Mae yna ddihareb boblogaidd yn y Gymraeg: ‘Dod yn ôl at fy nghoed’. Mae’r ymadrodd yn dangos sut mae natur wedi cael ei gwerthfawrogi ers tro yng Nghymru fel rhywbeth sy’n hanfodol i les.

A chyn bo hir bydd mwy o goed nag erioed i bobl Cymru – ac ymwelwyr cyson – ddod yn ôl atynt, wrth i’r wlad ddechrau gweithio ar Goedwig Genedlaethol Cymru, prosiect uchelgeisiol sy’n gobeithio cyfoethogi tirwedd y wlad a bywydau pobl sy'n treulio amser ynddi.

Beth yw Coedwig Genedlaethol Cymru?

Mae'r Goedwig Genedlaethol yn rhaglen i greu rhwydwaith o goetiroedd sy'n rhedeg ar hyd a lled Cymru gyfan, gan dyfu o amgylch y wlad. Byddai’r coridor gwyrdd gwych yma’n adeiladu ar ardaloedd o goetir hynafol presennol yng Nghymru, a’u diogelu, yn ogystal â chreu ardaloedd o goedwigoedd newydd; mae hyn yn y pen draw yn golygu y bydd bodau dynol ac anifeiliaid, un diwrnod, yn gallu cerdded ar draws Cymru heb adael y coed.

Golygfa hardd o’r goedwig
Edrych i fyny at ben y coed o fewn coedwig
Tri o bobl gyda chi yn cerdded drwy goedwig
Coedwigoedd ar draws Cymru

Llwybr y goedwig

Pam coedwig genedlaethol?

Mae effeithiau cadarnhaol coedwigoedd yn niferus. I ddechrau, mae coed yn gwella ansawdd aer, yn arbennig, amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer, sy'n ffactor sy'n cyfrannu'n fawr at newid hinsawdd. Maent hefyd yn helpu i atal llifogydd, yn adfywio pridd, yn glanhau afonydd ac yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt Cymru, o lwynogod a cheirw i wiwerod coch a thylluanod gwynion.

Yna mae’r buddion y mae coed yn eu rhoi i les dynol a grybwyllwyd uchod, gydag astudiaethau’n profi y gall treulio amser ym myd natur gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl. Ar ben hyn, gall coed hefyd ddarparu ffynhonnell o fwyd a deunydd adeiladu cynaliadwy ar gyfer cymunedau lleol.

Yn olaf, y gobaith yw – yn debyg iawn i greu Llwybr Arfordir Cymru, sy’n ymestyn dros arfordir cyfan Cymru – bydd Coedwig Genedlaethol yn rhoi hwb i dwristiaeth, gyda cherddwyr eiddgar a phobl sy’n mwynhau natur yn cael eu hudo gan deithiau cerdded hir mewn coetiroedd a fydd yn ymestyn trwy gefn gwlad Cymru.

Prosiectau ailgoedwigo eraill

Yn gweithio ochr yn ochr â rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru mae cynllun Plant!. Wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2008, mae Plant! yn plannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru, gan greu dros 140 hectar o goetiroedd yng Nghymru hyd yn hyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Cwpl yn cerdded drwy goedwig
Coedwig yng Ngheredigion

Ers 2014, mae’r prosiect hefyd wedi dechrau plannu coeden gyfatebol yn Uganda ar gyfer pob coeden a blannwyd yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o Raglen Coed Mbale, menter sy’n cael ei rhedeg gan elusen Maint Cymru i leihau effaith newid yn yr hinsawdd, a helpu i leihau tlodi, yn rhanbarth Mbale yn Nwyrain Uganda – gyda 15 miliwn o goed wedi’u plannu hyd yma – ymdrech anhygoel.

Straeon cysylltiedig

Mynydd o lechi ym mlaen y llun, â thai teras a mynyddoedd pell yn y cefndir

UNESCO – Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae Cymru bellach yn ymfalchïo mewn pedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma gyflwyniad i’r pedwar ynghyd â manylion am pam fod pob un mor bwysig i hanes Cymru, a’r byd yn ehangach.

Llyn prydferth wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd mawr gwyrdd

Mannau gwyrdd gwarchodedig Cymru

Oeddech chi’n gwybod bod Cymru yn gartref i dri pharc cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol? Dyma gipolwg ar ein mannau gwyrdd gwarchodedig.

Llun o'r awyr o gar yn gyrru ar hyd ffordd arfordirol fynyddig

Dewch i deithio

Mae Ffordd Cymru sy’n gyfres o lwybrau taith epig, yn helpu ymwelwyr i weld y gorau o Gymru ar bedair olwyn.