Mae’n dipyn o her dewis llond dwrn yn unig i ganolbwyntio arnynt. Dyma ichi rai o feirdd, dramodwyr ac awduron enwocaf Cymru, heddiw ac o’r gorffennol.

Roald Dahl

Cafodd Roald Dahl (1916-1990) ei eni yn Llandaf yng Nghaerdydd i rieni o Norwy ac mae wedi gwerthu dros 250 miliwn o gopïau o’i lyfrau ledled y byd. Er iddo ysgrifennu ffuglen i oedolion a straeon byrion, mae’n fwyaf enwog am fod yn awdur llyfrau poblogaidd i blant; nofelau fel Charlie and the Chocolate Factory, James and the Giant Peach, The BFG a Matilda. Roedd Roald Dahl hefyd yn awdur sgrin dawnus ac ef a ysgrifennodd y sgript ar gyfer Chitty Chitty Bang Bang a’r ffilm James Bond You Only Live Twice. Mae’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, lle roedd teulu Roald Dahl yn addoli, bellach yn ganolfan gelfyddydau, ac mae’r sgwâr cyfagos o’r enw Plas Roald Dahl wedi ei enwi felly er anrhydedd iddo.

Darganfyddwch ragor am gysylltiadau Cymreig Roald Dahl.

Llun o adeilad gwyn gyda thŵr eglwys a pholyn fflag gyda baner Norwy i'r dde o'r adeilad
Plas Roald Dahl gyda’r hwyr, Bae Caerdydd
Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd a Roald Dahl Plass yn yr hwyrnos / nos, Bae Caerdydd

Dylan Thomas

Cafodd Dylan Thomas (1914-53) ei eni a’i fagu yn Abertawe, ac fe ddaeth yn un o feirdd pwysicaf yr 20fed ganrif yn sgil ei ddefnydd dyfeisgar o iaith liwgar. Mae ei weithiau amlycaf yn cynnwys y ddrama i’w lleisio yn hytrach na’i hactio, Under Milk Wood, a cherddi fel Do Not Go Gentle Into That Good Night a Fern Hill. Teithiai Dylan Thomas i’r Unol Daleithiau yn gyson lle daeth yn ddylanwad mawr ar y genhedlaeth Beat yno. Mae Canolfan Dylan Thomas Centre yn Abertawe yn gartref i arddangosfa barhaol ar fywyd a gwaith y bardd ac mae hefyd yn cynnal gŵyl flynyddol, tra bo Gwobr Dylan Thomas yn cael ei rhoi bob yn ail flwyddyn i lenor 39 oed neu iau – dyna’r oed y bu Dylan Thomas farw. Mae wedi cael ei gladdu yn y fynwent yn Talacharn, lle treuliodd flynyddoedd olaf ei oes.

Darganfyddwch ragor am Dylan a Thalacharn.

Boathouse Dylan Thomas ac aber Afon Taf, Talacharn, Sir Gaerfyrddin
Boathouse Dylan Thomas ac aber Afon Taf, Talacharn, Sir Gaerfyrddin

RS Thomas

Roedd y bardd Ronald Stuart Thomas (1913-2000) yn angerddol dros y Gymraeg, ac yn amddiffynnwr chwyrn o’r iaith a’r diwylliant Cymreig. Ac eto, fe ysgrifennai, yn wych iawn, yn Saesneg, gan gyhoeddi mwy na 1,500 o gerddi mewn dros 20 o gyfrolau yn ystod cyfnod o hanner canrif. Ac yntau wedi ei eni yng Nghaerdydd, bu R. S. yn gweithio fel offeiriad Anglicanaidd, yn symud i blwyfi yng ngogledd a gorllewin Cymru nes nad oedd modd iddo symud dim pellach i’r gogledd-orllewin: ymgartrefodd yn Aberdaron ym mhen pellaf Pen Llŷn. Yn wahanol i’w gyfoeswr, Dylan Thomas, mae arddull cerddi R. S. yn foel ac yn hynod dlws. Derbyniodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 1964 a chafodd ei enwebu am Wobr Lenyddol Nobel yn 1996.

Jan Morris

Mae Jan Morris (g.1926) wedi teithio i bob cwr o’r byd, ac eto Cymru, y wlad ‘damp, feichus sy’n ennyn diddorol obsesiynol’ yw ei chariad cyntaf. Cafodd Jan Morris yrfa amrywiol fel milwr, newyddiadurwr, awdur taith a hanesydd. Yn 1953, tra oedd hi’n gweithio i bapur newydd The Times, fe fachodd ar un o straeon mwyaf y ganrif drwy ysgrifennu hanes dringo mynydd Everest. A hithau’n awdur mwy na 40 o lyfrau, mae hi wedi cael ei disgrifio fel awdur teithio gorau ei dydd.

