Am filoedd o flynyddoedd, mae pobl dros y byd i gyd wedi syllu i fyny, yn llawn edmygedd, tua'r entrychion, yn ceisio gwneud synnwyr o'r bydysawd a'n lle ni ynddo fo.

Ond, gyda thwf poblogaeth byd-eang a dinasoedd diwydiannol yn ehangu, fe wnaeth astudiaeth yn 2016 ddarganfod bod 80 y cant o'r byd - a mwy na 99 y cant o boblogaethau'r Unol Daleithiau ac Ewrop - yn byw o dan awyr wedi'i llygru gan olau artiffisial, gan amharu ar eu golygfeydd o’r sêr uwch eu pen.

Yn ffodus, mae cefn gwlad gogoneddus, di-fai Cymru wedi helpu Cymru i osgoi effeithiau gwaethaf llygredd golau ar raddfa eang, ac mae sefydliadau – ar raddfa leol a rhyngwladol – wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein hawyr dywyll yn cael ei diogelu er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol ei mwynhau.

Y canlyniad yw bod Cymru bellach yn un o gyrchfannau gwych y byd ar gyfer syllu ar y sêr, gan ddenu seryddwyr medrus ac amatur fel ei gilydd, sy’n awyddus i weld awyr y nos yn ei holl ogoniant. Dyma gip ar y sefyllfa syllu ar y sêr yng Nghymru, gyda manylion ynghylch sut mae awyr dywyll y wlad yn cael ei diogelu a lle mae ymwelwyr yn gallu mynd i edrych ar y planedau.

Lleoedd Awyr Dywyll Rhyngwladol

Lleoedd Awyr Dywyll Rhyngwladol

Sefydlwyd menter Lleoedd Awyr Dywyll Rhyngwladol (IDSP) gan y corff gwrth-lygredd golau blaenllaw, y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, yn 2001 i annog cymunedau i warchod a diogelu mannau tywyll y byd trwy addysg a dulliau goleuo eraill. Mae'r gymdeithas yn credu bod lleihau llygredd golau nid yn unig yn hanfodol i iechyd bywyd gwyllt nosol, ond hefyd i les dynol.

Mae gan Gymru dri IDSP o fewn ei ffiniau – gan gynnwys dwy o ddim ond 18 ‘Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol’ (y categori mwyaf o ran daearyddiaeth o IDSP) dros y byd i gyd.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf i gael statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yng Nghymru (a dim ond y bumed yn y byd!) yn 2013. Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymestyn tua 40 milltir (64 km) o’r Fenni i Landeilo ar draws hanner dwyreiniol de Cymru.

Er bod ffiniau deheuol y parc lai nag awr yn y car o ddwy ddinas fwyaf y wlad, Caerdydd ac Abertawe, ar noson glir gall rhywun sy’n gyfarwydd â’r cosmos weld y Llwybr Llaethog, cytserau mawr, ac – os ydynt yn eu hamseru’n dda – hyd yn oed cawodydd o sêr gwib.

Parc Cenedlaethol Eryri

 

Cafodd Parc Cenedlaethol Eryri statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2015. Mae llawer o dir y parc (sy’n gorchuddio tua deg y cant o gyfanswm arwynebedd tir Cymru!) yn arw ac yn fynyddig, ac nid oes neb yn byw ynddo i raddau helaeth. O ganlyniad i hyn, mae’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn ystyried Eryri yn un o’r mannau tywyllaf sydd ar ôl yn ne Prydain.

Mae gan bob seryddwr lleol ei hoff lecyn i arolygu awyr Eryri, boed yn lleoliadau ar lannau Llyn y Dywarchen a Llyn Geirionydd neu Fwlch y Groes, ond, ar noson glir, mae ymwelwyr yn sicr o weld awyr wedi’i thaenu â sêr o bron unrhyw un olygfan o fewn ffiniau'r parc.

