Gefeillio cestyll UNESCO

Dyma’r tro cyntaf a’r unig dro i ddau safle treftadaeth diwylliannol y byd UNESCO gael eu gefeillio, a hynny rhwng Castell Conwy yng ngogledd Cymru a Chastell Himeji yn Hyogo, Japan. Cyd-darodd y gefeillio â Chwpan Rygbi’r Byd 2019 a’r gobaith yw y bydd yn cynyddu’r cyfnewidfeydd mewn twristiaeth gan ddod â Chonwy a Hyogog – a’u gwledydd eu hunain ynghyd, trwy eu cariad at hanes, diwylliant cestyll a chymuned.

Mae gan Himeji-jo (sef yr enw y mae Castell Himeji yn cael ei adnabod wrtho yn Japan) y llysenw Castell Crëyr Gwyn (Shirasagijo yn Japaneg), oherwydd ei waliau gwyn llachar a’i safle uchel ar gopa bryn. Dyma’r enghraifft wedi’i diogelu orau o safle castell Japaneaidd o’r 17eg ganrif, sy’n cynnwys 83 adeilad ar wahân wedi’u codi o bren gan mwyaf, waliau wedi’u plastro â phridd a thoeau haenog.

Castell Conwy yn y cyfnos wedi'i oleuo gan adlewyrchiad mewn dŵr
Tu allan i Gastell Himeji, Japan
Castell Conwy a Himeji-jo

Mwynhau sushi ar draws y milltiroedd

Nid dim ond castell Conwy sy’n denu torfeydd o Japan; mae’r Japaneaid yn caru Conwy i gyd, gyda llawer o dwristiaid Japan yn mynd yna bob blwyddyn. Fe’i henwyd fel un o’r lleoedd mwyaf prydferth yn Ewrop gan Gymdeithas Asiantau Teithio Japan – yr unig leoliad yn y DU i gyrraedd siart y 30 uchaf. I ddathlu, comisiynodd Croeso Cymru gogydd lleol i greu ‘wushi’, cynnig Cymreig am sushi sy’n cynnwys cig oen, cocos, cheddar, cennin a bara lawr.

Ysbrydoli Studio Ghibli

Mae’r gwneuthurwr ffilmiau a’r animeiddiwr byd-enwog Hayao Miyazaki, sylfaenydd Studio Ghibli, yn andros o hoff o Gymru. Mewn gwirionedd, dywedwyd bod y ffilm gyntaf a animeiddiwyd gan Studio Ghibli – Laputa: Castle in the Sky, wedi’i hysbrydoli oherwydd iddo ddod dan gymaint o deimlad yn dilyn ei ymweliad â chymoedd Cymru yn y 1980au. Fe arsylwodd glowyr Cymru ar streic a gweld sut roedd eu brwydr i ddiogelu eu bywoliaeth yn symbol o’r cyfnod, gan adlewyrchu hynt a helynt glowyr Japaneaidd ei famwlad.

Mae gwaith diweddarach, Howl’s Moving Castle, wedi’i seilio ar lyfr ffantasi gan Diana Wynn Jones, awdur a aned yn Llundain ond a fagwyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae llyfr Jones wedi’i osod yn rhannol yng Nghymru, ond mae Miyazaki yn dyrchafu’r stori i dir hollol ffantasïol. Credir bod rhai o elfennau llai yng ngwaith arall Studio Ghibli wedi’u hysbrydoli gan fythau a chwedlau Cymreig.

Cyfnewid celf

Mae llawer o artistiaid Cymru wedi’u hysbrydoli gan ddiwylliant Japan ac wedi gweithio neu arddangos yn Japan – ac i’r gwrthwyneb. Mae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Celf Fodern Japan. Yn 2018, rhedodd yr amgueddfa yng Nghaerdydd arddangosfa hynod boblogaidd o’r enw ‘Kizuna’ am ddiwylliant Japan, lle dangoswyd dulliau cludiant, llestri te, gwrthrychau addurnol, peintiadau, manga ac arteffactau diwylliannol Japaneaidd eraill.

