Pa Bethau Bychain fyddi di’n eu dathlu? Rhanna dy ddewis hefo ni ar gyfryngau @CroesoCymru, @Cymraeg, neu wrth ddefnyddio #PethauBychain.

Beth am roi sialens i dy hun a gweld faint o Bethau Bychain ‘alli di eu gwneud a’u rhannu mewn 24 awr? Dyma rai syniadau iti...

#1 Chwifia'r Ddraig

Baner Cymru yw’r orau yn y byd. Ffaith. Cofia ddathlu'r Ddraig Goch a chwifio’r faner hefo balchder.

Er bod dreigiau ar fflagiau Bhutan a Malta hefyd, Cymru yw’r unig un sydd hefo’r Ddraig Goch. Ond pam y Ddraig Goch? Wyt ti’n gwybod y chwedl am y frwydr enwog hefo’r Ddraig Wen, a sut enillodd y Ddraig Goch ei lle ar ein baner?

Mae’r faner Gymreig yn chwifio yn y gwynt

#2 Gwisg genhinen

‘Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon' - ein cenhinen genedlaethol a’r eitem ffasiwn fwyaf cŵl i binio ar het neu siwmper. I fod hyd yn oed mwy Cymreig - bwyta dy genhinen ar ddiwedd y dydd!

Mae digonedd o chwedlau am sut enillodd y genhinen ei lle fel symbol cenedlaethol - mae rhai yn dadlau bod ei gwreiddiau yn mynd mor ddwfn â’r 7fed ganrif a bod byddin Cadwaladr, Brenin Gwynedd ar y pryd, yn gwisgo cennin er mwyn adnabod eu cyd-filwyr ar faes y gad. Mae eraill yn dweud ei bod yn mynd yn ôl ymhellach i ddyddiau Taliesin yn y 6ed ganrif. 

Merch ifanc mewn het draddodiadol Gymreig a siwmper goch yn dangos cenhinen wedi ei binio ar ei siwmper

#3 Cwtsh 

Mae’n fwy na ‘hug’, mae’n fwy na ‘cuddle’, ac mae’n fwy na geiriau ar glustog! Mae’n gynnes, yn garedig ac yn Gymreig. Rho gwtsh llawn cariad i dy deulu neu i dy anifail anwes.

Tad a babi yn cael cwtsh. Mae cefn y tad tuag at y camera

#4 Llond llwy o gariad

O undod y goes bren droellog, i glymau di-ddiwedd y cwlwm Celtaidd, a chynhesrwydd y galon - mae gan bob symbol llwy garu ei neges unigryw ei hun sy’n cael eu plethu â stori ramantaidd. Mae’r llwy garu hynaf Cymru yn dyddio’n ôl i 1667 ac mae hi i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Neu, os am droi at lwy fwy modern, cer i ddisgyn mewn cariad â Chasgliad yr artist Ceini Spiller.

#5 Dewisa ddysgwr

Gwna ffrindiau hefo siaradwr Cymraeg newydd. Sgwrsiwch dros y ffôn neu dros baned - bydd un neu ddau o eiriau bychain yr wythnos yn mynd yn bell.

Y Gymraeg yw’r iaith sy’n tyfu cyflymaf yn y DU ar Duolingo, ac mae apiau gwych eraill fel Say Something in Welsh neu gyrsiau preswyl yng nghanolfan Nant Gwrtheyrn ar gael i helpu’r dysgu - ond, does dim yn curo paned o de i roi’r byd yn ei le hefo ffrind wrth ymarfer.

#6 Pryna beint i Dewi

Oes yno rywun o’r enw Dewi wrth y bar? Beth am ‘Dafydd’, neu ‘Dai’? Ac mae ‘Non’ yn cyfrif hefyd, wrth gwrs - i ddathlu mam Dewi Sant. Mae unrhyw un sy’n rhannu enw Sant, neu fam i sant, yn haeddu eu dathlu, ac mae digonedd o dafarndai hen a hynod a thafarndai cymunedol yng Nghymru i ddewis ohonynt. Be gymri di Dewi? Peint o gwrw melyn Glyndŵr, Cwrw Llyn? Cwrw tywyll Monty’s? Neu cwrw di-alcohol Drop Bear Beer? A beth am Non - wisgi Penderyn neu Jin Treganna? Gwin Cymreig o Winllan Llaethliw i Dafydd? Peint o ddŵr byddai'r Dewi gwreiddiol wedi’i ddewis mae’n debyg. Iechyd da!

Peint o gwrw casgen mewn gwydr tal syth yn cael ei drosglwyddo gan law ag ewinedd wedi eu paentio yn wyrdd

#7 Iawn blodyn?

