Gwneud Cyflaith, Gorymdeithiau Fflam a Chanu Plygain ar Noswyl Nadolig a Bore Nadolig

Am 3 o’r gloch fore’r Nadolig yn y 18fed a’r 19eg ganrif, byddai eglwyswyr Cymru yn gadael eu tai yng ngolau tortsh neu gannwyll i fynd i’r Plygain, gwasanaeth o garolau a ganwyd a capella gan unawdau, grwpiau a chorau. Tybir fod y gair plygain yn tarddu o’r gair plygu, fel petai mewn gweddi, neu o gysylltiad â'r gair Lladin pullicantio , sy'n golygu addoli wrth i'r ceiliog ganu gyda'r wawr.

Roedd eglwyswyr y Plygain yn aml wedi aros ar eu traed drwy gydol Noswyl Nadolig, neu fel y'i gelwid mewn rhai ardaloedd, Noson Gyflaith. Byddai slabiau o daffi yn cael eu gwneud o amgylch y tân wrth i gemau gael eu chwarae, a straeon celwydd golau gael eu hadrodd. Noson Gyflaith hefyd oedd y noson i addurno tai â chelyn ac uchelwydd, cyn i’r orymdaith cyn y wawr ddechrau i’r eglwys.

Tynnu Cyflaith Nadolig

Mae’r gorymdeithiau hyn wedi’u cofnodi mewn llyfrau hanes o Dalacharn i Ddolgellau i Lanfair Dyffryn Clwyd, gyda’r goleuadau’n rhan hanfodol o’r dathliadau (fel y maent mewn cynifer o wyliau golau o gwmpas y byd). Byddai ficer yr eglwys yn cael ei arwain yn aml gan y ffaglau hyn hefyd, ac roedd corn buwch yn canu'n uchel, cyn i'r gwasanaeth ddechrau.

Mae rhai wedi awgrymu bod poblogrwydd y Plygain bryd hynny oherwydd y cynnydd mewn canu carolau Cymraeg, ar ôl dosbarthiad torfol y Beibl Cymraeg. Mae rhai eglwysi wedi adfywio’r traddodiad heddiw, gyda gwasanaethau’n cael eu cynnal yng Nghadeirlan Tyddewi ac ar draws gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae nifer yn cael eu cynnal cyn y Nadolig y dyddiau hyn, a diolch byth nid yng nghanol y nos.

Golwg o’r tu allan i eglwys gyda’i waliau wedi eu gwyngalchu.
Y tu mewn i eglwys gyda’i mynedfa fwaog, murluniau ar waliau a phren ar y nenfwd.
Mae Eglwys Teilo Sant, Sain Ffagan yn cynnal gwasanaethau Plygain

Nofio Gaeaf Cymru

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn treulio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan yn gorffwys neu’n gwella, ond mae cannoedd o fabis dŵr Cymru hefyd yn mentro i’r tonnau. Mae Porthcawl wedi cynnal sesiwn nofio ar fore Nadolig bellach ers dros 50 mlynedd, a Gŵyl San Steffan yw’r diwrnod ar gyfer rhincian dannedd a chyrff rhewllyd ar Draeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod a Chefn Sidan ym Mhen-bre. Mae Abersoch, Porth Mawr, Morfa Nefyn a Saundersfoot hefyd yn cynnal sesiynau nofio ond ar Ddydd Calan; mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau ledled y wlad yn codi arian at elusennau. Mae croeso i bobl hefyd sefyll ar y graean neu'r tywod i godi calon pobl wrth iddynt wichian yn y tonnau gaeafol.

Gwybodaeth am Sesiynau Nofio Nadoligaidd ar wefan Croeso Cymru.

