Beth yn union yw Cymru?

Mae Cymru yn wlad sy'n ffurfio rhan o ynys Prydain Fawr. Mae tair gwlad yn rhan o’r ynys hon: Cymru, a’n cymdogion Lloegr a’r Alban.

Mae Cymru hefyd yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (i roi ei henw llawn iddi) yn "wladwriaeth sofran" sy'n cael ei ffurfio o bedair gwlad: Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, sydd wedi'i leoli ar ynys Iwerddon .

Sut mae Cymru fodern yn cael ei llywodraethu?

Er bod gan Gymru ei llywodraeth a’i senedd ei hun heddiw, o’r 1700au cynnar hyd at ddiwedd y 1990au, rheolwyd Cymru yn gyfreithiol gan lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU). Mae Llywodraeth a Senedd y DU wedi’u lleoli yn San Steffan yn Llundain, Lloegr.

Cynhaliwyd pleidlais gyhoeddus yng Nghymru yn 1997 i benderfynu a ddylem gael mwy o reolaeth dros ein cyfreithiau a’n polisïau llywodraeth ein hunain.

O ganlyniad i’r bleidlais honno, crëwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dechreuwyd symud pwerau penodol (“datganoli”) o San Steffan i Gymru.

Parhaodd y broses hon drwy gydol yr 21ain ganrif, gyda phwerau pellach i wneud deddfau a chasglu trethi yn symud i Gymru yn ddiweddar.

Heddiw, mae gan Gymru ddeddfwrfa - Senedd Cymru sy'n gyfrifol am wneud, craffu a phasio deddfau, a gweithrediaeth - Llywodraeth Cymru - sy'n gyfrifol am wneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau o ddydd i ddydd sy'n effeithio ar bobl sy'n byw yng Nghymru.

Heddiw, mae hyn yn golygu bod gan Gymru ddwy lywodraeth - Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, pob un â grym a chyfrifoldeb dros wahanol bethau.

Golygfa o’r glannau gydag adeiladau yn y cefndir
tu mewn i adeilad gyda llawr cerrig a golygfa trwy ffenest o’r bae tu hwnt.
Y Senedd, Bae Caerdydd

Beth mae datganoli yn ei olygu?

"Datganoli" pŵer yw'r broses o symud pŵer a chyfrifoldeb o lefel ganolog y DU i lefel fwy cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod gan bobl Cymru bellach fwy o lais mewn rhai meysydd polisi a deddfu sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae gan Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau dros amrywiaeth o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys amaethyddiaeth, yr economi, addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, llywodraeth leol, trafnidiaeth, trethi datganoledig a’r Gymraeg.

Senedd Cymru

 

Senedd Cymru yw deddfwrfa Cymru, sy'n golygu mai dyma'r man lle mae deddfau'n cael eu gwneud. Mae’r Senedd yn cynnwys 60 o Aelodau’r Senedd, wedi’u hethol i gynrychioli pobl o etholaethau a rhanbarthau ledled Cymru. Mae’r Aelodau hyn o’r Senedd (AS) yn cael eu hethol yn ystod etholiad, a gynhelir unwaith bob pum mlynedd. Mae pobl sy’n sefyll mewn etholiad, a elwir yn “ymgeiswyr”, yn aml yn aelodau o “blaid wleidyddol” – grŵp o bobl sy’n rhannu safbwyntiau gwleidyddol tebyg.

Lleolir y Senedd yn y brifddinas, Caerdydd, mewn adeilad nodedig a ddyluniwyd gan y pensaer Richard Rogers. Mae’n agored i’r cyhoedd, sy’n gallu trefnu taith o’r Senedd neu wylio cyfarfodydd y Senedd o’r orielau cyhoeddus.

golygfa o ddesgiau mewn cylch oddi uchod
Y siambr drafod, Senedd

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw’r “weithrediaeth”, sy’n golygu mai hi sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau o ddydd i ddydd ar sut mae Cymru’n cael ei rhedeg. Ar ôl etholiad, mae llywodraeth fel arfer yn cael ei ffurfio gan y blaid wleidyddol gyda’r nifer fwyaf o Aelodau’n cael eu hethol i’r Senedd, er weithiau gall llywodraeth gael ei ffurfio wrth i ddwy blaid neu fwy ymuno â’i gilydd i ffurfio “clymblaid”.

