Gofynnwch i berson o Gymru pa fwyd sy’n crynhoi blas ei wlad orau, a byddech chi’n debygol o dderbyn amrywiaeth drawiadol o atebion.

I’r rhai traddodiadol, mae'n debygol y bydd yn gig oen rhost; gallai llysieuwyr, ar y llaw arall, ddewis caws Caerffili; tra gallai'r rhai sydd â chwaeth fwy anturus fynd am y danteithfwyd sy’n seiliedig ar wymon sef bara lawr.

Mewn gwirionedd, mae 19 cynnyrch sydd â statws 'gwybodaeth ddaearyddol' wedi'u gwarchod yng Nghymru, cynnyrch sydd â blas arbennig y wlad - boed hynny ar eu pennau eu hunain neu fel cynhwysion mewn prydau eiconig Cymreig. Mae'r warchodaeth hon, sy'n sicrhau ansawdd uchel y cynnyrch yn cael ei gydnabod ac, mewn llawer o achosion, yn helpu i ddiogelu'r arferion traddodiadol sy'n ymwneud â'u creu, wedi'i rannu'n dri chategori:

Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO): mae’n dangos bod y cynnyrch wedi cael ei gynhyrchu, ei brosesu a'i baratoi mewn rhanbarth penodedig, sy'n rhoi i'r bwyd neu'r ddiod ei flas neu ei ansawdd unigryw.

Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI): mae’n pwysleisio cysylltiad rhwng cynnyrch a rhanbarth daearyddol penodol, sydd o fudd i'w ansawdd neu ei flas. Mae o leiaf un o'r camau cynhyrchu, prosesu neu baratoi fel arfer yn digwydd yn y rhanbarth hwn.

Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG): mae’n canolbwyntio ar ddiogelu dull cynhyrchu traddodiadol y cynnyrch. Fel arfer mae gan hyn gysylltiadau ag ardal benodol, ond, yn wahanol i'r ddau ddosbarthiad arall, nid yw wedi'i glymu'n benodol ag un lle.

Yn ogystal â Chig oen Cymreig (PGI), Cig Eidion Cymru (PGI) a Phorc Cymreig Pedigri Wedi’i fagu’n Draddodiadol (TSG), Mae gan Gymru amrywiaeth eang o gynnyrch gwarchodedig y gellir eu samplo yng Nghymru neu'r tu allan iddi. Dyma drosolwg o'r 16 arall.

Cigydd yn torri cig oen.
Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr

Ham Caerfyrddin (PGI)

Mae chwedl leol yn nhref Caerfyrddin yn honni bod y Rhufeiniaid wedi dwyn y rysáit ar gyfer Carmarthen Ham, ar ôl gorchfygu Brydain, a’i chymryd yn ôl i'r Eidal, a chreu Parma Ham sydd bellach yn adnabyddus dros y byd. Ond yr hyn rydyn ni’n ei wybod yn sicr yw bod y cynnyrch yn dyddio'n ôl i gyfnod pan fyddai ffermwyr Cymru yn cadw eu cig mewn halen er mwyn ei atal rhag difetha yn ystod misoedd hir, oer y gaeaf, ac mae’n ymddangos bod y bobl leol wedi cael blas go iawn arno! Heddiw mae Ham Caerfyrddin yn dal i gael ei halltu mewn halen am chwech i naw mis cyn cael ei dorri’n denau a'i weini – proses sy'n sicrhau blas cain y cig a’r tueddiad i’w doddi yn y geg.

Ble i roi cynnig arni: Mae'r teulu Rees wedi chwarae rhan enfawr yn diogelu a hyrwyddo Ham Caerfyrddin, ar sail arferion teuluol sy'n dyddio'n ôl i'r 1800au. Mae eu siop flaenllaw ym Marchnad Caerfyrddin atmosfferig wedi bod ar agor ers y 1970au. Trwy gyd-ddigwyddiad (amheus yn ôl rhai), mae'r farchnad ei hun yn dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid...

