Roedd yn edrych yn hwyl!
Dechreuais Hwylio mewn dingis plastig ar Gronfa Ddŵr Llanisien ychydig y tu allan i Gaerdydd, gan dreulio bob nos a phob penwythnos posib yn chwarae o gwmpas mewn cychod gyda ffrindiau. Dyna sut y dechreuais rasio hefyd.
Wnes i lawer o’m hyfforddiant cynnar ar Lyn Tegid
Mae maint y llyn mor wych ar gyfer lleoliad mewndirol - mae'n teimlo'n enfawr mewn cwch bychan - ac mae'r cyfleusterau o safon ac yn cael eu rhedeg yn dda. Roeddem wrth ein boddau yn hwylio yma ar gyrsiau penwythnos ond gallwch hefyd fynd am ddiwrnod allan fel teulu a mwynhau golygfeydd Eryri. Roeddwn hefyd yn hwylio o’r Mwmbwls, sy'n brofiad hollol wahanol eto. Yn amlwg y golygfeydd oherwydd eich bod ychydig oddi ar Abertawe, ond hefyd oherwydd bod llawer o lanwau, sy’n golygu eich bod yn symud o gwmpas llawer, sy'n ychwanegu at y cyffro mewn dingi bychan, ac mae’r Gwŷr mor agos, sy'n wych ar gyfer gweithgareddau eraill.


Roedd y rhan fwyaf o'm hwylio hyd at 18 oed ym Mhen Llŷn
Roeddwn wrth fy modd. Gallwch gael ymchwydd mawr mewn mannau – llawer o hwyl mewn dingi – ac rydych chi'n hwylio nid nepell oddi ar y traeth mewn cystadlaethau gyda phobl o bob cwr o Brydain. Ac wrth gwrs mae'r golygfeydd yn brydferth: rydych chi allan ar y môr ac mae'r golygfeydd mynyddig mwyaf anhygoel o'ch blaen.
Doeddwn i ddim wir yn gwerthfawrogi Cymru pan oeddwn i'n iau
Mae fy hwylio nawr wedi ei leoli ar arfordir de Lloegr neu dramor, ond rwy'n mynd yn ôl yno i roi hyfforddiant a phob tro’n meddwl mor anhygoel yw’r lle.
Mae hwylio yn gamp mor anhygoel: rydych chi ar y dŵr, yn rhydd, wedi’ch rhyddhau o bopeth ar y tir ac yn gallu mwynhau'r elfennau ar eu gorau."
Er hyn, yr hyn dw i’n sylwi arno fwyaf wrth ddod yn ôl, yw faint mae hwylio yng Nghymru wedi datblygu
Pan oeddwn i'n byw yno, doedd hwylio ym Mae Caerdydd ddim wir yn bodoli. Erbyn hyn mae 50 i 100 o blant ar y dŵr bob penwythnos ac mae'r bae ei hun yn wych. Ym mis Medi 2012, hwyliais yno gyda Thîm Cymru ym Mhencampwriaethau Extreme 40. Mae Bae Caerdydd yn amffitheatr naturiol, ac roedd rasio'r catamaranau cyflym mawr hyn yn y gofod amgaeedig yma gyda’r dorf gartref yn fy nghefnogi yn wych – bron fel y Gemau Olympaidd eto.
Mae'n gyfnod cyffrous iawn i hwylio yng Nghymru – rwy'n gobeithio'n fawr y bydd fy llwyddiant yn y Gemau Olympaidd a'r profiad o weld yr Extreme 40s yn ysbrydoli mwy o bobl i fynd ar y dŵr.



Mae hynny'n rhan o'r llawenydd o hwylio yng Nghymru i mi
Mae'r Solent (culfor rhwng Ynys Wyth a Lloegr) yn le gwych i hwylio, ond gyda chymaint o gychod yno gall fod yn eithaf brawychus os ydych chi newydd ddechrau. Mae gan Gymru fwy o leoliadau sy'n addas i ddysgu, gyda llai o bobl ar y dŵr, ac mae hi mor gyfeillgar. Mae'r golygfeydd yn well, hefyd, wrth gwrs.