Roedd gwrando ar radio hwyr y nos wedi fy sbarduno fy niddordeb mewn cerddoriaeth

Rwy’n cofio clywed DJs fel Steve Lamacq, Jo Whiley a John Peel, a jyst meddwl: "Waw - mae hyn yn wych.” Roedd hi’n adeg pan ddaeth holl fandiau Cymraeg gwych yn boblogaidd yng nghanol y 90au. Roedd Catatonia, Stereophonics, Manic Street Preachers, Super Furry Animals, Feeder ac enwau mawr eraill ar ein stepen drws.

Portread Huw Stephens, o flaen cefndir goleuadau porffor aneglur
Huw Stephens

Roedd y cyfan mor gyffrous

Ro'n i'n 15 oed a ches i sioe ar Rookwood Sound, gorsaf radio ysbyty yng Nghaerdydd, ac yn chwarae recordiau gan bob un o'r bandiau hynny. Ar yr un pryd, dechreuais i ffansin Cymraeg o'r enw Caws Heb Dost. Peidiwch â gofyn i mi pam wnes i ei alw'n hynny!

Roedd hi'n teimlo fel fy mod i yn y lle iawn ar yr adeg iawn

Roedd wastad diddordeb gen i mewn cerddoriaeth leol, a rwy’n meddwl bydde hynny wedi troi mas yr un peth petawn i wedi tyfu lan yn unrhyw le arall. Ond roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy ngeni mewn gwlad sydd â diwylliant creadigol mor gyfoethog a chymaint o dalent. Dyma'r swydd orau yn y byd i allu ymgolli ynddo a'i ddogfennu.

Huw Stephens yn cynnal het beanie bach yn arcedau Fictoraidd Caerdydd
Eisteddodd Huw Stephens gyda ffrindiau y tu allan i coffi llinellau caled
Huw Stephens yn yfed coffi o fwg Gwyn yng Ngerddi Castell Caerdydd
Huw Stephens, Caerdydd

Rwyf wrth fy modd yn gigio yng Nghaerdydd

Cefais fy magu yn Clwb Ifor Bach - y lleoliad Cymraeg enwog ar Stryd Womanby. Hwn oedd fy ail gartref pan o'n i'n 18 oed ac wedi dechrau mynd i gigs rheolaidd yn y ddinas. Yn y blynyddoedd cynnar hynny gwelais bobl fel Coldplay a The Strokes. Yn fwy diweddar, bu nosweithiau anhygoel yn y Clwb gyda Stella Donnelly a Boy Azooga.

Ar ben arall y sbectrwm, rwyf wedi gweld gigs anhygoel mewn lleoliadau mawr Caerdydd fel y Motorpoint Arena a Neuadd Dewi Sant. Mae pob lleoliad cerddoriaeth rwy'n cerdded heibio llawn atgofion. Yn Neuadd Dewi Sant gwelais i The Bootleg Beatles, Elvis Costello a Gorky's. Rwy’n cerdded heibio Motorpoint ac yn cofio dyna le welais i Blur, Oasis a The Prodigy - cymaint o nosweithiau gwych.

Huw Stephens yn edrych i lawr i gamera o flaen Castell Caerdydd
Huw Stephens, Castell Caerdydd

Gig orau i mi weld erioed yng Nghaerdydd

Byddai’n rhaid i fi ddweud y band Cymraeg Gorky's Zygotic Mynci, gyda chymorth Yo La Tengo yn Neuadd Dewi Sant yn 2004. Dyna'r tro diwethaf i mi erioed weld Gorky's yn chwarae. Daeth y band i ben yn fuan ar ôl hynny.

Gŵyl Sŵn

Sefydlon ni Gŵyl Sŵn – yn 2007. Roedden ni'n teimlo bod angen gŵyl ar Gaerdydd a Chymru. Roedden ni eisiau adlewyrchu'r sîn gerddoriaeth gynnes, gefnogol yn y ddinas, a chadw ei bwrlwm. Ond nid dathliad mawr o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru oedd unig fwriad yr ŵyl. O'r dechrau, roedden ni eisiau gwahodd artistiaid rhyngwladol i chwarae hefyd.

Artista femenina actuando en el escenario en SWN Music Festival 2016
Cynulleidfa rhes flaen mewn gŵyl gerdd swn
Gŵyl Sŵn

Mae perfformiadau'n cael eu cynnal mewn sawl lleoliad yn y ddinas

Gallwch chwi grwydro rhwng gigs a dod ar draws pethau nad oeddech chi erioed wedi dod ar eu traws o'r blaen. Mae'n fformiwla oedd wir wedi dal dychymyg pobl, gan droi Sŵn yn un o'r gwyliau cerddorol mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Rydyn ni wrth ein boddau ei bod bellach yn cael ei redeg gan Glwb Ifor Bach - mae hynny'n dod â phethau nôl i’r dechrau. Rwy'n siŵr y byddan nhw'n cymryd gofal da o'r ŵyl ac yn ei helpu i dyfu hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

Mae Sŵn yn rhoi ffocws i'r gerddoriaeth fyw, ac mae'n ffordd wych o dynnu pobl mewn i'r sîn o’r tu allan i Gymru. Mae hefyd yn ein hatgoffa na ddylen ni gymryd sîn gerddoriaeth fyw fywiog Caerdydd yn ganiataol, oherwydd gallwn weld yn blaen yr hyn y byddem mewn perygl o’i golli os nad ydym yn cefnogi ein lleoliadau.

Mae Sŵn yn rhoi ffocws i'r gerddoriaeth fyw, ac mae'n ffordd wych o dynnu pobl mewn i'r sîn o’r tu allan i Gymru.."

Gwobr Cerddoriaeth Gymreig

Lansiwyd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 fel llwyfan i ddathlu'r albymau anhygoel sy'n cael eu gwneud yma gan artistiaid o Gymru. Roedden ni'n clywed cymaint o recordiau gwych yn Gymraeg a Saesneg drwy'r amser. Mae’n ffordd arall o ddod â phawb at ei gilydd a'u cael i siarad am y gerddoriaeth Gymraeg newydd orau.

Pan rwy’n gwneud fy ngwaith, rwy’n dod ar draws gymaint o ewyllys da tuag at y sîn gerddoriaeth Gymraeg - a gyda digwyddiadau fel y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg a Sŵn, gallwn ni droi’r holl bositifrwydd yna i rywbeth unigryw.

Huw Stephens yn cymryd selfie o flaen Caerdydd dinas o'r Castell
Hunlun dinaswedd Huw Stephens

Straeon cysylltiedig