Rydym ni’n falch iawn o’n cefn gwlad godidog yng Nghymru, yn enwedig gan fod bron i chwarter holl dir Cymru yn dal rhyw fath o statws gwarchodedig, naill ai fel parc cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Mae'r mannau rhyfeddol yma’n cael eu hystyried yn asedau pwysig i'r wlad, oherwydd eu gwerth ecolegol (yn gwasanaethu fel cynefin pwysig i fywyd gwyllt, er enghraifft) neu arwyddocâd daearyddol (ffordd sy’n swnio’n wyddonol o ddweud eu bod yn arbennig o hardd), ac felly mae angen diogelu i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn gartref i dri pharc cenedlaethol, a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar raddfa lai. Dyma gyflwyniad byr i bob un ohonyn nhw.

Parciau cenedlaethol yng Nghymru

Golygfa o’r awyr o lyn mawr wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd
Yr Wyddfa, Parc Cenedlaethol Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri

 

Parc Cenedlaethol Eryri yw’r parc cenedlaethol hynaf yng Nghymru, wedi’i goroni gan gopa uchaf y wlad, Yr Wyddfa, sy’n denu miloedd o gerddwyr bob blwyddyn. Mae’r ardal gyfan yn adnabyddus am ei chyfleoedd crwydro, gyda llwybrau’n troelli o amgylch llynnoedd, yn ymlwybro drwy goedwigoedd, ac yn sgramblo dros hen chwareli llechi sy’n rhan mor ddramatig o ochrau’r bryniau. Mae rhai o’r chwareli hyn wedi’u pecynnu gyda’i gilydd i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd diweddaraf UNESCO yng Nghymru: Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Ar wahân i'w olygfeydd anhygoel, mae'r parc (sy'n cynnwys y rhan fwyaf o sir Gwynedd a rhannau o Gonwy yng ngogledd orllewin y wlad) wedi dod yn adnabyddus am ei atyniadau llawn adrenalin, gan gynnwys llinell sip gyflymaf y byd: Zip World yn Chwarel y Penrhyn. Yr un mor boblogaidd yw Rheilffordd Ffestiniog, rheilffordd gul hynaf y byd, sy’n teithio ar gyflymder dipyn yn arafach.

Trên stêm coch a gwyrdd yn symud ar hyd trac o flaen cefndir mynyddig
Person mewn harnais yn hedfan i lawr llinell sip yn erbyn cefndir mynyddig
Rheilffordd Ffestiniog a Zip World

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Gan amgylchynu troed gorllewinol Cymru fel sliper gwyrdd amddiffynnol, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhedeg ar hyd arfordir cyfan Sir Benfro bron, ac yn parhau i fod yr unig barc cenedlaethol arfordirol yn y DU. O fewn ei ffiniau mae gwarchodfeydd natur llawn pâl, henebion cerrig neolithig a rhai o draethau harddaf Cymru, boed yn rhai â bwrlwm caffis, fel y rhai yn nhref harbwr hyfryd Dinbych-y-pysgod, neu’n greigiog, gwyllt a gwyntog, fel Traeth anghysbell Marloes.

Fel Eryri, mae’r rhan hon o Gymru wedi bod yn atyniad i gerddwyr ers tro, diolch yn bennaf i Lwybr Arfordir Sir Benfro (sydd bellach yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru) sydd wedi bod yn croesawu cerddwyr ers 1970. Ond ffordd fwy unigryw o ddarganfod tirlun creigiog a gwyllt y parc, yw mynd ar daith arfordira, gweithgaredd cyflym iawn sy'n cynnwys dringo creigiau, nofio a neidio clogwyni, a gafodd ei ddyfeisio yma – yn ôl y sôn.

Grŵp o bobl yn gwisgo offer diogelwch dŵr yn y dŵr ger yr arfordir
Arfordira yn Sir Benfro

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Efallai mai hwn yw parc cenedlaethol ieuengaf Cymru, ond mae’r olygfa o fryngaerau, ffermydd a thomenni claddu sydd wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal 42 milltir yma o led o Ganolbarth Cymru yn dystiolaeth bod yr ardal fryniog hon wedi bod yn denu ymwelwyr ers cyfnod y Rhufeiniaid – neu hyd yn oed yn hirach os credwch chwedlau rhyw Frenin Arthur yn crwydro o amgylch y rhannau hyn, yn hela haid o faeddod gwyllt hudolus.

Er bod y tebygolrwydd o weld mochyn hudolus yn fach, mae bywyd gwyllt y parc yn parhau i fod yn atyniad mawr i dwristiaid heddiw, boed yn flodyn tormaen glasgoch llachar, sy’n ychwanegu lliw trawiadol at lethrau’r parc, neu Farcud Coch mawreddog yn codi i’r entrychion – anifail sydd wedi tyfu i fod yn un o symbolau Cymru. Nid ymwelwyr dydd yn unig sy’n cael yr holl hwyl yma, fodd bynnag, gyda golygfeydd clir y parc o’r cosmos wedi golygu ei fod wedi’i enwi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Cymru (a dim ond y bumed yn y byd!).

Aderyn ysglyfaethus mawr yn hedfan yn yr awyr
Barcud coch yng Nghanolfan Bwydo Barcutiaid Coch, Fferm Gigrin

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru

Penrhyn Gwyr

 

Penrhyn Gŵyr, sydd ychydig i’r gorllewin o Abertawe, oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU, ac mae’r gwobrau wedi bod yn cynyddu ers hynny. Mae traethau’r rhanbarth wedi dod yn fuddugol sawl tro, gyda Rhosili wedi’i henwi fel un o’r ardaloedd tywodlyd gorau yn y byd gan TripAdvisor yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae gan bob ardal leol ei ffefryn, boed yn Langland neu yn Llangynydd.