Be well i roi i rywun ar ein diwrnod cenedlaethol nag ein blodyn cenedlaethol? Gwobr aur am ddewis y cennin Pedr.

Tua diwedd yr 19eg ganrif cafodd y genhinen gyffredin ei uwchraddio am symbol cenedlaethol mwy crand. Roedd David Lloyd George yn ei ffafrio, a gan ei bod yn ymddangos yn gynnar yn y gwanwyn fel symbol o optimistiaeth natur daeth yn ddewis naturiol i nodi Mawrth y 1af. 

Une petite fille blonde dans une robe rose et bleue, tenant un gros bouquet de jonquilles et souriant a l’appareil

#8 Gwisga'n Gymreig

Côt garthen, sannau llachar - dewisia wisg sy’n haeddu Sash Huw Fash.

O sannau carthen Mabli Knitts i siwmperi hapus Y Lein - mae na eitem Gymreig i liwio pob cwpwrdd. I’r fenyw Gymraeg fodern beth am gyfnewid het am fand gwallt carthen Alis Knitts a Mythsntits? Neu i’r rhai bychain, mae siwmperi Clyd neu ddillad hwyiog llawn lliw Silibili.

Dyn ifanc â gwallt coch a brychni haul yn gwenu yn gwisgo siwmper Gymreig draddodiadol llwyd wedi ei gwau dros grys-t gwyn

#9 Dawnsia

'Dawnsia' i Fleur de Lys, 'Neidia' i Gwilym, neu cer am 'Bwgi' i Bando - tro y miwsig i fyny a dawnsia nerth dy draed! Dewisia diwn Gymraeg i'w dathlu o restrau chwarae miwsig, neu cadwa lygad ar restr chwarae PYST yn dy glust am y tiwns diweddaraf.

#10 Bwyta gaws

Mae ein cariad at gaws yma yng Nghymru yn dod yn syth o’r top - mae’r Prif Weinidog wrth ei fodd â Chaws Caerffili ac mae llawer o gawsiau Cymreig anhygoel i chi roi cynnig arnynt. Cei rai syniadau yng nghanllaw caws perchennog Pantri Penylan Caerdydd.

Dwy law yn dal olwyn o gaws

#11 Planna goeden

Cer yn ôl at dy goed trwy blannu hedyn i’r dyfodol - un coeden fychan ar y tro, byddwn yn gwneud Cymru, a’r byd, yn le gwell.

Fel un gyda natur, mae coed yn dda i’r enaid. Y nod ydi creu un Coedwig Genedlaethol i Gymru sy’n cysylltu coedtiroedd Cymru fel un carthen werdd fawr ar draws y wlad. Gwirfoddola hefo Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd rhan.

 

Golygfa ar i fyny trwy ganghennau sawl coeden mewn coedwig gydag awyr las yn y cefndir

#12 Rhanna bice bychain

Picau ar y maen, pice bach, cacennau cri, teisennau gradell - beth bynnag fyddi di’n eu galw, maen nhw’n dda. Gwna rai i’w rhannu. 

Mae coginio ar badell neu radell wedi bod yn arfer cyffredin yng Nghymru ers canrifoedd. Y grefft i greu cacen gri dda yw eu coginio'n gyflym ar y ddwy ochr fel eu bod yn aros yn feddal yn y canol, ond cymera ofal i beidio â'u llosgi! Dilyna rysáit draddodiadol, neu mwynha gacen blas caws a chennin Mamgu Welshcakes, siocled oren Fabulous Welshcakes neu jam a hufen Bakestones.

 

Pump cacen gri wedi eu gosod mewn llinell ar fwrdd hanner pren hanner marmor

#13 Cipia gastell

Mae mwy o gestyll i bob milltir sgwâr yng Nghymru nag yn unman arall yn y byd. Crwydra un o’r 600.

Mae llawer yn gestyll cynhenid Cymreig, a adeiladwyd gan deuluoedd brenhinol y Cymry, a hynny mewn llefydd hardd iawn yn aml. Dyma 12 o gestyll brodorol a Normanaidd i ysbrydoli.

 

Llwyfan cyngerdd awyr agored ar safle castell mawr gyda chynulleidfa fawr yn gwylio

#14 Gwisga het Gymreig

Mae’r het Gymreig yn gwneud come-backMae’r embaras o orfod gwisgo gwisg Gymreig i’r ysgol ar ddydd Gŵyl Dewi yn hen hanes. Mae’r het eiconig yn eicon ffasiwn diolch i ddychymyg artistiad fel Meinir Mathias a Seren Morgan Jones. Neu beth am wisgo fersiwn fodern o’r het Gymreig - het Mistar Urdd neu'r het fwced!