Ystâd Cwm Elan

 

Ystâd Cwm Elan yw’r unig Barc Awyr Dywyll dynodedig (fersiwn lai o Warchodfa Awyr Dywyll) yng Nghymru. Wedi’i leoli tua hanner ffordd rhwng Gwarchodfeydd Eryri ac Aberhonddu, mae’r parc yn ymestyn dros 70 milltir sgwâr gyfan Ystâd Elan, sy’n eiddo i Dŵr Cymru, ac yn cynnwys nifer o gronfeydd dŵr mawr.

Mae’r ystâd wedi gweithio ers amser maith i warchod bywyd gwyllt yr ardal (gyda rhannau wedi’u dynodi’n ardaloedd cadwraeth arbennig a diddordeb gwyddonol), ond yn fwy diweddar mae wedi gweithio i warchod awyr nos llawn sêr yr ardal, gan gymryd rhagofalon fel addasu lampau stryd i sicrhau cyn lleied o lygredd golau â phosibl. O ganlyniad, mae'r ardal bellach yn boced helaeth o dir hardd syllu ar y sêr yng nghanol Cymru.

Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll

Ar wahân i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, mae Partneriaeth Darganfod Awyr Dywyll yn rhwydwaith o sefydliadau seryddiaeth ac amgylcheddol cenedlaethol a lleol sydd â'i rhestr ei hun o ardaloedd syllu ar y sêr poblogaidd, a elwir yn Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll.

Mae gan Gymru fwy na 30 o’r safleoedd yma wedi’u gwasgaru ar draws y wlad, gyda’r mannau mwyaf poblogaidd yn cynnwys Traeth Niwgwl yn Sir Benfro, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin, a phentref Llangaffo ar Ynys Môn.

.

Sut i fwynhau awyr y nos yng Nghymru

Ar noson heb gwmwl, ni fydd angen llawer mwy na dillad cynnes a thipyn o amynedd ar ymwelwyr sy’n mynd i fannau awyr dywyll yng Nghymru, i wylio popeth o blanedau pell i sêr gwib.

I’r rhai y byddai'n well ganddynt gael ychydig o arweiniad arbenigol, fodd bynnag, gallant gymryd rhan mewn taith syllu ar y sêr bwrpasol, fel y rhai sy'n cael eu rhedeg gan gwmni Dark Sky Telescope Hire ym Mannau Brycheiniog, neu alw heibio noson gweld sêr clwb seryddiaeth lleol, fel cyfarfod misol Cymdeithas Seryddiaeth Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Mae'r defnydd o delesgopau a siartiau yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n syllu ar y sêr i dreiddio'n ddyfnach fyth i hud awyr y nos yng Nghymru.

Mae gan Aberhonddu, Eryri ac Ystâd Cwm Elan hefyd lety y tu mewn i'r parc sy'n darparu ar gyfer twristiaid sydd am dreulio nosweithiau hir yn syllu i’r entrychion. Mae gan y tri pharc hefyd feysydd gwersylla ardderchog (Dark Skies Camping yn Aberhonddu i enwi dim ond un), lle gall gwesteion sbecian o dan eu cynfas ar sioe anhygoel yn yr entrychion.

Straeon cysylltiedig

Llyn prydferth wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd mawr gwyrdd

Mannau gwyrdd gwarchodedig Cymru

Oeddech chi’n gwybod bod Cymru yn gartref i dri pharc cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol? Dyma gipolwg ar ein mannau gwyrdd gwarchodedig.

Llun o'r awyr o gar yn gyrru ar hyd ffordd arfordirol fynyddig

Dewch i deithio

Mae Ffordd Cymru sy’n gyfres o lwybrau taith epig, yn helpu ymwelwyr i weld y gorau o Gymru ar bedair olwyn.

Mynydd o lechi ym mlaen y llun, â thai teras a mynyddoedd pell yn y cefndir

UNESCO – Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae Cymru bellach yn ymfalchïo mewn pedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma gyflwyniad i’r pedwar ynghyd â manylion am pam fod pob un mor bwysig i hanes Cymru, a’r byd yn ehangach.