Ham yn hongian o fachyn a chyllell wrth ymyl ham wedi ei dorri.
Dau baced o ham a bwrdd pren yn arddangos ham wedi'i dorri.
Ham Caerfyrddin

Sewin (PGI) ac eog (PGI) wedi’u dal â Chyryclau Gorllewin Cymru

Mae cyryclau sy’n edrych fel basgedi mawr yn arnofio (braidd yn simsan!) ar wyneb y dŵr wedi cael eu defnyddio gan bysgotwyr yng Nghymru ers y 1800au. Ar hyd afonydd Tywi, Taf a Teifi yng Ngorllewin Cymru mae’n bosibl gweld llond llaw o'r cyryclau un dyn hyn yn ystod y tymor pysgota. Mae’r sewin (sewin môr) a'r eog yn cael eu dal gan yr ymarferwyr hyn - mewn ffordd gynaliadwy, gan ddefnyddio rhwydi ac maen nhw’n enwog am eu blas suddlon.

Ble i roi cynnig arni: Mae Sewin ac Eog Ffres sydd wedi’u dal â chwrwgl ar fwydlenni lleoliadau enwog ar draws y DU, gan gynnwys y neuadd fwyd yn siop Harrods yn Llundain. Ond y ffordd orau i flasu’r pysgod hyn yw yn ystod y tymor (o Ebrill i Awst) mewn bwytai lleol sydd wedi'u gosod ger yr afonydd, fel y Pryd O Fwyd yng Nglanyfferi.

Brithyll ar gefndir llechen ddu
Plât o Sewin wedi’i goginio ar ben remwlâd seleriac.
Sewin ffres wedi’i ddal â chwrwgl ac enghraifft ohono wedi'i goginio gyda remwlâd seleriac

Cig oen Morfa Heli y Gŵyr (PDO)

Er mwyn i ŵyn gael eu categoreiddio'n swyddogol fel rhai Cors Morfa Heli y Gŵyr, mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi treulio o leiaf hanner eu hoes yn pori ar forfeydd heli gogledd Penrhyn Gwyr. Yn ôl arbenigwyr, yr amgylchedd unigryw hwn sy'n gyfrifol am roi blas ysgafn, melys a glaswelltog unigryw i’r cig oen Mae hyn yn deillio o’r llystyfiant hallt naturiol y mae'r ŵyn yn pori arno, a'r ardal enfawr y maen nhw’n crwydro arni. Mae’r ddau ohonynt yn helpu i gyflawni cydbwysedd gorau posibl rhwng a braster.

Ble i roi cynnig arni: Gallwch chi ddod o hyd i fwytai sy’n gweini Cig Oen Morfa Heli y Gwŷr ledled y Gŵyr, gan gynnwys Tafarn y Britannia yn Llanmadog a Beach House ym Mae Oxwich sy’n un o Fwytai seren Michelin Cymru.

Arwydd llechen ar wal gerrig.
Golwythion Cig Oen.
Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr

Seidr Cymreig Traddodiadol (PGI)

Er ei fod yn aml yn cael ei gysylltu â Gorllewin Lloegr, mae gan seidr hanner cryf yng Nghymru, gan ymddangos ym marddoniaeth Gymraeg y 14eg ganrif a hyd yn oed yn y geiriadur Cymraeg cyntaf un (fel Seidry; sy'n golygu 'diod wedi ei wneud o afalau'). Mae seidr traddodiadol yn dal i gael ei gynhyrchu yng Nghymru yn yr un ffordd ag yr oedd bryd hynny o'r wasg gyntaf o afalau a gafodd eu tyfu yn y wlad. Fel arfer, mae'n rhannol ddidraidd o ran lliw, gyda chryfder alcohol rhwng tri ac wyth a hanner y cant.

Ble i roi cynnig arni: Gyda thua 50 o gynhyrchwyr seidr yng Nghymru, gall cefnogwyr selog y ddiod deithio ar Lwybr seidr Cymru, gyda chyfleoedd i flasu mewn ffermydd fel yr Apple County Cider Co ger Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy.

