Ers 1988, mae Gŵyl y Gelli wedi ymddangos mewn dros 30 lleoliad o gwmpas y byd.
Yn 2021, mewn ymateb i gyfyngiadau cyfnod clo’r argyfwng iechyd coronafeirws Covid-19, aeth yr ŵyl a’i holl ddarpariaeth ar lein am y tro cyntaf erioed.
Yn 1987, dyfeisiwyd Gŵyl y Gelli o gwmpas bwrdd y gegin yng Nghymru gan y teulu Florence. Gan gyfuno cynnig digymar y Gelli i lyfr-garwyr gyda’i gallu i gynnal parti rhagorol, gwelodd y digwyddiad cyntaf 2,200 o bobl yn gwasgu i mewn i ystafell gefn y Lleng Prydeinig, a phabell yng ngardd Tafarn Kilverts, i glywed gan awduron a meddylwyr ynghylch pynciau mawr y dydd. Yn 1989, daeth neb llai nag Arthur Miller yno, gan yngan y jôc a ailadroddwyd amlaf yn hanes yr ŵyl: “Hay-on-Wye, is that some kind of Sandwich?”

Aeth y gair ar led a thyfodd y digwyddiad blynyddol yn gyflym. Erbyn 2001, roedd yr ŵyl yn adeiladu’i phentref ei hun dan ganfas i gartrefu’n miloedd a deithiai yno i glywed gan bobl fel Doris Lessing, William Golding, Margaret Atwood, Amos Oz, Bob Geldof, Edna O’Brien, Tony Benn, Michael Palin, Salman Rushdie, Joseph Heller, Christopher Hitchens, Ian McEwan, Louis de Bernieres, Helen Fielding, Stephen Hawking, Terry Pratchett, Nigella Lawson, Stephen Fry, Vikram Seth, Paul Auster, Tom Wolfe, Marian Keyes, Bill Bryson, Patricia Cornwell, Gillian Clarke, Kazuo Ishiguro, Martin Amis, a Zadie Smith.
Yn 2001, fe’i bedyddiwyd yn “Woodstock y Meddwl” gan Bill Clinton. A feiddiwn ni ddim dadlau â hynny!



Arthur MillerYn 1989, daeth neb llai nag Arthur Miller yno, gan yngan y jôc a ailadroddwyd amlaf yn hanes yr ŵyl: “Hay-on-Wye, is that some kind of Sandwich?” "
Dros y blynyddoedd, ffurfiodd cenhadaeth ar gyfer Gŵyl y Gelli: I ddod ag awduron a darllenwyr ynghyd i ddychmygu’r byd fel y mae, ac fel y gallai fod, gan rannu straeon a syniadau drwy gyfrwng digwyddiadau cynaliadwy fyddai’n ysgogi sgwrs fyd-eang ar bwnc cynnydd.
Daeth fy nghyswllt cyntaf i â Gŵyl y Gelli yn 2011, pan ymwelais â’r dref am benwythnos o wersylla a diwylliant. Doedd gen i ddim cyswllt â’r byd llyfrau, heblaw am fy gnhariad at ddarllen, ond roedd gwylio’r sgyrsiau'r flwyddyn honno, gyda VS Naipaul, Javier Cercas, David Miliband a Nigella Lawson yn y lleoliad hwnnw, yn brofiad wnaeth gyfoethogi a newid fy mywyd, ac roedd hynny cyn i mi fentro chwilota yn y siopau llyfrau.
Wrth i enw da’r ŵyl gynyddu’n rhyngwladol, daeth gwahoddiadau gan bentrefi, trefi a dinasoedd ledled y byd, a phob un yn awyddus i ail-greu llwyddiant yr ŵyl gyda’u digwyddiadau nhw. Daeth rhai o’r rhain yn fyw fel digwyddiadau ar wahân ble rhoddodd trefnwyr gyngor, rhai fel digwyddiadau un-tro, ond hadodd rhai a thyfu’n ddigwyddiadau Gŵyl y Gelli i gyd-fynd â’r gwreiddiol a’i gyfoethogi.

Ystyriwch Ŵyl y Gelli Cartagena yng Ngholombia. Mae rhywbeth a ddechreuodd fel rhifyn dros-dro o Ŵyl y Gelli yn 2006 bellach yn rhan ganolog o galendr llenyddol y rhanbarth bob mis Ionawr. Fe wnaeth y rhifyn diweddaraf, a ddigwyddodd ar lein oherwydd pandemig Coronafeirws, gyrraedd tua miliwn o bobl yn ddigidol, gyda digwyddiadau’n cynnwys yr enillydd Gwobr Nobel Esther Duflo, yr economegydd Thomas Piketty, y nofelwyr Juan Gabriel Vásquez, Isabel Allende, Perez Reverte, Emmanuel Carrère, enillydd Gwobr Booker Bernardine Evaristo, Joel Dicker, enillydd Gwobr Booker Rhyngwladol Marieke Lucas, Tiago Ferro, Ken Follett ac Andre Aciman, y nofelydd graffig Marjane Satrapi, yr athronwyr Peter Singer a Fernando Savater, yr awdur natur Robert Macfarlane, yr awdur taith Paul Theroux, y gwyddonydd o Golombia Brigitte Baptiste, yr hanesydd Hallie Rubenhold; a’r cyfreithiwr Philippe Sands.


