Wnes i ddim dewis Cymru: Cymru ddewisodd fi. Ar ôl symud i Birmingham o’r Almaen, fe ddes i lawr i Gaerdydd ar gyfer cynhadledd, a chwympo mewn cariad ar unwaith â’r ddinas. Fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i geisio am swydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a phan gyrhaeddodd y cynnig derbyniais yn frwd – ro’n i’n gwybod yn barod fod potensial i gael ansawdd bywyd llawer gwell yng Nghymru.

dynes yn sefyll tu allan adeilad prifysgol.
Monika yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu Rhyngwladol yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd

I ddechrau, fe wnes i weithio i’r Brifysgol fel Cyfarwyddwr Rhaglen Almaeneg, ond wedyn cymerais at fy rôl bresennol fel Darlithydd, a Chyd-gyfarwyddwr Ymgysylltu Rhyngwladol, yn Ysgol Gerddoriaeth y Brifysgol.

Mae’r cyfuniad hwn o gefndiroedd Almaeneg a cherddoriaeth wedi rhoi golwg unigryw i mi ar natur unigryw diwylliant Cymru. Mae creadigrwydd Celtaidd cryf yn ymdreiddio drwy’r cyfan mewn cynifer o ffyrdd gwahanol. Dyma genedl fach, ond un sydd ag ymdeimlad aeddfed sydd wedi hen ennill ei blwyf o draddodiad, sy’n dal i chwarae rhan ym mywydau beunyddiol y bobl.

Heddiw, mae Cymru’n ymwneud yn gryf iawn â’i gwreiddiau fel gwlad lenyddol sy’n gyforiog o chwedlau, traddodiadau gwerin a cherddoriaeth: ceir nifer o wyliau i ddathlu’r diwylliant creadigol hwn. Yn y gwyliau hyn, gall pawb fwynhau ymdeimlad nodweddiadol gynnes o berthyn ac o gymuned, sy’n gryfach ac aeddfetach nag a welais yn unman arall. Felly, mae wedi bod yn hawdd i mi gyfarfod â phobl gyda'r un diddordebau i rannu fy nghariad tuag at gerddoriaeth, celf, hanes a chwedlau.

dynes yn chwarae allweddellau.
Mae cefndir cerddorol Monika yn yr Almaen wedi rhoi mewnwelediad unigryw ar draddodiad a diwylliant modern Cymru

Mae fy mamwlad, yr Almaen, hefyd wedi’i thrwytho mewn diwylliant a chreadigrwydd, ond mae yna rai agweddau arbennig iawn am ddiwylliant Cymru sy’n anodd eu darganfod yn unman arall, gan gynnwys y traddodiad canu penigamp – yn enwedig canu corawl – sy’n treiddio drwy’r genedl ac yn ei huno. Mae clywed y Cymry’n canu, bod yn gôr proffesiynol neu’n dorf rygbi’n bloeddio o’r galon, yn brofiad bythgofiadwy.

Cymru v De Affrica-o dan arfwisg gyfres 2017-cyffredinol barn Cymru yn rhedeg i'r cae.
chwaraewyr ar dop bws to agored a thorf o gefnogwyr ar y stryd.

Mae chwaraeon yn gyffredinol yn elfen mor bwysig o’r ymdeimlad o ddiwylliant a chreadigrwydd yng Nghymru. Roedd llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol yn Ewro 2016 – pan gyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol – yn drobwynt go iawn o ran rhoi’r hunaniaeth hon ar lwyfan rhyngwladol. Byddai fy ffôn yn y swyddfa’n canu’n ddi-baid wrth i un orsaf deledu ar ôl y llall yn yr Almaen ffonio i holi sut deimlad oedd bod yn Almaenes yng Nghymru yn ystod cyfnod mor gyffrous. Ers y bencampwriaeth, mae mwy a mwy o fy ffrindiau a theulu yn yr Almaen wedi teithio i’r wlad i brofi ei nodweddion unigryw drostynt eu hunain.

adeilad gydag ysgrifen a thŵr gyda drychau (Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd).
Mae Monika’n ymwelydd rheolaidd â Chanolfan Mileniwm Cymru, ble gall fwynhau’r cynigion diwylliannol diweddaraf ar garreg ei drws

A minnau’n byw yng Nghaerdydd, mae gen i gyfle i ymwneud â chyfoeth eithriadol ddwfn o ddiwylliant reit ar garreg fy nrws. Drwy gyfrwng prosiectau cydweithredol gyda chydweithwyr yn Opera Cenedlaethol Cymru, rwyf wedi gallu adeiladu cyswllt agos ag un o gwmnïau theatr gorau’r byd. Mae hyn wedi bod o fantais i mi ac i fy myfyrwyr.

pobl yn cerdded ar lwybr bordiau gyda dŵr a chychod yn y cefndir.
Bydd Monika’n treulio cryn dipyn o’i hamser hamdden yn ardal Bae Caerdydd â’r llu atyniadau a gynigir yno

Mae’r ddinas o’r maint delfrydol: mae ganddi holl fanteision byw mewn prifddinas, ond fawr ddim o’r anfanteision: dim teithio’n bell i’r gwaith, strydoedd gorlawn nag aer llygredig. Mae’r awel oddi ar Fae Caerdydd yn bendant yn iachusol!

Mae’r ffordd o fyw gewch chi yng Nghaerdydd yn gymharol hamddenol o ystyried ei bod hi’n brifddinas. Mae pobl yn gymwynasgar, yn garedig ac yn anffurfiol. Dyma’r lle cyntaf i mi fyw ble wnaeth gyrrwr bws aros a gadael i mi ddod ar y bws pan oeddwn i’n rhedeg i’w ddal yn hytrach nag edrych y ffordd arall heibio! Pethau bychain fel hyn sy'n gwneud bywyd yma mor ddymunol.

exterior of white domed building.
interior view of museum.
museum display.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae’n hawdd i bobl o bob cwr o’r wlad ddod i Gaerdydd i brofi cyffro digwyddiadau, gweithgareddau a safleoedd o arwyddocâd cenedlaethol sy’n greiddiol i fywyd Cymru. Caf fy atgoffa o hyn bob dydd pan fyddaf yn mynd heibio i’r Amgueddfa Genedlaethol ar fy ffordd i’r gwaith.

Er mai Caerdydd yw’r brifddinas – a’r ddinas fwyaf – mae cydraddoldeb yn gynhenid yn ysbryd y genedl. Gwasgarwyd asedau fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, - yn Aberystwyth yng nghanolbarth Cymru - ar draws y wlad. Dau atgof clir sy’n aros gyda fi ar ôl i mi deithio ledled y wlad: harddwch digyffwrdd golygfeydd y wlad, a chynhesrwydd naturiol y croeso.

Mae Monika wedi cwympo mewn cariad â gwead diwylliannol cyfoethog bywyd yng Nghaerdydd.
Mae Monika wedi cwympo mewn cariad â hanfod diwylliannol cyfoethog bywyd Caerdydd

Straeon cysylltiedig

Syrffwyr a van, Rest Bay

Cwestiwn o gydbwysedd

Mae taith i’r gwaith gyda golygfeydd, syrffio ar ôl gwaith a gwyliau penwythnos yn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yng Nghymru.

Pynciau: