Gwanwyn.
Mae Cymru’n lle gwych i groesawu’r gwanwyn. Dyma dymor y lliwiau llachar, wrth i’r coed ddeilio a’r blodau gwyllt flaguro. Ymysg y cyntaf o’r blodau i fentro codi pen yw’r cennin Pedr gwyllt, mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y cyntaf. Gellir gweld un o’r arddangosfeydd gorau yng Nghoed y Bwl, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ble maen nhw’n garped euraid dros lawr y goedwig.

Ym mis Ebrill, glas yw’r lliw amlycaf. Mae cerdded drwy goedwig clychau glas yn brofiad i’r holl synhwyrau, a’r bore cynnar yw’r amser gorau i wneud, wrth i’r gwlith godi a’r awyr berarogli â phersawr miloedd o’r blodau bychain. Prin y cewch chi eich siomi gan Goed y Wenallt, clwt 44 hectar o goedwig hynafol ger Caerdydd, neu warchodfa Coed Cadw, Coed Aber Artro ger Harlech yng Ngwynedd.

Ceir ffrwydrad o goch bob gwanwyn hefyd, wrth i’r torfeydd wisgo crysau Cymru ar gyfer gemau rygbi’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Principality. Lliwiau llyfrau sy’n denu bryd y llên-garwyr wrth i’r gwanwyn droi’n haf ac i Ŵyl y Gelli lenwi’r dref ar y ffin â Lloegr yn ganolbwynt llenyddol y byd am wythnos, wrth i dref y llyfrau groesawu awduron, meddylwyr ac ysgolheigion amlwg o bob cwr o’r byd.
Mae rhaeadrau Cymru’n werth eu gweld unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond maen nhw ar eu gorau tua dechrau’r gwanwyn."


Mae rhaeadrau Cymru’n werth eu gweld unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond maen nhw ar eu gorau tua dechrau’r gwanwyn. Cawsant eu diwallu gan law’r gaeaf, gan sicrhau fod ffrwd ddigonol o ddŵr, ond mae’r coed o gwmpas yn dal heb ddeilio, gan greu’r golau perffaith ar gyfer tynnu llun â chamera. Rhowch gynnig ar Bistyll Rhaeadr ym Mynyddoedd y Berwyn yng ngogledd Powys, brenhines rhaeadrau Cymru ac un o’r talaf ym Mhrydain gyfan yn 73m (240 troedfedd); neu beth am Sgwd Henrhyd ym Mannau Brycheiniog, sy’n seren ffilm yn ei hawl ei hun – dyma fynedfa’r Batcave yn The Dark Knight Rises.
Haf.
Er mor gryf yw’r demtasiwn i anelu am y traeth – ac mae digonedd o rai gwych yma – mae llawer mwy i’r haf na thywod a thonnau. Mae Cymru’n adnabyddus am harddwch ei chefn gwlad, ac mae’n bleser gallu crwydro drwy erddi ffurfiol fel Dyffryn ym Mro Morgannwg neu Erddi Bodnant yn Nyffryn Conwy, er mwyn gweld (ac arogleuo) rhywogaethau egsotig ochr yn ochr â’n planhigion brodorol.



Daw dechrau’r haf â miloedd o adar y môr i’n harfordir i fagu’u cywion, gan droi’r creigiau’n ddinasoedd pluog. Dewis da yw Ynys Lawd, pwynt mwyaf gorllewinol Môn, ble byddwch yn sicr o weld palod a llursod. Os ydych chi’n lwcus, mae’n bosib y gwelwch chi hebog tramor yn gwibio heibio.

Yr haf yw’r amser pan rydych chi’n fwyaf tebygol o weld dolffin, llamhidydd a morfil hefyd. Mae Bae Ceredigion yn gartref i un o blith dim ond dau gasgliad brodorol o ddolffiniaid trwynbwl sy’n byw yn nyfroedd arfordirol Prydain, ac mae Ceinewydd yng Ngheredigion yn enwog fel lle da i’w gweld. Gallwch fynd â’ch ysbienddrych i ben wal yr harbwr er mwyn chwilio arwyneb y môr i weld asgell yn torri drwy’r dŵr, neu beth am logi taith ar gwch er mwyn cael cyfle i’w profi’n agosach atoch?


