Mae gwreiddiau Cymru yn America yn mynd yn ddyfnach nag y credwch chi. Mae gan rai o’r teithwyr mwyaf dylanwadol a aeth o Ewrop i America gysylltiadau gyda’n gwlad fechan ni. O ystyried mai tua 360,000 o bobl oedd yn byw yng Nghymru yn yr 17eg ganrif, mae hyn yn rhywbeth i ryfeddu ato – er bod rhai yn credu bod cysylltiadau Cymru ag America yn hŷn.

Chwedlau Cymreig yng ngwreiddiau America

Os ydych chi’n credu’r llyfrau hanes cynharaf am Gymru – Cronica Walliae gan Humphrey Llwyd a Historie of Cambria (1589) gan y clerigwr, David Powel – glaniodd y Tywysog o Gymru, Madog, ar dir America tua’r flwyddyn 1170 – 320 o flynyddoedd cyn Christopher Columbus. Ac yn ôl y chwedl, dychwelodd i Gymru er mwyn mynd â mwy o ymsefydlwyr gydag ef. Defnyddiwyd y myth hwn gan Elizabeth I mewn ymgais i sicrhau bod gan Brydain fwy o hawl dros America nag yr oedd gan Sbaen ar ddiwedd yr 1500au.

Mae llinyn arall i’r chwedl yn awgrymu bod y sefydlwyr, yn y pen draw, wedi cwrdd â’r Mandan, sef llwyth o Americanwyr brodorol a ddysgodd sut i siarad Cymraeg. Yn yr 1790au, aeth John Evans, anturiaethwr 26 oed o Gaernarfon, i America i chwilio amdanyn nhw, ond ni lwyddodd i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth o’r Gymraeg pan gyrhaeddodd yno. Fodd bynnag, lluniodd fap cynnar o afon Missouri tra oedd ar ei daith. Fe greoedd Gruff Rhys o’r Super Furry Animals albwm a ffilm wych amdano, sef American Interior, yn 2014.

 

 

Yr ymsefydlwyr Cymreig cynnar

Yn 1681, rhoddodd y Brenin Siarl II 45,000 milltir sgwâr o dir yn America i’r Crynwr, William Penn, a ddymunai ei alw’n Gymru Newydd (ond mynnai Charles II y dylid ei alw’n Pennsylvania). Roedd llawer o Grynwyr Cymreig a siaradai Gymraeg wedi symud yno’n ddiweddar, gan ffoi rhag erledigaeth grefyddol adref. Sefydlwyd Tract Cymreig yn Philadelphia fel y gallai busnes y llywodraeth gael ei gynnal yn Gymraeg, ac roedd cynllun stryd y dref yn seiliedig ar bentref Caerwys yn Sir y Fflint. Mae enwau fel Arberth, Bala Cynwyd a Bryn Mawr yng ngorllewin Philadelphia heddiw yn dyst i’r gwreiddiau Cymreig cadarn hyn.

Yn y 18fed ganrif, ymfudodd mwy o Gymru i ardal yng ngorllewin Pennsylvania a adwaenir bellach fel Cambria County. Mae gan Delaware a’r ddwy Garolina wreiddiau Cymreig hefyd, ac enw rhan o Jackson County, Ohio, yw Little Wales. Roedd y Gymraeg yn cael ei siarad yn eang yma tan yr 20fed ganrif. Mae’n parhau hefyd: yn ôl cyfrifiad America yn 2010, roedd 135 o bobl yn dal i siarad yr iaith.

Black and white image of men working in a factory.
Bechgyn Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn Cymreig yn UDA wneud y gwaith hwn o oedran cynnar. Llun Amgueddfa Cymru.

Ffigurau Cymreig amlwg yn hanes cynnar America

Enwyd Prifysgol Iâl ar ôl y masnachwr o Brydain, Elihu Yale. Cymerodd ei deulu enw eu hen gartref, sef Plas yn Iâl ym mhentref Llanarmon yn Iâl, sydd i’r gorllewin o Wrecsam. Adeg ei eni yn 1649, roedd teulu Elihu yn byw yn Boston, Massachusetts. Daeth yn ddyn cefnog, a rhoddodd arian i brifysgol newydd yn Connecticut, a gymerodd ei enw fel teyrnged. Yn ddiweddarach yn ei oes, dychwelodd Elihu i Brydain, gan fyw yn Llundain ac yng nghartref ei daid, Plas Gronw ar Stad Erddig. Claddwyd Elihu ym mynwent Eglwys San Silyn yn Wrecsam, lle mae ei feddrod yn cynnwys y geiriau: “Ganed yn America, maged yn Ewrop”.

