Rwy'n byw'r freuddwyd drofannol ... ar Ynys Môn

Es i i Brifysgol Bangor, a gwneud gradd mewn bioleg forol, ac yna gradd Meistr mewn pysgod cregyn gyda'r nod o fynd i ryw ynys drofannol anghysbell i redeg rhyw fath o fferm ddyframaeth. Ni ddigwyddodd hynny'n union. Roeddwn yn adnabod dyn a oedd yn tyfu wystrys yma ar Afon Menai; roedd am roi'r gorau iddi, felly fe werthodd ei fferm imi ac fe'i datblygais oddi yno.

Shaun Krijnen o Menai Oysters yn eistedd yng nghefn fan.
Shaun Krijnen o Menai Oysters

Tyfwn wystrys a misglod o had

Rydym yn prynu'r hyn a elwir yn wystrys had, ac yn eu meithrin mewn sachau ar reseli dur. Wrth i'r wystrys dyfu, byddwn yn eu teneuo yn union fel eginblanhigion mewn pot. Rydym yn eu tyfu ychydig yn llai na gram a gallwn ddatblygu wystrysen 100-gram mewn cyn lleied â 12 mis, ond i gael cynhaeaf da iawn mae angen 18 i 24 mis. Ar gyfer y misglod, dibynnwn ar had wedi'i ddal o'r gwyllt, wedi'i gymryd o ardaloedd lle mae anheddu naturiol yn digwydd, ond nid ydynt yn addas i dyfu'r misglod arnynt – byddai stormydd yn dod ac yn eu sgubo ymaith. Felly allan â ni ar gwch bychan a chynaeafu'r hadau misglod bychain a'u hail-osod ar y fferm. Mae'n cymryd dwy i dair blynedd i'r rheini gyrraedd maint marchnad.

Yn fy swydd i, does dim angen ichi fynd i'r gampfa

Byddwn yn cynaeafu â llaw. Ers rhyw 20 mlynedd, rhaff a hambwrdd yw uchafbwynt y dechnoleg. Rwyf wedi rhoi cynnig ar lawer o bethau ond, fel mae'n digwydd, gwaith corfforol caled yw'r ffordd orau o'i wneud. Nid wyf yn gwneud ymarfer corff ffurfiol o gwbl ers gadael y brifysgol chwarter canrif yn ôl, ac mae fy nghanol i'n mesur yr un maint o hyd. Bydd y rhan fwyaf a ddaw i weithio i mi yn colli stôn mewn wythnos neu ddwy. Mae un bachgen sy'n gweithio imi ers ychydig flynyddoedd wedi ailddechrau chwarae rygbi o ganlyniad i lusgo'r hambyrddau. Ef oedd chwaraewr y tymor.

Y Fenai gyda glanfa yng nghanol y llun.
Wystrys mewn cawell glas yn cael eu chwistrellu â dŵr
Shaun Krijnen yn tynnu cawell o fisglod.
Afon Menai, golchi cawell o wystrys, a thynnu cewyll o bysgod cregyn - sydd angen tipyn o fôn braich

Rhaid magu'r ddawn o gerdded mewn llaid

Bydd tunnell o fisglod yn cynhyrchu 17 tunnell o laid bob blwyddyn, felly os oes gennych 50 tunnell o fisglod, bydd bron 800 tunnell o laid. Rydych yn datblygu sgiliau i wybod sut mae trafod llaid. Bydd pobl heb y dechneg honno yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn sownd ac yn straffaglu. Mae digon o sêr teledu wedi bod yma'n hollol sownd yn y llaid, nes y bu'n rhaid inni eu palu allan.

Primer plano de mejillones en el barro.
Misglod yn gorwedd yn y llaid

Fe gewch syniadau wrth weithio

Nid oes rhaid ichi ddefnyddio llawer o'r ymennydd tra byddwch yn tynnu'r pysgod cregyn, felly cewch amser i feddwl. Byddaf yn ystyried byth a beunydd sut allwn i ei wella a'i wneud yn haws. Rwyf wedi dylunio ac adeiladu fy systemau puro fy hun sy'n glanhau'r pysgod cregyn cyn i bobl eu bwyta. Datblygais fy system fy hun a dyfeisio fy mheiriannau graddio fy hun, ac rwy'n ymgyfarwyddo bellach â pheiriant newydd i gynaeafu'r misglod.

