Mae henebion a thirwedd Cymru ymhlith y mwyaf nodedig yn y byd – ac nid dim ond ni’r trigolion lleol cenedlaetholgar sy’n meddwl hynny. Mae Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru, Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a Thirwedd Diwylliannol Blaenafon i gyd wedi derbyn cydnabyddiaeth gan UNESCO.

Mae UNESCO yn gweithio i warchod a chadw hanes dynoliaeth, ac mae’r llefydd hyn yng Nghymru bellach i’w gweld yn y cyfeiriadur enwog o Safleoedd Treftadaeth Byd o gwmpas y byd; gan eu gosod ochr yn ochr â’r Taj Mahal yn India a Machu Picchu ym Mheriw fel llefydd mae’r sefydliad yn eu hystyried o ‘werth eithriadol i ddynoliaeth’.

Mae’r pedwar safle yng Nghymru yn amrywio o gaerau canoloesol sy’n sefyll yn dal uwch cefn gwlad Cymru i ardaloedd diwydiannol y gorffennol lle bu cloddio i ddyfnderoedd y tir gwledig hwnnw. Mae gan bob safle le pwysig yn hanes Cymru, ac mae pob un yn sicr o ennyn ymateb o ryfeddod gan ymwelwyr. Dyma gyflwyniad i’r pedwar Safle Treftadaeth Byd UNESCO yng Nghymru.

 

Golygfa drawiadol o nifer o fynyddoedd wedi eu gorchuddio â llechi
Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru yw’r safle ddiweddaraf yng Nghymru i ennill statws UNESCO.

Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru

Mae Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru, ychwanegiad diweddaraf Cymru i’r rhestr Treftadaeth Byd, yn cwmpasu chwe safle unigol o amgylch Gwynedd, yn cynnwys hen chwareli, rheilffyrdd, melinau a thai bonedd crand a adeiladwyd gan dirfeddianwyr, i gyd yn greiriau o’r diwydiant llechi Cymreig.

Roedd cynhyrchu llechi yn fusnes mawr yn ngogledd-orllewin Cymru. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd chwareli’r ardal yn cynhyrchu oddeutu traean o lechi to y byd, ac o’ ganlyniad i hynny, dywedir bod modd dod o hyd i lechi Cymreig mewn adeiladau ymron i bob cyfandir.

Mynydd o lechi ym mlaen y llun, â thai teras a mynyddoedd pell yn y cefndir
Gadawodd y diwydiant llechi farc parhaol ar dirwedd a diwylliant gogledd Cymru  

Arferai’r diwydiant gyflogi oddeutu 17,000 o bobl cyn dechrau dirywio’n raddol ddiwedd yr 20fed ganrif ac fe gyfrannodd at lunio hunaniaeth gogledd Cymru gan ddod â theuluoedd i gymunedau Cymraeg mynyddig fel Bethesda a Blaenau Ffestiniog, sy’n dal i ymfalchïo yn eu treftadaeth ddiwydiannol heddiw.

Ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol ac atyniadau diwylliannol yr ardal, mae effaith arhosol y diwydiant llechi ar ei amlycaf yn nhirwedd unigryw yr ardal, â’r chwareli mwyaf wedi torri haenau dwfn i fynyddoedd Eryri – bellach yn batrymau igam ogam o lwybrau cerdded (ac ambell wifren wib!) yn hytrach na llwybrau peiriannau trwm.

Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I yng Ngwynedd

Wedi eu cadw ar restr Treftadaeth Byd UNESCO ers 1986, mae’r cestyll a godwyd gan Frenin Lloegr, Edward I, yn ystod ei ymdrech i oresgyn Cymru yn y 13eg ganrif yn cael eu hystyried yn rhai o’r caerau mwyaf trawiadol ac wedi eu cadw orau yn y wlad.

Mae pedwar castell i gyd: Conwy, sy’n sefyll yn dal a chadarn ar lannau afon Conwy, Harlech, sy’n bwrw cysgod dros dref Harlech o ben bryncyn creigiog, Caernarfon, o bosibl y mwyaf crand o’r pedwar â’i waliau cerrig anferth a’i dyrrau polygonaidd, a Biwmares, yn esiampl o gymesuredd pensaernïol na chafodd y gwaith adeiladu erioed ei orffen oherwydd costau cynyddol. Mae’r trefi caerog sydd ynghlwm â chestyll Conwy a Chaernarfon hefyd yn gynwysedig yn rhestr UNESCO.

Hen gastell mawr yn erbyn awyr las
Ambell berson yn sefyll ar bont bren yng nghanol hen dir castell
Castell Conwy a Chastell Harlech

Cafodd y gwaith o godi pob un o’r pedwar castell, sydd wedi eu gwasgaru ar draws Wynedd, ei oruchwylio gan James o St George, pensaer militaraidd mwyaf y cyfnod, a doedd dim dal yn ôl ar y gwario wrth adeiladu. Gwariwyd swm anferth o £25,000 ar godi Castell Caernarfon (£22,000 yn fwy nag incwm blynyddol y Trysorlys), a chyflogwyd byddin o seiri maen i weithio ar Gastell Biwmares.

Gyda chynifer o ddynion yn gweithio i’r Brenin, ni chymerodd Castell Conwy ddim ond pedair blynedd i’w adeiladu.

Ynghyd â bod yn gampweithiau o ran pensaernïaeth filitaraidd ganoloesol, mae’r safleoedd yno’n gadarn yn ein hatgoffa o ymdrech hir a gwaedlyd Edward i oresgyn Cymru, yn ogystal â bod yn brawf o nerth gwrthsafiad y Cymry.