Ceir arddangosfeydd eraill o waith artistiaid Japan yn aml iawn. Gwelodd 2019 waith artist y maes glo, Sakubei Yamamoto yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Safle Treftadaeth y Byd Big Pit, a chafwyd darnau gan Nobuko Tsuchiya ym MOSTYN, Llandudno. Bob blwyddyn ers 2010, mae Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu wedi dod â rhai o’r gwaith animeiddio gorau o Japan i’r sgriniau mawr ym mannau celfyddydol Cymru.

Mae Japan wedi croesawu gwaith nifer fawr o bobl greadigol Cymru mewn arddangosfeydd grŵp dros y blynyddoedd. Mae’r rhain wedi cynnwys gwaith David Nash yn Amgueddfa Celf Gyfoes Tokyo, casgliad o waith Dylan Thomas yn Kyoto ac arddangosfa ddylunio sy’n cynnwys deuddeg artist gwydr a seramig o Gymru yn Oita.

Car gwyrdd a bwrdd gwybodaeth yn arddangosfa Kizuna
Kizuna, Amgueddfa Cymru, Caerdydd

Rhannu sêr chwaraeon

Treuliodd Shane Williams MBE, chwaraewr undeb rygbi Cymru sy’n enwog am fod yn un o’r asgellwyr gorau erioed, y rhan fwyaf o’i flynyddoedd yn chwarae i’r Gweilch ac i dîm cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, rhwng 2012 a 2015, chwaraeodd i glwb Mitsubishi Sagamihara DynaBoars Japan fel chwaraewr-hyfforddwr. Hefyd, ymunodd y chwaraewr canol cae Junichi Inamoto â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd rhwng 2004 a 2005.

Ysbrydolwyd Koji Tokumasu, Llywydd rygbi Asia ac un o’r bobl yn gyfrifol am fynd â Chwpan y Byd i Japan, sef y wlad gyntaf o Asia i groesawu’r gystadleuaeth, i gwympo mewn cariad â’r gêm yn ystod ei amser fel myfyriwr yng Nghaerdydd.

Shane Williams
Shane Williams MBE

Masnachu ddoe, heddiw ac yfory

Un o’r gwrthrychau Japaneaidd cynharaf i ddod i Gymru oedd cist lacrog a wnaed yn y 1620au. Defnyddiwyd y gist addurnol i storio pethau gwerthfawr, ond fe’i defnyddir bellach fel darn arddangos. Fe’i prynwyd gan fab ceidwad Castell Dinbych, Syr Thomas Myddelton I, a brynodd Castell y Waun hefyd.

Cafwyd llawer o fargeinion masnach eraill dros y canrifoedd a ddilynodd. Er enghraifft, pan ddatblygodd Japan ei rhwydwaith rheilffyrdd yn y 19eg ganrif, defnyddiodd ddur a haearn o Waith Dowlais ym Merthyr Tudful. Mae hyn wedi’i droi ar ei ben heddiw; defnyddir trenau Hitachi cyflymder uchel o Japan yn Ne Cymru i gysylltu pobl â Llundain. Credir bod cwmnïau o Japan yn cyflogi rhyw 6,000 o bobl yng Nghymru heddiw. Mae gan y mawrion, sy’n cynnwys Sony a Toyota, bresenoldeb yma ac yn cynhyrchu allforion i Japan sy’n werth dros £250 miliwn yn flynyddol.

Mae Japan hefyd yn gwerthfawrogi ansawdd cynnyrch Cymreig gyda’r allforion yn amrywio o gaws a chwisgi i beiriannau cyfrif arian manwl gywir a ddefnyddir yn ddyddiol yn siopau cyfleustod byd-enwog Japan.

Straeon cysylltiedig

Mynydd o lechi ym mlaen y llun, â thai teras a mynyddoedd pell yn y cefndir

UNESCO – Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Mae Cymru bellach yn ymfalchïo mewn pedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyma gyflwyniad i’r pedwar ynghyd â manylion am pam fod pob un mor bwysig i hanes Cymru, a’r byd yn ehangach.