Pobl mewn gwisgoedd Nadoligaidd yn neidio i’r awyr yn y môr.
Nofio ar Ŵyl San Steffan yn Ninbych-y-pysgod

Gwasaelio gyda'r Fari Lwyd

Yn hen draddodiad o dde Cymru sy’n cael adfywiad yn y blynyddoedd diwethaf, mae golygfa’r Fari Lwyd yn gorymdeithio o amgylch y dref yn un na fyddwch yn debygol o’i hanghofio. Penglog ceffyl yw’r Fari ei hun sy’n cael ei gludo ar bolyn hir gan berson wedi’i guddio o dan glogyn, wedi’i arwain o gwmpas gan griw o wasaelwyr. Yn draddodiadol, byddai’r criw’n curo drysau yn eu pentref rhwng Dydd Nadolig a Nos Ystwyll, ac yn cymryd rhan mewn defod odli o’r enw pwnco, yn gyfnewid am fwyd a chwrw. Heddiw, mae'r Mariaid hefyd i'w gweld yn aml, wedi'u haddurno'n ecsentrig, mewn gwyliau lleol trwy fis Rhagfyr a mis Ionawr.

Traddodiad y Fari Lwyd - BBC Cymru

Rasys Ffordd Nos Galan

Mae bron i 2,000 o redwyr yn cyrraedd tref Aberpennar yng nghymoedd y de ar brynhawn Nos Galan. Maen nhw yno i goffáu Guto Nyth Brân, rhedwr a oedd yn byw ym mhentref Llwyncelyn ar ddechrau’r 1700au. Roedd mor gyflym, yn ôl y chwedl, y gallai redeg i Bontypridd ac yn ôl – pellter o saith milltir – cyn i degell ei fam ferwi.

Wedi'i sefydlu ym 1958 gan y rhedwr lleol Bernard Baldwin, mae Rasys Nos Galan yn dechrau gyda gwasanaeth eglwys yn Llanwynno, lle gosodir torch ar fedd Brân, a chynnau fflachlamp (mae'r rhedwr clwydi Olympaidd Colin Jackson a chapten rygbi Cymru Sam Warburton wedi bod yn bresennol yn y seremoni hon yn y blynyddoedd diwethaf). Yna mae'r ffagl yn cael ei chludo i'r dref, gyda chystadlaethau'n cael eu cynnal ar gyfer oedolion a phlant. Roedd y rasys yn arfer dod i ben am hanner nos i groesawu’r Flwyddyn Newydd; maen nhw bellach yn gorffen am 9.30 sy'n fwy addas i deuluoedd.

Llun o dri dyn yn y nos yn cyrcydu ger bedd gyda thorch a ffagl wedi ei chynnau.
cerflun o ddyn yn rhedeg (Guto Nyth Brân) gyda llinynnau aml-liw o oleuadau yn y cefndir.
rhedwyr y ras.
Rasys Nos Galan

Dathliadau Calennig

Yng Nghymoedd de Cymru a Sir Fynwy, roedd Calennig yn ddathliad Dydd Calan a fwynhawyd gan blant. Byddent yn canu neu'n adrodd rhigymau o ddrws i ddrws yn gyfnewid am fara a chaws, melysion neu arian, ac yn cario afal neu oren ar dair ffon, â chnau, ceirch, perlysiau a dail bytholwyrdd. Roedd yr eitemau hynod hyn yn cael eu hystyried yn arwyddion o lwc; byddent hefyd yn aml yn cael eu rhoi mewn ffenestri tai, neu'n cael eu rhoi yn anrhegion lwc dda, o ganlyniad.

Grŵp o Faris gyda phobl.
Grŵp o sawl Mari Lwyd yng Nghas-gwent Gwasael Mari Lwyd

Dathliadau’r Hen Galan

Mae trigolion Cwm Gwaun yng ngogledd Sir Benfro yn dal i ddathlu Blwyddyn Newydd Calendr Julian, calendr a ddiddymwyd ym Mhrydain yn 1752 (felly yr Hen Galan: yr Hen Ddydd Cyntaf ). Arferai dathliadau gynnwys ffermwyr yn macsu (bragu) eu cwrw eu hunain, a phobl leol yn ymweld â thai ei gilydd; maent yn dal i gynnwys gwledd ar yr un lefel â’r cinio Nadolig traddodiadol, a thaith i sefydliad lleol, Y Dyffryn Arms, a adwaenir yn lleol fel Bessie’s, i dorri syched.

Mae'n ddigon i wneud i chi hiraethu am y gaeaf yng Nghymru. Iechyd da

Straeon cysylltiedig