu at helpu Cymru i greu’r Gymru yr ydym ei heisiau. Anogir cyflogwyr i gynnig cynlluniau beicio i’r gwaith a rhoi loceri i staff, gan eu helpu i fod yn gorfforol egnïol yn ystod y dydd. Trwy werthfawrogi ymddygiadau iach mewn ffyrdd bychain fel hyn, gallwn greu cenedl iachach lle mae clefydau osgoadwy yn cael eu hatal cyn iddynt ddigwydd.

Mae datblygiad cynaliadwy wrth galon gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol ein gwlad. Ac nid yw wedi’i gyfyngu i weithgaredd yng Nghymru yn unig. Enghraifft o’n gwaith rhyngwladol yw’r prosiect Plant!, sy’n plannu un goeden yng Nghymru ac un yn Uganda am bob plentyn sy’n cael ei eni neu’i fabwysiadu yng Nghymru. Mae dros 320,000 o goed llydanddail wedi’u plannu hyd yma.

Gweithredu

Yn 2015, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddf i droi’r uchelgeisiau hyn yn realiti. Ac o hynny y daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), y ddeddf gyntaf o’r fath yn y byd.

Mae’n anelu at fynd i’r afael â phroblemau byd-eang parhaus megis newid yn yr hinsawdd, tlodi ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn golygu newid y ffordd yr ydym ni’n meddwl, yn cynllunio ac yn gweithredu ar lefel genedlaethol a lleol.

Aerial interior of the seats of the Senedd's debating chamber
external view of modern building at dusk
Y Senedd, Bae Caerdydd, De Cymru

Mae troi’r cynlluniau beiddgar hyn yn weithred wedi creu ffordd gyfan gwbl newydd o weithio. Amlinella’r ddeddf saith o ‘nodau llesiant’ i wneud Cymru yn ffyniannus, yn gydnerth, yn iach, yn gyfartal, yn gydlynus, yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus. Bellach mae gennym Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd, a’i swydd yw sicrhau bod nodau’r Ddeddf yn cael eu bodloni, ac yn gosod targedau penodol i olrhain cynnydd.

Dywed Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Fy swydd yw bod yn eiriolwr i fuddiannau cenedlaethau’r dyfodol, bod yn llais wrth y bwrdd gwneud penderfyniadau ar gyfer ein cenedlaethau iau a hyd yn oed y rheini nad ydynt wedi’u geni eto.”

Dysgwch fwy am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Straeon cysylltiedig