Yr arwydd hafal

Cafodd y gŵr dysgedig Robert Recorde (c.1512-1558) ei eni yn Ninbych-y-pysgod. Aeth i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, gan ddod yn feddyg i Edward VI a rheolwr y Bathdy Brenhinol. Ei brif gyfraniad i faes mathemateg oedd dyfeisio’r arwydd hafal (=), a ddefnyddiwyd ganddo yn ei lyfr The Whetstone of Witte a gyhoeddwyd yn 1557. Defnyddiodd yr arwydd hafal  er mwyn osgoi ailadrodd y geiriau 'yn hafal i'. Defnyddiodd ddwy linell baralel ac o'r un hyd, gan eu bod yn gwbl hafal â'i gilydd.

 

Pi

Nid y mathemategydd William Jones (1675-1749) a anwyd ar Ynys Môn a ddyfeisiodd pi, ond William Jones oedd y cyntaf i ddefnyddio’r symbol π i gynrychioli cymhareb cylchlin cylch â’i diamedr. Roedd William Jones yn gyfaill agos i Syr Isaac Newton a Syr Edmund Halley, a’i fab - William Jones arall - oedd yr ieithegydd a sefydlodd gysylltiadau rhwng Lladin, Groeg a Sanskrit, gan arwain at y cysyniad o grŵp ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Infographic of man juggling lifestyle icons such as money and education
Syniadau

Y ‘Ball bearing’

Y dyfeisiwr a’r meistr haearn o Gaerfyrddin, Philip Vaughan, fu’n gyfrifol am greu patent ar y cynllun cyntaf ar gyfer y ‘ball bearing’ yn 1794. Rhoddwyd peli haearn rhwng olwyn ac echel cert yn ei gynllun ef, gan alluogi i olwynion cert i droelli’n rhydd gan leihau ffrithiant. Mae dyfais Philip Vaughan yn parhau yn cael eu defnyddio ymhob peiriant ac olwyn sydd â darnau sy’n troi hyd heddiw.

Y gell danwydd

Yn y dyfodol, efallai y bydd pawb yn gyrru ceir sy’n cael eu pweru gan gelloedd tanwydd hydrogen – diolch i Syr William Grove (1811-1896). Dyfeisiwyd y gell danwydd yn 1842 gan y gwyddonydd a’r barnwr a aned yn Abertawe, gan gyfuno hydrogen ac ocsigen i gynhyrchu trydan. Rhoddwyd yr enw Grove ar grater sy’n 3km o led ar wyneb y Lleuad er cof amdano. 

Infographic of globe with lifestyle icons surrounding it
Effaith fyd-eang

Mwyndoddi haearn

Fe arweiniodd y broses ‘chwyth poeth’ i’r gwaith o wneud haearn gael ei drawsnewid. Yn y broses hon fe gynheswyd yr aer cyn ei bwmpio i ffwrnais chwyth. Cafodd y broses ei darganfod yn annibynnol gan sawl gweithiwr haearn gan gynnwys David Thomas (1794- 1882) yn Ystradgynlais. Aeth David Thomas â’i broses i Pennsylvania, ble chwaraeodd rôl bwysig yn y diwydiant haearn yr UDA. David Thomas oedd lywydd cyntaf Cymdeithas Meteleg America.

Y microffon

Gwnaeth David Edward Hughes (1831-1900) o’r Bala sawl darganfyddiad pwysig ym maes telegraffeg diwifr a microffonau. Mae hi hefyd yn debygol fod Edward Hughes wedi darganfod tonfedd radio ddegawd cyn Heinrich Hertz yn 1888. Ni wnaeth Hughes gyhoeddi patent ar gyfer ei gynllun ar gyfer y meicroffon, am ei fod o’r farn y dylai’i waith fod ar gael i’r cyhoedd er mwyn i eraill ei ddatblygu ymhellach. Mae’r Gymdeithas Frenhinol yn parhau i gyflwyno Medal Hughes bob dwy flynedd i wyddonwyr arloesol.

