Mae Cymru yn wlad sy'n ffurfio rhan o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (a elwir y DU). Fe'i lleolir yn rhan ogledd-orllewinol cyfandir Ewrop.

 

Ble mae Cymru o fewn y DU?

Mae Cymru yn un o'r pedair gwlad sy'n ffurfio Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi ein lleoli ar ynys o’r enw Prydain Fawr, rydym yn ei rhannu â’r Alban a Lloegr.

Map darluniadol o'r DU, yn dangos Cymru mewn cyd-destun â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Lleoliad Cymru o fewn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Mae gan Gymru ei llywodraeth ddatganoledig ei hun a’i senedd ei hun, er bod rhai penderfyniadau gwleidyddol yn dal i gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, fel materion trosedd a phlismona, amddiffyn, a materion tramor. Mae pobl yng Nghymru yn teithio ar basbortau Prydeinig, fel pob dinesydd sy'n byw o fewn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am sut mae Cymru'n cael ei llywodraethu.

Cymru fel gwlad - ffeithiau allweddol

Ieithoedd swyddogol: Cymraeg a Saesneg

Poblogaeth: 3.1 miliwn o bobl (4.6% o boblogaeth y DU)

Maint: 8,023 milltir sgwâr (20,779 km sgwâr)

Cylchfa amser: GMT

Arian: £ Punt Sterling

Diwrnod Cenedlaethol: Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth)

Anthem Genedlaethol: Hen Wlad Fy Nhadau

Mynydd uchaf: Yr Wyddfa, 1,085m (3,560 troedfedd)

Enw lle hiraf:

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (a elwir yn lleol yn Llanfair PG)

Hinsawdd: Y tymheredd cyfartalog yw 20°C (68°F) yn yr haf a 6°C (43°F) yn y gaeaf

Parciau Cenedlaethol: Tri (Eryri, Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro)

Ardaloedd o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol: Pump (Ynys Môn, Penrhyn Gŵyr, Dyffryn Gwy, Penrhyn Llŷn a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy)

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA): Mae dros 1,000 o SoDdGA yng Nghymru, yn gorchuddio 12% o'r wlad. Maent yn sail i’n rhwydwaith o ardaloedd cadwraeth natur gwarchodedig

Dinasoedd a rhanbarthau Cymru

Mae saith dinas yng Nghymru: Bangor, Caerdydd (ein prifddinas), Casnewydd, Tyddewi, Llanelwy, Abertawe a Wrecsam. Tyddewi yw dinas leiaf y DU yn ôl poblogaeth, ac mae wedi bod yn gyrchfan pererindod boblogaidd ers cannoedd o flynyddoedd. Wrecsam yw dinas fwyaf newydd y wlad, ar ôl ennill statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022.

Map o Gymru, gyda’r dinasoedd wedi’u huwcholeuo
Dinasoedd Cymru

Mae Cymru’n cynnwys 22 ardal awdurdod lleol, pob un â’i chyngor etholedig ei hun, sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion lleol fel tai, cynllunio tref ac ysgolion.

Mae’r ardaloedd awdurdod lleol hyn wedi’u grwpio’n bedwar rhanbarth: gogledd Cymru, gorllewin Cymru, canolbarth Cymru, a de Cymru – pob un â’i daearyddiaeth a’i thirwedd unigryw ei hun.

Ydy Cymru wir yn llawn cestyll?

Ydy. Wel, o ryw fath. Mae mwy na 600 o gestyll yng Nghymru, mwy fesul milltir sgwâr nag unrhyw le yn y byd. Mae pobl wedi bod byw yn barhaus mewn rhai am fil o flynyddoedd, mae rhai yn adfeilion rhamantus, ac eraill wedi diflannu, heb adael bron unrhyw olion. Mae llawer ohonynt yn gestyll brodorol Cymreig, wedi’u hadeiladu gan linach frenhinol Cymru – yn aml mewn mannau prydferth iawn.

Darganfyddwch fwy am gestyll Cymru.

Golygfa o gastell ar draws afon â chychod a phont gyda mynyddoedd yn y cefndir
Pobl yn cerdded heibio adfail hen gastell mawr
Castell Conwy a Chastell Talacharn

Ydy Cymru hefyd yn llawn dreigiau?

Wel, mae un ar ein baner. Ond heblaw am hynny, does dim dal.

Ci yn gwisgo baner Cymru
Cerflun mawr o ddraig goch o flaen hen gastell mawr

Straeon cysylltiedig