Dyma rygbi. Dyma Gymru.

Rydw i’n falch o fy siwrnai o fod yn chwaraewr ifanc i fod yn gapten cenedlaethol

Mae gen i berthynas glòs iawn â Rygbi ac ymwybyddiaeth naturiol o bwy rydw i’n ei gynrychioli ac o ble rydw i’n dod – boed hynny’n sôn am Benrhyn Gŵyr, Dyffryn Abertawe neu fy ngwlad. Rydw i’n teimlo’r balchder hwnnw bob tro y byddaf i’n cynrychioli Cymru.

Mae crys Cymru yn eiconig

Dyma beth sy’n clymu arwyr y blynyddoedd a fu â’r chwaraewyr gwych sydd gennym ni heddiw. Mae gwisgo’r tair pluen yn ein cysylltu ni â thraddodiad o chwarae’n fedrus a dewr. Fel chwaraewyr, rydym ni’n geidwaid y crys a’r hyn mae’n ei gynrychioli. Mae’n dal disgwyliad a chyfrifoldeb – ac yn bwysicaf oll, yn gofyn inni fod yn esiampl i’r genhedlaeth nesaf.

Ross Moriarty, Rob Evans, Ken Owens and Alun Wyn Jones singing the anthem.
Ross Moriarty, Rob Evans, Ken Owens ac Alun Wyn Jones yn canu'r anthem genedlaethol yn Stadiwm y Principality

Dydi’r cyfle i gael parhau i chwarae dros Gymru fyth yn rhywbeth rydw i’n ei gymryd yn ganiataol

Mae yna deimlad gwirioneddol o gyflawni rhywbeth wrth wneud yr hyn rydw i’n ei wneud. Fel chwaraewr, rydych chi’n agored â’ch emosiynau – ac mae ennill yn felysach fyth wrth ichi sylweddoli cymaint mae’n ei olygu i weddill aelodau’r tîm o’ch cwmpas chi ac i’r tair miliwn o bobl sydd y tu cefn i chi.

Mae gwlad y gân yn teithio gyda chi, ac mae hynny’n beth arbennig iawn

Does dim ots ble yn y byd yr ydych chi: mae’r gefnogaeth gan ffans Cymru yn anhygoel. Ble bynnag rydych chi’n mynd – boed hynny i chwarae rygbi, ar wyliau neu gerdded i lawr y lôn – mae yna gydnabyddiaeth eich bod chi’n cynrychioli eich gwlad. A bydd y bobl hynny yn dweud mwy wrthych chi amdanoch chi eich hunan mae’n debyg nag y bydd gwrthwynebwyr fyth yn ei wneud.

Wales rugby fans in the street before a match wearing daffodil headbands.
Wales v England, Guinness Six Nations - Fans ahead of the game
Cefnogwyr Cymru cyn gêm Chwe Gwlad Guinness 2019 rhwng Cymru a Lloegr

Fel capten Cymru, rydw i wedi cyrraedd brig y gêm, ond rydw i’n dal i garu’r hyn rydw i’n ei wneud

Mewn gwirionedd, rydw i’n teimlo'r un fath â phan ddringais i’r rhengoedd yr holl flynyddoedd yn ôl. Rydw i’n gweithio mewn diwydiant tryloyw iawn. Mae gan bawb ar y tu allan farn ac maent yn barod iawn i ddweud yn blaen wrthych chi os ydych chi wedi gwneud yn dda neu os oes lle i wella. Fe gewch adborth yn syth bin - ond rydw i’n dal i fod y beirniad mwyaf llym ar fy mherfformiad fy hun!