Sefydliad addysgiadol hynafol arall yn America yw coleg celfyddydau rhyddfrydol y merched Bryn Mawr, Philadelphia. Fe’i hadeiladwyd ar dir a roddwyd i Rowland Ellis gan William Penn yn yr 1680au. Mae hen ffermdy Ellis, o’r enw Bryn Mawr hefyd, yn dal i sefyll ger Dolgellau.

An old tomb covered in inscriptions.
A tombstone covered in Inscriptions
Bedd Elihu Yale, Wrecsam

Y Cymry Americanaidd a’r Cyfansoddiad, a’r deg Arlywydd Cymreig

Mae pobl o dras Gymreig wedi cael cryn effaith ar wleidyddiaeth America. Credir bod traean o’r 54 a lofnododd Ddatganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn 1776 â gwaed Cymreig. Yn eu plith roedd Francis Lewis, a aned yn Llandaf ac a symudodd i America yn 21 oed. Llofnododd y cyfansoddiad ar ran Efrog Newydd.

Mae gan deg o Arlywyddion America wreiddiau Cymreig. Roedd gan yr ail Arlywydd, John Adams (1797-1801), a’r chweched, sef ei fab, John Quincy Adams (1825-1829), deulu a hanai o Lanboidy, Sir Gaerfyrddin (roedd hen daid John Adams yn ffermwr tenant ym Manc-y-Llain, sydd bellach yn rhan o Stad Jabajak. Roedd y trydydd Arlywydd, Thomas Jefferson (1801-1809), hyd yn oed yn berchen ar eiriadur Cymraeg, a nododd fod teulu ei dad wedi “dod i’r wlad hon o Gymru, ac o ardal ger mynydd Eryri”.

Roedd gan James Madison, James Monroe a William Henry Harrison hynafiaid Cymreig, yn ogystal ag Abraham Lincoln. Roedd ei hen, hen daid, John Morris, yn ffermwr o Ysbyty Ifan ger Conwy (mae ei ysgubor, sydd bellach yn adfail, yn dal i fod yno). Ymfudodd ei ferch, Ellen, i America gyda’r Crynwyr. Cryfhaodd ei chysylltiadau Cymreig drwy briodas â Cadwaladr Evans o’r Bala. Bu dealltwriaeth Lincoln o’r Gymraeg yn sail i’w ymgyrch etholiadol yn 1860, pan sicrhaodd fod 100,000 o bamffledi etholiadol yn cael eu printio yn Gymraeg. Bu dyn arall o dras Gymreig yn ei wrthwynebu yn y Rhyfel Cartref flwyddyn yn ddiweddarach: Jefferson Davis, arweinydd y Taleithiau Cydffederal; ymfudodd ei deulu o Gymru i Philadelphia ar ddechrau’r 1700au.

Parhaodd y cyswllt rhwng y Cymry a phŵer wedi hyn. Roedd James Garfield (a lofruddiwyd ar ôl chwe mis o fod yn Arlywydd yn 1881) yn honni bod ganddo hynafiaid o Gaerffili, tra bo gan Richard Nixon (1969-1974) gysylltiadau ag ymfudwyr cynnar o Sir Gaerfyrddin a Sir Drefaldwyn. Cafodd hen, hen, hen, hen, hen daid Barack Obama, sef Robert Perry, ei eni ar Ynys Môn hefyd.  Obama yw’r unig Arlywydd i ymweld â Chymru tra oedd yn y swydd. Arhosodd yn y Celtic Manor ar gyfer yr uwchgynhadledd NATO yn 2014.

Mae gan un a fu’n ymgeisydd arlywyddol yn ddiweddar deulu o Gymru hefyd. Fe symudodd hen daid Hillary Clinton, sef John Jones, glöwr o Langynidr, i Pennsylvania yn 1879; a chredir i’w hen nain, Mary, ddod o’r Fenni. Derbyniodd Clinton radd ddoethur er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2017, a chafodd Coleg y Gyfraith a Throseddeg y brifysgol ei ailenwi’n Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

A woman standing at a lectern
Yr Ysgrifennydd Clinton yn siarad yn ystod seremoni ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017

Cymry Americanaidd nodedig eraill o’r 19eg ganrif

Lewis Henry Morgan oedd un o'r amddiffynwyr cynharaf o hawliau Americanwyr brodorol. Roedd yn anthropolegydd blaengar a ddylanwadodd ar waith Karl Marx. Symudodd ei deulu o Landaf i UDA yn 1636. Mudwr arall a frwydrodd yn erbyn y system oedd John Rees o Ferthyr Tudful. Ymladdodd ym Mrwydr Alamo yn 1836, cyn dychwelyd i Gasnewydd, Gwent. Roedd yn rhan o Orymdaith y Siartwyr yn y dref yn 1839, pan saethwyd 22 o wrthdystwyr yn farw.

