Yr hanfodion:
- Poblogaeth: 3.1 miliwn o bobl. 4.8 y cant o boblogaeth y DU.
- Lleoliad: Mae Cymru ar ynys Prydain Fawr, i'r gorllewin o Loegr.
- Maint: Arwynebedd Cymru yw tua 20,800 km².
- Parth Amser: GMT
- Arian: Punt
- Diwrnod Cenedlaethol: Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth
- Symbolau cenedlaethol: Mae'r ddraig, y cennin Pedr a'r genhinen yn dri o nifer o symbolau cenedlaethol.
- Anthem Genedlaethol: Hen Wlad fy Nhadau
- Llywodraeth: Llywodraeth Ddatganoledig gyda Phrif Weinidog, Cabinet a Senedd etholedig sy'n cyfarfod yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
- Iaith: Cymraeg a Saesneg - mae Cymru yn wlad ddwyieithog.
- Dinasoedd: Mae saith dinas yng Nghymru. Mae gan brifddinas Cymru, Caerdydd, boblogaeth o tua 363,000 ac mae wedi'i lleoli ar arfordir y De-ddwyrain. Mae Casnewydd i’r dwyrain o Gaerdydd ac mae Abertawe i’r gorllewin o’r ddinas. Mae Bangor - ar Afon Menai - yn edrych dros ynys Môn, yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae poblogaeth o dan 2000 bobl yn byw yn Nhyddewi, Sir Benfro a hi yw'r ddinas leiaf yn y DU ac ar 14 Mawrth 2012, dyfarnwyd statws dinas i Lanelwy, yng Ngogledd Ddwyrain Cymru fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Yn 2022, daeth Wrecsam yn seithfed ddinas Cymru yn dilyn ei chais llwyddiannus am statws dinas fel rhan o Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Daearyddiaeth a hinsawdd:
- Mynydd uchaf: Mae’r Wyddfa, Eryri yn 1,085m o uchder (3,560 troedfedd).
- Llyn naturiol mwyaf: Llyn Tegid
- Enw lle hiraf: Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llantysiliogogogoch yw'r enw llawn, sy'n golygu Eglwys y Santes Fair ym mhant y gollen wen ger y trobwll cyflym ac eglwys Sant Tysilio ger ogof goch, ac mae’n cael ei byrhau’n aml i Lanfairpwll neu Llanfair PG.
- Parciau Cenedlaethol: Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru sy'n cwmpasu 20 y cant o dir y wlad a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
- Hinsawdd: Mae tywydd Cymru yn fwyn ac yn amrywiol - gyda thymheredd cyfartalog o tua 20°C (68°F) yn yr haf, a 6°C (43°F) ar uchder isel ym misoedd y gaeaf.

Trafnidiaeth a theithio:
- Mae Cymru wedi'i chysylltu'n dda â gweddill y DU, Iwerddon a thir mawr Ewrop ar hyd y ffyrdd, y rheilffyrdd, y môr a’r awyr.
- Mae Caerdydd tua dwy awr o Lundain ar y ffordd neu'r trên.


Addysg:
- Mae addysg yn orfodol ac yn cael ei ariannu gan y wladwriaeth o 5-16 oed, a'i darparu drwy ysgolion Meithrin, Cynradd, Canol, Uwchradd, Arbennig ac ysgolion Cymraeg.
- Mae tua 172,000 o fyfyrwyr yn astudio mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru bob blwyddyn.
- Mae wyth prifysgol yng Nghymru ac mae tua 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 145 o wledydd ar draws y byd ym maes addysg uwch yng Nghymru - sef 19% o boblogaeth y myfyrwyr.
- Mae prifysgolion Cymru'n cynnig ystod eang o opsiynau cyllido i gynorthwyo astudiaethau, ac mae mynediad at gymorth Saesneg rhad ac am ddim ar gael ym mhob un o Brifysgolion Cymru.


Gwaith:
- Yr wythnos waith safonol yw 37 awr ac mae'r rhan fwyaf o weithwyr yn cael tua 5 wythnos o wyliau'r flwyddyn.
- Mae rhenti prif swyddfeydd yng Nghaerdydd 50 y cant yn is na chyfradd Llundain ar gyfartaledd
- Mae diwydiannau allweddol yng Nghymru yn cynnwys Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, y Diwydiannau Creadigol, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a Thechnoleg Ariannol, Ynni a'r Amgylchedd, Bwyd a Diod, Gwyddorau Bywyd, Technoleg a Thwristiaeth.


Economi:
- Mae busnesau sy'n dod i Gymru yn cael mynediad hawdd at farchnad y DU, gyda'i phoblogaeth o 66 miliwn o bobl.
- Mae allforion byd eang Cymru yn amrywio o olew wedi'i buro o Aberdaugleddau i Hilltop Honey, sy’n cael ei wneud yn y Drenewydd.
- Mae'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn gwneud pum biliwn o ddarnau arian y flwyddyn ar gyfer 60 gwlad.
- Yr Almaen yw prif gyrchfan allforion Cymru, sy'n cymryd un rhan o bump o allforion.
- Mae Cymru yn croesawu tua 10 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys tua miliwn o ymwelwyr rhyngwladol.
- Mae Cymru'n gryno ac mae rhwydwaith llwybrau Ffordd Cymru yn cynnig digon o deithiau i'w darganfod.
- Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd yn lleoliad ar gyfer cyfarfodydd busnes, digwyddiadau a chynadleddau.
- Mae Cymru wedi cynnal digwyddiadau mawr byd-eang gan gynnwys Cwpan Ryder 2010, Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014, Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017, Ras Cefnforoedd Volvo 2018 a Chwpan Criced y Byd ICC yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd yn 2019.
