Ddiwedd 2019, daeth grŵp o gerddorion o Gymru, Iwerddon a’r Alban at ei gilydd am encil 10 niwrnod mewn ffermdy yn Llanidloes, ym mherfeddion cefn gwlad Cymru. Enw’r prosiect oedd Mamiaith, lle roedd cydweithio rhwng ieithoedd a cherddoriaeth frodorol dan faner Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Nod y prosiect oedd archwilio materion yn ymwneud ag iaith, diwylliant a hunaniaeth frodorol, gan edrych ar sut mae cerddoriaeth yn cydio mewn iaith ond hefyd yn mynd y tu hwnt i ieithoedd ar draws y byd.

Roedd yn brofiad diwylliannol hollol newydd i’r gantores o Iwerddon, Lauren Ní Chasaide.

“Doeddwn i erioed wedi bod ar encil ysgrifennu caneuon o’r blaen, a doeddwn i ddim yn gwybod dim oll am ddiwylliant Cymru,” meddai. Ond daeth un peth yn amlwg iddi yn sydyn iawn. “Unrhyw gyfle, byddai’r Cymry yn y grŵp yn dechrau canu, a hynny mewn harmoni pedwar llais,” meddai Lauren. “Ydi hynny’n beth Cymreig? Roedd yn hynod ddiddorol!”

Un o’r Cymry yn y grŵp (ac un o’r harmoni pedwar llais, mae’n debyg) oedd Jordan Price Williams. Fe astudiodd y bas dwbl clasurol yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae’n un o offerynwyr gwerin gorau ei genhedlaeth.

“Y prif beth ddaeth o’r cydweithio oedd darganfod tir cyffredin o fewn ein treftadaeth amrywiol,” meddai. “Mae pawb sy’n chwarae cerddoriaeth draddodiadol yn Ynysoedd Prydain yn hoffi meddwl bod ein traddodiadau unigol ni’n unigryw, ond dydyn nhw ddim o bell ffordd. Mae gan bawb jig, diwn neu ddawns benodol.

"Ond yng Nghymru mae’r gerddoriaeth yn wahanol, ac rwy’n meddwl fod hynny oherwydd bod yr Albanwyr a’r Gwyddelod wedi dal ati i chwarae eu cerddoriaeth ar hyd y 19eg a’r 20fed ganrif, ac felly fe gafodd ei ddatblygu. Pan ddaeth Methodistiaeth i Gymru yn y 19eg ganrif, fe stopiodd pobl chwarae cerddoriaeth draddodiadol. Ac felly mae’r gerddoriaeth wedi cael ei adael fel ag yr oedd e mewn cyfnod cynharach.”

Chafodd popeth ddim ei golli, fodd bynnag: roedd digon o delynorion y delyn deires a chlocswyr o gwmpas i drosglwyddo eu gwybodaeth. Roedd cerdd dant – y dull Cymreig unigryw o ganu tôn fyrfyfyr sy’n gwbl groes i gyfeiliant y delyn – yn dal i fod yn draddodiad iach. Fe ysgrifennodd y telynor o’r Oesoedd Canol, Robert ap Huw (c1580-1665) lawysgrif o gerddoriaeth i’r delyn, oedd yn cadw ar glawr y traddodiad barddol ganrifoedd oed (mae’r gerddoriaeth wedi cael ei ailgreu’n ofalus yn ddiweddar gan y ddeuawd, Bragod).

Cafodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ei sefydlu yn 1906, ac aeth yr aelodau ati i chwilota ym mherfeddion cefn gwlad am alawon gan gasglu a chofnodi caneuon; gwaith a gafodd ei drosglwyddo i Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan yn y 1960au a’r 70au.

Yn y cyfamser, yn Iwerddon roedd traddodiad ‘gwerin Celtaidd’ newydd yn cael ei greu gan fandiau fel The Chieftains, The Bothy Band a Planxsty. Diolch iddyn nhw, ac i gynulleidfaoedd enfawr o Wyddelod yn America, daeth cerddoriaeth Wyddelig y math amlycaf o gerddoriaeth Geltaidd.

 

Roedd gan Gymru waith dal i fyny. Yn 1976, trefnodd Bwrdd Twristiaeth Cymru gynt fod pedwarawd o gerddorion gwerin o Gymru yn chwifio’r faner gerddorol yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, lle daw cerddorion Celtaidd at ei gilydd yn flynyddol yn Llydaw.

Penderfynodd y band ar enw gwamal arnyn nhw eu hunain, sef Ar Log. Yn Lorient, daethant ar draws mawrion cerddoriaeth werin Wyddelig, The Dubliners, a anogodd y band o Gymru i ddal ati a mentro yn broffesiynol.