Mae’r calendr diwylliannol yn llawn i’r ymylon dros yr haf. Dyna i chi’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen, a’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n teithio rhwng y de a’r gogledd am yn ail bob blwyddyn. Mae’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Powys, yn cynnig diwrnod hafaidd sy’n annhebyg i ddim byd arall. Dyma un o sioeau amaethyddol pwysicaf Ewrop, ac fe welwch chi bopeth yma o gystadlaethau anifeiliaid (gan gynnwys stalwyni’r Cobiau Cymreig enwog) i arddangosfeydd torri coed, chwaraeon gwledig a stondinau crefftau di-ri.
Hydref.
Un o’r gwleddoedd mwyaf i’r llygaid yw cyfnod bridio blynyddol y ceirw, pan fydd gwallgofrwydd dros-dro ymysg y ceirw sydd fel arfer mor dawel. Ym Mharc Margam, ger Port Talbot, gallwch weld arferion paru swnllyd tair rhywogaeth – y carw coch, yr hydd brith a cheirw Père David.
Cynhelir clwstwr o wyliau bwyd o gwmpas amser y cynhaeaf. Yr un sydd wedi ennill ei phlwyf hiraf yw Gŵyl Fwyd y Fenni, ble daw dros 30,000 o ymwelwyr ynghyd i’r dref farchnad ddeniadol ar gyfer rhaglen orlawn o flasu bwyd, digwyddiadau gastronomaidd ac adloniant stryd. Ceir digwyddiadau bwyd mawr yn yr Wyddgrug ac yn Arberth yn Sir Benfro ym mis Medi hefyd.



Rhaid i chi fynd am dro drwy’r goedwig yn yr hydref. Ble bynnag ewch chi yng Nghymru, ceir llwybrau fforestydd ble gallwch gicio drwy’r dail sydd wedi disgyn; ond byddai llawer o gerddwyr (a nifer o feirdd mawr Rhamantaidd Lloegr) yn gosod Dyffryn Gwy ar frig y rhestr. Peidiwch â cholli gweld adfeilion Abaty Tyndyrn yn hwyr y prynhawn, â’r ffawydd (copr), y deri (lliw hen aur) a’r ynn (melyn llachar) yn gefnlen iddo.

Ac er bod morloi llwydion yn byw o gwmpas arfordir Cymru gydol y flwyddyn, dim ond yn yr hydref y cewch chi gip ar y lloi bach gwynion lliw llaeth. Bydd y mamau morloi’n dewis esgor yng nghwmni morloi eraill, gan arwain at heidiau mawr ohonynt ar lawer o ynysoedd Cymru, gan gynnwys Enlli oddi ar Ben Llŷn a Sgomer, ger Sir Benfro. Ceir yr haid fwyaf ar Ynys Dewi, oddi ar y penrhyn sy’n rhannu’r un enw yn Sir Benfro. Genir tua 600 o loi yno bob blwyddyn, a llawer ohonynt ar un traeth yn unig. Mae nifer cyfyngedig o deithiau ar gael, yng nghwmni tywyswyr bywyd gwyllt, a dyma’r ffordd orau, a mwyaf diogel i chi a’r morloi weld eich gilydd.


Gaeaf.
Cofiwch wisgo digon o ddillad i gerdded ar y traethau gwyntog: yn aml, dim ond chi fydd yno. Mae digonedd i ddewis o’u plith ar Benrhyn Gŵyr, o Rosili – bellach wedi ennill lle parhaol ar restrau traethau harddaf y byd – i Langland, gyda’r teras deniadol o gytiau traeth o’r 1920au. O gwmpas gogledd Gŵyr ac aber Tywi, fe welwch filoedd o adar yr aberoedd, gan gynnwys piod y môr, y gylfinir a phibydd y mawn, ac ymwelwyr gaeafol yn chwyddo’r niferoedd yn fawr iawn.

Dyma adeg gwylio’r barcud hefyd. Ar un adeg, y barcud coch oedd aderyn ysglyfaethus prinnaf Prydain, ac erbyn 1950 roedd ar fin diflannu’n llwyr. Parhaodd llond llaw i fyw ym mynydd-dir Cymru, a, diolch i gymorth gwirfoddolwyr ymroddedig, maen nhw wedi adennill tir yn rhyfeddol. Mewn gorsafoedd bwydo fel Fferm Gigrin ger Rhaeadr ym Mhowys, daw ugeiniau o adar ynghyd ar ddiwrnodau llwglyd y gaeaf.


Gyda dyfodiad y Nadolig, daw’r marchnadoedd tymhorol. Ymysg y goreuon mae Caerdydd, gyda’i stondinau pren ar hyd prif strydoedd siopa’r Santes Fair a’r Ais, a marchnad Fictoraidd Wrecsam; ond ceir enghreifftiau ledled Cymru. Dyma gyfle i sipian gwydraid o win poeth a chael gafael ar anrhegion llawn dychymyg a wnaed â llaw.

Yn y rhan fwyaf o Gymru, dim ond ysgeintiad o eira gewch chi yn hytrach na storom (er bod hynny’n digwydd weithiau, wrth gwrs). Mae gweld yr Wyddfa â’i phen yn wyn yn olygfa ragorol, er na fyddwch chi’n gallu mynd i’r copa bryd hynny: mae’r trên bach yn gorffwyso’n haeddiannol dros y gaeaf, a dim ond arbenigwyr ddylai fentro dringo i’r copa. Ond un o fanteision mawr gogledd-orllewin Cymru yw bod tafarn â thanllwyth o dân gerllaw bron pob amser.