Pethau sylfaenol

Mae Cymru i’w chanfod ar ynys Prydain Fawr, i’r gorllewin o Loegr, ac mae’n 20,782 cilometr sgwâr (8,024 milltir sgwâr) o faint, tua hanner maint yr Iseldiroedd, tua’r un faint â Slofenia, ac ychydig yn llai na thalaith New Jersey yn yr Unol Daleithiau. Yn wir, mae amlygrwydd Cymru ar fap Prydain wedi arwain at ddefnyddio “maint Cymru” fel uned wrth gymharu meintiau gan y cyfryngau Prydeinig.

Yn ôl yr amcangyfrif swyddogol, mae poblogaeth Cymru tua 3,135,000. Ar gyfartaledd, mae dwysedd y boblogaeth yn 150 o bobl i bob kilometr sgwâr (290 ymhob milltir sgwâr), er bod amrywiaeth enfawr o fewn i’r wlad. Canolbwyntir y boblogaeth yn ddwys yn yr ardaloedd trefol o gwmpas Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, Cymoedd De Cymru a chornel gogledd-ddwyreiniol Cymru.

Ffan mawr Y & Cwm Oergwm, Bannau Brycheiniog
Fan y Bîg a Chwm Oergwm ym Mannau Brycheiniog (golygfa i'r gorllewin).

Gwybodaeth leol

Er 1996, rhannwyd Cymru’n 22 ardal llywodraeth leol, a phob un yn ethol ei chyngor ei hun. Maen nhw’n amrywio’n fawr o ran maint. Mae Powys wledig, sy’n cynnwys llawer o “Anialwch Cymru” heb fawr o bobl yn byw ynddi (dim tywod chwaith, dim ond ehangder o rosdir mynyddig), 47 gwaith yn fwy na bwrdeistref sirol Blaenau Gwent yng nghymoedd y de.

Adeg etholiadau, fe glywch chi sôn am etholaethau seneddol. Rhennir y wlad yn 40 ohonynt, a phob un yn anfon aelod yr un i Dŷ’r Cyffredin yn Llundain a’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd. Weithiau hefyd bydd pobl yn dal i ddefnyddio hen enwau ar siroedd, fel De Morgannwg, Maesyfed neu Ddyfed. Mae hynny’n dyst i’r holl newid yn ffiniau’r siroedd a ddigwyddodd ar hyd hanes maith Cymru.

cerddwyr benywaidd gorffwys ar gopa'r Foel Fadian, edrych tua'r gogledd i Cadair Idris, mynyddoedd Cambria
Raeadr Pistyll
Mynyddoedd Cambrian a Pistyll Rhaeadr

Ceir chwe dinas swyddogol yng Nghymru. Caerdydd fu’n brifddinas y wlad er 1955, ac mae’n gartref i ryw 363,000 o bobl. Mae gan Abertawe a Chasnewydd boblogaeth sy’n ymestyn i’r cannoedd o filoedd hefyd; ar y llaw arall, dim ond 19,000 o drigolion sydd ym Mangor, ond mae’r lle hwnnw wedi cael statws dinas ers cyn cof. Y ddwy ddinas olaf, Llanelwy a Thyddewi, yw’r ddwy ddinas leiaf yn y Deyrnas Unedig, â phoblogaeth o ryw 3,500 a 2,000 yn eu tro.

tad a mab yn sgrialu dros greigiau gyda chlogwyni yn y cefndir.
awyr dywyll gyda ffigur o berson yn y cefndir.
Bae Church Doors, Sir Benfro a Awyr Dywyll, Dyffryn Elan

Gwarchodir llawer o dirwedd Cymru, gan sicrhau y bydd ei harddwch yn cael ei gadw i’r oesoedd a ddêl. Mae rhyw chwarter o’r wlad i’w chanfod naill ai yn un o’r tri Pharc Cenedlaethol (Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro) neu un o’r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE): Penrhyn Llŷn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Penrhyn Gŵyr, Ynys Môn a Dyffryn Gwy. Mae’r ddau olaf yn y rhestr yn ben a chynffon i’r daith “o Fôn i Fynwy”, a gorwedd AHNE Dyffryn Gwy i’r naill ochr a’r llall o ffin Cymru a Lloegr.

Tu allan i Gastell Caerdydd yn y nos
Goleuadau'r nos yng Nghastell Caerdydd.

Gwarchodir llawer o dirwedd Cymru, gan sicrhau y bydd ei harddwch yn cael ei gadw i’r oesoedd a ddêl."