Fe ddaliodd Ar Log ati – yn 1983 fe ymunodd y cerddor amryddawn Stephen P Rees â’r band. Mae’n academydd – yn darlithio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor – ac yn offerynnwr amryddawn hynod dalentog a chwaraeodd ran ganolog yn adfywiad cerddoriaeth werin yng Nghymru. Yn ddiweddarach, fe sefydlodd fand Cymreig arall, Crasdant. Fe aeth y band ati i chwilota’n ddwfn yn hanes cerddoriaeth Cymru er mwyn canfod deunydd eu cerddoriaeth. Aethant ar deithiau ar draws y byd, gan osod sylfeini cadarn i gerddoriaeth werin Cymru.

“I bobl o’m cenhedlaeth i, roedd yn rhywbeth pwysig iawn gan ei fod yn rhywbeth nad oedd gennym ni cynt, ac felly fe aethom ni ati i’w greu,” meddai Stephen.

Yn 1990, fe helpodd i sefydlu Clera – Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru – oedd yn atgyfodi diddordeb pobl mewn hen offerynnau fel y crwth – telyn fach fwaog – a phib bugail a elwir y pibgorn. Mae’r holl syniad o ‘offerynnau gwerin traddodiadol’ ychydig yn ddadleuol: cafodd y banjo a’r bouzouki eu derbyn yn llon yn rhan o stoc cerddoriaeth Wyddelig. Ond daeth yr hen offerynnau o hyd i’w lle mewn cerddoriaeth newydd.

“Rydych chi’n gwneud y gorau o beth sydd gennych chi,” meddai Stephen. “Ac os oes gennych chi duedd diwygiwr ynoch chi, rhywbeth oedd gen i a nifer o’m cyd-gerddorion, yna rydych chi eisiau darganfod sut oedd yr hen offerynnau hyn yn swnio a sut roedden nhw’n gweithio. Y peth gwych am y pibgorn yw y gallwch chi ei ychwanegu at sŵn grŵp, fwy neu lai. Dydi hi ddim yn syniad da iawn i wneud hynny â’r crwth: mae hwnnw’n offeryn unigol, ac mae’n wych i gyfeilio i gantor unigol.”

Roedd Stephen hefyd yn gyfrifol am gyd-sefydlu trac (Datblygu Traddodiadau Gwerin) er mwyn meithrin talentau newydd. “Mae’n ffordd newydd o drosglwyddo cerddoriaeth draddodiadol – drwy weithdai grŵp yn hytrach na thrwy’r traddodiad llafar o drosglwyddo rhwng tad a mab, ac yn y blaen,” meddai.

Grŵp o gerddorion yn canu offerynnau gyda’i gilydd mewn cylch.
Cydweithrediad cerddorol cyntaf Mamiaith – wedi ei drefnu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru

Y canlyniad yw cenhedlaeth newydd o gerddorion ifanc o Gymru sy’n hyddysg iawn yn niwylliant cerddorol y gorffennol, ond sydd hefyd yn barod iawn i rwygo’r llyfr rheolau. Mae Jordan Price Williams, er enghraifft, yn tynnu ar ddylanwadau o Gwmafan, y pentref glofaol yng nghymoedd y de lle cafodd ei fagu.

“Dyw e ddim yn ysbrydoliaeth gerddorol uniongyrchol,” meddai, “Mae’n fwy i wneud â’r bobl, a’r atgofion plentyn sydd gen i o sut roedd pobl yn ymwneud â’i gilydd a’r math o bethau roeddwn i’n ei weld yn fy mam-gu a’m tad-cu a’u rhieni nhw. Dyw’r math honno o genhedlaeth ddim wir yn bodoli mewn lle fel yna erbyn hyn. Dyna ran o’r rheswm pam fy mod i mor obsesiynol am gerddoriaeth draddodiadol. Mae yna gysylltiad hyfryd, nid i’r tirwedd neu i chwedlau a hanesion, ond i bobl gyffredin o’r gorffennol, pobl lle nad yw eu henwau wedi eu cadw ar glawr y llyfrau hanes mawr. Efallai y dewch chi ar draws eu cerrig beddau ym mynwent rhyw bentref: pobl anarbennig ond sydd hefyd yn eithriadol o arbennig yn eu ffordd eu hunain.”

Mae’n stori debyg yn Iwerddon. Mae gan Lauren Ní Chasaide deulu estynedig o gerddorion: mae cefndryd ei thad yn cynnwys aelodau’r grŵp gwerin Na Casaidigh (The Cassidys), a’r cerddor amlwg, Patrick Cassidy. Ond nid yw hi’n teimlo’n gaeth i draddodiad chwaith. Ac fel nifer o’i chyfoedion yn y byd cerddorol, nid yw hi’n or-hoff o’r label ‘Celtaidd’.