Infographic of a stressed male with microphones and speech bubbles pointing at him
Technoleg arloesol

Meddygaeth a diwygio cymdeithasol

Frances Hoggan (nee Morgan; 1843-1927) oedd yr ail ferch yn unig drwy Ewrop gyfan i ennill doethuriaeth mewn meddygaeth. Daeth yn arbenigwr mewn clefydau oedd yn effeithio ar ferched a phlant, a helpodd i sefydlu system o ysgolion uwchradd i ferched yng Nghymru. Yn ddiweddarach, cymerodd ran mewn diwygiadau addysgol a chymdeithasol yn Ne Affrica, y Dwyrain Canol, India ac UDA. Bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cyflwyno Medal Frances Hoggan yn flynyddol i gydnabod cyfraniad arbennig merched ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth neu fathemateg.

Siopa drwy’r post

Sefydlodd Syr Pryce Pryce-Jones (1834-1920) siop ddillad yn ei dref enedigol, Y Drenewydd, oedd yn ganolfan bwysig i’r fasnach wlân. Ysbrydolwyd Pryce-Jones gan ddyfodiad y rheilffyrdd a’r gwasanaeth post i ymestyn ei orwelion. Sefydlodd y busnes gwerthu drwy’r post cyntaf y DU, gan werthu brethyn o Gymru ledled Ewrop, America ac Awstralia yn y pen draw. Ef hefyd sy’n derbyn y clod am ddyfeisio’r sach gysgu gyntaf. Rhoddodd batent arno yn 1876 o dan yr enw ‘Euklisia Rug’.

Infographic of telescope surrounded by astronomy and maths icons
Gwyddoniaeth ac ymchwil

Ffotograffiaeth yn y gofod dwfn

Ac yntau’n fab fferm o Sir Ddinbych, llwyddodd Isaac Roberts (1829-1904) i ddatrys y broblem o fedru galluogi camera i dynnu llun o wrthrychau yn y gofod dwfn. Gwrthrychau yw’r rhain sydd angen golwg glir arnyn nhw er bod y ddaear yn troi’n barhaus. Tynnodd ei lun cyntaf o Alaeth Andromeda fel bod modd i seryddwyr weld ei wir ffurf am y tro cyntaf erioed.

Tynnu olew o’r ddaear

Ganed Samuel ‘Golden Rule’ Jones (1846-1904) ym Meddgelert, ond allfudodd i’r Unol Daleithiau, ble bu’n gyfrifol am ddyfeisio math newydd o rod bwmpio ar gyfer pyllau olew, ond ei enw fel cyflogwr sy’n gyfrifol am ei lysenw. Byddai pob gweithiwr yn ei ffatri’n derbyn cyflog byw, gwyliau â thâl, rhan o’r elw a bwyd rhad. Dim ond un rheol oedd ar hysbysfwrdd y cwmni: ‘Y rheol aur: Fel y dymunwch i eraill wneud i chi, gwnewch chwithau'r un fath iddyn nhw.’ Yn 1897 etholwyd Jones yn faer Toledo, Ohio, swydd a ddaliodd gan weithredu’r un egwyddorion goleuedig.

Infographic of a woman practising yoga balancing a brain and list in each hand
Ymchwil ac addysg

Iechyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth

Ganed Dr Martha Hughes Cannon (1857-1932) yn Llandudno, ond allfudodd i’r Unol Daleithiau, ble gweithiodd fel meddyg. Ymgyrchodd dros y bleidlais i ferched ac roedd yn flaengar mewn gwella safonau iechyd cyhoeddus. Yn 1896, hi oedd y seneddwraig daleithiol fenywaidd gyntaf yn yr UDA – gan sefyll yn erbyn, a churo, ei gŵr ei hun. Cynigiodd sawl mesur deddfwriaethol a drawsnewidiodd iechyd cyhoeddus yn Utah, ble enwyd adeilad presennol yr Adran Iechyd ar ei hôl.

