Mae’r meddyg teulu Calum Forrester-Paton yn esbonio pam bod Penarth, De Cymru yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith iddo ef a’i deulu.  

Unwaith i ni gael plant, dechreuon ni deimlo nad oedd Llundain yn iawn i ni mwyach

Jayne: Roedden ni eisiau cael tŷ mwy o faint a mwy o le i’r plant, ac roedden ni wedi dechrau pwyso a mesur ein dewisiadau. Doedd dim cyswllt â Chymru gyda ni, ond roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau bod yn agos at gefn gwlad, ac roedd y syniad o fyw ger y môr yn apelio. Fe wnaethon ni chwilio’r we am y lleoedd gorau i fyw yn y DU, ac roedd Caerdydd yn un ohonyn nhw. Doedd yr un ohonom ni wedi bod yno o’r blaen, felly fe benderfynon ni fynd i weld. Fe ddigwyddon ni aros ym Mhenarth, y dref drws nesaf at Gaerdydd, a chwympo mewn cariad â’r lle.

Calum: Yn fy meddwl i, ro’n i’n symud o Lundain, felly byddai’n rhaid bod yn y rhan fwyaf cyffrous o Gaerdydd! Ond yna fe gawsom ni ein hail blentyn ac ar unwaith roedd y ffocws yn llawer mwy ar fywyd teuluol, a dechreuais feddwl efallai yr hoffwn ni i bethau arafu ychydig. Fe aethon ni ar ymweliad arall a meddwl fod Penarth yn gwneud synnwyr perffaith. Ac fe welsom fod ysgolion da yno, oedd yn amlwg yn agos at frig ein rhestr o ddymuniadau.

plant ar y Penarth Pier

Roedden ni eisiau cael popeth ar garreg y drws

 

Jayne: Pan oeddem ni’n prynu’r tŷ, fe wnaethon ni edrych ar wahanol opsiynau ac yn y pen draw fe brynon ni mewn lle canolog iawn ym Mhenarth. Doedden ni ddim eisiau cael ein gorfodi i ddefnyddio’r car drwy’r amser. Ro’n i eisiau gallu cerdded i’r siopau, y bwytai a’r orsaf drenau – ac mae bod ar arfordir Cymru yn wych. Gallwn ni gerdded mas o ddrws y ffrynt ac rydym ni yn y parc ymhen dau funud, ac mae’r parc yn arwain at yr arfordir… weithiau, hyd yn oed os nad ydyn ni wedi llwyddo i wneud fawr ddim mewn diwrnod, fe fyddwn ni’n dweud: ‘Beth am bicio i lawr i Bier Penarth?’ Pan fyddwn ni eisiau mynd i mewn i Gaerdydd, gallwn yrru, cymryd taith fer ar y trên neu fynd ar fws. Mae'n cymryd llai na 10 munud. Mae gennym y gorau o'r ddau fyd!

Gallwch ddod o hyd i lefel uchel o foddhad gwaith yng Nghymru, a chyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa

Calum: Mae ’na gwpwl o bethau dwi’n eu hoffi am y diwylliant gwaith yma. Mae’n teimlo i mi fod y model partneriaeth yn gryfach yng Nghymru nag yn Llundain. Mae mwy o feddygon teulu sydd newydd gymhwyso eisiau dod yn bartneriaid yn eu meddygfeydd ac ysgwyddo cyfrifoldeb am ei pholisi a’i chyfeiriad yn hytrach na bod yn gyflogeion sy’n derbyn cyflog yn unig. Ac yng Nghymru, mae gyda chi’r syniad hwn o ‘glystyrau’ ble bydd meddygfeydd meddygon teulu mewn ardal yn dod ynghyd i gyfuno’u hadnoddau a darparu gofal sylfaenol ar gyfer sawl agwedd. Mae’n golygu y galla i alw ar ffisiotherapyddion, dyweder, neu nyrsys iechyd meddwl, sydd i bob pwrpas yn rhan o fy nhîm innau.

Jayne: Mae ein swyddi ni’n unigryw, am wn i, yn yr ystyr eich bod chi’n gallu mynd i weithio yn unrhyw le, fwy neu lai. Ond roedden ni eisiau bod yn agos at ddinas fawr fel Caerdydd, ble mae prifysgol sy’n dysgu meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, er mwyn bod cyfleoedd i ni barhau i gael addysg feddygol a datblygu ein gyrfaoedd. Ers symud i Benarth, mae’r ddau ohonom wedi dod o hyd i gyfleoedd gwaith diddorol y gallwn eu gwneud ochr yn ochr â’n gwaith fel meddygon teulu. Cyn y pandemig, roeddwn yn gweithio ym maes iechyd rhywiol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ochr yn ochr â fy rôl fel meddyg teulu. Er fy mod wedi gorffen gweithio yno ers hynny, helpodd y swydd i ddatblygu fy niddordeb mewn iechyd menywod. Fi bellach yw'r arweinydd iechyd menywod yn fy meddygfa meddyg teulu, lle rwyf wedi sefydlu clinig menopos. Y gobaith yw y gallwn gyflwyno clinigau tebyg, yn gyntaf ledled Caerdydd ac yna o bosibl ledled Cymru.