Mynd i eithafion

Dywedir y byddai Cymru, o’i gwastatáu, yn fwy na Lloegr – ac mae mwy na gronyn o wirionedd yn hynny. Unwaith y trowch eich cefn ar wastatir arfordirol de neu orllewin Cymru, buan y dewch i’r cymoedd, y bryniau a’r mynyddoedd sy’n nodweddu rhan helaeth o’r wlad.

Ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn y gogledd-orllewin, y ceir y mynyddoedd uchaf a mwyaf. Y mynydd uchaf yw Yr Wyddfa, pegwn uchaf Cymru gyfan, yn 1,085m (3,560 troedfedd) uwch lefel y môr. Y gadwyn bwysig arall o fynyddoedd yw Bannau Brycheiniog yn ne Cymru, a’r copa uchaf yn eu plith yw Pen y Fan, sy’n 886m (2,907 troedfedd) uwchlaw’r môr.

Cadair Idris (edrych gorllewin tuag at Abermo) Eryri
Cerddwyr ar Grib Goch, Eryri
Cader Idris, Eryri a cherddwyr ar Grib Goch.

Rhanbarth mynyddig arall yw Mynyddoedd y Cambria. Arferid defnyddio’r ymadrodd i gyfeirio at holl fynyddoedd asgwrn cefn Cymru, ond cyfyngir y defnydd cyfoes i gyfeirio at ucheldir canolbarth Cymru. Pumlumon, sy’n 752m (2,467 troedfedd) yw’r copa uchaf, a dyma darddiad dwy o afonydd hiraf Cymru, Hafren a Gwy.

Yn ddryslyd, ceir yng Nghymru hefyd Fryniau’r Mynydd Du a’r Mynyddoedd Duon, dau le hollol wahanol i’w gilydd – er bod y ddau le i’w canfod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

Sgwd yr Eira Raeadr, Aberhonddu
Rhaeadr Sgwd yr Eira, Bannau Brycheiniog

Mae gan Gymru ryw 50 o ynysoedd, sy’n amrywio o ran maint o Fôn (seithfed ynys fwyaf Ynysoedd Prydain) i greigiau unig, heb neb yn byw arnynt. Tri phwynt oddi ar yr arfordir sy’n nodi eithafion gogleddol, gorllewinol a deheuol y wlad: Ynys Badrig, sy’n un o ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar ogledd Ynys Môn; the Smalls, ynys â goleudy enwog arni oddi ar sir Benfro, ac Ynys Echni, ynghanol Môr Hafren. Pwynt mwyaf dwyreiniol Cymru yw Coedwig Lady Park ger Trefynwy.

Teithio o gwmpas

Prin yw’r heolydd syth yng Nghymru, diolch i’r holl fynyddoedd. Mae priffyrdd Cymru’n tueddu i fynd o’r dwyrain i’r gorllewin – y mwyaf nodedig yn cynnwys coridor yr M4 o Sir Gaerfyrddin at Bontydd Hafren, yr A465 ffordd Blaenau’r Cymoedd yn y de, a’r A55 o Gaergybi ym Môn ar hyd arfordir gogledd Cymru.

Y ddau brif lwybr rhwng y gogledd a’r de yw’r A483 rhwng Abertawe a Wrecsam (sy’n mynd i Gaer yn y pen draw) a’r A470 rhwng Caerdydd a Llandudno. Dyw’r rheilffordd ddim yn mynd ar ei hunion rhwng gogledd a de’r wlad: rhaid i deithwyr sy’n dymuno mynd i Aberystwyth neu’r gogledd bicio i Loegr a newid trên yn Amwythig.

Golygfa o'r awyr o Red Aston Martin yn gyrru drwy Great Orme, Gogledd Cymru
 Delwedd o'r awyr o ffordd dreigl, Y Gogarth, Gogledd Cymru
Pen y Pass, Eryri
Y Gogarth, Gogledd Cymru a Phen-y-Pass, Eryri

Yn ffodus, mae hi’n hawdd gwneud yn fawr o’r holl droeon hyn. Pan fyddwch chi’n gweld holl ogoniant Dyffryn Tywi’n ymagor o'ch blaen wrth i chi droi ar Dro’r Gwcw ar y Mynydd Du, neu wrth i’ch trên eich cludo uwchlaw’r caeau a’r fforestydd pinwydd a chithau’n croesi Pont Cynghordy, fyddwch chi ddim yn dymuno brysio’r daith. Rydym ni wedi mynd i’r drafferth o gynllunio tri llwybr gyrru ar eich cyfer, sef Ffyrdd Cymru, i arddangos rhai o oreuon y golygfeydd hardd!

Dinas Cymru

Straeon cysylltiedig