Arweinir y llywodraeth gan y Prif Weinidog (y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, AS ar hyn o bryd). Fe’i cefnogir gan dîm o Weinidogion, a ddewisir o blith Aelodau’r Senedd. Mae Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau o fewn meysydd pwnc penodol.

Sefydlwyd Llywodraeth Cymru ym 1999. Mae ei swyddfeydd mwyaf yng Nghaerdydd, ein prifddinas, gyda swyddfeydd eraill ledled Cymru.

Aelodau'r Senedd a chynrychiolaeth

Mewn etholiadau, mae Cymru wedi’i rhannu’n ardaloedd â phoblogaethau gweddol debyg o’r enw “etholaethau”. Mae ymgeiswyr yn sefyll etholiad i gynrychioli pob etholaeth. Ond mae’r system ar gyfer etholiadau i’r Senedd ychydig yn wahanol i’r system a ddefnyddir ar gyfer Senedd y DU.

Yn etholiadau Senedd y DU, mae pob etholaeth yn cael ei hennill gan yr ymgeisydd sydd â'r nifer uchaf o bleidleisiau, a elwir yn system "cyntaf i'r felin".

Yn etholiadau’r Senedd, defnyddir y system “cyntaf i’r felin” hefyd i ddewis Aelod ar gyfer pob etholaeth wahanol (cyfanswm o 40). Mae hyn yn golygu efallai bod pleidiau gwleidyddol sydd wedi cael llawer o bleidleisiau mewn rhai ardaloedd, ond sydd heb lwyddo i ennill etholaeth. Er mwyn sicrhau ystod ehangach o gynrychiolaeth wleidyddol yn y Senedd, mae 20 Aelod ychwanegol, sy’n cael eu hethol drwy system wahanol o’r enw system y “rhestrau”, sydd yn hytrach yn defnyddio cyfanswm y pleidleisiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ar draws grŵp o etholaethau, a elwir yn rhanbarth. Mae'r system restrau hefyd yn defnyddio mesur pwysoli, i ganiatáu mwy o gynrychiolaeth i bleidiau na enillodd seddi etholaethol.

Mae’r 20 Aelod hyn yn cynrychioli pum rhanbarth etholiadol Cymru, gyda phedwar Aelod ym mhob rhanbarth.

Mae gan bobl dros 16 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd, ond mae’n rhaid iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn i bleidleisio yn etholiad Senedd y DU.

Baneri Cymru yn cael eu dal gan dorf o bobl
Baner Cymru

Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Gan nad yw popeth wedi’i ddatganoli, mae rhai materion yn dal i gael eu llywodraethu gan Lywodraeth y DU o San Steffan. Mae'r rhain yn cynnwys amddiffyn, materion tramor, mewnfudo, carchardai, a throsedd a phlismona. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn casglu’r rhan fwyaf o’r trethi ac mae Senedd y DU yn gwneud deddfau ar gyfer y DU gyfan. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael eu dewis o blith Aelodau Senedd y DU ac mae’r Llywodraeth yn cael ei harwain gan y Prif Weinidog.

Oherwydd hyn, mae Aelodau Senedd y DU hefyd wedi’u hethol o bob etholaeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 40 o’r 650 o Aelodau Senedd y DU, er bod y niferoedd hyn i fod i newid. Mae’r etholiadau hyn yn cael eu cynnal unwaith bob pum mlynedd, ond yn wahanol i fodel Cymru, mae Aelodau Senedd y DU yn cael eu pleidleisio drwy ddefnyddio’r system y cyntaf i’r felin.

Cymru mewn hanes

Yn y canol oesoedd, roedd gan Gymru ei chyfreithiau penodol ei hun, a ysgrifennwyd yng nghanol y 10fed ganrif yn ystod cyfnod y Brenin o Gymro Hywel Dda.

Heddiw, bron i 500 mlynedd ers diwedd deddfau Hywel Dda, mae gan Gymru eto gyfres gynyddol o ddeddfau penodol ar gyfer Cymru yn unig ac mae Senedd Cymru yn senedd deddfu a gosod trethi.

Rhagor o wybodaeth am Hanes datganoli (Senedd Cymru)

Straeon cysylltiedig