Mae Colombia, fel sawl gwlad arall, wedi perchnogi’i fersiwn hi o Ŵyl y Gelli gyda balchder. Clywyd un awdur yn dweud hyn yn nigwyddiad 2020: “Mae mor fawr nawr, mae yna un yng Nghymru, hyd yn oed,”
Mae digwyddiadau Gŵyl y Gelli bellach wedi digwydd mewn 30 lleoliad dros bum cyfandir. Dros y 12 mis nesaf, trefnwyd eisoes rifynnau yng Ngholombia, Sbaen, Mecsico a Pheriw, gyda chynlluniau am ragor i ddilyn.
Bill ClintonYn 2001, fe’i bedyddiwyd yn “Woodstock y Meddwl” gan Bill Clinton. A feiddiwn ni ddim dadlau â hynny!"
Mae gweithredu ar y cyd yn uno pob digwyddiad. Bydd pob gŵyl yn cynnig cyfuniad unigryw o sgwrsio manwl ac adloniant i bob oedran, gan arddangos y syniadau diweddaraf ym myd y celfyddydau a’r gwyddorau gerbron cynulleidfaoedd chwilfrydig. Trefnir y digwyddiadau hyn gan Ŵyl y Gelli ar y cyd â thimau lleol, gyda rhaglenni sy’n ceisio cyfuno’r meddylwyr rhyngwladol gorau oll â’r doniau lleol mwyaf cyffrous. Mae’r cyfan yn cyd-fynd â phrosiectau addysgol pellgyrhaeddol i feithrin cenedlaethau o ddarllenwyr ar gyfer y dyfodol, a bydd pob un yn gweithio gan gadw cynaliadwyedd a hygyrchedd yn greiddiol.
Mae creu rhaglen hefyd yn chwarae rhan mewn dwyn y cyfan ynghyd. Mae Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Hay Festival / Hay Festival Creative Wales International Fellowship yn gweld awdur o Gymru’n teithio i bob un o Wyliau’r Gelli, â phrosiect o’u dewis nhw. Ymysg awduron y gorffennol mae’r nofelydd Alys Conran, y bardd a’r dramodydd Owen Sheers a’r awdur taith Dylan Moore. Yn fwy diweddar, bu’r bardd a’r ieithydd Mererid Hopwood yn ymuno â phob Gŵyl yn ddigidol.
Mewn oes ddigido, a nodweddir fwyfwy gan gynnwys a grynhowyd ac argymhellion gan algorithm, mae digwyddiadau Gŵyl y Gelli, ble bynnag y bônt, yn hybu darganfod drwy gyfrwng y modd hir. Maen nhw’n cynnig llwyfan ar gyfer sgwrs ddeallus a’r cyfle i ysbrydoliaeth gydio – does dim sy’n fwy grymus nag eistedd o gwmpas bwrdd, neu ar garthen bicnic, a bod gyda’ch gilydd, wyneb yn wyneb.
A dyna sydd wrth wraidd cyfrinach llwyddiant byd-eang Gŵyl y Gelli: waeth beth am ffiniau a chyfyngiadau, gall straeon deithio ac mae gan bob un ohonom angen cynhenid i’w casglu a’u rhannu.


Pethau i’w gwneud yn y Gelli
Ers ymuno â thîm yr Ŵyl yn 2015, dwi wedi dod i adnabod y lle fel cefn fy llaw, a dim ond tyfu wnaeth fy edmygedd o’r gymuned yma. Fydd ymwelwyr â’r ardal sy’n dod pan na fydd hi’n dymor yr ŵyl ddim yn cael eu siomi: mae yma gaffis clyd (Shepherds Parlour, Siop Lyfrau Richard Booth), llwybrau cerdded ysgubol (Llwybr Clawdd Offa), anturio awyr agored (canŵio ar Afon Gwy, beicio ym Mannau Brycheiniog), ac wrth gwrs, mae yma lyfrau. Llawer iawn, iawn (iawn) o lyfrau!
I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl y Gelli a thref ogoneddus Y Gelli Gandryll, chwiliwch ar wefan Croeso Cymru.