Mae Afon Menai'n rhoi blas unigryw i bysgod cregyn

Mae yma fath o algâu sy'n ffynnu o'r enw phaeocystis sy'n rhoi blas melys hyfryd i'r pysgod cregyn. Dyna'r ffordd y mae'r holl system yn gweithio: daw'r algâu i mewn o Amlwch a Thraeth Coch a chael eu sianelu drwy Afon Menai. Gyda'r cerhyntau, llifa dŵr sy'n cludo bwyd yn gyson dros y cregyn.

 Llun agos o wystrys Menai gyda label bwyd ynghlwm.
Pâr o ddwylo mewn menig glas yn casglu misglod o’r mwd.
Wystrys Menai a chasglu misglod

Yr allwedd i ansawdd yw gwneud popeth yn fewnol

Fi sy'n ei ffermio, ei lanhau, ei buro, ei bacio a'i ddosbarthu. Rwy'n rheoli pob agwedd, felly rwy'n gwybod bod fy nghwsmer yn cael y gorau posibl y gallwn ei roi iddo. Mae gan wystrys oes silff aruthrol os cânt eu trin yn iawn, felly gallwn eu hanfon ymhellach i ffwrdd na'r misglod. Mae fy mab yn gogydd dan hyfforddiant a bu'n gweithio yn y Dorchester yn Llundain, lle'r oedd Alain Ducasse yn defnyddio fy wystrys yn ei fwyty. A chefais wybod bod Alain Roux yn dweud bod fy wystrys yn fendigedig. Rwyf hefyd yn cyflenwi pysgod cregyn i dri bwyty ar Ynys Môn, sef Dylans, The Marram Grass a Catch 22 yn Fali. Mae'n hyfryd eu bod yn eu cael nhw'n syth o'r fferm.

Rwy'n ceisio cael gwared ar bob plastig o'm llinell bacio

O ran wystrys, mae'n weddol hawdd, oherwydd cânt eu pacio'n draddodiadol bob amser mewn blychau pren, ond, o ran misglod, plastig yw'r cyfan. Mae'n rhad ac mae'n addas i'r gwaith, ond yna rydych yn cronni plastig nad oes modd ei ailgylchu, felly i'r safle tirlenwi yr aiff yn y pen draw. Mae fy sach allanol yn cael ei gwneud bellach o startsh tatws, a'r rhwyd fewnol o gotwm wedi'i wehyddu. Os gallaf wneud 98% o'm busnes yn rhydd o blastig, byddaf wedi gwneud yn dda.

Shaun Krijnen o Menai Oysters yn archwilio ei raciau o wystrys.
Mae Shaun yn goruchwylio pob agwedd o'i fusnes misglod

Rwy’n falch o rannu gyda’r bywyd gwyllt

Mae'n ardal gadwraeth arbennig, felly rydym yn ystyried y bywyd gwyllt a gawn yma. Mae gwely misglod rhynglanwol yn darparu bwyd i organebau morol a daearol, ac yn gymuned amrywiol felly. Mae yma 40 neu 50 o biod môr yn barhaol, ac yn y gaeaf gallwn gael hyd at 300 o adar crwydrol. Ond os ydych yn ffermio'n iawn, mae'r misglod naill ai'n rhy fach iddynt ffwdanu â nhw, neu'n rhy galed o lawer. Yr aderyn craffaf yw'r frân. Nid yw'n ffwdanu pigo'r misglod ar agor fel piod môr, ond defnyddia ddisgyrchiant. Cwyd y fisglen a'i hedfan dros y ffordd cyn ei gollwng.

Mae'r bwyd a gynhyrchwn yma'n ardderchog

Nid y pysgod cregyn yn unig, ond yn gyffredinol mae ansawdd y bwyd a gynhyrchir ar Ynys Môn yn dda iawn. Hefyd, ceir yma amgylchedd naturiol bendigedig, nid oes diwydiant trwm, rydym yn blaenoriaethu mannau gwyrdd agored a golygfeydd gwych o hyd. Gallech fod yn hwylio ar Afon Menai yn y bore ac yn dringo i gopa Eryri yn y prynhawn. Rwy'n dibynnu ar amgylchedd glân braf i gynhyrchu pysgod cregyn o ansawdd. Credaf mai ceidwaid ydym ni yn hytrach na pherchenogion. Pan fyddaf fi wedi hen fynd, bydd fy nhraeth yno o hyd, yn edrych yn union fel y mae heddiw.

Straeon cysylltiedig