Mae Cymru ac Iwerddon nid yn unig yn ddaearyddol agos – o fewn 300 milltir (482 km) i’w gilydd – ond maent yn rhannu cwlwm arbennig fel brodyr a chwiorydd Celtaidd. Dros y canrifoedd, mae’r ddwy wlad wedi ysbrydoli ei gilydd, wedi helpu ei gilydd, ac wedi darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a thwf. Yma, edrychwn ar rai o'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Cysylltiadau ieithyddol

Mae ieithoedd Cymru ac Iwerddon yn perthyn i'r un teulu; maent yn cael eu dosbarthu fel ieithoedd Celtaidd byw, ynghyd â Llydaweg a Gaeleg yr Alban. Yng Nghymru ac Iwerddon, mae'n arferol i blant ysgol ddysgu eu hiaith frodorol fel rhan o'r cwricwlwm. Mae ffigurau o Gyfrifiad Iwerddon 2016 yn dangos bod 1.7 y cant o’r boblogaeth yn siarad Gaeleg Iwerddon bob dydd. Yng Nghymru, mae 16.3 y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg bob dydd.

Er bod y ddwy iaith yn tarddu o'r un ffynhonnell, mae'r ffurfiau ysgrifenedig a llafar yn wahanol. Byddai siaradwr Cymraeg yn ei chael yn anodd deall Gaeleg Iwerddon. Mae'r wyddor ychydig yn wahanol hefyd - mae'r wyddor Wyddeleg yn defnyddio 18 llythyren, tra bod gan yr wyddor Gymraeg 29.

Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae'r ddwy wlad wedi ymrwymo i gadw eu hieithoedd Celtaidd yn fyw trwy bolisi addysgol, digwyddiadau diwylliannol, llenyddiaeth a cherddoriaeth.

Ai Cymro oedd Sant Padrig mewn gwirionedd?

Mae 17 Mawrth bob amser yn gweld llu o ddathliadau Dydd San Padrig brwdfrydig ledled y byd. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn Iwerddon (fe yw eu nawddsant), America, a Chymru - mae'r olaf oherwydd efallai mai Cymro oedd Sant Padrig. Ar y pryd, nid oedd Cymru fel y mae nawr yn bodoli; roedd yn rhan o'r wlad a oedd yn ffurfio Prydain Rufeinig. Mae cofnodion yn dangos bod Sant Padrig wedi ei eni yn 387 OC mewn lle o'r enw Bannavem Taburniae, y mae rhai pobl yn credu yw Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Yn ôl cofnodion hanesyddol, ganed Sant Padrig i deulu Cristnogol a oedd yn byw mewn fila. Aeth i'r ysgol nes iddo gael ei gipio yn ei arddegau a'i orfodi i gaethwasiaeth yn Iwerddon, gan weithio fel bugail. Dihangodd yn y pen draw a hwylio adref, lle bu'n hyfforddi fel cenhadwr yn Eglwys Llanilltud Fawr, de Cymru, a daeth yn offeiriad cyn mynd yn ôl i Iwerddon fel ei hesgob cyntaf. Nid yw wedi ei brofi a yw hyn wedi digwydd mewn gwirionedd, ond mae'n stori ddiddorol a rhamantus a dweud y lleiaf, ac yn un sy'n clymu Cymru ac Iwerddon ynghyd.

Tu allan eglwys a mynwent.
Eglwys Illtud Sant, Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, De Cymru

Helpodd dwylo Gwyddelig i adeiladu dociau Caerdydd

Tua adeg Newyn Mawr Iwerddon yn y 1840au, roedd Caerdydd yn ffynnu gyda datblygiad y dociau a'r rheilffyrdd. Daeth Ail Ardalydd Bute, a ddaeth y dyn cyfoethocaf yn y byd trwy ddatblygu’r diwydiant glo a haearn, â miloedd o deuluoedd Gwyddelig draw i Gaerdydd i weithio ar y dociau. Roedd y mewnlifiad yn golygu bod tua 40 y cant o bobl Caerdydd yn Wyddelod, gyda llawer ohonynt yn byw mewn tai pwrpasol mewn cymunedau yn agos at y dociau. Er nad oedd y llety o safon uchel, roedd yr ysbryd cymunedol yn fywiog, yn brysur ac yn hwyl. Roedd un ardal, y Newtown, yn cael ei hadnabod fel Little Ireland.

