Gwrthodais i Un Bore Mercher bedair gwaith cyn derbyn y rôl
Roeddwn i’n 38 oed pan gynigiwyd rhan Faith i mi, a doeddwn i heb siarad gair o Gymraeg ers oeddwn i’n ferch 12 mlwydd oed yn yr ysgol – a dim ond rhyw ychydig am awr yr wythnos oedd hynny. Sut ar wyneb y ddaear oeddwn i’n mynd i ddysgu wyth awr o ddrama yn Gymraeg? Arhosodd y cynhyrchydd dros nos yn fy nhŷ a pherswadiodd fi i roi cynnig ar ddarllen y sgript. Gallwn weld ei hwyneb hi’n cwympo pan ddywedais i, ‘Ydw i’n ei dal y ffordd iawn?’ Ond cymerais i’r rhan yn y diwedd.

Roedd rhaid i mi ddechrau gyda’r wyddor, yn llythrennol
Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod yna wyddor wahanol i’r Gymraeg. Cefais drafferth â phopeth yn ymwneud â hi. Dydych chi ddim yn arfer defnyddio cyhyrau’ch tafod felly: mae’r Gymraeg yn iaith gyhyrog iawn. Teimlais fod popeth yn anodd yn ei chylch, a dyna’r pwysau mwyaf rydw i wedi bod oddi tano yn ystod fy mywyd gwaith i gyd. Roeddem yn gwneud wyth pennod, a dim ond pedwar mis cyn dechrau ffilmio y derbyniais i’r sgriptiau. Doedd dim hudlath a dim ffordd gyflym o’i wneud. Dim ond ymarfer, ymarfer ac ymarfer.
Roeddwn i’n gwybod bod rhaid imi swnio’n argyhoeddiadol
Roedd popeth yn iawn o ran gwybod fy llinellau a’r ciwiau. Ond roedd chwarae rhywun fel Faith, sy’n siarad Cymraeg iaith gyntaf, yn golygu bod rhaid i mi swnio felly hefyd. Roedd cymaint o waith wrth wneud hynny – i wneud yn siŵr fy mod i’n rhoi’r un emosiwn i mewn i’r llinellau Cymraeg ag y gwnes i i’r rhai Saesneg. Ond yn sicr, dydw i ddim yn dweud bod rhaid i bobl eraill sy’n dysgu Cymraeg swnio’n Gymraeg. Rwy’n anghytuno’n llwyr gyda hynny. Y dysgu yw’r peth pwysicaf.

Rhedeg oedd fy ffrind gorau pan oeddwn i’n dysgu’r llinellau
Recordiodd fy nghynhyrchydd y llinellau i gyd heb oslef. Dywedodd e’ nhw mor glir â phosibl, er mwyn imi allu clywed ynganiad y Gymraeg. Bydden i’n codi’n gynnar, yn gwisgo fy nghlustffonau ac yn mynd ar hyd llwybr Taith Taf am chwech o’r gloch y bore. Bydden i’n rhedeg am awr a hanner, yn gwrando ar y llinellau drosodd a throsodd, hyd nes ei bod hi’n amser i’r plant ddeffro. Ac yna bydden nhw’n mynd i’r ysgol a bydden i’n eistedd wrth y ford tan iddyn nhw ddod adref, dim ond yn mynd trwy fy llinellau.


Mae pobl bellach yn dechrau sgyrsiau yn y Gymraeg gyda fi
Maen nhw’n meddwl yn anochel fy mod i’n rhugl oherwydd eu bod nhw wedi gweld Un Bore Mercher, a byddan nhw’n cael clonc fach hyfryd gyda fi yn y Gymraeg. Fydden i ddim wedi gallu eu deall nhw ddwy flynedd yn ôl, ac yn sicr, bydden i ddim wedi gallu ymateb. Rwy’n gallu gwneud hynny erbyn hyn. Rwy’n gwybod dydw i ddim yn siarad pob gair yn berffaith, ond dydw i ddim yn dechrau’r sgwrs trwy ymddiheuro – ‘Sori, dydw i ddim yn siarad Cymraeg.’ Rwy’n dechrau gyda, ‘Rwy’n dal i ddysgu – byddwch yn amyneddgar.’

Dydw i ddim yn gwybod a ydw i’n fodel rôl, ond rwy’n gobeithio y gallaf annog pobl i ddysgu Cymraeg
Rwy’n esiampl nodweddiadol o rywun oedd yn credu nad oedd hi’n bosibl. Ac mae YN bosibl – yn bosibl iawn. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod pobl ar gael i annog pobl eraill i’w dysgu. Felly, os ydw i wedi llwyddo i ddylanwadu ar unrhyw un i ddechrau sgwrs yn y Gymraeg, hyd yn oed dim ond er mwyn dysgu sut i gyfarch pobl neu archebu rhywbeth, byddwn i’n teimlo’n ddiymhongar iawn o glywed hynny. Byddwn i’n cael fy llorio a dweud y gwir.

Does dim pwynt poeni am gamgymeriadau
Os na fydden ni’n gwneud camgymeriadau, fydden ni ddim yn dysgu. Yr unig ffordd o ddysgu yw trwy wneud – a does dim ots faint o gamgymeriadau wnawn ni, rydym yn dathlu’n hiaith brydferth ac yn ei chadw hi’n fyw. A bydded i hynny barhau.
Dysgu Cymraeg yw’r peth mwyaf gwerth chweil rydw i wedi’i wneud erioed
Fydden i ddim yn ei newid am y byd. Rydw i’n ceisio gwneud cymaint ag y gallaf gyda’r iaith. Rwy’n gwneud fy ngorau glas i annog fy merched i’w siarad, ac rydw i bellach yn cael llawer o sgyrsiau gyda Brad [Bradley Freegard – gŵr a chyd-seren Un Bore Mercher] yn y Gymraeg. Mae wedi bod yn chwyldro i mi, ac rydw i wrth fy modd.