“Dyw e ddim yn rhywbeth rydw i’n uniaethu ag e yn bersonol, oherwydd nid cerddoriaeth draddodiadol Wyddelig oedd y gerddoriaeth roeddwn i’n cael fy nenu ato pan oeddwn i’n tyfu i fyny,” meddai Lauren. “Mae yna genre ‘Celtaidd’ enfawr yn America – mae’r holl stwff cyfriniol yna’n boblogaidd yno. Ond dyw beth rydyn ni’n ei wneud ddim o reidrwydd mewn arddull ‘Celtaidd’, ond yn hytrach mae mewn arddull fodern yn gymysg o beth rydyn ni wedi ei glywed ar hyd ein bywydau. Rwy’n siŵr fy mod i’n torri pob math o reolau. Ond dydw i ddim yn trio hysbysebu fy ngherddoriaeth i fel rhywbeth dan ddylanwad traddodiad. Os nad ydw i’n sathru ar draed gormod o bobl sy’n credu bod y traddodiadol yn sanctaidd, yna...”.

Mae Jordan Price Williams yntau’n teimlo’r un rhyddid. “Nid yw’n rhywbeth mewn amgueddfa wedi ei gadw am byth mewn fformaldehyd,” meddai. “Mae’n beth byw, a bydd pob un sy’n ymuno yn cyfrannu fel y mynnant. Mae pawb yn ceisio aros yn driw i rhyw sŵn ‘Cymreig’, ond gall fod yn gêm beryglus ceisio diffinio beth yn union yw hwnnw. Mae’n fendith ac yn felltith ar adegau. Gall rhai cerddorion sydd wedi hen ennill eu plwyf ei gweld hi’n anodd llyncu’r hyn rydyn ni’n ei wneud.”

Ond nid yw hynny’n wir yn achos Stephen Rees fodd bynnag. “Dydych chi’n methu rheoli beth rydych chi’n ei greu,” meddai. “Mae pobl ifanc yn cymryd y math o bethau y gwnaeth pobl fy nghenhedlaeth i eu hadfywio, ac yn eu perchnogi yn eu ffordd eu hunain. Beth sy’n ysbrydoledig nawr yw’r ffordd y mae cenhedlaeth iau yng Nghymru yn mynd â cherddoriaeth ‘draddodiadol’ i gyfeiriadau gwahanol. Mae’n bosib nad ydw i’n mynd i hoffi popeth, ond mae’n berchen iddyn nhw cymaint ag y mae’n berchen i mi.”

Ac yn ôl yn Llanidloes at y prosiect Mamiaith, dyna’n union y mae’r cerddorion ifanc yn ei wneud. Aeth Lauren Ní Chasaide ati i gydweithio’n gerddorol â Georgia Ruth o Aberystwyth. “Roedd gennyn ni gerddoriaeth reit debyg, ac rydyn ni’n dwy yn ddysgwyr o’n hieithoedd [Gwyddeleg a Chymraeg], felly mae ein cysylltiad ni’n fwy o ddewis bwriadol i ddefnyddio’r iaith, ei gwarchod a’i meithrin, a chreu drwy gyfrwng yr iaith, yn hytrach na theimlo mai dyna’r unig beth diwylliannol rydym ni’n gallu ei gynnig,” meddai hi.

“Daeth y caneuon a ysgrifennais i gyda Georgia mor naturiol i ni’n dwy, er fy mod i’n dysgu sut i ganu yn Gymraeg ac roedd hithau’n dysgu i ganu mewn Gwyddeleg. Roedden ni’n dwy yn teimlo cysylltiad â’r peth, ac roedd hynny’n brofiad arbennig iawn.”

“Roedd yn ddiddorol iawn i gael dod i adnabod Cymry hefyd. Doeddwn i erioed wedi ystyried pa mor debyg yw’r ieithoedd a’r sefyllfaoedd cymdeithasol. Roedden ni’n dod ymlaen mor dda ac roedd gennyn ni gymaint yn gyffredin. Mae’n rhyfedd nad oes mwy o ymwneud diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru. Rydw i wedi fy ysbrydoli a’m cyfareddu gan y Gymraeg nawr. Mae angen agor drws y meddwl a gwneud i bobl sylweddoli mor debyg yw’r ieithoedd hyn, ac mae’n hynod ddifyr i wneud y cysylltiadau hynny.”

Rhagor o wybodaeth:

 

Straeon cysylltiedig