Ar y tir, mae rhannau o lwybr troed hiraf Cymru, Llwybr Arfordir Cymru, i grwydro arnynt a thafarndai lleol clyd i gael seibiant ynddynt, i gyd o fewn tirwedd werdd Gorllewin Cymru.

Golygfa morfa arfordirol hardd
Golygfa arfordirol heulog a phrydferth gyda bae tywodlyd wedi'i amgylchynu gan glogwyni gwyrdd
Bae y Three Cliffs i Oxwich

Penrhyn Llŷn

Efallai ei fod yn swnio fel ystrydeb, ond mae camu i ffiniau prydferthwch Penrhyn Llŷn, sy’n ymestyn tua’r gorllewin o Eryri i Fôr Iwerddon, fel cerdded i mewn i Gymru’r oes a fu – yn enwedig os gwnewch chi hynny gan ddilyn llwybr pererindod y chweched ganrif sy’n ymdroelli ar ei hyd i Ynys Enlli, allfa greigiog ar flaen y penrhyn.

Mae tua chwarter yr ardal hon, sy’n brin ei phoblogaeth, yn dod o fewn AHNE Llŷn, sy’n sicrhau gwarchodaeth i fywyd gwyllt yr ardal, o ddolffiniaid a llamhidyddion i fulfrain a brain coesgoch, yn ogystal â’i swyn gwledig.

Ci yn eistedd i lawr ar ben bryn, yn edrych dros olygfa fynyddig
Golygfa o fynydd arfordirol creigiog a hardd
Golygfeydd o Benrhyn Llŷn

Ynys Môn

 

Mae Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru yn enwog am ei hysblander naturiol. Mae bron y cyfan o’i harfordir yn ffurfio rhan o AHNE Ynys Môn, sy’n cynnwys coedwigoedd gwych lle mae gwiwerod coch yn byw, i ardaloedd maith o dywod lle mae morloi’n gorweddian.

Ond peth unigryw, fodd bynnag, yw’r strwythurau trawiadol niferus o waith dyn sydd wedi’u cynnwys yn yr AHNE, o Oleudy Ynys Lawd, sydd wedi bod yn cadw golwg dros ben gogledd-orllewinol Cymru ers 1809, i Gastell Biwmares, y cadarnle olaf i Edward I ei adeiladu yn ystod ei oresgyniad hirbarhaol o Gymru yn y 13g.

Hen gastell mawr gyda ffos yn erbyn awyr las
Castell Biwmares

Dyffryn Gwy

Yn pontio siroedd Mynwy yng Nghymru a Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw yn Lloegr, mae AHNE Dyffryn Gwy yn unigryw am iddi gael ei rhannu rhwng y ddwy wlad. Mae'r rhanbarth gwarchodedig yn rhedeg o ychydig i'r de o Henffordd i Gas-gwent, gan ddilyn dyffryn isaf Afon Gwy, y bedwaredd afon hiraf yn y DU.

Fel cyrchfan dwristiaeth boblogaidd yn y 18fed ganrif – diolch, yn rhannol, i adfeilion rhamantus Abaty Tyndyrn (sy’n dal i sefyll heddiw) – ysbrydolodd Afon Gwy rai o feddyliau artistig mawr Prydain, gan gynnwys Coleridge, Turner a Wordsworth. Heddiw mae'r ardal yn denu llif cyson o gaiacwyr, cerddwyr a nofwyr gwyllt i'w glannau hardd, sy'n parhau i fod wedi'u gorchuddio i raddau helaeth mewn coetir brodorol.

Adfeilion abaty hanesyddol mawr
Abaty Tyndyrn, Sir Fynwy

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fwyaf, mwyaf newydd a mwyaf gwyllt Cymru o bosibl yn eistedd yn ei chornel ogledd-ddwyreiniol, sy’n 150 milltir sgwâr (390 cilomedr sgwâr) o gefn gwlad prydferth llawn bryniau, sydd hefyd yn cynnwys tref hardd cerdyn post Llangollen, cartref yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol flynyddol.

Wedi'i chroesi â llwybrau beicio a heicio, gan gynnwys Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, mae'r ardal hefyd yn gyforiog o henebion hanesyddol, gydag atyniadau nodedig yn cynnwys cadarnle canoloesol pen bryn Castell Dinas Brân, Piler Eliseg, sy’n ddirgelwch o'r 9fed ganrif ac olion ffotogenig Abaty Glyn y Groes, a sefydlwyd yn y 13eg ganrif.

Delwedd o gwch camlas yn erbyn cefndir mynyddig hardd
Golygfa o fynydd gwyrdd
Camlas Llangollen a Sgarp Eglwyseg

Straeon cysylltiedig

Llun gyda’r nos o lyn a mynyddoedd gydag awyr serennog yn y cefndir

Syllu i entrychion Cymru

Gyda thri Lle Awyr Dywyll Rhyngwladol gwarchodedig o fewn ei ffiniau, mae Cymru bellach yn un o’r cyrchfannau gorau yn y byd ar gyfer syllu ar y sêr.

Mynydd o lechi ym mlaen y llun, â thai teras a mynyddoedd pell yn y cefndir

UNESCO – Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae Cymru bellach yn ymfalchïo mewn pedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma gyflwyniad i’r pedwar ynghyd â manylion am pam fod pob un mor bwysig i hanes Cymru, a’r byd yn ehangach.