Mae Cymru yn wlad sy'n ffurfio rhan o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (a elwir y DU). Fe'i lleolir yn rhan ogledd-orllewinol cyfandir Ewrop.
Ble mae Cymru o fewn y DU?
Mae Cymru yn un o'r pedair gwlad sy'n ffurfio Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Rydym wedi ein lleoli ar ynys o’r enw Prydain Fawr, rydym yn ei rhannu â’r Alban a Lloegr.

Mae gan Gymru ei llywodraeth ddatganoledig ei hun a’i senedd ei hun, er bod rhai penderfyniadau gwleidyddol yn dal i gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, fel materion trosedd a phlismona, amddiffyn, a materion tramor. Mae pobl yng Nghymru yn teithio ar basbortau Prydeinig, fel pob dinesydd sy'n byw o fewn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Dysgwch fwy am sut mae Cymru'n cael ei llywodraethu.
Cymru fel gwlad - ffeithiau allweddol
Ieithoedd swyddogol: Cymraeg a Saesneg
Poblogaeth: 3.1 miliwn o bobl (4.8% o boblogaeth y DU)
Maint: 8,194 milltir sgwâr (21,224 km sgwâr)
Cylchfa amser: GMT
Arian: £ Punt Sterling
Diwrnod Cenedlaethol: Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth)
Anthem Genedlaethol: Hen Wlad Fy Nhadau
Mynydd uchaf: Yr Wyddfa, 1,085m (3,560 troedfedd)
Enw lle hiraf:
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (a elwir yn lleol yn Llanfair PG)
Hinsawdd: Y tymheredd cyfartalog yw 20°C (68°F) yn yr haf a 6°C (43°F) yn y gaeaf
Parciau Cenedlaethol: Tri (Eryri, Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro)
Ardaloedd o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol: Pump (Ynys Môn, Penrhyn Gŵyr, Dyffryn Gwy, Penrhyn Llŷn a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy)
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA): Mae dros 1,000 o SoDdGA yng Nghymru, yn gorchuddio 12% o'r wlad. Maent yn sail i’n rhwydwaith o ardaloedd cadwraeth natur gwarchodedig
Dinasoedd a rhanbarthau Cymru
Mae saith dinas yng Nghymru: Bangor, Caerdydd (ein prifddinas), Casnewydd, Tyddewi, Llanelwy, Abertawe a Wrecsam. Tyddewi yw dinas leiaf y DU yn ôl poblogaeth, ac mae wedi bod yn gyrchfan pererindod boblogaidd ers cannoedd o flynyddoedd. Wrecsam yw dinas fwyaf newydd y wlad, ar ôl ennill statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022.

Mae Cymru’n cynnwys 22 ardal awdurdod lleol, pob un â’i chyngor etholedig ei hun, sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion lleol fel tai, cynllunio tref ac ysgolion.
Mae’r ardaloedd awdurdod lleol hyn wedi’u grwpio’n bedwar rhanbarth: gogledd Cymru, gorllewin Cymru, canolbarth Cymru, a de Cymru – pob un â’i daearyddiaeth a’i thirwedd unigryw ei hun.
Ydy Cymru wir yn llawn cestyll?
Ydy. Wel, o ryw fath. Mae mwy na 600 o gestyll yng Nghymru, mwy fesul milltir sgwâr nag unrhyw le yn y byd. Mae pobl wedi bod byw yn barhaus mewn rhai am fil o flynyddoedd, mae rhai yn adfeilion rhamantus, ac eraill wedi diflannu, heb adael bron unrhyw olion. Mae llawer ohonynt yn gestyll brodorol Cymreig, wedi’u hadeiladu gan linach frenhinol Cymru – yn aml mewn mannau prydferth iawn.
Darganfyddwch fwy am gestyll Cymru.


Ydy Cymru hefyd yn llawn dreigiau?
Wel, mae un ar ein baner. Ond heblaw am hynny, does dim dal.