Gwydraid o seidr afal wrth ymyl afalau.
Seidr Traddodiadol Cymru.

Caerffili Cymreig Traddodiadol (PGI)

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi rhoi cynnig ar gaws Caerffili, meddyliwch eto. Mae'r fersiwn fasgynhyrchu sydd fel arfer wedi’i gwneud yn ne Lloegr a’i gwerthu mewn archfarchnadoedd ledled y DU, yn ddynwarediad egwan o'i gymharu â'r caws gwreiddiol. Credir bod y caws hwn wedi’i wneud yn wreiddiol gan ffermwyr ar gyfer glowyr yn nhref Caerffili. Yn cael ei ystyried yn unig gaws brodorol Cymru, mae'n galed ac yn hufennog, wedi'i wneud o laeth o wartheg Cymreig sy'n cael eu bwydo ar laswellt, ac mae ganddo flas ychydig yn lemwnllyd.

Ble i roi cynnig arni: Caws Teifi Cheese sydd wedi’i leoli rhwng Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan yng Ngorllewin Cymru yw'r gwneuthurwr caws crefftus mwyaf addurnedig ym Mhrydain. Mae siop fferm y cwmni'n gwerthu Caerffili traddodiadol Cymreig, yn ogystal ag amrywiaeth o gaws mwg derw (hefyd ar gael i'w brynu drwy'r wefan).

Welsh cheeses with grapes, pears and figs surrounding them.
Caws traddodiadol Cymreig Caerffili

Gwin rhanbarthol Cymru (PGI) a gwin Cymru (PDO)

Ar ôl dechrau ychydig yn gythryblus (gan gynnwys ymgais aflwyddiannus i dyfu Gamay Noir yng Nghastell Coch ar ddiwedd y 19eg ganrif), dechreuodd tyfu gwin wreiddio yng Nghymru ar ddechrau’r 21ain ganrif, ac mae wedi parhau i ffynnu ers hynny. Mae mathau o rawnwin coch a gwyn yn cael eu tyfu, gan gynhyrchu gwinoedd sy'n adnabyddus am eu hasidedd creisionllyd a'u blasau aromatig, sydd o ganlyniad i dymor tyfu hir y wlad a hinsawdd dymherus ffafriol.

Ble i roi cynnig arni: Mae Cymru yn gartref i dros 30 o winllannoedd, pob un ohonynt yn arbenigo yn ei gymysgedd unigryw ei hun. Os coch yw eich ffefryn, mae White Castle Vineyard yn Y Fenni, yn cynhyrchu pinot noir arobryn, tra bod Gwinllan Conwy Vineyard i'r de o Landudno wedi cipio gwobrau am ei win gwyn llonydd a phefriog. Mae'r ddau le’n cynnig teithiau tywys a sesiynau blasu.

Gwydraid a photel o win coch.
Saith potel o win gwyn a choch.
Y pinot noir arobryn a detholiad o win gwyn a choch o Winllan Castell Gwyn yn Y Fenni.

Bara Lawr Cymreig (PDO)

Rydym yn ymwybodol nad hwn yw’r danteithfwyd o Gymru mwyaf pert yn y byd, ond mae bara lawr, sef gwymon wedi’i ferwi, wedi ennill lle arbennig yng nghalonnau pobl leol - cymaint felly nes i'r actor Cymreig Richard Burton ei enwi’n ‘Cafiâr y Cymro’. Wedi'i gasglu o draethau Cymru a'i ferwi i bastwn gelatinaidd du, roedd gwerth maethol bara lawr yn ei wneud yn brif fwyd bore glowyr Cymru (roedd hyd yn oed yn ddoctor yn ei ragnodi!). Mae'n dal i fod yn gynhwysyn seren brecwast traddodiadol Cymreig heddiw.

