Dyma rygbi. Dyma Gymru.

Rydw i’n falch o fy siwrnai o fod yn chwaraewr ifanc i fod yn gapten cenedlaethol

Mae gen i berthynas glòs iawn â Rygbi ac ymwybyddiaeth naturiol o bwy rydw i’n ei gynrychioli ac o ble rydw i’n dod – boed hynny’n sôn am Benrhyn Gŵyr, Dyffryn Abertawe neu fy ngwlad. Rydw i’n teimlo’r balchder hwnnw bob tro y byddaf i’n cynrychioli Cymru.

Mae crys Cymru yn eiconig

Dyma beth sy’n clymu arwyr y blynyddoedd a fu â’r chwaraewyr gwych sydd gennym ni heddiw. Mae gwisgo’r tair pluen yn ein cysylltu ni â thraddodiad o chwarae’n fedrus a dewr. Fel chwaraewyr, rydym ni’n geidwaid y crys a’r hyn mae’n ei gynrychioli. Mae’n dal disgwyliad a chyfrifoldeb – ac yn bwysicaf oll, yn gofyn inni fod yn esiampl i’r genhedlaeth nesaf.

Ross Moriarty, Rob Evans, Ken Owens and Alun Wyn Jones singing the anthem.
Ross Moriarty, Rob Evans, Ken Owens ac Alun Wyn Jones yn canu'r anthem genedlaethol yn Stadiwm y Principality

Dydi’r cyfle i gael parhau i chwarae dros Gymru fyth yn rhywbeth rydw i’n ei gymryd yn ganiataol

Mae yna deimlad gwirioneddol o gyflawni rhywbeth wrth wneud yr hyn rydw i’n ei wneud. Fel chwaraewr, rydych chi’n agored â’ch emosiynau – ac mae ennill yn felysach fyth wrth ichi sylweddoli cymaint mae’n ei olygu i weddill aelodau’r tîm o’ch cwmpas chi ac i’r tair miliwn o bobl sydd y tu cefn i chi.

Mae gwlad y gân yn teithio gyda chi, ac mae hynny’n beth arbennig iawn

Does dim ots ble yn y byd yr ydych chi: mae’r gefnogaeth gan ffans Cymru yn anhygoel. Ble bynnag rydych chi’n mynd – boed hynny i chwarae rygbi, ar wyliau neu gerdded i lawr y lôn – mae yna gydnabyddiaeth eich bod chi’n cynrychioli eich gwlad. A bydd y bobl hynny yn dweud mwy wrthych chi amdanoch chi eich hunan mae’n debyg nag y bydd gwrthwynebwyr fyth yn ei wneud.

Wales rugby fans in the street before a match wearing daffodil headbands.
Wales v England, Guinness Six Nations - Fans ahead of the game
Cefnogwyr Cymru cyn gêm Chwe Gwlad Guinness 2019 rhwng Cymru a Lloegr

Fel capten Cymru, rydw i wedi cyrraedd brig y gêm, ond rydw i’n dal i garu’r hyn rydw i’n ei wneud

Mewn gwirionedd, rydw i’n teimlo'r un fath â phan ddringais i’r rhengoedd yr holl flynyddoedd yn ôl. Rydw i’n gweithio mewn diwydiant tryloyw iawn. Mae gan bawb ar y tu allan farn ac maent yn barod iawn i ddweud yn blaen wrthych chi os ydych chi wedi gwneud yn dda neu os oes lle i wella. Fe gewch adborth yn syth bin - ond rydw i’n dal i fod y beirniad mwyaf llym ar fy mherfformiad fy hun!

Rydw i’n gyrru heibio fy nghyn-glybiau yn y Mwmbwls, Bôn-y-maen ac Abertawe yn ddyddiol – a dydw i byth yn anghofio mai dyna’r llefydd â’m gwnaeth i pwy ydw i heddiw

Rydw i’n ceisio peidio â gor-ramantu am y peth, ond mae’r teimlad o berthyn wir yn golygu rhywbeth i mi, ac rydw i’n cael fy atgoffa o hynny bob dydd. Mae rhai dyddiau lle rydw i’n gadael y tŷ am 6.00 y bore ac mae’r wawr yn torri dros Fae Abertawe, neu rydw i’n dod adre ar ôl diwrnod hir yn hyfforddi wrth i’r haul fachlud, ac rydw i’n meddwl, fe allwn i fod yn Ne Ffrainc, neu yn unrhyw le yn y byd – ond rydw i’n hapus yma.

