Sarah Price, y stiward gwirfoddol, yn croesawu ymwelwyr o gwmpas y byd i’r ŵyl gerddoriaeth roc, Gŵyl Steelhouse, a gynhelir yn nhref ei mebyd, sef Glyn Ebwy yn Ne Cymru.

Amser maith yn ôl, ymhell bell i ffwrdd, roedd yna ferch. Yr wythdegau oedd hi, felly roedd ganddi wallt wedi’i byrmio’n wael, weiren ar ei dannedd, a gwallt wedi’i liwio cyn ddued â’i henaid. Dyma stori o sut trodd y ferch honno i fod yn un o wirfoddolwyr mwyaf ymroddedig teulu Gŵyl Steelhouse.

Roedd hi’n byw mewn ardal anghysbell yng Nghymru. Credai nad oedd dim byd i’w wneud – dim unman i fynd, dim byd i weld – ond roedd pobl eraill fel hi o gwmpas. Nid oedd gan bob un wallt gwael, ond roedd yna bobl a chanddynt rywbeth yn gyffredin, a cherddoriaeth oedd hynny – a metel trwm yn benodol. Roedd yna fetel yn ystafell gyffredin y chweched. Roedd yna fetel ar y bws ysgol. Ac wrth i’r amser fynd yn ei flaen, bu tripiau i Lundain, Birmingham a Bryste i weld cerddoriaeth fetel yn y cnawd. Gwnaed addewidion o deyrngarwch a sefydlwyd sawl cyfeillgarwch. Yna daeth bywyd i’w rhan – aeth pobl i’r Brifysgol, dod o hyd i swyddi, priodi, cael plant, a cholli cysylltiad.

Tyrfa fawr o flaen llwyfan yr ŵyl.
Y prif lwyfan yng Ngŵyl Steelhouse

Fi oedd y ferch â’r gwallt gwael, ac aeth dau ddegawd heibio cyn i mi ddod o hyd i’m criw amrywiol o ffrindiau unwaith eto. Roedd hi’n 2010, roedd fy nhad newydd farw, a gwelais fy hun yn cael trafferth ymdopi â bywyd am y tro cyntaf. Er syndod i mi, clywais fod yna ŵyl fetel yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ger Glyn Ebwy, ychydig filltiroedd o’m cartref. “Pam nad ei di?” dywedodd mam. “Byddai dy dad eisiau i ti fynd”. Ond wnes i ddim, cymaint oedd fy ngalar, byddai wedi bod yn amhosibl i mi neu i unrhyw un o’m cwmpas i fwynhau eu hunain.

Ond, yn y misoedd a ddilynodd, dechreuodd trefnwyr Gŵyl Steelhouse gynnal nosweithiau clwb. Ymunais yn betrus â nhw – a phwy gredwch chi oedd yno? Trigolion y byd ymhell bell i ffwrdd y soniais amdanynt uchod. Llifodd y diodydd, roedd y gerddoriaeth yn wych, ac ail-daniwyd sawl cyfeillgarwch oedd wedi mynd i angof. Roedd pob un ohonom yn adnabod y trefnwyr ac o’r farn eu bod yn wych. Ac yna, digwyddodd rywbeth rhyfedd: gofynnais a allwn i helpu. Roedd hyn wir allan o gymeriad i fi, ond roeddwn yng nghanol argyfwng dirfodol ac am eiliad, teimlai fel syniad da. Roedd angen i mi ddangos sgiliau newydd, cyfrif arian a rhoi bandiau arddwrn ar bobl oedd yn dod i’r nosweithiau clwb. Llwyddais i’w wneud, a’r flwyddyn ganlynol, gwelais fy hun yn stiwardio yn ail Ŵyl erioed Steelhouse, ar fynydd ger Glyn Ebwy.

Tri gŵr yn canu’r gitâr ar y llwyfan.
Merched yn y mwd yn Steelhouse.
Canu’r gitâr – ac yn y mwd!

Treuliais yr ŵyl yn sownd yn y swyddfa docynnau – ac roedd yn gymaint o hwyl nes imi wybod fy mod i wedi glanio yn y lle perffaith. Cafodd pob un ohonom ein gwasgu i mewn i un caban, gan wasanaethu anghenion y cyhoedd trwy un ffenestr. Yna, allan â ni trwy’r drws, gan aros ar ein traed hyd nes i ni fethu sefyll rhagor. A daeth y flwyddyn nesaf rownd a gwirfoddolais eto, ac eto, a... wel... rydym yn ein nawfed flwyddyn ac rydw i yma o hyd.

Merched yn y mwd yn Steelhouse.
Grŵp o bobl mewn gŵyl.
Gŵr gyda dyn ifanc ar ei ysgwyddau mewn gŵyl.
Mwynhau yn ŵyl Steelhouse

Mae’r staff gwirfoddoli’n wahanol nawr. Mae pobl newydd yn gofyn a allant helpu bob blwyddyn ac (fel rheol) rydym yn cytuno. Daw llawer ohonynt yn ôl o flwyddyn i flwyddyn. Dydyn ni ddim wir yn gwybod pam – rydyn ni wedi trafod y peth ac wedi penderfynu ei fod yn od oherwydd, dyma’r fargen:

  • Mae’n aml yn bwrw glaw
  • Mae’n aml yn eithaf oer
  • Nid oes dŵr rhedeg ar gael
  • Rydym yn cadw lefel iach o gecru
  • Rydych chi’n byw mewn pabell neu (yn fwy diweddar) mewn cynhwysydd cludo am y penwythnos
  • Dydych chi ddim yn cael eich talu
  • Gall pobl fynd ychydig yn grintachlyd a gweiddi arnoch oherwydd pwyntiau un, dau a thri

Fodd bynnag, rydyn ni’n dwlu arno. Ein dymuniad yw bod gan neb ddim byd i gwyno yn ei gylch, felly rydym yn ceisio gwneud Steelhouse yn ŵyl yr hoffwn ni fynd iddi, petawn ni’n mynd i un. Dyna pam rydym yn ceisio cadw’r prisiau cwrw i lawr blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam y cyflogwn gwtshwr (cofleidiwr) cymwys yn y swyddfa docynnau. Dyna pam nad oes rhaid i chi gerdded ymhell i fynd o’r maes parcio i’r gwersyll, nac o’r gwersyll i’r arena. A dyna pam y tynnwn ni’ch car allan os aiff yn sownd. Dyna pam mae gennym lawer o wahanol fwydydd a choffi da ar gael. A’r rheswm pam, os hoffech chi siarad â’r ffermwr sy’n berchen ar y tir, mi allwch chi. Yn ei hanfod, rydym yn barod bob amser i’ch helpu chi gyda beth bynnag y mae arnoch ei angen.

Ar wahân i’r ceidwaid diogelwch a’r bobl y tu ôl i’r stondinau bwyd a’r bariau, gwirfoddolwyr yw pob un ohonom – ac rydym yn gweithio’n galed am y rheswm syml nad oes unrhyw le y mae’n well gennym fod.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gŵyl Steelhouse neu dilynwch Steelhouse Festival ar Instagram.

Straeon cysylltiedig