Rydw i’n gyrru heibio fy nghyn-glybiau yn y Mwmbwls, Bôn-y-maen ac Abertawe yn ddyddiol – a dydw i byth yn anghofio mai dyna’r llefydd â’m gwnaeth i pwy ydw i heddiw

Rydw i’n ceisio peidio â gor-ramantu am y peth, ond mae’r teimlad o berthyn wir yn golygu rhywbeth i mi, ac rydw i’n cael fy atgoffa o hynny bob dydd. Mae rhai dyddiau lle rydw i’n gadael y tŷ am 6.00 y bore ac mae’r wawr yn torri dros Fae Abertawe, neu rydw i’n dod adre ar ôl diwrnod hir yn hyfforddi wrth i’r haul fachlud, ac rydw i’n meddwl, fe allwn i fod yn Ne Ffrainc, neu yn unrhyw le yn y byd – ond rydw i’n hapus yma.

Three Gilbert rugby balls on grass.
Aaron Wainwright of Wales wins a rugby line out during Wales v England.
Peli rygbi ar y gwair yn ystod sesiwn hyfforddi, ac Aaron Wainwright yn ennill llinell yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Principality

Ewch i unrhyw dref, pentref neu gymuned yng Nghymru ac fe ddowch chi o hyd i gae rygbi

Efallai y byddai rhai yn meddwl bod hyn yn rhyw ddelwedd ystrydebol o Gymru, ond mae’r gêm wir yn dod â chymunedau ynghyd. Nid ystrydeb ydi’r peth o gwbl. Rydw i’n gwybod fod pêl-droed a chwaraeon eraill yn dechrau ennill eu plwyf, ac mae hynny’n beth cadarnhaol. Ond hyd yn oed yn y pentrefi lleiaf yn ganol unman, fe ddowch chi o hyd i gae a physt rygbi. Mae hynny’n weddol unigryw i Gymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn haeddu pob clod am baratoi’r ffordd i ni yn Japan

Fe aethon nhw allan yno i’r maes a gwneud cysylltiadau da - a galla’ i ddim peidio â sôn am gyfraniad [prif hyfforddwr Cymru] Warren Gatland. Fel un o Seland Newydd, mae’n deall pwysigrwydd treftadaeth y Maori, ac fel mae parchu traddodiadau’r wlad sy’n ein croesawu yn hollbwysig. Yn yr un modd, rydym ninnau eisiau rhannu ein hunaniaeth â’r wlad sy’n ein croesawu - boed hynny drwy ganu caneuon Cymreig neu arddangos ein cysylltiad â’n hiaith a’n diwylliant. Ac rydym ni wedi gwylio yn gegrwth yr holl ymdrechion sydd wedi bod i wneud inni deimlo’n gartrefol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r teimlad o gyffro sydd ynghlwm â Chymru allan yn Japan yn gwbl anhygoel.

Alun Wyn Jones on the pitch at the end of Wales v South Africa in 2018.
A Welsh flag with Principality Stadium in the background.
Warren Gatland during a training session with Wales players in the background.
Alun Wyn Jones ar ôl buddugoliaeth Cymru yn 2018 yn erbyn De Affrica, baner Cymru, a Warren Gatland yn ystod sesiswn hyfforddi

Gall dewis Japan fel y wlad sy’n cynnal Cwpan Rygbi’r Byd drawsnewid y gêm yn fyd-eang

Dyma fy mhedwerydd twrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd, ac roedd y tri cyntaf i mi - Ffrainc, Seland Newydd a Lloegr - yn cael eu cynnal mewn gwledydd lle mae rygbi’n gêm sydd wedi hen sefydlu yno a lle mae’r gwledydd hynny wedi bod yn gryf iawn yn y twrnamaint. Mi wn i fod Japan wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr eraill fel Cwpan y Byd Pêl-droed a’r Gemau Olympaidd, ond fe allai hyn newid pethau i rygbi. Beth nad yw rhai’n ei sylweddoli yw fod hanes hir o rygbi yn Japan. Mae’r gêm yn adlewyrchu nifer o werthoedd y wlad: yn wir, mae’n wlad â’i chymdeithas yn draddodiadol, yn debyg iawn i Gymru mewn rhai ffyrdd.

The backs of the Wales players with Principality Stadium in the background.
Chwaraewyr Cymru yn sefyll ar gyfer yr anthem genedlaethol yn Stadiwm y Principality cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Awst 2019

Straeon cysylltiedig