Dwi’n dwlu mynd adref

Rwy’n gweld eisiau Aberbargod – mae’r teulu’n dal i fyw yno ac fe fydda i’n siarad â nhw bob dydd bron, ond dwi’n hoffi mynd ’nôl mor aml ag y galla i. Mae’n gyfle i ymlacio gyda hen ffrindiau, mynd â’r ci am dro a mynd i’r dafarn gyda fy nghefnder. Dyw’r lle’n ddim byd tebyg i’r hyn oedd e pan oeddwn i’n iau, cofiwch. Mae yna newidiadau dramatig yn digwydd i gymoedd De Cymru. Pryd bynnag y bydda i yno, mae fel pe bai adeiladau crand newydd – a heolydd newydd hefyd – wedi llamu i fyny. Ambell waith, dwi wedi mynd yn llwyr ar goll, ac wedi gorfod gofyn am gyfarwyddiadau oddi wrth rywun ar ochr yr heol.

Luke Evans yn cerdded i lawr ponŵn dros Llyn tuag at awyren fach
Luke Evans yn cerdded allan o awyrennau bach gyda mwg y tu ôl iddo
Luke Evans, Llyn Gwynant yn Eryri

Mae gan Gymru ambell ffordd epig i’w gyrru

Faswn i ddim yn galw fy hun yn 'ben-petrol', ond fe fyddwn i’n hapus iawn pe baech chi’n rhoi car bach cyflym i mi am y dydd i yrru o gwmpas Cymru. Rai blynyddoedd yn ôl, fe ddilynais yr A470 (a elwir hefyd yn Ffordd Cambria) yr holl ffordd o Landudno yn y gogledd i Gaerdydd yn y de. Mae’r rhan sy’n mynd drwy Eryri’n anhygoel. Bydd pob tro yn y ffordd yn rhoi golygfa newydd i ddwyn eich gwynt – ac mae Bannau Brycheiniog o’ch blaen o hyd!

Bydd pob tro yn y ffordd yn rhoi golygfa newydd i ddwyn eich gwynt – ac mae Bannau Brycheiniog o’ch blaen o hyd!"

4x4 gyrru i ffwrdd o'r camera drwy Eryri
Eryri, Gwynedd.

Mae rhai o fy atgofion gorau o'm plentyndod yn ymwneud ag arfordir Cymru

Fe fydden ni’n mynd ar ein gwyliau i Saundersfoot, yn Sir Benfro, gyda fy nghefnder a’i deulu e, ac yn aros mewn carafán. Mae gen i gymaint o atgofion melys o ganol tref Dinbych-y-pysgod, yr harbwr, a’r rhes tai mewn lliwiau pastel uwchlaw, a’r cychod yn arnofio ar y môr. Heddiw, mae modd dod o hyd i bob math o fwyd moethus yn yr ardal yna, ond sglodion yn syth o’r papur ar lan y cei fydden ni’n ei gael – a chocos Penclawdd, sy’n cael eu trin fel danteithion mawr gan awduron bwyd erbyn heddiw. Weithiau bydden ni’n mynd i bysgota yn y nos ar ein pennau ein hunain, ond bydden ni’n treulio mwy o amser yn colli ein welis yn y tywod nag yn dal unrhyw beth.

Cwch melyn yn yr Harbwr yn llanw isel yn Ninbych-y-pysgod yn y cefndir
Golygfa cwpwl o'r cwpl yn Saundersfoot ar fainc yn edrych allan i'r dŵr
Llun ongl lydan o Ddinbych-y-pysgod wedi ei gymryd o'r môr gyda'r Harbwr, y tai a'r orsaf bad achub
Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, Sir Benfro.

Heb amheuaeth, mae gen i dri ffefryn o ran traethau gorau Cymru

Fe fydda i’n dwlu ar Fae Barafundle yn Sir Benfro am byth, ac nid dim ond am fy mod i’n hoffi dweud 'Barafundle', sy’n air ysblennydd. Mae’n draeth bach preifat, perffaith, a’r twyni’n cau amdano a choed pinwydd, ble gallwch chi fynd â’r cŵn a bod mor swnllyd ag y dymunwch chi. Ac yna mae Bae’r Tri Chlogwyn ar Benrhyn Gŵyr. Mae pob tamaid mor epig ag y byddech chi’n disgwyl wrth ei enw, gydag adfeilion castell a dyffryn coediog ar ben y traeth. Fy nhrydydd dewis yw Tresaith, ger Aberteifi. Mae’n amhosib osgoi galw draw i deimlo’r tywod rhwng bodiau eich traed wrth i chi gerdded Llwybr Arfordir Cymru pan fydd y traeth rhagorol hwn yn ymddangos o danoch chi – ac yna bydd rhaid galw i mewn i dafarn y Ship!

Llun o Fae Three clogwyni wedi ei gymryd o dwyni yn edrych allan ar y tri chlogwyni a'r môr
Bae'r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr

Un peth sydd ar frig fy rhestr cyn marw

Pan ges i fod yn rhan o ymgyrch hyrwyddo Blwyddyn y Môr yng Nghymru, fe wnaethon ni ffilmio tipyn allan o awyren fach. Fe gododd ein hawyren o Lyn Gwynant yn Eryri, gan ddilyn yr arfordir i’r de, ac yn y ffilm, mae modd gweld llamhidyddion a dolffiniaid yn llamu drwy’r dŵr ym Mae Ceredigion. Dwi’n bwriadu mynd mas mewn cwch i gael golwg agosach – yno mae un o’r criwiau mwyaf o ddolffiniaid trwynbwl ym Mhrydain.

Straeon cysylltiedig