Yn ffodus, mae yna fyddin seiber sy’n brwydro yn y maes ar ein rhan – ac mae Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus ym Mhrifysgol Caerdydd yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymladdwyr. Eu swydd nhw yw cadw un cam ar y blaen i’r troseddwyr a diogelu’r systemau y mae pob un ohonom ni’n dibynnu gymaint arnyn nhw.

Dyma waith sy’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i systemau fynd yn fwy cymhleth ac awtomatig. Yn ôl Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Diogelwch Seiber, a chyfarwyddwr y ganolfan £5 miliwn: "Gall ymosodiadau seiber fod yn gymhleth iawn ac yn anodd eu canfod. Gallan nhw ddigwydd heb i chi sylweddoli am dipyn o amser, hyd nes y bydd popeth yn dymchwel o’ch cwmpas yn sydyn."

Dwylo pwyntio at farcio ar fap sydd hefyd yn cael ei arddangos ar sgrin fawr ar y monitor uchod
Gweithiwr yn pwyntio at farc ar fap sydd hefyd yn cael ei arddangos mewn sgrin fawr ar y monitor uchod
Seiberddiogelwch Airbus, Casnewydd, De Cymru

Mae’n cyfeirio at ymosodiadau seiber Stuxnet a ddigwyddodd ar gyfleustodau niwclear yn Iran fel enghraifft. "Fe wnaeth yr ymosodwyr fynd ati i gyflymu ac arafu’r allgyrchyddion yn y ffatri cyfoethogi wraniwm, ychydig bach ar y tro. Pe na bai rhywun wedi sylwi ar yr ymosodiad, byddai’r peiriannau wedi distrywio a byddai’r cyfan wedi dymchwel."

Mae mannau ble gall prifysgolion a chwmnïau ddod ynghyd i droi syniadau yn atebion ar gyfer y byd go iawn yn allweddol yn y rhyfel yn erbyn hacwyr. Roedd hi’n gwneud synnwyr perffaith i Brifysgol Caerdydd ac Airbus ffurfio partneriaeth. Mae’r cwmni’n cyflogi tua 450 o bobl yn ei safle Amddiffyn a Gofod yng Nghasnewydd, ac mae’n chwaraewr rhyngwladol o ran diogelu systemau hanfodol.

Mae mannau ble gall prifysgolion a chwmnïau ddod ynghyd i droi syniadau yn atebion ar gyfer y byd go iawn yn allweddol yn y rhyfel yn erbyn hacwyr."

Meddai’r Dr Kevin Jones, Pennaeth Pensaernïaeth, Arloesi a Sgowtio Seiberddiogelwch y ganolfan: "Er mwyn gallu darparu monitro seiberddiogelwch ac adnabod ymosodiadau, mae angen i ni gael lefel gynyddol o awtomeiddio a dadansoddi. Gwyddem fod gan Brifysgol Caerdydd enw da am ragoriaeth wrth ddatblygu dysgu peiriant a dealltwriaeth artiffisial."

Dr Kevin Jones a'r Athro Pete Burnap yn amlinellu'r cydweithio llwyddiannus rhwng Airbus a Phrifysgol Caerdydd yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan eisoes wedi cael sawl llwyddiant. Dyma oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gael ei gydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (wyneb cyhoeddus gwasanaeth cudd-ymchwil y Llywodraeth, GCHQ) fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch. Mae academyddion y ganolfan wedi cyhoeddi sawl papur mewn cylchgronau pwysig ac mae wedi sicrhau £4 miliwn i dalu am weithgareddau ymchwil rhwng 2017 a 2021.

"Rydym ni’n canolbwyntio ar ddatrys problemau’r byd go iawn a heriau mawrion," meddai’r Athro Burnap. “Rydym ni’n gwneud llawer o waith ym maes dysgu peiriant a dealltwriaeth artiffisial (DA) er mwyn diogelu yn erbyn ymosodiadau seiber. Mae DA yn ddefnyddiol iawn wrth chwilio am fygythiadau seiber ar systemau TG, a hyd yn oed yn gallu’u blocio’n awtomatig neu adfer y sefyllfa."

Rydym ni’n canolbwyntio ar ddatrys problemau’r byd go iawn a heriau mawrion."

Mae’r fyfyrwraig PhD Matilda Rhode yn gweithio ar ymladd yn erbyn meddalwedd pridwerth, pan fydd hacwyr yn atal system rhag gweithio ac yn mynnu cael arian er mwyn ei adfer. Nid bygythiad theoretig mo hwn: fe heintiwyd cyfrifiaduron ar draws 150 o wledydd gan ymosodiad meddalwedd pridwerth enfawr, byd-eang ym mis Mai 2017, gan gynnwys rhannau o isadeiledd iechyd Prydain. Mae ei gwaith hi’n canolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd o ddweud a yw darn o feddalwedd yn beryglus – hyd yn oed pan fydd yr awdur wedi dod o hyd i ffordd o osgoi cael ei ganfod.

Mae’n frwydr yn erbyn gelyn sydd wedi’i ysbrydoli’n fawr. Bydd hacwyr sy’n cyfansoddi meddalwedd faleisus yn gwybod y gall y wobr ariannol fod yn enfawr, hyd yn oed o dalu cyfran fach yn unig o’r pridwerth."Pobl sy’n gyrru troseddau seiber, sy’n ei wneud yn broblem ddiddorol iawn," meddai hi. "Dwi’n bendant eisiau aros ym maes ymchwil i seiberddiogelwch. Mae’n faes sy’n datblygu’n gyflym, ac mae llawer yn digwydd ynddo!"

Serch hynny, mae arolygon lu’n awgrymu bod cyflogwyr yn ei chael hi’n anodd recriwtio pobl sy’n meddu ar y sgiliau digidol cywir, a bod prinder byd-eang hirdymor o arbenigwyr ar seiberddiogelwch. Mae’r Ganolfan yn helpu i lenwi’r bwlch sgiliau hyn, a chynllunnir i ymestyn yn helaeth dros y blynyddoedd nesaf.

 

Mae’n golygu bod angen myfyrwyr fel Matilda – a’r canolfannau rhagoriaeth i’w hyfforddi – yn fwy nag erioed. Meddai’r Athro Burnap: "Po fwyaf y byddwn ni’n dod yn ddibynnol ar DA, y mwyaf o alw fydd am bobl sy’n gallu deall y goblygiadau diogelwch. Mae angen pobl arnom ni sydd nid yn unig yn gallu adeiladu technolegau newydd, ond sy’n gallu’u hadeiladu er mwyn eu gwneud yn ddiogel.

"Does dim pwynt cael DA sy’n llawn o dyllau, fel llawer o’r dechnoleg bresennol. Mae’n llawer rhy bwysig i hynny."

Learn more about Studying in Wales



https://www.studyinwales.ac.uk

Straeon cysylltiedig