Three Gilbert rugby balls on grass.
Aaron Wainwright of Wales wins a rugby line out during Wales v England.
Peli rygbi ar y gwair yn ystod sesiwn hyfforddi, ac Aaron Wainwright yn ennill llinell yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Principality

Ewch i unrhyw dref, pentref neu gymuned yng Nghymru ac fe ddowch chi o hyd i gae rygbi

Efallai y byddai rhai yn meddwl bod hyn yn rhyw ddelwedd ystrydebol o Gymru, ond mae’r gêm wir yn dod â chymunedau ynghyd. Nid ystrydeb ydi’r peth o gwbl. Rydw i’n gwybod fod pêl-droed a chwaraeon eraill yn dechrau ennill eu plwyf, ac mae hynny’n beth cadarnhaol. Ond hyd yn oed yn y pentrefi lleiaf yn ganol unman, fe ddowch chi o hyd i gae a physt rygbi. Mae hynny’n weddol unigryw i Gymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru’n haeddu clod enfawr am baratoi’r ffordd ar gyfer y garfan yn Japan

Fe roeson nhw draed ar y tir yno a chreu ymrwymiadau cryf. Roedd hi’n ddigon i ddwyn eich gwynt i weld 15,000 o bobl leol yn canu Hen Wlad Fy Nhadau yn Kitakyushu a’r croeso gawson ni yn Oita, ble roedd baneri, camerâu a cheiswyr llofnodion yn aros amdanom – profiad fyddai’n peri i unrhyw un deimlo’n wylaidd, ac rwy’n sicr y bydd y berthynas yn parhau i ffynnu o’r naill ochr a’r llall. Byddwn ar fai pe na bawn i’n crybwyll cyfraniad Gats (Warren Gatland). Fel brodor o Seland Newydd, roedd e’n deall pwysigrwydd treftadaeth y Maori, felly mae parchu traddodiadau’r wlad sy’n eich gwahodd yn hollbwysig; yn yr un modd, roedden ni eisiau rhannu ein hunaniaeth â’n lletywyr, felly p’un ai oedd hynny’n ymwneud â’r garfan yn canu caneuon Cymraeg, neu ddim ond dangos ymlyniad at ein hiaith a’n diwylliant brodorol ni, roedden ni eisiau mynegi sut rydym ni wedi perchnogi hynny fel carfan.

Alun Wyn Jones on the pitch at the end of Wales v South Africa in 2018.
A Welsh flag with Principality Stadium in the background.
Warren Gatland during a training session with Wales players in the background.
Alun Wyn Jones ar ôl buddugoliaeth Cymru yn 2018 yn erbyn De Affrica, baner Cymru, a Warren Gatland yn ystod sesiswn hyfforddi

Os wyt ti’n edrych dros dy ysgwydd yn barhaus, ti’n mynd i arafu dy hun

Fe wnaeth pawb ddelio â siom Cwpan y Byd yn ei ffordd ei hun. Fel grŵp, fe wnaethon ni sefydlu’r hyn roedden ni eisiau’i gyflawni ond doedd hynny ddim yn bosib, ac rydym ni wedi gorfod symud ymlaen. Dydych chi byth yn rhoi’r gorau i ddysgu, a bydd yn rhaid i mi ddysgu ambell dric newydd. Pan gaf fy holi am fy nyheadau, a pham rydw i’n cadw i fynd, bydda i’n cofio pam ddechreuais i. Ro’n i eisiau chwarae rygbi, dyna i gyd, ac roeddwn i am i hynny fod dros Gymru.

Roedden ni’n gwybod ei fod yn digwydd, ond mae gweld Warren Gatland yn gadael wedi bod yn newid mawr

Tasai wedi digwydd dros nos, byddai wedi bod yn anodd addasu, ond â bod yn deg â Warren a’r Undeb, roedden nhw’n dangos cydymdeimlad at y chwaraewyr. Fe roddon nhw ddigon o amser i’r peth sefydlu yn ein meddyliau, ynghyd â’r cyfle i Wayne (Pivac) ddod â’i dim rheoli’i hun i mewn a rhoi cyfle iddyn nhw ymgartrefu. Y peth rhyfedd yw ’mod i wedi chwarae gyda hanner ohonyn nhw! Mae Martyn (Williams), Stephen (Jones) a Sam (Warburton) i gyd yn gyn-gyd-aelodau o’r un tîm â fi. Wrth edrych ymlaen at Ffrainc 2023, mae’n newid i bawb, ond mae’n adeg gyffrous i fod yn rhan o garfan mor fywiog ac egnïol.

The backs of the Wales players with Principality Stadium in the background.
Chwaraewyr Cymru yn sefyll ar gyfer yr anthem genedlaethol yn Stadiwm y Principality cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Awst 2019

Straeon cysylltiedig