Merch yn gwisgo het Gymreig draddodiadol a siwmper garthen Gymreig binc ar gefndir melyn. Mae ei llygaid ar gau ac mae hi’n tynnu tafod.

#15 Gwlad, Gwlad!

Cana nerth dy ben. Wedi’r cwbl, ni yw gwlad y gân! Cana’r anthem mewn lle anarferol - pwyntiau bonws am ddysgu’r ail a thrydydd pennill. Neu beth am ddysgu fersiwn BSL o’r anthem? Arwydda gydag angerdd.

#16 Bwyta genhinen

Animated gif of people eating leeks

Ar ôl gwisgo dy genhinen hefo balchder, i fod hyd yn oed mwy Cymreig - beth am fwyta dy genhinen ar ddiwedd y dydd! Mewn cawl cennin traddodiadol, caws cennin Cenarth neu cheddar aeddfed Dragon gyda chracers cennin Cradoc’s … heb angofio selsig cig moch a chennin arbennig Edwards o Gonwy neu Myrddin Heritage, a’r Selsig Morgannwg llysieuol - mae digonedd o ffyrdd i chi fwynhau eich cennin.

#17 Gwranda

Dynes yn gwisgo siwmper garthen Gymreig yn gwrando ar gerddoriaeth trwy glustffonau melyn ac yn canu ar gefndir melyn

#18 Bwytewch a mwynhewch

Mae’r ffaith bod cymaint o’r cwmnïau bellach yn cynnig cyfleustra gwasanaeth arlein, yn ei gwneud hi'n hawdd cefnogi a dathlu cynnyrch gorau Cymru. Llenwa dy restr gwledda hefo cynnyrch Cymreig o dy farchnad leol, neu galli grwydro rhesi ar resi o ddewis o’r ‘archfarchnad’ ddigidol ragorol, Blas ar Fwyd.

Platiad fendigedig o gig oen

#19 Mwynha'r Mabinogi

Llên gwerin a chwedlau chwyrn, mae’r Cymry’n caru stori dda. Beth am bori un o’r llyfrau sydd wedi bod yn hel llwch ar dy silff? Neu, chwilia silffoedd dy siop lyfrau leol

Os mae dysgu trwy chwarae sy’n gweithio i ti, tria gêm Cardiau Brwydro y Mabinogi gan Huw Aaron. Neu beth am ymweld â deg lle yng Nghymru sydd â chysylltiad llenyddol.

#20 Cer hanner-hanner

Hanner reis, hanner sglodion - bwytwch gyri y ffordd Gymreig.

Gormod o garbs? Paid â phoeni, mae digon o ddewis bwyd a diod ar y fwydlen Gymreig.

Platiad o gyri cyw iar gya reis a sglodion ar liain bwrdd tsiec a chennin Pedr wedi eu gosod mewn gwydr ar y bwrdd

#21 Bara Lawr

Cafiâr y Cymro yn ôl Richard Burton - sy’n swnio’n well na gwymon wedi ei ferwi! Archeba o The Pembrokeshire Beach Food Company neu Blas ar Fwyd a mwynha gyda chig moch hallt neu wyau wedi’u sgramblo.

#22 Rheda dros Gymru

Beth am greu draig ar Strava? Neu alli di redeg siâp Cymru neu genhinen? Bydda’n greadigol!

Dyma hoff lwybrau 5 cilomedr yr anturiaethwraig Lowri Morgan i roi ysbrydoliaeth.

Grwp o bobl yn beicio yn y mynyddoedd gyda golygfeydd godidog

#23 Tria Tippit

Byddi di angen pum ffrind, ceiniog a bwrdd ar gyfer y gêm dafarn hynafol hon. Mae’r Americanwyr yn ei adnabod fel ‘Up Jenkins’ - cyfenw sy’n gyffredin iawn yng Nghymru. Bydd dau dîm o dri yn wynebu ei gilydd hefo’u dwylo o dan y bwrdd, a un geiniog i bob tri par o ddwylo. Bydd y tîm buddugol yn dod o hyd i’r llaw mae’r geiniog yn cuddio ynddi.

 

Criw o bobl gyda dyrnau ar gau ac wedi eu gosod ar fwrdd gydag un llaw yn pwyntio tuag at un o’r dyrnau

#24 Câr dy gymydog!