Unwaith y cwblhawyd y dociau, arhosodd trigolion Gwyddelig i wneud gwaith yn datblygu rhannau eraill o'r ddinas. Mae'r aneddiadau hyn bellach wedi hen fynd, ond mae'r bobl a'r lleoedd yn byw yn y straeon a drosglwyddwyd o un genhedlaeth i'r llall a thrwy sefydliadau fel y Newtown Association.

Awyrlun du a gwyn o Ddociau Caerdydd (hanesyddol)
Awyrlun du a gwyn o Ddociau Caerdydd (hanesyddol).
Dynion yn gweithio ar y Dociau, dechrau'r ugeinfed ganrif a dociau Caerdydd a Thre-Biwt, 1920au

Cyfnewid diwylliannol

Dros 10 diwrnod ym mis Awst, mae Gŵyl Geltaidd Lorient yn Llydaw yn dod â phobl o bob rhan o’r byd at ei gilydd i brofi cerddoriaeth o’r gwledydd Celtaidd – gan gynnwys Cymru ac Iwerddon. Trwy dros 120 o sioeau, perfformiadau cerddorol, dosbarthiadau meistr, gorymdeithiau a sesiynau celfyddydol, mae 750,000 o ymwelwyr a gwylwyr yn archwilio hunaniaeth Geltaidd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Yn 2019, cymerodd grŵp o gerddorion ifanc o Gymru, Iwerddon a’r Alban ran mewn prosiect o’r enw Mamiaith. Roedd yn gydweithrediad a drefnwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i archwilio materion yn ymwneud ag iaith, diwylliant a hunaniaeth gynhenid, gan edrych ar sut mae cerddoriaeth yn cario iaith tra hefyd yn croesi iaith ar draws y byd.

Dim ond ambell un yw’r rhain o’r dathliadau trawsffiniol niferus o’r cysylltiadau, y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y gwledydd Celtaidd. Un peth sydd gan Gymru ac Iwerddon yn bendant yn gyffredin yw eu bod yn hoff o gael amser da gyda ffrindiau hen a newydd! Ers canrifoedd, mae’r Gwyddelod wedi ysbrydoli’r Cymry ac i’r gwrthwyneb, gydag artistiaid, cerddorion, llenorion a pherfformwyr yn teithio at eu cymheiriaid Celtaidd i gael eu hysbrydoli, eu harchwilio a’u darganfod.

Cysylltiadau busnes modern

Iwerddon yw pedwaredd farchnad allforio fwyaf Cymru, gyda gwerth allforion Cymru i Iwerddon yn 2020 yn cyrraedd £1.2 biliwn. Mae tua 80 o gwmnïau Gwyddelig yn cyflogi 5,000 o bobl yng Nghymru.

Ar unrhyw adeg, mae prosiectau ymchwil yn digwydd gyda thimau o brifysgolion Cymru ac Iwerddon. Mae gan Brifysgol Aberystwyth adran gyfan sy'n ymroddedig i'r berthynas rhwng Cymru a'i theulu Celtaidd - Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae’n arbenigo yn llenyddiaeth ac iaith y gwledydd Celtaidd o’r 6ed ganrif hyd heddiw, ac yn cydweithio ar ymchwil gyda phrifysgolion yn Iwerddon, yr Alban, Ffrainc a thu hwnt.

Mae prosiect BUCANIER (sy'n sefyll am 'Building Clusters and Networks in Innovation Enterprise and Research), yn cefnogi arloesedd a thwf yng Nghymru ac Iwerddon a rhyngddynt. Mae'n canolbwyntio ar y diwydiannau bwyd a diod, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy. Mae tua 120 o fusnesau bach yng Nghymru ac Iwerddon yn elwa ar y cynllun €2.9 miliwn a ariennir gan yr UE dros dair blynedd. Gall y cymorth sydd ar gael o’r gronfa helpu gyda chynhyrchu syniadau, datblygu, profi cynnyrch, cynllunio gwasanaethau, rhannu gwybodaeth, masnach drawsffiniol a chreu swyddi.

Mae Conswl Cyffredinol ymroddedig, Denise Hanrahan, sy'n cynrychioli Iwerddon yng Nghymru, a chynrychiolydd llawn amser o Lywodraeth Cymru wedi'i leoli yn Llysgenhadaeth Prydain yn Nulyn. Gyda’i gilydd, maent yn gweithio i sicrhau bod y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn parhau’n gryf.

Adeilad gothig Yr Hen Goleg, Aberystwyth gyda’r môr yn y cefndir]
Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, Canolbarth Cymru

Straeon cysylltiedig