Ond beth am ddechrau ar y copa. Ein mynydd uchaf, yr Wyddfa, yw un o’r copaon sy’n derbyn y nifer fwyaf o ymwelwyr ledled Ynysoedd Prydain. Dyma un o’r rhai hawsaf mynd iddo hefyd, diolch i’r rheilffordd enwog sydd wedi bod yn cludo teithwyr i ben y mynydd ers 1896.
Mae cerdded i’r copa’n fwy o her. Llwybr Llanberis yw’r un lleiaf serth (er mai dyma’r hiraf hefyd – rhaid talu’r pris bob amser), tra bo Crib Goch yn antur i gerddwyr sy’n cynnig gwefr gystal ag unrhyw beth gewch chi yn yr Alpau. Dim ond arbenigwyr sicr eu cerddediad ddylai fentro ar hwnnw, cofiwch. Y gwir diamau yw nad oes ots sut yr ewch chi i’r copa, yr un olygfa fendigedig fydd yn eich disgwyl. Ar ddiwrnod clir, gallwch droi ar eich sawdl fel ceiliog y gwynt a gweld Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ar bwyntiau gwahanol o’r cwmpawd.
Mae gan Gymru ardaloedd eraill o fynydd-dir gwyllt i’w harchwilio hefyd – gan gynnwys Mynyddoedd y Cambria, yr asgwrn cefn mynyddig sy’n gymaint nodwedd o’r Canolbarth. Dywedir mai cawr sy’n cysgu yw’r pwynt uchaf, Pumlumon. O sefyll ar ben y copa siâp ysgwydd, tua 752m (2,467troedfedd) uwchlaw ardal enfawr o rosdir sy’n denu cerddwyr mentrus a ‘bikepackers’ ar antur gwersylla dwy olwyn, dyw’r chwedl ddim mor anodd ei chredu…
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle delfrydol ar gyfer cerddwyr o ddifri a’r rheiny sy’n hoffi mynd am dro bach hamddenol. Ceir digonedd o leoliadau gwely a brecwast clyd mewn trefi marchnad bywiog fel y Fenni, Crughywel ac Aberhonddu ble gallwch leoli eich hun ar gyfer eich anturiaethau. Mae ucheldiroedd eraill, fel y Preselau yn Sir Benfro a Mynydd Du Sir Gâr hefyd yn berffaith ar gyfer dianc oddi wrth y torfeydd, dringo ambell gopa llai adnabyddus, a hawlio eich lle fel cerddwr o fri.
Mae tua 15% o dir Cymru’n goedwig. Ymysg y creaduriaid a welwch chi yn y fforestydd erbyn hyn, mae poblogaeth gynyddol o feicwyr mynydd, sy’n manteisio ar rai o’r llwybrau beicio gorau ar wyneb y ddaear. Mae hi’n drafodaeth ddiddiwedd rhwng y seiclwyr brwd hyn ynghylch pa rai sydd fwyaf cyffrous, ai Coed y Brenin ger Dolgellau ynteu Nant yr Arian uwchlaw Aberystwyth. Ac i’r bobl hynny sydd eisiau profi gwefr taranu i lawr llethrau heb orfod ymdrechu i ddringo’n ôl i’r brig, mae gan BikePark Wales ger Merthyr Tudful, ac Antur Stiniog yn Eryri, wasanaeth codi ar gyfer beicwyr a’u beiciau.
Fel y bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r chwedlau Arthuraidd yn gwybod, mae Cymru’n wlad y llynnoedd. Mae rhai ohonynt yn naturiol, rhai’n waith llaw dyn, ac mae llawer iawn ohonynt yn hardd i ryfeddu. Llyn Efyrnwy, a leolir ynghanol gwarchodfa natur, yw un o’r mwyaf trawiadol – yn rhannol oherwydd rhyfeddod yr argae o garreg a’r tŵr a allai fod wedi’i greu gan Disney, ond sydd mewn gwirionedd yn ffrwyth dychymyg a llafur peirianwyr Oes Fictoria.
Mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer hwylio cwch bach, ac mae’n lle poblogaidd ar gyfer cael saib wrth gerdded Ffordd Glyndŵr, un o’n llwybrau hirion mwyaf heriol. Cymar Efyrnwy o ran harddwch yw llyn mwyaf de Cymru, Llyn Syfaddan, ger Llangors ym Mannau Brycheiniog, sy’n adnabyddus am chwaraeon antur ar ddŵr a thir fel ei gilydd.
A rhaid i’r holl ddŵr yna gyrraedd y môr rywsut. Mae gan afonydd fel Dyfrdwy a Thryweryn yn y gogledd ddarnau o ddŵr gwyllt sy’n ddigon i brofi doniau’r caiacwyr a rafftwyr mwyaf profiadol. Os nad yw hynny’n ddigon o her i chi, mae yna gwrs o safon Olympaidd yng nghanolfan Dŵr Gwyllt Rhyngwladol Caerdydd, sy’n cynnwys digonedd o droeon a disgynfeydd dramatig.
Mae dyfroedd dioglyd rhannau isaf afonydd Gwy ac Wysg yn berffaith ar gyfer rhwyfo’n hamddenol. Gallech roi cynnig ar un o ddiddordebau awyr agored mwyaf newydd Cymru yma hyd yn oed - pac rafftio. Dyma gyfuniad o heicio a rafftio sy’n rhoi cyfle i chi archwilio bryniau, llynnoedd ac afonydd ar un antur, gan gario’r bad gyda chi.
Ar hyd ymylon Cymru fe gewch chi arfordir syfrdanol, a Llwybr Arfordir Cymru’n ymlwybro o gwmpas yr holl 870-milltir (1,400km) ohono. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg, ble datgelir miliynau o flynyddoedd o hanes daearegol gan y creigiau streipïog, cildraethau gwylltion gogledd Sir Benfro, a darnau tawel fel Trwyn Eilian (Point Lynas) ym Môn - un o’r lleoliadau gorau ym Mhrydain i weld dolffiniaid a llamhidyddion.
Mae arfordira yn rhodd gan Gymru i’r byd anturio, am mai yn ardal Tyddewi y dyfeisiwyd y gamp tua 30 mlynedd yn ôl. Fe’i disgrifir gan un o’r arloeswyr, Andy Middleton o TYF Adventure, fel ‘cyfuniad unigryw a hudol o ddringo, sgramblo, llamu a nofio ar hyd yr arfordir’.
Mae llawer o’r arfordir yn berffaith ar gyfer syrffio, a gallwch rannu’r tonnau â’r hyn a ddisgrifir gan gyn-bencampwr bwrdd hir Ewrop, Chris Griffiths o’r Mwmbwls fel ‘criw amrywiol o gymeriadau o bob math o gefndir’. Mae hyd yn oed y bosib mynd i syrffio yng nghefn gwlad os ewch chi ar ymweliad â Surf Snowdonia – llyn ffug ble gellir sicrhau tonnau perffaith, a lle delfrydol ar gyfer dechreuwyr a syrffwyr mwy profiadol.
Mae ynysoedd hardd, diarffordd fel Sgomer, Sgogwm ac Ynys Dewi yn y de, ac Enlli yn y gogledd (llawer o’u henwau Saesneg yn deillio o ymweliadau gan y Llychlynwyr ganrifoedd yn ôl) yn ddelfrydol ar gyfer mynd iddynt ar antur mewn cwch. Yn ogystal â chael cwmpeini eich cyd-deithwyr, mae’n debygol y bydd morloi, dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod yn gwmni i chi yn y dŵr, a huganod, palod a gwylogod uwch eich pen.
O gopa’r Wyddfa i donnau Cefnfor Iwerydd sy’n torri ar draethau Penrhyn Gŵyr, mae Cymru’n wlad ble gallwch ddewis eich antur eich hun.
Cadwch yn ddiogel!
Mae archwilio'r awyr agored yn hwyl, ond cofiwch ddarllen am y risgiau a pharatoi'n ddigonol.
- Canfyddwch gyngor diogelwch ar gyfer archwilio Parciau Cenedlaethol Cymru a chynghorion diogelwch ar gyfer cadw'n ddiogel ar arfordir Cymru, ar wefan Croeso Cymru.
- Ewch i AdventureSmart.uk am wybodaeth ar sut i aros yn ddiogel tra'n archwilio Cymru.