Ble i roi cynnig arni: Roedd bara lawr yn arfer cael ei werthu yn Abertawe ar ôl cael ei gasglu o draethau Sir Benfro, ac mae'r cynnyrch ar werth o hyd ar stondinau Marchnad Abertawe heddiw. I'r rhai sydd am flasu’r cynnyrch arbennig hwn mae Tŷ Coffi Gershwins yn un o lond llaw o sefydliadau Abertawe sy'n cynnwys bara lawr ar eu bwydlenni brecwast.

Bara Lawr Cymreig a Quiche Cocosen
Bara lawr Cymreig a quiche cocosen.

Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd (PDO)

Mae’r unig fath o eirin sy'n frodorol i Gymru, yr Eirin Dinbych wedi chwarae rhan bwysig mewn sioeau garddwriaethol ers canol y 19eg ganrif, ac mae'n parhau i ennill edmygwyr newydd diolch i ddyfnder ei blas a’i melysder naturiol. Mae’r nodweddion hyn mor bwysig fel bod tyfwyr yn mynd i drafferth fawr er mwyn sicrhau llinach yr eirin, gyda choed eirin newydd Dinbych ond yn gymwys os ydyn nhw’n cael eu clonio o goed Eirin Dinbych presennol (sydd heb eu tyfu o hadau, lle gall peillio heb reolaeth ddigwydd!). Os nad yw hynny'n ddigon, rhaid i'r eirin ddod o goed sydd wedi’u tyfu yn Nyffryn Clwyd, sydd â rhai o'r priddoedd mwyaf ffrwythlon yn y DU.

Ble i roi cynnig arni: I flasu pwdinau Eirin Dinbych, jamiau a hyd yn oed fodca, ewch i ŵyl fwyd flynyddol Gwledd Eirin Dinbych lle mae tua 100 o stondinau bwyd yn cymryd dros Neuadd y Dref Dinbych bob mis Hydref. Ar adegau eraill o'r flwyddyn, mae bwytai o gwmpas y dref yn cynnwys y ffrwythau chwedlonol ar eu bwydlenni.

Powlen o eirin.
Tarten eirin.
Eirin Dinbych

Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI)

Mae daearyddiaeth unigryw Sir Benfro sydd wedi ei amgylchynu gan y môr ar dair ochr, yn caniatáu i datws cynnar Sir Benfro cael eu tyfu’n gynnar! Mae'r môr sy’n cael ei gynhesu gan Lif Gwlff yr Iwerydd, yn cadw'r rhan greigiog hon o Gymru'n braf ac yn dwym, gan gadw’r rhew i ffwrdd a chaniatáu amodau tyfu yn y pridd tywodfaen coch y rhanbarth sydd eisoes yn gyfoethog. Gan eu bod yn cael eu cynaeafu (yn aml gyda llaw) yn ifanc, mae pobl yn dwlu ar groen meddal a blas daearol cneuog cryf tatws cynnar Sir Benfro.

Ble i roi cynnig arni: Yn ystod y tymor (tua mis Mai i fis Awst), mae tatws cynnar Sir Benfro ar fwydlenni bwytai cain a thafarndai lleol fel ei gilydd o amgylch Sir Benfro, gan gynnwys Jabajak, bwyty sydd wedi’i leoli o fewn gwinllan fawr ger Hendy-gwyn.

Powlen o datws wrth ymyl potel a gwydraid o siampên.
Tatws Cynnar Sir Benfro

Perai Cymreig Traddodiadol (PGI)

Er iddi gael ei gredu bod perai wedi cael ei fragu ar ffermydd Cymru ers yr 17eg ganrif, erbyn y 1970au, roedd y broses o gynhyrchu’r ddiod alcoholig felys hon o ellyg wedi bron â dod i ben yng Nghymru. Diolch i'r drefn, yn union fel seidr, mae perai wedi mwynhau dadeni yn ystod y degawdau diwethaf ac erbyn hyn mae 20 o wneuthurwyr perai yn y wlad. I gymhwyso fel perai traddodiadol Cymreig, dim ond y sudd o ellyg sy'n cael eu tyfu yng Nghymru y gellir eu defnyddio, ac mae mathau gwahanol o ellyg yn cael eu cymysgu gyda'i gilydd er mwyn rhoi blas i'r ddiod sydd naill ai'n ffres ac yn sych neu'n felys ac yn ffrwythus.

