O ble daw eich pysgod chi?

Mae popeth yn cael ei ddal o fewn 10 milltir i Aberteifi gan fy ngŵr Len a’n mab ni, Aaron. Mae crancod a chimychiaid ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac yn y gaeaf, gorgimychiaid a chregyn bylchog hefyd. Yn yr haf fe gawn ni grancod heglog rhagorol, a byddwn ni’n pysgota â llaw i ddal draenogod y môr a mecryll, a pha bynnag bysgod arally gallwn ni ei gael. Fe gawn ni ambell ferfog, lleden chwith, lleden fannog, hyrddyn a morgath – beth bynnag sydd o gwmpas. Mae gyda ni drwyddedau cwryglau ar afon Teifi hefyd.

Len Walters yn dal ei ddal y dydd
Dal pysgod cregyn oddi ar ochr y cwch
Dal pysgod cregyn oddi ar ochr y cwch
Len Walters yn pysgota.

Beth sy’n arbennig am bysgota â chwrwgl?

Mae’n ffordd o bysgota sy’n cadw treftadaeth yn fyw, ac mae’n ddull hyfryd. Bydd Len ac Aaron yn defnyddio pâr o gwryglau i lifo lawr afon Teifi gyda’r nos, â’r rhwyd rhyngddyn nhw, a byddan nhw’n dal eog a sewin gwyllt. Mae gan eogiaid a sewin a ddaliwyd mewn cwrwgl yng ngorllewin Cymru statws PGI. Roedd cannoedd o bysgotwyr cwrwgl ar afon Teifi ar un adeg, ond dim ond 12 pâr sydd ar ôl erbyn hyn. Byddwn ni’n defnyddio rhwydi Sân i bysgota ym mhyllau’r afon ger Llandudoch hefyd. Cyflwynwyd rhwydi Sân, neu Seine, yma’n wreiddiol gan fynachod Ffrengig Abaty Llandudoch, bron i fil o flynyddoedd yn ôl, ond mae tair trwydded yn weddill, ac un ohonyn nhw gyda ni.

dyn yn cario cwrwgl yn sefyll ar lan afon
Dyn yn pysgota cwrwgl yn y nos
Len ac Aaron yn bysgota â chwrwgl ar afon Teifi yn y nos.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng eog a sewin?

Mae’r ddau’n edrych yn eithaf tebyg, ond mae nodweddion gwahanol o ran y marciau, yr esgyll a faint o gennau sydd arnyn nhw. Mae sewin yn fwy golau o ran lliw, ac mae’r cnawd yn fwy delicet na chig eog. Mae’n well gan bobl yr ardal hon sewin – mae’n cael ei ystyried yn un o ddanteithion Cymru – ond mae ymwelwyr yn gwybod mwy am yr eog. Ond pan fyddwch chi’n esbonio iddyn nhw mai enw arall ar frithyll môr yw sewin, maen nhw wastad yn barod i roi cynnig arno fe. Yn y ddau achos, mae pysgod gwyllt yn tra rhagori ar unrhyw beth sy’n gynnyrch fferm bysgod.

Mae gan Mandy Walters o Cardigan Bay Fish y rysáit teuluol perffaith. Y pysgod gorau, wedi eu dal bore ‘ma, ac yn cael eu gwerthu ym marchnad ffermwyr gorau Prydain.

Ble fyddwch chi’n gwerthu eich pysgod?

Marchnadoedd a bwytai lleol, ac rydw i ym Marchnad Cynhyrchwyr Lleol Llandudoch bob bore dydd Mawrth, drwy gydol y flwyddyn. Fe wnaethon ni ddechrau gyda llond llaw o stondinau tua wyth mlynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae 20 o stondinwyr rheolaidd. Rydym ni wedi ennill sawl gwobr: ni oedd y farchnad orau ym Mhrydain yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC. Dwi hefyd yn gwerthu i dafarndai a bwytai lleol.