Y fynedfa i hen gastell cerrig mawr
Hen gastell mawreddog â ffos o’i amgylch a chychod ym mlaen y llun, wedi ei oleuo yn erbyn awyr y nos
Castell Caernarfon a Chastell Biwmares

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Â’i 19 bwa metel cymesur yn cael eu cynnal gan bileri carreg tenau a thal, mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn ddarn rhyfeddol o beirianneg o’r 19eg ganrif. Hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng ongl lem ac ongl aflem, byddwch chi’n dal yn sicr o gael eich syfrdanu gan faint ac urddas yr heneb gadarn, sy’n dal i gludo cychod bach ar hyd llif bas o ddŵr tua 38 metr (126 troedfedd) uwchben Afon Dyfrdwy.

Mae’r strwythur a’r gamlas gysylltiedig, a ddynodwyd yn safle UNESCO yn 2009, dros 200 mlynedd oed a chafodd ei ddylunio gan y peiriannydd sifil enwog, Thomas Telford. Caiff y bont ei hystyried fel ei gampwaith cyntaf, â’r draphont ddŵr yn croesi’r dyffryn llydan heb unrhyw ddefnydd o lociau. Byddai Thomas Telford yn mynd yn ei flaen i oruchwylio prosiectau adeiladu eraill yng Nghymru yn cynnwys y ddwy bont grog, Pont y Borth a Phont grog Conwy, y ddwy bont gyntaf o’u bath yn y byd. Ynghyd â’r draphont ddŵr, mae’r safle UNESCO yn cynnwys 17km o lwybr camlas â golygfeydd hardd (lle mae cychod yn dal i gael eu tynnu gan geffylau), a’r isadeiledd oedd ynghlwm â chwblhau a chynnal y prosiect, fel tai y peirianwyr a glanfeydd ar ochr y gamlas.

 

 

Heddiw, mae’r draphont ddŵr yn ddefod o raid i gychwyr profiadol sy’n mentro croesi’r bont uchel i weld y golygfeydd panoramig o gefn gwlad Llangollen. Gall cerddwyr – sy’n gallu ymdopi ag uchder – hefyd groesi’r bont gan ddefnyddio’r llwybr tynnu sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r gamlas.

Traphont ddŵr uchel o frics
Traphont ddŵr gul uwch golygfa o wyrddni
Traphont ddŵr Pontcysyllte  

Tirwedd Diwylliannol Blaenafon

Efallai fod Cymru heddiw’n enwog am ei golygfeydd a’i gwyrddni (ac am ei pholisïau blaengar i’w gwarchod nhw), ond y diwydiant glo a gafodd y lle blaen yn hanes diweddar y wlad, â Chymoedd De Cymru yn ganolfan i gynhyrchiant glo a haearn y Deyrnas Unedig yn ystod Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain.

Mae llawer o’r isadeiledd o’r cyfnod hwn wedi hen ddiflannu, ond mae’r adeiladau a’r peiriannau sydd wedi eu cadw yn hen dref lofaol Blaenafon yn Sir Fynwy yn sefyll yno’n brawf o’r diwydiant dylanwadol Cymreig, gan gynnig ffenest i ymwelwyr weld effaith y gwaith glo ar dirwedd Cymru ac ar fywydau’r rhai a fu’n treulio dyddiau hir o dan y ddaear yn cloddio.

Canolbwynt y safle UNESCO, sydd hefyd yn cynnwys tref Blaenafon ei hun a’r rheilffordd treftadaeth, yw’r hen waith haearn. Yma mae strwythurau carreg enfawr yn gwyro dros ymwelwyr, a’r rheiny’n cynnwys ffwrneisi chwyth anferth a gweddillion y tŵr dŵr cytbwys (oedd yn glyfar iawn yn defnyddio pwysau wedi eu llenwi â dŵr i godi wagenni o haearn i’w rhoi ar y llwybr tram cysylltiedig).

Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn rhan hynod boblogaidd o’r safle ac yn lle sydd wedi ennill gwobrau. Yn gloddfa oedd yn cael ei defnyddio tan 1980, mae lifftiau swnllyd yr amgueddfa bellach yn cael eu llwytho â thwristiaid yn hytrach na gweithwyr, â cânt eu gollwng 300 troedfedd o dan y ddaear i dwneli cloddio cadwedig y dref. Y tu mewn, mae teithiau tywys â fflach-lampau yn cynnig golwg uniongyrchol ar batrymau dyddiol caled y rhai oedd yn gweithio i ddod â’r tanwydd oedd yn gyrru chwyddiant diwydiannol Prydain.

Rhai hen adeiladau brics mewn amgylchedd ddiwydiannol hanesyddol
Yr hen waith haearn yw canolbwynt safle UNESCO Tirwedd Diwylliannol Blaenafon

Straeon cysylltiedig

Llyn prydferth wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd mawr gwyrdd

Mannau gwyrdd gwarchodedig Cymru

Oeddech chi’n gwybod bod Cymru yn gartref i dri pharc cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol? Dyma gipolwg ar ein mannau gwyrdd gwarchodedig.

Llun gyda’r nos o lyn a mynyddoedd gydag awyr serennog yn y cefndir

Syllu i entrychion Cymru

Gyda thri Lle Awyr Dywyll Rhyngwladol gwarchodedig o fewn ei ffiniau, mae Cymru bellach yn un o’r cyrchfannau gorau yn y byd ar gyfer syllu ar y sêr.