Owen Sheers

Mae Owen Sheers (g. 1974) yn nofelydd, bardd ac yn gyflwynydd radio a theledu. Cafodd ei eni yn Fiji a’i fagu yn y Fenni ac mae ei waith yn aml yn adlewyrchu ei fagwraeth wledig. Ei waith amrywiol ac uchelgeisiol sy’n gyfrifol am ei amlygrwydd: cydweithiodd Owen Sheers â’r actor, Michael Sheen, i lwyfannu’r Dioddefaint ym Mhort Talbot dros dri diwrnod yn ystod penwythnos y Pasg 2011. Cafodd drama fydr Owen Sheers, Pink Mist, ei pherfformio yn yr Old Vic ym Mryste gan dderbyn canmoliaeth uchel, ac roedd ei gerdd ar ffilm, The Green Hollow, a gafodd ei henwebu ar gyfer BAFTA yn ymdrin â thrychineb Aberfan. Mae’n Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Gillian Clarke

A hithau wedi ei geni yng Nghaerdydd, mae Gillian Clarke (g. 1937) bellach yn byw yng Ngheredigion a hi oedd y trydydd i’w henwi’n Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2008. Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i ddeg o ieithoedd ac mae hi wedi derbyn Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y radio a’r theatr ac wedi cyfieithu barddoniaeth a llenyddiaeth o’r Gymraeg. Cafodd The Gathering/Yr Helfa ei chomisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru ac fe gafodd ei pherfformio ar ben yr Wyddfa yn 2014. Mae hi’n aml yn diwtor ar gyrsiau barddoniaeth yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru yn Llanystumdwy. Mae ei gwaith diweddaraf yn fersiwn o’r Gododdin, cerdd Gymraeg o’r 7fed ganrif lle ceir y cyfeiriad cyntaf erioed at y Brenin Arthur.

Golwg allanol o'r adeilad
Canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, ger Cricieth, gogledd Cymru

Ifor ap Glyn

Ifor ap Glyn (g.1961) yw bardd cenedlaethol presennol Cymru. Cafodd ei eni yn Llundain i rieni o Gymru ac mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith – un o wobrau mwyaf anrhydeddus yr ŵyl. Mae’n byw yng Nghaernarfon ac mae wedi darllen ei farddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg ledled y byd ac wedi perfformio mewn gwyliau fel y Smithsonian Folk Life Festival yn Washington DC.

Darllenwch erthygl Ifor ap Glyn sy’n egluro sut mae’r iaith yn ganolog i fywyd bob dydd yng Nghymru.

Ifor ap Glyn gyda golygfeydd o'r môr
Ifor ap Glyn gyda golygfeydd o'r môr

Dafydd ap Gwilym

Cafodd un o feirdd canoloesol mwyaf Ewrop, Dafydd ap Gwilym (14eg ganrif), ei eni i deulu o uchelwyr ger Aberystwyth. Mae oddeutu 170 o’i gerddi wedi goroesi, a’r rheiny’n fywiog a lliwgar. Roedd cariad a rhyw yn themâu cyson ganddo a rhai o’i gerddi mor goch nes iddynt gael eu hepgor o flodeugerddi tan yn ddiweddar. Bu farw oddeutu 1350 ac mae Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion ac Abaty Talyllychau yn Sir Gaerfyrddin yn honni iddo gael ei gladdu yno.

abbey ruin archway
Porth y Gorllewin, Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion

Sarah Waters

A hithau wedi ei geni yn Neyland yn Sir Benfro, enillodd Sarah Waters (g.1966) Wobr Betty Trask yn 1999 am ei nofel gyntaf, Tipping the Velvet, y cyntaf yn y gyfres o nofelau gothig wedi eu gosod mewn cymdeithas Fictoraidd, yn aml yn cynnwys prif gymeriadau lesbiaidd. Cafodd tair o’i nofelau diweddarach – Fingersmith, The Night Watch a The Little Stranger – eu henwebu am Wobr Man Booker. Mae pob un o chwe nofel Sarah Waters wedi cael ei haddasu ar gyfer ffilm neu deledu.

Hedd Wyn

Mae’r bardd-filwr Ellis Evans, neu Hedd Wyn fel y caiff ei adnabod gan ei enw barddol, yn ffigwr amlwg iawn yn hanes diwylliannol Cymru. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1917, galwodd yr archdderwydd enw’r bardd buddugol dair gwaith, ond ni chododd neb. Yna fe gyhoeddodd yn brudd fod y bardd wedi cael ei ladd mewn brwydr yn Passchendaele chwe wythnos yn gynharach. Cafodd y Gadair ei gorchuddio â lliain du. Caiff Eisteddfod 1917 ei galw yn ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’ hyd heddiw. Mae cartref y bardd, ffermdy Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd, bellach yn ganolfan ymwelwyr sy’n cynnwys arddangosfa am fywyd a gwaith y bardd.

llun o du mewn y bwthyn
 llun o du mewn y bwthyn
Lluniau Hedd Wyn, Trawsfynydd, Eryri, gogledd Cymru

Kate Roberts

Kate Roberts (g.1891) yw un o awduron Cymraeg enwocaf yr ugeinfed ganrif, cymaint felly nes y caiff ei hadnabod fel ‘brenhines ein llên’. Cafodd ei geni yng Nghaernarfon a bu’n gweithio fel athrawes mewn amryw o ysgolion ar draws de Cymru. Mae hi fwyaf adnabyddus am ei straeon byrion fel Te yn y Grug a Ffair Gaeaf a Storïau Eraill, ond fe ysgrifennodd nofelau hefyd fel Traed Mewn Cyffion. Mae nifer o weithiau Kate Roberts wedi cael eu cyfieithu.

Mae llawer mwy o fawrion llenyddol o Gymru y gellid sôn amdanynt...

  • Dannie Abse (1923-2014) – bardd, nofelydd a ffisegwr a anwyd yng Nghaerdydd.
  • Aneirin (6ed ganrif) – yn ei gerdd epig Y Gododdin y ceir y cyfeiriad cynharaf at y Brenin Arthur.
  • Trezza Azzopardi (g.1961) – awdures o dras Maltaidd wedi ei geni yng Nghaerdydd; cafodd ei nofel, The Hiding Place, ei henwebu am wobr Booker yn 2000.
  • Alexander Cordell (1914-97) – Rape of the Fair Country oedd y gyntaf o sawl nofel wedi ei gosod yng nghyfnod y chwyldro diwydiannol yng nghymoedd de Cymru.
  • Andrew Davies (g.1936) – yn awdur sgrin hynod o wreiddiol, mae Andrew Davies hefyd yn feistr ar addasiadau i’r teledu, â Bridget Jones’s Diary, Pride and Prejudice, Brideshead Revisited a House of Cards ymhlith ei gampweithiau amlycaf.
  • Russell T Davies (g.1963) – awdur a chynhyrchydd teledu â’i waith yn cynnwys Queer as Folk ac adfywiad diweddar Doctor Who.
  • WH Davies (1871-1940) – bardd a chrwydryn sy’n enwog am y llinellau Saesneg, “What is this life if, full of care, we have no time to stand and stare.”
  • Caradoc Evans (1878-1945) – awdur Eingl-Gymreig arloesol â’i feirniadaeth lem ar grefydd ac addysg Gymreig yn dal i fod yn ddadleuol.
  • Ken Follett (g.1949) – mae’r awdur nofelau cyffro hwn wedi gwerthu 160 miliwn o gopïau o’i lyfrau ar draws y byd.
  • George Herbert (1593-1633) – bardd metaffisegol, offeiriad a diwinydd wedi ei eni yn Nhrefaldwyn.
  • Alun Lewis (1915-44) – un o feirdd mwyaf yr Ail Ryfel Byd, bu farw yn Burma.
  • Sieffre o Fynwy (11eg / 12fed ganrif) – hanesydd a chroniclwr o’r Oesoedd Canol.
  • Iolo Morganwg (1747-1826) – hynafiaethwr, bardd, chwedleuwr, a sefydlwr yr Eisteddfod Genedlaethol fodern.
  • Philip Pullman (g.1946) – mynychodd awdur y drioleg His Dark Materials Ysgol Ardudwy yn Harlech. Mae addasiad i’r teledu yn cael ei ffilmio yng Nghymru ac mae’n serennu Lin-Manuel Miranda, oedd yn gyfrifol am Hamilton.
  • Beth Reekles (g.1995) – awdur poblogaidd ar gyfer rhai yn eu harddegau; cafodd ei nofel gyntaf, The Kissing Booth, ei throi’n ffilm ar gyfer Netflix.
  • Bernice Rubens (1923-2004) – y ddynes gyntaf erioed i ennill Gwobr Man Booker yn 1970.
  • Bertrand Russell (1872-1970) – athronydd, rhesymegwr, mathemategydd, hanesydd, awdur, beirniad cymdeithasegol, ymgyrchydd gwleidyddol ac enillydd gwobr Nobel.
  • Taliesin (6ed ganrif) – bardd llys i frenhinoedd y Brythoniaid ym Mhowys a Rheged yn yr Hen Ogledd (sydd bellach yn rhan o ogledd Lloegr a de’r Alban).
  • Edward Thomas (1878-1917) – fe’i ganwyd yn Llundain i deulu Cymreig; cafodd yr ysgrifwr, beirniad a bardd ei ladd yn brwydro yn Ffrainc.
  • Henry Vaughan (1621-95) – roedd y beirdd Saesneg Wordsworth, Tennyson a Sassoon yn edmygu gwaith y bardd metaffisegol hwn o Sir Frycheiniog.

Have a look over on VisitWales.com to find out more about the places that inspired some of our greatest writers

Straeon cysylltiedig