Calum: Roeddwn yn gweithio fel meddyg teulu yng Nghaerdydd, yn gwneud llawer o waith locwm yn ogystal â gweithio gyda Macmillan i helpu i wella safon y gofal canser gan feddygon teulu ar draws y rhanbarth. Nawr, rwy'n bartner mewn meddygfa ym Mhenarth ac yn arweinydd canser clinigol i’r bwrdd iechyd, lle rwy'n gweithio gyda'r clinigwyr i helpu i ddarparu a gwella gofal canser.

Jayne: Rydyn ni'n dau yn hapus iawn gyda'r cyfleoedd rydyn ni wedi'u cael ers bod yma. Rwyf wrth fy modd bod yn feddyg teulu, ond mae cael rôl arall ochr yn ochr â hynny yn cadw pethau'n amrywiol ac yn caniatáu i mi gael maes diddordeb penodol. Mae'n anodd iawn gwybod sut y byddai ein bywydau gwaith wedi bod yn wahanol yn Llundain. Oherwydd bod Caerdydd yn llai na Llundain, a Chymru’n llai na Lloegr, gallwn gael mwy o gyfranogiad o ran arloesi, newid pethau’n rhagweithiol a llenwi bylchau anghenion. Dydw i ddim yn teimlo y gallwn i fod wedi gwneud hynny yn Llundain mor hawdd. Yma, gallwn gael mwy o effaith nag y gallem fod wedi'i chael yn Llundain.

Y meddyg teulu Calum Forrester-Paton yn cerdded i lawr coridor yn ei feddygfa
Y meddyg teulu Calum Forrester-Paton wrth ei ddesg yn y feddygfa gyda chlaf
Meddyg teulu Calum Forrester-Paton

Rydym ni’n bwriadu gwneud yn fawr o le rydym ni’n byw wrth i’r plant dyfu

Calum: Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu treulio llawer o amser gwerthfawr yn yr awyr agored gyda'n plant. Pan symudon ni i ddechrau, roedden ni eisiau mynd i gerdded a beicio trwy dirweddau epig Cymru, dysgu sut i syrffio, mynd i wersylla gyda’r plant ac archwilio Bannau Brycheiniog. Mae’r rhain i gyd yn bethau rydyn ni’n eu gwneud yn weddol gyson nawr.

Jayne: Cawsom wersi syrffio ac fe wnaethom brynu siwtiau gwlyb, sydd wedi dod yn ddefnyddiol iawn gan ein bod yn treulio llawer o amser yn y môr. Mae ein traethau lleol yn hardd ar gyfer teithiau cerdded, nofio a chwaraeon dŵr eraill. Mae fy mam yn byw yng Ngorllewin Cymru, felly pan fyddwn yn ymweld â hi rydym wrth ein bodd yn corff-fyrddio a syrffio o amgylch Sir Benfro. Mae ein bywydau’n cynnwys cymaint yn fwy o weithgareddau awyr agored na phe baem wedi aros yn Llundain. Mae'r posibiliadau yma'n ymddangos yn ddiddiwedd; mae yna bob amser rhywbeth anhygoel i'w weld neu ei wneud ymhlith byd natur.

Mae hyn yn wallgo’. Mae’n teimlo fel pe baen ni ar ein gwyliau, ond dyma ein tref ni.”

Rydym wedi dod o hyd i’n cartref am oes yma yng Nghymru

Calum: Rydym wedi bodi yma am fwy na phedair blynedd erbyn hyn. Alla i ddim â chredu nad oedden ni’n siŵr ar un adeg a fydden ni’n symud. Dydyn ni ddim wedi edrych yn ôl. Mae pawb yn hyfryd, mae cyflymder bywyd yn arafach mewn tref fach fel Penarth, ac rydw i’n treulio mwy o amser yn yr awyr agored. Mae llai o dorfeydd, felly mae llawer llai o straen wrth wneud pethau gyda’r plant. Ac mae teithio i’r gwaith drwy olygfeydd mor ddyrchafol yn codi eich ysbryd ar ddechrau’r diwrnod gwaith ac ar ei ddiwedd.

Jayne: Yn y misoedd cyntaf yr oedden ni’n byw yma, doedden ni’n methu stopio gwenu a theimlo’n hynod smyg. Roedd adegau pan fydden ni’n eistedd yn yr haul, gan edrych allan dros y môr, a byddwn i’n dweud: ‘Mae hyn yn wallgo’. Mae’n teimlo fel pe baen ni ar ein gwyliau, ond dyma ein tref ni.’ Mae hi wedi bod yn eithaf rhwydd gwneud llawer o ffrindiau hyfryd, ac rydym yn teimlo’n rhan o gymuned garedig, gyfeillgar a hapus.

Y teulu Forrester-Paton ar draeth Penarth
Teulu Forrester-Paten yn cerdded ar y Penarth Pier
Y teulu’n mwynhau Pier Penarth

Straeon cysylltiedig