Mae'n ddywediad i gofio amdano wrth grybwyll treftadaeth Cymru. Rydym ni’n trysori’r creiriau a’r trysorau a adawyd gan ein hanes, ond mae’n werth cofio fod pob un ohonynt yn bethau newydd sbon unwaith, a’u bod wedi cael eu creu’n aml gan gadw llygad ar y dyfodol. Maen nhw wedi goroesi o’n cwmpas ymhobman.
Meddyliwch am Garreg Vitalinus. Gerllaw un o’r llwybrau sy’n arwain drwy fynwent Nanhyfer yn Sir Benfro, ceir piler sydd wedi gweld llawer o ôl y tywydd. Prin y mae’n cyrraedd uchder ysgwydd person, ac mae’n sefyll yng nghysgod ywen hynafol. Rhaid i chi graffu i weld yr arysgrif ar arwyneb cennog y garreg, a gerfiwyd tua 1,600 o flynyddoedd yn ôl, er mwyn llefaru â chenedlaethau’r dyfodol.

Mae llythrennau Rhufeinig yn datgelu mai dyma garreg Vitalinus, tra bo sgriffiadau ar hyd yr ymyl yn sillafu’r un enw yng ngwyddor ryfedd y Gwyddelod, Ogam. Mae’n cynnig cipolwg difyr iawn i ni ar hanes hen a chymhleth Cymru. Roedd Vitalinus yn fyw yn ystod cyfnod dirywiad grym y Rhufeiniaid, pan oedd y gwacter ar eu hôl yn cael ei lenwi gan Wyddelod oedd yn ymfudo i orllewin Cymru yn ystod y bumed ganrif.
Byddai’n ddigon hawdd i chi golli gweld yr heneb hon pe na baech chi’n gwybod am beth i’w chwilio. Ond mae’n ein hatgoffa fod treftadaeth a thraddodiad o’n cwmpas ymhobman yng Nghymru. Prin y collodd llawer o chwedlau’r Celtiaid eu grym. Y straeon hyn oedd bwyd a diod y cyfarwyddiaid, neu’r adroddwyr straeon proffesiynol, ac mae’u hanesion wedi cael eu hadrodd a’u hailadrodd ar draws y canrifoedd. Wrth gwrs, cawsant eu haddurno a’u hychwanegu atynt ar hyd y ffordd, ond mae rhyw gnewyllyn o wir ynddyn nhw o hyd fel arfer.