Mandy a’i stondin yn y farchnad bysgod
Mandy Walters yn y farchnad bysgod.

Pam fod mudiad y marchnadoedd ffermydd mor boblogaidd?

Dwi’n meddwl fod pobl wedi cael llond bol ar y cadwyni mawr o archfarchnadoedd, ac maen nhw eisiau cefnogi cyflenwyr llai fel ni. Mae pobl yn prynu mwy gan y pysgotwr, y cigydd, y gwneuthurwr. Ond mae angen i ni helpu'r cwsmeriaid hefyd. Mae angen i chi roi syniadau a chynghorion iddyn nhw. Bydd rhai’n ofn cael cranc cyfan, felly dwi’n paratoi cacennau cranc. Neu fe wna i ddweud wrthyn nhw sut i baratoi linguine cranc hyfryd. Os rowch chi ambell gyngor i bobl, fe fyddan nhw’n mynd i ffwrdd i roi cynnig arno fe, ac yna fe ddôn nhw nôl i gael rhagor.

Rydych chi wedi ennill Gwobr y Gwir Flas hefyd…

Y llynedd, fe wnes i gyflwyno tri chynnyrch i’r gystadleuaeth: cranc wedi’i baratoi, pate mecryll a chranc mewn pot. Cefais fy syfrdanu gan y canlyniadau. Fe wnes i ennill dwy seren am y cranc wedi’i baratoi a’r cranc mewn pot, ac un seren am y pate mecryll, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Dwi eisiau creu cawl cranc Bae Ceredigion nawr. Does dim byd tebyg ar gael ar y farchnad.

Mandy Walters, yn paratoi cig crancod - Bae Ceredigion
female's handed holding a crabllaw menyw yn dal cranc
Mandy Walters yn paratoi'r pysgod cregyn.

Beth yw’r gyfrinach wrth goginio pysgod?

Os yw’n ddarn da o bysgodyn, yna plaen a syml sydd orau. Mae’n gynnyrch mor ffres, y cyfan sydd ei angen yw ychydig o fenyn a lemwn, naill ai mewn parsel ffoil a’i bobi yn y ffwrn, neu wedi’i ffrïo mewn menyn yn y badell. A’r rheol aur yw peidio â’i orwneud.

Sut brofiad yw gweithio gyda’ch gŵr?

Rydym ni’n dîm da. Ond mae’n waith caled iawn dros yr haf – prin y byddwn ni’n gweld cip ar ein gilydd. Yn dibynnu ar y llanw, gall Len fod ar y môr am gymaint â 12 i 16 awr y dydd. Yna, unwaith y bydd hi’n ddigon tywyll bydd e mas yn y cwrwgl tan ddau neu dri yn y bore bach, a bydd e’n gwneud hynny bob dydd gŵyl a gwaith.

Pentref pysgota wedi’i dynnu o ben bryn
Bae Ceredigion

Sut le yw hwn i fyw ynddo fe?

Mae Aberteifi a Llandudoch yn nefolaidd. Dyw hi ddim wedi cael ei gor-ddatblygu yma: rydym ni’n dal yn gwneud pethau yn y dull traddodiadol. Mae’n bert iawn, mae’r bobl yn hyfryd, mae’r traethau’n rhagorol, ac mae digonedd i’w wneud. Cafodd Castell Aberteifi ei adnewyddu’n ddiweddar, ac mae wedi trawsnewid y dref. Enw’r bwyty yw 1176, ar ôl y flwyddyn pan gynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yma. Mae Pizza Tipi yn boblogaidd iawn hefyd, mae hi wastad yn orlawn yno. Mae gan Dafarn y Fferi yn Llandudoch deras hyfryd sy’n edrych dros yr aber, a dwi wrth fy modd â’r caffi a becws bach newydd sydd wedi agor yn Aberteifi, Crwst, dan ofal cwpwl ifanc o’r enw Catrin ac Osian. Mae’u teisennau nhw’n arallfydol.

 

Straeon cysylltiedig