Shwmae? Su'mai? Tyd i adnabod dy gymydog. Sgwrsiwch dros y ffens, neu galwa draw gyda mynydd o gacennau cri.

#25 Prynu'n Lleol

Cefnoga’r busnesau bychain sydd wrth galon y gymuned. Beth am addo prynu’n lleol gan fusnesau annibynnol o Gymru? Dyma rai syniadau gan Alis Knits o gwmnïau celf a chrefft i’ch rhestr siopa.

#26 Dip Dydd Dewi

Does dim prinder o ddewis moroedd trawiadol yng Nghymru. Neidiwch i’r dyfroedd ac ewch i nofio ar doriad gwawr wrth ddeffro’r gwanwyn a’r synhwyrau.

Ymunwch â chlwb lleol fel y Dawn Stalkers ym Mhenarth neu The Bluetits yn Aberystwyth. Cofiwch ddilyn y canllawiau diogelwch priodol wrth nofio mewn dŵr agored.

Aelod o’r grwp nofio ‘the blue tits’ yn sblasio yn y môr yn Ynyslas gan chwerthin gyda ffrindiau

#27 Gwisga dy gi

Neu Cymreigia dy gath. Pam dylwn ni gadw’r hwyl i ni ein huain ar Ddydd Gŵyl Dewi?

Ci yn gwisgo coler wedi ei addurno gyda chennin Pedr

#28 Coctel Cymreig

Gwna ddiod ar thema Gymreig. ‘Martini cennin’ neu ‘Mimosa Porth Madryn’? Beth am wydr o ‘Jin-i Mê’ yn defnyddio jin Aber Falls? Coctel ‘Y Wal Goch’ hefo whisgy Penderyn?  Neu goctel rum ‘Cist Barti Ddu’? Iechyd da!

Mae coctel pinc mewn goblet gwydr yn eistedd ar flaen bar. Mae gan y coctel wellt streipiog a darn o candyfloss ar ochr y gwydr.

#29 Cheers drive!

Mewn tacsi, ar fws, cwch, trên, awyren neu tuktuk… peidiwch ag anghofio diolch i’r gyrrwr. Rhanna gyfeillgarwch y Cymro ar dy daith.

#30 O 'Steddfod i 'Steddfod

Eisteddfod gylch, sir, gen; ffermwyr ifanc, bentref a Llangollen… ni’n joio 'Steddfod! Ond uchafbwynt y flwyddyn heb os yw’r Eisteddfod ysgol Gŵyl Ddewi. 

Rhanna luniau o’r cystadlaethau di-ri yn dy ysgol, neu beth am gynnal ‘Steddfod ddwl llawn jôcs, cân actol a chystadleuaeth dalent? 

#31 Cennin Pedr

Ein blodyn cenedlaethol ar ei newydd wedd. Mae degau o wahanol fathau o gennin Pedr - trefna gasgliad o dy hoff rai i roi i rywun arbennig, neu dilyna gyrsiau digidol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar sut i ddarlunio a phaentio cennin Pedr, cennin Pedr Cylchog a chennin Pedr y Beirdd.

Ffiol gwydr gwyrdd tywyll ar fwrdd mewn siop flodau wedi'i lenwi â chennin Pedr a blodau llachar eraill y gwanwyn, blodau wedi'u torri wedi'u gosod ar ochr y ffiol
   

#32 Cwtsh mewn carthen

Rho dy fabi mewn Siol Fagu. Ymhell cyn dyddiau’r BabyBjörn a’r sling roedd y Cymry yn nyrsio babis mewn blancedi gwlân Cymreig.

#33 Gwna dy gap

Rho dy het greadigol ymlaen a diddana’r rhai bychain hefo sesiwn grefft o gartref i greu Het Gymreig draddodiadol ar gyfer eu hoff degan.

#34 Clocsia

Dim ar gyfer llwyfan yr Eisteddfod yn unig mae clocsio … Rho dy ‘sgidiau pren ymlaen a dangosa dy dalent. Bydd clocsiwr medrus yn gallu creu rhythmau di-ri yn defnyddio gwahanol rannau o’r droed. Os wyt ti’n meddwl dy fod yn glocsiwr o fri cer amdani a chymra sialens y gannwyll, ysgub neu hances, neu heria ffrind i dy wynebu.

#35 Dydd Gŵyl Dewi Hapus

Gwna i rywun wenu trwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i gymydog, ffrind, teulu neu rhywun randym ar y stryd!

#36 Rhodd bychan

Gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr. Beth am ddilyn esiampl Caeredigrwydd FOR Cardiff a rhoi i elusen leol sy’n agos at dy galon.

Straeon cysylltiedig