Y chwedl fwyaf adnabyddus yw honno am Arthur a Myrddin y Dewin. A oedd Arthur yn ddyn go iawn? Mae’n debygol. Dywedir fod dyn hanesyddol wrth wraidd ei chwedl, arweinydd Brythonig o’r bumed ganrif a ataliodd oresgyniad y Sacsoniaid. Ond os cymerwch chi fap o Gymru a rhoi pin ymhob lleoliad a gysylltir ag Arthur, byddai’n rhaid casglu ei fod wedi bod yn frenin prysur eithriadol! Byddai taith o gwmpas pob lleoliad yn mynd â chi o Garreg Arthur ar Benrhyn Gŵyr, yr holl ffordd i ben yr Wyddfa.
Ar hyd y daith, byddai angen i chi ymweld â thri llyn sy’n honni bod yn lleoliad terfynol ei gleddyf hudol, Caledfwlch. Ac yna mae’r holl leoliadau sy’n arddel cyswllt â chymeriadau eraill yn chwedl Arthur – a all gynnwys Nanhyfer. Mae un ddamcaniaeth hyd yn oed yn honni mewn gwirionedd mai Vitalinus oedd Vortigern – Gwrtheyrn – pennaf gelyn Arthur.
Yn ôl y chwedl, bydd Arthur yn dychwelyd pan fydd y genedl mewn perygl, ond llwyddodd y Gymraeg i ddychwelyd o’i rhan ei hun. '
Does dim o hyn yn uniongyrchol. Rhaid bod yn ofalus wrth ddatrys hanes ein symbolau cenedlaethol, hyd yn oed. Draig? Cenhinen? Cenhinen Bedr? Mae’r esboniadau mwyaf poblogaidd yn eu tro’n cynnwys y symbol ar faner Arthur, ffordd hawdd i filwyr Dewi Sant adnabod ei gilydd ar faes brwydr fwdlyd, a dryswch oesol rhwng y llysieuyn a’r blodyn y mae’u henwau mor debyg.
Gellir dadlau fod y cyfan hyn yn dal mor fyw oherwydd ein hiaith. Siaredir y Gymraeg gan ryw dri chwarter miliwn o bobl ledled y byd, a dyma iaith hynaf Ynysoedd Prydain. Yn ôl y chwedl, bydd Arthur yn dychwelyd pan fydd y genedl mewn perygl, ond llwyddodd y Gymraeg i ddychwelyd o’i rhan ei hun. Mae rhyw un o bob pump o boblogaeth y wlad yn gallu siarad neu ddefnyddio’r iaith, ac mae’r nifer yn dyblu ymysg plant. Gosodwyd nod yn ddiweddar i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’n haws rhoi bys ar lawer o dreftadaeth Cymru. Yr ymgorfforiad amlycaf o dreialon a gorthrymderau’r wlad yw’r cestyll – dros 600 ohonynt. Adeiladwyd rhai ohonynt ar gyfer ein tywysogion cynhenid, fel Dolbadarn, ger Llanberis: un o gadarnleoedd Llywelyn Fawr. Adeiladwyd rhai gan oresgynwyr, fel Penfro. Ei rôl oedd rheoli tiriogaeth y marchogion Normanaidd, ac yn ddiweddarach, dyma ble ganwyd brenin Tuduraidd cyntaf Lloegr.
Ac yna ceir cestyll y dadleuwyd drostynt. Adeiladwyd Castell Harlech ar gyfer Edward I, yn un o 10 o gestyll i arglwyddiaethu dros ogledd Cymru ar ran y brenin. Ar graig uchel uwchlaw’r môr, gallech ddychmygu na allai neb ei drechu. Ond yn 1404, cafodd ei roi dan warchae gan fyddin tywysog olaf Cymru, Owain Glyndŵr, a daeth yn ganolfan grym iddo am gyfnod.
Dyw hi’n fawr o ryfeddod fod ein cestyll mor boblogaidd. Ond mae hanes mwy diweddar Cymru bob tamaid yr un mor ddiddorol, ac y disgwyl i gael ei ddarganfod yn y wlad ac yn ein hamgueddfeydd rhagorol. Ystyriwch y cerrig milltir a welwch chi’n aml ar hyd ymylon ffyrdd cefn gwlad. Dyma olion gwylaidd o bennod ffrwydrol yn hanes Cymru, pan daniwyd ysbryd chwyldro a gwrthdaro o ganlyniad i adeiladu ffyrdd toll – gan gynnwys “Terfysg Beca” enwog, pan wisgai dynion ddillad merched a mynd i chwalu’r tollbyrth atgas ym mherfeddion nos.
Syr Clough Williams-Ellis, lluniwr PortmeirionTrysori'r gorffennol, gwerthfawrogi'r presennol ac adeiladu ar gyfer y dyfodol."

I gael y stori’n gyfan, ewch i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Ymysg y dwsinau o adeiladau a ailadeiladwyd ar y safle 100 erw, ceir tollty o 1771 a symudwyd o Aberystwyth, ynghyd â rhestr brisiau y byddai’n rhaid i’r bobl leol eu talu er mwyn pasio drwy’r tollborth. Ceir eitemau sy’n dyddio dros ddwy fil o flynyddoedd ymhlith pethau eraill yr amgueddfa, gan gynnwys tŷ fferm o’r Oes Haearn a ddaeth o Fôn, a thŷ haf Ardalydd Bute, yr honnwyd mai ef oedd y dyn mwyaf cyfoethog yn y byd yn y 1860au, o Gaerdydd.
Prin yw’r mannau na fydd dim olion o’n treftadaeth ddiwydiannol hefyd. Yn ystod y rhan fwyaf o’r 19eg a’r 20fed ganrif, roedd glo, llechi, copr a dur Cymru’n enwog ledled y byd. Gwnaed Blaenafon, ym Mlaenau’r Cymoedd, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO oherwydd pwysigrwydd y dreftadaeth ddiwydiannol a geir yno. Dyma hefyd leoliad Amgueddfa Lofaol Genedlaethol y Pwll Mawr, sy’n rhoi cyfle i fynd 300 troedfedd o dan y ddaear yng nghwmni glöwr go iawn, i weld yr ymdrech oedd yn ofynnol er mwyn bwydo ffwrneisiau chwyldro diwydiannol Cymru.

Cyn cloi, dewch yn ôl at Syr Clough; mae gan Bortmeirion – ei bencampwaith – deimlad diamser erbyn hyn. Mewn gwirionedd, nid yw eto’n gant oed, ac mae rhannau ohono’n llawer iau. Er iddo ddechrau gwireddu’i freuddwyd o adeiladu pentref Eidalaidd newydd sbon yn 1925, cymerodd bron 50 mlynedd iddo i gwblhau’r gwaith. A heddiw, mae’r hyn a adeiladodd ef, a’i addurno mor ofalus, wedi dod yn rhan i’w thrysori o’n treftadaeth gyffredin.