Ble i roi cynnig arni: Ewch i Ŵyl Perai a Seidr Cymru i flasu’r Perai Traddodiadol Cymreig gorau. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Cil-y-coed bob mis Mehefin, lle mae gwobrau yn cael eu rhoi am berai gorau’r flwyddyn. Fel arall, mae'r Ross on Wye Cider and Perry Company yn cynnig teithiau a chyfloed i flasu’r cynnyrch drwy gydol y flwyddyn.

Gwydraid o berai eirin wrth ymyl eirin.
Perai Traddodiadol Cymru

Cambrian Mountains Lamb (PGI)

Mae ymdeimlad o hynafiaeth ym Mynyddoedd Cambria sy’n werddon werdd enfawr yng Nghanolbarth Cymru heb lawer o aneddiadau dynol na hyd yn oed ffyrdd yn rhedeg trwyddi. Nid yw'n syndod bod yr ymdeimlad hwn o hynafiaeth yn cael ei adlewyrchu yn yr arferion ffermio sy'n digwydd yn yr ardal, sydd wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers yr Oesoedd Canol. Mae wedi’i ddweud bod yr arferion traddodiadol cynhenid cynaliadwy hyn yn rhoi blas arbennig i Gig Oen Mynydd Cambria, gyda’r ŵyn yn cael y cyfle i ddatblygu’n araf ac yn naturiol yn yr amgylchedd hwn sy’n llawn llystyfiant, gan arwain yn y pen draw at gig sy’n dyner ac yn suddlon ac yn boblogaidd iawn.

Ble i roi cynnig arni: Mae ‘n gallu bod yn anodd dod o hyd i Gig Oen Mynydd Cambria gan ei fod ar gael am gyfnod weddol fyr (Medi i Ragfyr). Ewch i siopau cigydd lleol mewn trefi yn ardal Mynyddoedd y Cambria fel y dref bert Llanidloes i brynu’r cig arbennig hwn. Fodd bynnag, yn ystod y tymor, mae’n bosibl dod o hyd i’r danteithfwyd hwn mewn archfarchnadoedd ar draws Cymru.

Golygfa dros fynyddoedd y Cambria.
Mynyddoedd Cambria

Halen Môn (PDO)

Dim ond halen yw e, ie? Nage. Mae Halen Môn yn addas i frenhinoedd, yn llythrennol: mae wedi bod ar dablau llawer o achlysuron brenhinol, yn ogystal â digwyddiadau rhyngwladol (megis Gemau Olympaidd Llundain) ac uwchgynadleddau gwleidyddol (mae'n debyg bod Barack Obama yn ffan!). Mae halen wedi’i gynhyrchu ar Ynys Môn, oddi ar arfordir gogledd Cymru, ers cyfnod y Rhufeiniaid, ac mae cwmni Halen Môn wedi bod yn creu ei gynnyrch enwog ers 1997. Mae dŵr pur, llawn mwynau yn cael ei dynnu o Afon Menai sy'n llifo'n gyflym i ffatri brosesu, lle mae’n cael ei gribino â llaw i naddion gwyn crensiog. Mae gan yr halen flas glân, ac nid oes ganddo’r chwerwder sy'n gysylltiedig â gormod o galsiwm.

Ble i roi cynnig arni: Mae Halen Môn yn cael ei ddefnyddio yn rhai o fwytai mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys bwyty tair seren Michelin The Fat Duck Heston Blumenthal. Ond does dim lle gwell i flasu Halen Môr na Swains ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Y siop gigydd leol oedd y lle cyntaf i stocio'r halen ac mae'n dal i'w werthu heddiw.