Roedd sawl arweinydd busnes blaenllaw yn Gymry hefyd. Rhoddodd JP Morgan ei enw i fanc buddsoddi amlwladol: daw ei gyfenw o’i deulu yng Nghaerfyrddin.

Mae Los Angeles fodern yn ddyledus iawn i’r Cymro Griffith J. Griffith, a anwyd yn fferm Pen Y Bryn ger Bettws ger Pen-y-bont ar Ogwr. Yn amddifad yn blentyn, teithiodd i America yn 1860, astudiodd newyddiaduraeth, a daeth yn ohebydd mwyngloddio, gan wneud ei ffortiwn drwy fuddsoddi mewn mwyngloddiau arian. Cafodd fywyd cymhleth, a oedd yn cynnwys pyliau o alcoholiaeth ac fe saethodd ei wraig yn ei hwyneb o bellter agos – ond yn wyrthiol, fe oroesodd. Ar ôl darganfod parciau mawr Ewrop, fe benderfynodd y byddai angen parc tebyg ar ei gartref newydd yn Los Angeles. Felly rhoddodd 3,000 erw o dir i’r ddinas gael parc cyhoeddus, sydd hyd heddiw yn dwyn ei enw: Griffith Park. Sefydlodd gronfeydd ymddiriedolaeth hefyd, felly ar ôl iddo farw gallai’r ddinas barhau i ddatblygu prosiectau hamdden; roedd ei arian yn cefnogi adeiladu Arsyllfa Griffith, amffitheatr newydd, Neuadd Gwyddoniaeth, Sw Los Angeles, Canolfan Genedlaethol i’r Gorllewin Gwyllt, a phedwar cwrs golff trefol (Garw Valley Heritage Society).

Ffigur llai adnabyddus sy’n haeddu cael ei hadnabod yw Martha “Mattie” Hughes Cannon, y Seneddwraig daleithiol gyntaf i gael ei hethol yn UDA. Fe’i ganed ger Llandudno ac ymfudodd gyda’i theulu yn 1860, cyn dod yn feddyg ac yn ymgyrchydd dros hawliau merched. Pan geisiodd gael ei hethol yn Seneddwraig, llwyddodd i guro ei gŵr a oedd hefyd yn ymgeisydd.

Ymgyrch Menywod Cymru dros heddwch

Yn 1923, arwyddodd 390,296 o ferched Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, a gydlynwyd gan Undeb Gymreig Cynghrair y Cenhedloedd. Roeddynt yn galw ar America i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd er mwyn atal argyfwng rhyfel arall yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflwynodd y ddirprwyaeth o Gymru, o dan arweiniad Annie Jane Hughes-Griffiths, y ddeiseb i Arlywydd yr UDA, Calvin Coolidge, ar y cyd â Chynghrair Cenedlaethol y Pleidleiswyr Benywaidd, a gynrychiolai miliynau o fenywod yn America. Roedd y weithred hon yn ychwanegiad pellach i dreftadaeth heddwch gyfoethog Cymru.

Gallwch weld llun o Hughes-Griffiths yn cyflwyno’r ddeiseb ar waelod yr erthygl hon.

The cover of an old brown book entitled Yr Apel
An open book showing the introductory text to a peace petition.
Yr Apêl. Wedi’i llofnodi gan 390,296 o fenywod ledled Cymru, roedd yr apêl yn galw ar America i ymuno â’r ymdrech i sicrhau heddwch yn y byd drwy Gynghrair y Cenhedloedd (Cymru dros Heddwch | Wales for Peace).

Americanwyr yn glanio ar dir Prydain

Yn yr 20fed ganrif, bu Americanwyr yn glanio yng Nghymru mewn ffyrdd anarferol. Fe wnaeth Amelia Earhart hynny mewn modd cofiadwy yn 1928. Hi yw’r ferch gyntaf i hedfan gyda thîm ar draws yr Iwerydd, a glaniodd yn ardal Pwll ger Porth Tywyn. Mae carreg ger cei Porth Tywyn yn coffáu ei thaith.

Fe wnaeth y perchennog papur newydd, William Randolph Hearst, dipyn o sblash yn 1925 pan benderfynodd ei fod am brynu castell Cymreig. Ar ôl prynu Castell Sain Dunwyd yn Llanilltud Fawr, adferodd y castell (a’i newid) mewn modd gregaraidd. Cynhaliwyd partïon mawr yno ar gyfer Frank Sinatra, Charlie Chaplin a’r John F. Kennedy ifanc. Yn ddiweddarach, fe’i gwerthwyd i Goleg yr Iwerydd, sy’n dal i’w ddefnyddio hyd heddiw. Gallwch weld y castell yn y ddelwedd ar frig yr erthygl hon.

Exterior shot of the entrance to an old castle.
Castell Sain Dunwyd, Llanilltud Fawr. Prynwyd ac adferwyd gan William Randolph Hearst.

Glaniodd miloedd o filwyr Americanaidd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyrhaeddodd llawer ohonyn nhw gymoedd de Cymru mewn confois oedd yn chwifio baneri, neu oddi ar drenau o ardaloedd mor amrywiol â Thonypandy a Dinbych-y-pysgod. Bu’r milwyr yn cymysgu â chymunedau lleol, gan fynd i ddawnsfeydd a phriodi pobl leol yn aml; roedden nhw hefyd yn hyfforddi ar gyfer glaniadau D-Day ar Draeth Horton yng Ngŵyr. Daeth hyd yn oed y Cadfridog Dwight Eisenhower i orllewin Cymru ar drên er mwyn ymweld â’r milwyr. Mae hefyd si yn dal i fodoli yn ardal Hwlffordd bod y pencampwr bocsio pwysau trwm, Rocky Marciano, wedi ei leoli yno.

long grass in the foreground with sandy beach and blue sea and sky in background.
Traeth Horton, lle bu milwyr yr UDA yn hyfforddi ar gyfer Glaniadau D-Day.

Enwogion Cymreig-Americanaidd eraill o’r 20fed ganrif

Roedd mam Frank Lloyd Wright, un o benseiri mwyaf y byd, yn dod o Gymru. Gadawodd ardal Llandysul yn bump oed yn 1844, gan deithio gyda’i theulu i America. Roedd y gwreiddiau Cymreig yn gryf yn ei mab. Cafodd y stad flaengar a adeiladodd i’w hun yn yr 1930au ei henwi ar ôl y bardd Cymraeg, Taliesin.

Mae gan lawer o enwogion Hollywood gysylltiadau â Chymru hefyd. Cafodd Peg Entwhistle, yr actores a daflodd ei hun oddi ar yr arwydd Hollywood, ei geni ym Mhort Talbot lle roedd ei nain yn byw. Mae’r dref ddiwydiannol wedi cynhyrchu rhagor o sêr, fel Anthony Hopkins, sydd bellach wedi ei wneud yn ddinesydd o America. Roedd gan Bette Davis deulu o Gymru hefyd, a chynhaliodd gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd yn 1975. Soniodd am ei gwreiddiau yn y gynhadledd, ac fe wnaeth hi hyd yn oed ddweud “nos da” i’w gwesteion wrth ffarwelio.

Dydyn ni ddim wedi sôn am y ffigurau mawr eraill o’r byd celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru eto. Bu farw Dylan Thomas yn Efrog Newydd yn 1953, ac ysbrydolodd enw un o gerddorion enwocaf y byd, Bob Dylan. Mae gan rai cynhyrchwyr cerddoriaeth blaengar gysylltiadau â Chymru hefyd, fel Quincy Jones; roedd ei daid ar ochr ei dad yn Gymro. Bu Nile Rodgers hefyd, a welodd ferched yn dawnsio gyntaf mewn clwb nos ar bier Bae Colwyn, yn byw yn y dref.

Ddoe a heddiw, mae Cymru’n dal i lywio hanes America, o fythau hynafol i straeon cyfoes. Boed i ni i gyd ddarganfod mwy – draw yn America, ac yma yng Nghymru.

Dysgwch fwy:

Delwedd frig: Castell Sain Dunwyd yn Llanilltud Fawr a brynwyd ac a adferwyd gan William Randolph Hearst. Mae bellach yn gartref i Goleg yr Iwerydd.

A historical image of four women in the 1920s holding an open petition
Yn 1923, arwyddodd 390,296 o ferched Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, a gydlynwyd gan Undeb Gymreig Cynghrair y Cenhedloedd. Roeddynt yn galw ar America i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd er mwyn atal argyfwng rhyfel arall yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflwynodd y ddirprwyaeth o Gymru, o dan arweiniad Annie Jane Hughes-Griffiths (tynnwyd y llun uchod yn Washington, Mawrth 1924), y ddeiseb i Arlywydd yr UDA, Calvin Coolidge, ar y cyd â Chynghrair Cenedlaethol y Pleidleiswyr Benywaidd, a gynrychiolai miliynau o fenywod yn America. Roedd y weithred hon yn ychwanegiad pellach i dreftadaeth heddwch gyfoethog Cymru. Llun drwy garedigrwydd Cymru dros Heddwch.  

Straeon cysylltiedig