Yr olwyn sbâr

Agorodd Morris a Walter Davies siop nwyddau haearn yn Stryd Stepney yn Llanelli yn 1895. Doedd gan y ceir cynnar ddim olwyn sbâr, felly dyfeisiodd Morris Davies ymyl olwyn soled â theiar y gellid ei awyru’n sownd wrtho. Erbyn 1909, roedd pob un o dacsis Llundain yn cario’r ddyfais, a lledodd eu dyfais drwy’r byd i gyd. Hyd yn oed heddiw, yr enw cyffredin ar olwyn sbâr mewn sawl gwlad yw ‘stepney’.

Infographic of road icons with scissors cutting through
Trafnidiaeth a seilwaith

Radar

Roedd mab i weithiwr dur o Abertawe, Edward ‘Taffy’ Bowen (1911-1991) yn ffigwr allweddol yn y gwaith o ddatblygu radar. Obsesiwn arbennig Bowen oedd gosod radar mewn awyrennau, er mwyn iddyn nhw allu darganfod nid yn unig awyrennau eraill ond targedau anodd eu canfod fel llongau tanfor hefyd. Ar ôl y rhyfel daeth yn arloeswr ym maes astronomeg radio. The son of a Swansea steelworker, Edward ‘Taffy’ Bowen (1911-1991) was a key figure in the development of radar. Bowen’s particular obsession was installing radar in aircraft, so that they could detect not only other aircraft but also hard-to-find targets like submarines. After the war, he became a pioneer of radio astronomy.

Yr Hymac

Ceffyl gwedd safleoedd adeiladu’r byd yw’r Hymac, y jac codi baw mawr melyn â thraciau tanc, caban sy’n gallu troelli 360-gradd, a braich hir i balu. Fe’i dyfeisiwyd gan Rhymney Engineering yng Nghymru yn y 1960au. Daw’r enw ‘Hymac’ o ‘hydraulic machine’.

Infographic of  hands trying to pull a sword out of the stone
Cydweithio

Cyfnewid pecynnau (Packet switching)

Gweithiodd y gwyddonydd cyfrifiadurol a anwyd yn Nhreorci, Donald Davies (1924-2000), gydag Alan Turing ar gyfrifiaduron cynnar ym Mhrydain. Donald Davies fu’n gyfrifol am ddatblygu’r syniad o ‘gyfnewid pecynnau’ sef rhannu negeseuon cyfrifiadurol yn becynnau sy’n cael eu cyfeirio’n annibynnol ar draws rhwydwaith. Mewn gwirionedd dyma un o’r egwyddorion pwysicaf ar gyfer sefydlu’r rhyngrwyd.

Yr anadliedydd

Yn 1976 cyhoeddodd Labordai Lion yn y Barri anadliedydd i helpu i gadw defnyddwyr y ffyrdd yn ddiogel rhag gyrwyr meddw. Heddiw, defnyddir eu cynnyrch o hyd gan heddlu’r DU a 70 gwlad ledled y byd.  

Infographic of Wales highlighted on a globe with business and economy illustrations beside it
Gwnaed yng Nghymru

Anthropoleg

Roedd Elaine Morgan (1920-2013) yn sgript wraig uchel ei chlod ym maes teledu ond mewn cylchoedd gwyddonol, mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar anthropoleg esblygol, yn enwedig damcaniaeth yr epa dŵr (aquatic ape hypothesis). Cyhoeddodd sawl llyfr ar y pwnc, gan herio’r farn draddodiadol, wrywaidd, o esblygiad dynol.

Chemiluminescence

Gwnaeth tîm o Brifysgol Caerdydd waith arloesol yn ystod y 1990au ar allyriad golau yn ystod adwaith cemegol. Daeth eu gwaith yn offeryn hanfodol mewn dadansoddi meddygol ac fe’i rhestrwyd fel un o’r can prif ddarganfyddiad oedd yn gyfrifol am newid bywyd pobl gan brifysgolion yn y DU.