Pacedi o halen ar gownter.
Dyn yn gweithio i gynhyrchu'r halen.
Halen Môn

Cregyn Gleision Conwy (PDO)

Os ydych chi’n codi’n gynnar yn nhref Conwy efallai y byddwch chi'n gweld gang o ddynion cryf yn cerdded drwy'r strydoedd gyda chribiniau mawr. Ond dyw'r dynion yma ddim yn clirio dail o'r palmentydd, maen nhw’n bysgotwyr. Mae cregyn cleision yn aber Conwy yn cael eu dal gan gribin o hyd. Mae’n grefft hynafol anodd ei meistroli sydd wedi parhau hyd heddiw oherwydd ei bod yn gynaliadwy. Mae’r cribo’n helpu i gadw stociau’r cregyn gleision yn uchel drwy ganiatáu cregyn gleision llai i ddisgyn drwy’r bylchau. Mae dyfroedd dwfn yr aber yn berffaith ar gyfer tyfu cregyn gleision, gyda chymysgedd o ddŵr y môr ac afonydd sy'n uchel mewn maetholion, sy'n arwain at greu cregyn gleision mawr sy'n adnabyddus am eu blas cyfoethog, hallt.

Ble i roi cynnig arni: Yn ystod y tymor (tua Medi i Chwefror) gallwch chi flasu Cregyn Gleision Conwy yn ffres o'r ffynhonnell drwy fynd i'r siop ar-lein yn Conwy Mussels Co sydd wedi ei leoli ar harbwr y dref. Mae'r cregyn gleision yn cael eu dal y diwrnod hwnnw, ond unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw wedi mynd; felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi siom. Fel arall, mae gan nifer o leoliadau Conwy gregyn gleision ar y fwydlen fel pryd o fwyd arbennig yn ystod misoedd y gaeaf, gan gynnwys Gwesty'r Castell.

A bowl of cooked mussels.
Powlen o Gregyn Gleision Conwy

Cennin Cymru (PGI)

Mae'r genhinen ddiymhongar wedi cael ei ystyried ers tro yn symbol o Gymru. Yn ôl bob sôn mae’r cysylltiad yn deillio o frwydr o'r 7fed ganrif, lle gorchmynnodd brenin Cymreig, Cadwaladr, i'w ddynion strapio cenhinen i'w harfwisg i wahaniaethu cyfaill o’r gelyn ar faes y gad. Oherwydd hyn byddwch chi'n dal i weld cennin yn cael eu rhoi ar ddillad ar ddiwrnod gwledd ein nawddsant, Dydd Gŵyl Dewi. Er ein bod yn eu gwisgo unwaith y flwyddyn, rydym yn bwyta'r llysiau gwreiddyn blasus hyn yn llawer amlach, gyda'r math Cymreig gwarchodedig yn cael ei hyrwyddo am ei flas pupur, ynghyd â'i arogl daearol a'i liw gwyrdd byw. Y nodweddion hyn sy'n eu gwneud yn ychwanegiad delfrydol yn Ein Cawl Cenedlaethol – neu mae’n berffaith ar gyfer paru â siaced smart.

Ble i roi cynnig arni: Gallwch chi ddod o hyd i Gennin Cymreig mewn bwytai ledled y wlad, ond dylech chi eu blasu mewn cawl Cymreig clasurol i sgorio pwyntiau gwladgarwch ychwanegol. Mae'r caffi yn Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, lle cafodd yr awdur Roald Dahl ei fedyddio, yn gweini cawl arbennig o flasus.

Powlen o gawl gyda llysiau.
Powlen o gawl.

Straeon cysylltiedig

Syrffwyr a van, Rest Bay

Cwestiwn o gydbwysedd

Mae taith i’r gwaith gyda golygfeydd, syrffio ar ôl gwaith a gwyliau penwythnos yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru.

Pynciau: