Am Gymru
Wales.com yw prif wefan hyrwyddo Cymru i’r byd. Mae Cymru yn lle gwych i fyw, astudio, gweithio a gwneud busnes ac mae gwefan Wales.com a’r cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig yn dangos i’r byd yr hyn agallwn ei gynnig.
Cewch wybod am ein poblogaeth , hinsawdd,symbolau, anthem genedlaethol a llawer o ffeithiau diddorol am Gymru.
Mae VisitWales.com yn wefan Saesneg rhyngwladol sydd wedi’i hanelu at amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd byd-eang sy’n siarad Saesneg. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Visit Wales, y tîm o fewn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r economi ymwelwyr yng Nghymru.
Ein prif nod yw annog pobl i ddod ar eu gwyliau yma oherwydd mae Cymru yn wych! Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth a chefnogi’r diwydiant gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru. Mae Cymru’n cynnig antur o’r radd flaenaf, diwylliant creadigol ac iaith a thirweddau gwarchodedig eithriadol – ac lle sydd eisiau gofalu amdanynt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwefan ar gyfer cynulleidfa sy’n siarad Cymraeg ydi Croeso.Cymru a mae fersiwn o Visit Wales hefyd ar gael yn Almaeneg VisitWales.com/de. Mae pob gwefan wedi’i pharatoi’n benodol i fodloni anghenion y cynulleidfaoedd gwahanol hyn.
Ymchwil a ffigurau
Mae ymchwil sy'n cael ei wneud gan dîm Croeso Cymru yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych gais am ymchwil penodol cysylltwch â ni a fe wnawn ein gorau i’ch helpu.
Brand ac ymgyrchoedd
Nod ein hymgyrchoedd marchnata yw i adeiladu ac ehangu ar ein brand, sydd wedi hen ennill ei blwyf ac yn cael ei gefnogi gan y diwydiant twristiaeth ledled Cymru.
Mae’r brand wedi’i wreiddio yn y cysyniad ‘Bro a Byd’ – hynny yw ein bod yn gallu rhagori yng Nghymru pan fydd y lleol yn cwrdd â’r byd-eang mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys, yn greadigol ac yn fyw.
Mae strategaeth y brand yn glir, yn fyr ac yn syml ac yn canolbwyntio ar y pum amcan craidd canlynol. Dylai ein brand a’r holl weithgareddau cysylltiedig geisio:
- Codi ein statws
- Syfrdanu ac Ysbrydoli
- Newid canfyddiadau
- Gwneud pethau da
- Bod yn gwbl Gymreig.
Mae rhagor o wybodaeth am y brand ar gael ar safle Brand Cymru.

Cymru arobryn
Mae Cymru yn aml yn cael ei henwi ar y rhestrau uchaf o leoedd i ymweld â nhw ac wedi ennill sawl gwobrau cyrchfan.